Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Esbonio pensiynau

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Adeiladu eich cronfa bensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Adeiladu eich cronfa bensiwn

Sut i symud eich pensiwn y DU dramor

Os byddwch chi’n symud dramor, gallwch chi naill ai adael eich pensiwn yn y DU neu ei drosglwyddo i gynllun tramor. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Cam 1: Ystyriwch adael eich pensiwn yn y DU
  • Cam 2: Deall sut mae trosglwyddiad pensiwn tramor yn gweithio
  • Cam 3: Gwiriwch fod y cynllun tramor yn cael ei gydnabod gan CThEF
  • Cam 4: Gwiriwch sut mae’r cynllun pensiwn tramor yn gweithio
  • Cam 5: Gwiriwch a fydd angen i chi dalu treth i wneud y trosglwyddiad
  • Cam 6: Ceisiwch gyngor ariannol cyn trosglwyddo unrhyw arian
  • Cam 7: Gofynnwch i’ch darparwr presennol drosglwyddo’ch pensiwn

Cam 1: Ystyriwch adael eich pensiwn yn y DU

Os byddwch chi’n symud dramor, un opsiwn yw gadael eich pensiwn y DU lle mae a gadael i’ch darparwr presennol barhau i’w reoli.

Pan fyddwch chi’n barod i gymryd eich pensiwn, fel arfer caiff ei dalu mewn punnoedd a’i drethu fel incwm y DU. Os oes ei angen arnoch mewn arian cyfred gwahanol, gallech drosglwyddo’r arian i gyfrif cyfnewid tramor - mae llawer o fanciau mawr yn cynnig y rhain.

Y prif risg yw peidio â gwybod faint o incwm pensiwn y byddwch chi’n ei gael oherwydd:

  • efallai y bydd angen i chi dalu ffioedd cyfnewid
  • mae cyfraddau cyfnewid yn aml yn newid bob dydd.
Nol i’r brig

Cam 2: Deall sut mae trosglwyddiad pensiwn tramor yn gweithio

Mae trosglwyddo’ch pensiwn y DU i gynllun tramor fel arfer yn golygu:

  • bydd eich pensiwn yn cael ei reoleiddio yn y wlad y mae’r cynllun wedi’i leoli ynddi
  • bydd eich incwm pensiwn yn cael ei dalu yn eich arian cyfred lleol
  • ni fyddwch yn gallu cymryd unrhyw arian cyn 55 oed (oni bai bod angen i chi ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael)
  • byddwch yn cael eich trethu gan y wlad dramor rydych chi’n byw ynddi, felly bydd angen i chi ymchwilio i’w rheolau.

Efallai y bydd angen i chi hefyd dalu Treth Incwm y DU ar eich incwm pensiwn os cymerwch ef o fewn:

  • pum mlynedd o drosglwyddo’ch pensiwn dramor a
  • deng mlynedd o fyw’n barhaol y tu allan i’r DU.

Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i gynlluniau pensiwn tramor adrodd i CThEF am ddeng mlynedd ar ôl y trosglwyddiad. Os byddwch yn torri unrhyw reolau, fel cymryd eich pensiwn cyn 55 oed, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU hyd at 55% a chosbau eraill.

Nol i’r brig

Cam 3: Gwiriwch fod y cynllun tramor yn cael ei gydnabod gan CThEF

Os ydych chi am drosglwyddo’ch pensiwn i wlad wahanol, gwnewch yn siŵr bod y cynllun tramor yn cael ei gydnabod gan CThEF.

Gallwch weld rhestr o gynlluniau pensiwn tramor cydnabyddedigYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Mae cynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys (QROPS) yn golygu ei fod yn bodloni meini prawf penodol, fel derbyn trosglwyddiadau o gynlluniau pensiwn cofrestredig yn y DU a dilyn rheolau tebyg i gynlluniau’r DU.

Gallech golli arian os nad yw’r cynllun newydd yn QROPS

Os byddwch chi’n trosglwyddo i bensiwn tramor nad yw’n gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys (QROPS):

  • fel arfer caiff ei drin fel taliad heb awdurdod o’ch pensiwn
  • efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tâl treth heb awdurdod hyd at 55%, ynghyd â chosbau eraill.

Mae risg hefyd y gallech golli arian oherwydd:

  • gallai’r cynllun pensiwn fuddsoddi mewn buddsoddiadau risg uchel
  • mae’n annhebygol y bydd y trosglwyddiad yn cael ei reoleiddio heb unrhyw iawndal os bydd pethau’n mynd o chwith
  • mae siawns uwch bod y cynllun newydd yn sgam.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i adnabod twyll pensiwn.

