Mae disgwyl babi yn gyffrous, ond gall hefyd fod yn amser drud. Dilynwch y camau hyn i sicrhau eich bod wedi paratoi ar gyfer eich dyfodiad newydd.
Cam 1: Pwyso a mesur eich arian
Mae'n syniad da edrych ar eich cyllideb cyn i'ch babi gyrraedd. Gall gwybod faint o arian sy'n dod i mewn ac yn mynd allan bob mis eich helpu i deimlo'n fwy mewn rheolaeth a chynllunio ar gyfer yr hyn sydd o'ch blaen.
Dechreuwch drwy fynd trwy'ch gwariant. Rhannwch yr hanfodion (fel rhent, biliau a bwyd) a phethau nad ydynt yn hanfodol (fel tecawê neu danysgrifiadau). Edrychwch ar ble allwch chi arbed. Gall gwefannau cymharu helpu gyda biliau, ac efallai y byddwch chi'n gallu oedi neu ganslo pethau nad oes eu hangen arnoch chi ar hyn o bryd.
Awgrym da
Gallwch osgoi gwastraffu arian drwy ofyn i famau eraill pa eitemau babi maent yn wirioneddol angen a’n defnyddio, a beth allwch aros i brynu. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell costau babi i weithio allan beth fydd angen arnoch ar gyfer eich babi a faint bydd yn ei gostio.
Gwnewch restr o'r hyn y bydd ei angen arnoch chi ar gyfer y babi a gwiriwch faint mae'r cyfan yn ei gostio. Gall ychydig o gynllunio nawr eich helpu i osgoi pryderon ariannol yn ddiweddarach.
Dysgwch sut i dorri'n ôl ar gostau a gweld pa gymorth ychwanegol sydd ar gael yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig.
Cam 2: Adolygu cyllid ar y cyd
Mae'n gwbl normal deimlo dan bwysau ariannol pan fyddwch chi'n cael babi. Mae llawer o bobl yn profi hyn.
Mae'n debygol y bydd eich incwm, eich gwariant a'ch blaenoriaethau'n newid, yn enwedig os yw un ohonoch chi'n cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.
Dyna pam ei bod hi mor bwysig cynllunio gyda'ch gilydd. Gall siarad yn agored am arian helpu i leihau straen ac osgoi syrpreisys.
Gall ysgrifennu eich cynllun ei gwneud hi'n haws glynu wrtho ac addasu wrth i bethau newid.
Dyma ychydig o ffyrdd syml o aros ar y trywydd iawn:
- Byddwch yn onest am eich cyllid – rhannwch bopeth fel eich bod chi'ch dau yn agored ac yn rhannu’r un farn.
- Gosodwch rai rheolau sylfaenol – er enghraifft, cytunwch i wirio cyn gwario dros swm penodol.
- Gwnewch amser i siarad – gall hyd yn oed sgyrsiau byr, rheolaidd eich helpu i gadw rheolaeth a chefnogi eich gilydd.
Dewch o hyd i fwy o gefnogaeth yn ein canllawiau:
Cam 3: lleihau’ch dyledion
Mae'n bwysig peidio ag anwybyddu dyledion neu ddim ond cadw at dalu'r isafswm bob mis.
Os cymerwch amser i ddelio â dyledion nawr, bydd yn arbed arian i chi yn y tymor hir.
Awgrym da
Os na allwch dalu'ch holl ddyledion ar unwaith, talwch y biliau a thaliadau pwysicaf yn gyntaf.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i flaenoriaethu’ch dyledion
Cam 4: Agor cyfrif cynilo
Os yw eich incwm yn mynd i newid, sy'n debygol pan fydd babi yn cyrraedd, ac mae’ch gwariant yn cynyddu, mae'n bwysig i gynilo cymaint ag y gallwch nawr i helpu i reoli pwysau ariannol yn y dyfodol. Mae torri'n ôl ar wariant yn ddechrau da, ond gwnewch yn siŵr bod yr arbedion hynny'n cael eu neilltuo yn gymorth ar gyfer y blynyddoedd drutach i ddod.
Gorau po gyntaf i chi ddechrau rhoi arian o'r neilltu. Tra gallwch, cronnwch eich cynilion i dalu costau hanfodol y babi a'ch gweld trwy unrhyw gyfnod o incwm is.
Efallai y byddai'n well i chi fynd am gyfrif mynediad hawdd y gallwch dipio iddo os bydd angen, yn hytrach nag un a fydd yn cloi eich arian i ffwrdd.
Ond os ydych yn meddwl y cewch eich temtio i wario'ch cynilion, gwnewch hi'n anos cael gafael ar arian parod.
Er enghraifft, ceisiwch ddewis cyfrif cynilo â banc gwahanol, felly mae'n llai hawdd symud arian i'ch cyfrif cyfredol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddod o hyd i’r cyfrif cynilo gorau
Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Cam 5 – Rhoi hwb i’ch incwm
Gallech fod â hawl i fudd-daliadau a help arall tuag at gost magu teulu, fel Credyd Cynhwysol a Budd-dal Plant.
Mae'r hyn y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a'ch amgylchiadau personol.
Awgrym da
Talwch eich biliau cyfleustodau yn awtomatig gan ddefnyddio Debydau Uniongyrchol ac archeb sefydlog gan y byddwch yn aml yn cael gostyngiad am wneud hynny gan eich darparwr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n cyfrifiannell Budd-daliadau.
Gallwch hefyd chwilio am fudd-daliadau a grantiau gan ddefnyddio'r gyfrifiannell budd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Turn2us.
Syniadau eraill i wneud arian
Mae ffyrdd eraill o hybu'ch incwm, fel gwneud rhywfaint o waith gartref.
Gallech hefyd feddwl am godi arian trwy werthu eiddo diangen neu ailgylchu hen ffonau symudol neu liniaduron.
Mae dwsinau o syniadau gwneud arian i'ch helpu chi i ddechrau arYn agor mewn ffenestr newydd Money Saving Expert
Cam 6: Meddwl am eich pensiwn
Mae'n hawdd canolbwyntio ar gostau dyddiol pan fyddwch chi'n cael babi, ond mae hefyd yn bwysig meddwl am eich dyfodol.
Gall cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth effeithio ar eich pensiwn, felly mae'n syniad da ddeall beth mae hynny'n ei olygu a sut i'w ddiogelu.