Mae taliadau cynhaliaeth plant yn cael eu hystyried yn filiau â blaenoriaeth. Os na fyddwch yn talu, gall y canlyniadau fod yn ddifrifol. Ceisiwch aros ar ben eich taliadau a'u trin fel blaenoriaeth cyn unrhyw fenthyciadau neu gardiau credyd heb eu gwarantu.
Beth i’w wneud os na allwch dalu cynhaliaeth plant
1. Siaradwch â'r rhiant sy’n ei dderbyn
Yn gyntaf, siaradwch â'r rhiant arall a cheisiwch ddod i gyfaddawd.
Dyma'r ffordd gyflymaf a symlaf i ddod i gytundeb. Mae cyfathrebu ac empathi da yn bwysig, yn ogystal â bod yn onest am eich sefyllfa ariannol.
Efallai y byddai'n werth gofyn am leihau taliadau cynhaliaeth plant am y tro. Yna cynlluniwch ddychwelyd i'r swm arferol, uwch pan fydd eich incwm yn dychwelyd i normal.
Os gallwch ddod i drefniant, a bod eich incwm wedi gostwng o leiaf 25%, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
2. Os na allwch gytuno, gofynnwch i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) gamu i'r adwy
Ystyriwch ofyn i’r CMS gyfrifo’r hyn y dylech fod yn ei dalu os yw’ch incwm wedi gostwng 25% neu fwy, neu os ydych wedi colli eich swydd. Mae’r CMS yn codi ffi am y gwasanaeth hwn, felly fel arfer mae’n well gwneud trefniant rhyngoch chi.
Os nad yw'ch incwm wedi gostwng 25%, bydd yn rhaid i chi barhau i dalu'r swm llawn.
Bydd y CMS yn gwneud eu hasesiad yn seiliedig ar incwm blynyddol gros y rhiant sy'n talu.
Defnyddiwch y gyfrifianell cynhaliaeth plant ar GOV.UK
If you can pay, but refuse to, the CMS can enforce payments. These will be deducted directly from your earnings or bank account.
Os oes unrhyw reswm na allwch wneud eich taliadau cynhaliaethYn agor mewn ffenestr newydd ewch i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Beth allai ddigwydd os na fyddaf yn talu cynhaliaeth i'm plentyn?
Gall y canlyniadau fod yn ddifrifol. Os byddwch yn methu taliadau, mae gan y CMS y pŵer i ddidynnu ôl-ddyledion a thaliadau parhaus yn syth o'ch enillion neu'ch cyfrif banc. Mae ganddynt ystod eang o bwerau eraill ac, fel y dewis olaf, gallech wynebu carchar os byddwch yn gwrthod talu.
Os ydych yn talu cynhaliaeth plant yn unol â gorchymyn llys sy'n llai na 12 mis oed, byddwch yn torri'r gorchymyn os byddwch yn stopio talu.
Os byddwch yn stopio talu heb gytundeb eich cyn bartner ac nad ydych yn gwneud cais am amrywiad, gellir cychwyn achos gorfodi.
- Os bydd taliadau'n cael eu lleihau neu eu stopio (oni chytunir rhyngoch), byddwch yn torri'r gorchymyn llys.
- Os na allwch wirioneddol dalu taliadau oherwydd bod eich incwm wedi gostwng, gallwch ofyn i'r llys leihau faint o gynhaliaeth plant y mae angen i chi ei dalu.
I gael rhagor o wybodaeth am y camau gorfodi y gellid eu cymryd ar gynhaliaeth sy'n ddyledusYn agor mewn ffenestr newydd ar ‘Cyngor ar Bopeth’.
Pryd i gael cyngor ar ddyledion
Os ydych wedi methu mwy nag un taliad Cynhaliaeth Plant neu os ydych yn jyglo dyledion eraill, mae'n bwysig eich bod yn eu talu yn y drefn gywir gan fod rhai yn fwy brys nag eraill.
Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth am:
Er mwyn eich helpu i weithio allan pa rai i'w talu yn gyntaf, gwelwch ein canllaw Sut i flaenoriaethu'ch dyledion
Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol
Gallai cael materion iechyd meddwl olygu eich bod yn cael trafferth gwneud y penderfyniadau gorau yn seiliedig ar arian i chi, yn ogystal â gweithredu arnynt.
Darganfyddwch awgrymiadau ymarferol ar sut i reoli'n ariannol a ble i gael cymorth arbenigol am ddim yn ein canllaw Problemau lles ariannol a lles meddyliol
Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â'ch lles meddyliol, mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag sydd ag arian â chi, i drafod eich opsiynau.
Fodd bynnag, yn aml mae'n haws dweud na chodi'r ffôn a siarad am eich problemau pan rydych yn cael trafferth â'ch iechyd meddwl.
Edrychwch ar ein canllaw ar Sut i gael sgwrs anodd am arian i gael awgrymiadau ymarferol ar sut y gallwch siarad â'r rhai y mae arnoch arian iddynt
Mae gan y rhan fwyaf o leoedd y mae gennych arian yn ddyledus iddynt bolisïau ynglŷn â'ch cefnogi os ydych chi'n agored i niwed. Ond ni allant eich helpu oni bai eich bod yn gofyn.
I gael rhai awgrymiadau cyffredinol ar sut y gallwch reoli eich iechyd meddwl, edrychwch ar ganllaw Rethink. Mae'n cynnwys popeth o osod cyllideb i gael help os ydych chi, neu rywun rydych yn poeni amdano, yn cael argyfwng iechyd meddwl.
Ystyriwch ofyn i'r CMS gyfrifo'r hyn y dylech fod yn ei dalu os yw'ch incwm wedi gostwng 25% neu fwy os ydych wedi cael eich rhoi ar ffyrlo neu wedi cael eich diswyddo. Mae'r CMS yn codi ffi am y gwasanaeth hwn, felly mae'n well fel arfer gwneud trefniant rhyngoch.
Os nad yw'ch incwm wedi gostwng y swm hwnnw - bydd yn rhaid i chi barhau i dalu'r swm llawn.
Ar hyn o bryd mae'r CMS yn blaenoriaethu rhieni sydd wedi cael eu rhoi ar ffyrlo neu eu diswyddo dros y rhai sydd wedi cael gostyngiad mewn incwm, oherwydd diffyg adnoddau.
Bydd y CMS yn gwneud eu hasesiad yn seiliedig ar incwm blynyddol gros y rhiant sy'n talu.