Nol i’r brig

Cam 4: Gwiriwch sut mae’r cynllun pensiwn tramor yn gweithio

Cyn ystyried trosglwyddo i gynllun tramor, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall:

  • sut mae’r cynllun newydd yn gweithio
  • y nodweddion y mae’n eu cynnig
  • sut y bydd eich arian yn cael ei fuddsoddi
  • a allwch chi ddewis eich buddsoddiadau eich hun
  • y ffioedd y bydd angen i chi eu talu, gan gynnwys:
    • ffioedd sefydlu a throsglwyddo
    • ffioedd rheoli blynyddol
    • ffioedd buddsoddi
    • ffioedd i newid eich buddsoddiadau.

Fel arfer gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon ar wefan y cynllun newydd neu drwy ofyn iddynt.

Gwiriwch a fyddwch chi’n colli unrhyw fuddion drwy drosglwyddo

Cymharwch y cynllun newydd bob amser â’ch pensiwn presennol yn y DU a nodwch sut y gallent fod yn wahanol. Os nad yw’r cynllun newydd yn cynnig budd y mae eich darparwr presennol yn ei gynnig, byddwch chi’n colli hwn os byddwch chi’n trosglwyddo.

Er enghraifft, mae rhai darparwyr yn cynnig cyfraddau blwydd-dal gwarantedig a allai fod yn well nag y gallwch chi eu cael mewn mannau eraill. Mae hyn yn golygu y gallech chi drosi’ch pensiwn yn incwm gwarantedig uwch gyda’r darparwr hwnnw.

Nol i’r brig

Cam 5: Gwiriwch a fydd angen i chi dalu treth i wneud y trosglwyddiad

Fel arfer, ni fyddwch yn talu unrhyw dreth i drosglwyddo i gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys (QROPS) os:

  • rydych chi’n byw yn yr un wlad â’r QROPS yn ystod y pum mlynedd gyntaf, neu
  • mae eich cyflogwr yn darparu’r QROPS ac maen nhw’n noddi eich symudiad.

Rhaid i’r cyfanswm rydych chi’n ei drosglwyddo hefyd fod o fewn y lwfans trosglwyddo tramor (OTA). Mae’r OTA yn cyfrif yr holl drosglwyddiadau pensiwn tramor a wnewch ac ar hyn o bryd mae’n £1,073,100 i’r rhan fwyaf. Byddwch yn talu 25% o dreth ar unrhyw beth dros yr OTA.

Efallai y bydd eich OTA yn uwch os gwnaethoch gais am amddiffyniad cyn 6 Ebrill 2025. Gallwch wirio a oes gennych amddiffyniad lwfans gydol oesYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Ym mhob senario arall, byddwch fel arfer yn talu 25% o dreth ar y swm trosglwyddo llawn. Gelwir hyn yn dâl trosglwyddo tramor ac fel arfer caiff ei dalu gan y cynllun tramor yn awtomatig.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu 25% o dreth o hyd os bydd eich amgylchiadau’n newid

Hyd yn oed os ydych chi’n gymwys i gael trosglwyddiad pensiwn tramor di-dreth pan gaiff ei wneud gyntaf, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tâl treth o 25% o hyd os bydd eich amgylchiadau’n newid o fewn pum mlynedd i’r trosglwyddiad.

Mae hyn yn cynnwys:

  • symud i wlad wahanol i’r wlad y mae eich pensiwn tramor wedi’i leoli ynddi
  • trosglwyddo eich pensiwn i QROPS arall sydd wedi’i leoli y tu allan i’r wlad rydych chi’n byw ynddi.

Gallwch ddweud wrth CThEF am newid i’ch manylion personolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Gallwch wneud cais am ad-daliad treth os byddwch chi’n gymwys yn ddiweddarach neu os gwneir camgymeriad

Os oes rhaid i chi dalu’r tâl trosglwyddo tramor pan wneir y trosglwyddiad gyntaf ond yn symud i’r wlad y mae eich QROPS wedi’i leoli ynddi o fewn pum mlynedd, gallwch ofyn i’ch cynllun pensiwn am ad-daliad.

Gallwch hefyd ofyn am ad-daliad os yw’r cynllun tramor wedi codi tâl anghywir arnoch.

Mae hyn yn aml yn digwydd os nad yw’r cynllun yn derbyn y wybodaeth gywir o fewn 60 diwrnod i chi ofyn am y trosglwyddiad, gan fod yn rhaid iddynt godi’r dreth o 25% ar yr adeg hon. Gallwch weld y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer trosglwyddo pensiwn dramorYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Nol i’r brig

Cam 6: Ceisiwch gyngor ariannol cyn trosglwyddo unrhyw arian

Gan fod risg y gallech fod mewn sefyllfa waeth wrth drosglwyddo eich pensiwn dramor, mae’n syniad da talu am gyngor ariannol yn y DU ac yn y wlad rydych chi am symud eich pensiwn iddi.

