O 27 Tachwedd 2025, ni fydd y teclyn hwn ar gael bellach. Er mwyn cael help i ddeall eich opsiynau pensiwn, gallwch ddechrau apwyntiad ar-lein Pension Wise unrhyw bryd, neu edrych ar ein canllaw Beth allaf ei wneud gyda fy nghronfa bensiwn?
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (personol neu weithle) chi sy’n dewis sut i gymryd eich arian.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gael gwybod am:
- yr opsiynnau ar gyfer cymryd eich arian pensiwn
- sut mae bob opsiwn yn cael ei drethu
- y camau nesaf i’w cymryd
- cwestiynau i’w gofyn i’ch darparwr
Sut mae’n gweithio
- Byddwch yn cael crynodeb byr o’r chwe opsiwn ar gyfer cymryd pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.
- Dewiswch y rhai mae gennych fwyaf o ddiddordeb ynddynt i gael gwybodaeth fwy manwl.
- Yna gallwch ddewis mwy o wybodaeth, er enghraifft sut mae’ch pensiwn yn cael ei drethu.
- Argraffwch neu lawr lwythwch eich crynodeb
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi gael pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (dim pensiwn cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa).
Ddim yn siwr pa fath o bensiwn sydd gennych?
Gallwch gael help â Phensiwn y Wladwriaeth gan Y Gwasanaeth Pensiwn