Gall ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig:

  • dweud wrthych a fyddai’n well i chi drosglwyddo eich pensiwn dramor
  • argymell cynhyrchion penodol
  • egluro sut y gallech gael eich trethu
  • gwirio a yw’r cynllun newydd yn debygol o fod yn sgam.

Fel arfer, mae cael cyngor yn ofyniad os ydych chi am drosglwyddo pensiwn sy’n gwarantu incwm ymddeol i chi ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys pob pensiwn buddion wedi’u diffinio (a elwir yn aml yn gynlluniau cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa) a rhai pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio.

Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig

Gall ein teclyn eich helpu i ddarganfod ymgynghorydd ymddeoliad yn y DU sy’n cynnig cyngor  i alltudion. Rhaid dweud wrthych faint fydd y cyngor yn ei gostio cyn i chi ymrwymo.

Bydd angen i chi wneud eich ymchwil eich hun i ddod o hyd i ymgynghorydd dramor. Wrth chwilio, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r canlynol:

  • ffioedd, gan gynnwys a ydynt yn codi comisiwn
  • cymwysterau
  • profiad
  • statws rheoleiddio.

Gallwch gwyno os cewch gyngor ariannol gwael

Os ydych chi’n talu am gyngor ariannol rheoleiddiedig yn y DU ac mae’n troi allan i fod yn wael, neu os ydych chi’n colli arian o ganlyniad, gallwch gwyno a gofyn am iawndal. Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i hawlio iawndal am broblem bensiwn neu gyngor gwael.

Am gyngor gwael y tu allan i’r DU, bydd angen i chi gwyno gan ddefnyddio rheolau’r wlad honno.

Nol i’r brig

Cam 7: Gofynnwch i’ch darparwr presennol drosglwyddo’ch pensiwn

Os ydych chi’n siŵr yr hoffech chi drosglwyddo’ch pensiwn dramor, gofynnwch i’ch darparwr pensiwn presennol:

  • pa wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar gyfer y trosglwyddiad
  • a oes unrhyw ffioedd i’w talu
  • pa mor hir y gallai’r trosglwyddiad ei gymryd - gall fod yn sawl mis yn aml.

Fel arfer, bydd eich darparwr pensiwn yn anfon ffurflenni atoch y bydd angen i chi eu cwblhau o fewn 60 diwrnod. Efallai y bydd ymgynghorydd ariannol yn gallu eich helpu i lenwi’r wybodaeth hon.

Os yw darparwr eich pensiwn yn araf i weithredu, gallwch gwyno. Am gymorth cam wrth gam, gweler ein canllaw Sut i gwyno am oedi i’ch pensiwn.

Peidiwch â throsglwyddo eich pensiwn os ydych chi’n teimlo dan bwysau neu’n ansicr

Peidiwch â throsglwyddo eich arian i ddarparwr pensiwn newydd na buddsoddi unrhyw arian oherwydd galwad oer, ymweliad, e-bost neu neges destun.

Os nad ydych chi’n siŵr am unrhyw beth, stopiwch. Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i adnabod twyll pensiwn.

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Ffoniwch ni am ddim ar 0800 756 1012Yn agor mewn ffenestr newydd neu defnyddiwch ein gwe-sgwrs. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.

 

Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, p’un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Amseroedd agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm. Ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Adeiladu eich cronfa bensiwn

Trosglwyddo ac uno pensiynau

  • Trosglwyddo pensiwn ar gyfer pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio
  • Trosglwyddo'ch pensiwn buddion wedi'u diffinio
  • Sut i symud eich pensiwn y DU dramor
  • Trosglwyddiadau pensiwn y DU
  • Beth i'w wneud os caiff eich trosglwyddiad pensiwn ei atal neu ei oedi
  • Sut i drosglwyddo’ch pensiwn tramor i’r DU
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Trosglwyddo ac uno pensiynau

  • Trosglwyddo pensiwn ar gyfer pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio
  • Trosglwyddo'ch pensiwn buddion wedi'u diffinio
  • Sut i symud eich pensiwn y DU dramor
  • Trosglwyddiadau pensiwn y DU
  • Beth i'w wneud os caiff eich trosglwyddiad pensiwn ei atal neu ei oedi
  • Sut i drosglwyddo’ch pensiwn tramor i’r DU
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2025 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau