Dod o hyd i'ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Mae'n rhaid i chi fod o oedran penodol cyn y gallwch wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth, yn seiliedig ar bryd y cawsoch eich geni.
Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn gyflym ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Tua phedwar mis cyn i chi gyrraedd eich Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn cael llythyr gyda chod gwahoddiad. Bydd angen i chi ddefnyddio’r cod hwn i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein.
Gallwch wneud cais cyn gynted ag y byddwch yn ei dderbyn neu ddewis aros. Os byddwch yn aros, gelwir hyn yn gohirio neu'n oedi eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Am fwy o wybodaeth am sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio, gweler ein canllaw Esbonio Pensiwn y Wladwriaeth.
Gwiriwch faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych yn debygol o’i gael
Gwiriwch eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd i weld faint rydych yn debygol i’w gael ar hyn o bryd.
Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar faint o flynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd gennych.
Os yw eich rhagolwg yn dangos eich bod yn annhebygol o fod yn gymwys ar gyfer yr uchafswm, gweler ein canllaw Cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.
Cyfrifwch faint yn ychwanegol fyddwch chi’n ei gael drwy ohirio’ch cais
Oni bai eich bod chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau neu gredydau treth penodolYn agor mewn ffenestr newydd byddwch fel arfer yn cael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol os byddwch yn oedi neu’n atal eich cais ar ôl i chi gyrraedd eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
Mae hyn yn golygu y bydd eich swm Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol yn cynyddu am bob wythnos nad ydych yn ei hawlio, cyn belled â’ch bod yn oedi o leiaf naw wythnos. Mae hyn yn gweithio allan fel cynnydd o 1% am bob naw wythnos nad ydych yn ei hawlio.
Os byddwch yn oedi am lai na 12 mis, mae hefyd gennych yr opsiwn o gymryd y taliadau yr ydych wedi’u methu fel cyfandaliad yn eu lle, heb ychwanegu unrhyw gynnydd. Gelwir hyn yn daliad ôl-ddyddiedig.
Os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
Mae'r rheolau'n wahanol os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016. Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu cyfwerth ag 1% am bob pum wythnos y byddwch yn oedi cyn gwneud cais. Mae angen i chi oedi o leiaf bum wythnos i gael hyn.
Os na fyddwch yn hawlio am o leiaf 12 mis yn olynol, gallwch ddewis cymryd y swm nad ydych wedi’i hawlio fel cyfandaliad gyda llog wedi’i ychwanegu (2% yn uwch na Chyfradd Banc Banc LloegrYn agor mewn ffenestr newydd).
Oedi eich Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych eisoes yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth, caniateir i chi oedi’r taliadau unwaith. I ofyn am hyn, bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd neu Ganolfan Bensiynau Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon. Ar ôl i chi ailgychwyn eich cais, ni allwch roi'r gorau i'w dderbyn eto.
Am fwy o wybodaeth ac enghreifftiau, gweler Oedi eich Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Penderfynwch a ydych chi'n debygol o fyw'n ddigon hir i ennill mwy yn gyffredinol
Mae gohirio neu stopio eich cais am Bensiwn y Wladwriaeth yn golygu y byddwch yn derbyn mwy pan fyddwch yn gwneud cais, ond byddwch yn ei dderbyn dros gyfnod byrrach.
Fel arfer bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn dod i ben pan fyddwch yn marw, oni bai bod eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn gallu ei etifeddu. Bydd y teclyn Pensiwn y Wladwriaeth a’ch partnerYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK yn dangos eich opsiynau.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi bwyso a mesur a ydych chi neu'ch partner yn debygol o fyw'n ddigon hir i ennill mwy yn gyffredinol.
Gwiriwch a fyddwch yn colli eich budd-daliadau
Bydd y swm ychwanegol mewn Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu eich incwm, a allai effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau penodol fel Credyd Pensiwn.
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i weld beth mae gennych hawl iddo a beth allai ddigwydd pe bai eich incwm yn cynyddu. I gael cyngor am ddim am eich sefyllfa, gallwch ddefnyddio AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i arbenigwr budd-daliadau yn eich ardal chi.
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau a chredydau treth penodolYn agor mewn ffenestr newydd ac eisiau gohirio eich cais, bydd angen i chi ddweud wrth y:
- Gwasanaeth PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, neu
- Canolfan Bensiwn Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Ystyriwch a fyddwch yn talu mwy neu lai o dreth
Os oes gennych chi incwm arall, fel cyflog neu bensiwn arall, gallai hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth ar ben hynny eich gwthio i gyfradd Treth Incwm uwch.
Mae hyn yn golygu y gallech dalu llai o dreth yn gyffredinol drwy ohirio neu atal eich cais am Bensiwn y Wladwriaeth nes bod yr incwm arall hwn yn lleihau. Er enghraifft, gan ohirio eich cais nes eich bod wedi rhoi’r gorau i weithio.
Pan fyddwch yn gwneud neu’n ailddechrau eich cais, byddwch yn dechrau talu treth ar y swm uwch. Gwneir hyn fel arfer drwy newid eich cod treth fel y byddwch yn talu unrhyw dreth sy’n ddyledus o’ch incwm arall, neu drwy lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os cymerwch eich taliadau wythnosol gohiriedig ar yr un pryd yn hytrach na thaliadau wythnosol uwch, byddwch yn talu treth ar y swm cyfan:
- Ar gyfer taliadau wedi’u hôl-ddyddio (hyd at 12 mis o daliadau wythnosol gohiriedig), mae’r gyfradd dreth y byddwch yn ei thalu yn seiliedig ar eich incwm cyffredinol yn y flwyddyn(blynyddoedd) treth yr oedd pob taliad i fod i’w dalu’n wreiddiol.
- Ar gyfer cyfandaliadau (dros 12 mis o daliadau wythnosol wedi’u hoedi gyda llog ychwanegol, os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016), mae’r gyfradd dreth yn seiliedig ar y gyfradd uchaf a dalwch ar eich incwm arall – yn y flwyddyn dreth rydych yn derbyn yr arian.
Gwnewch gais am eich Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig pan fyddwch yn barod
Nid oes dyddiad cau i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth, felly gallwch wneud cais neu ailgychwyn eich cais pryd bynnag y dymunwch.
Gallwch ddewis dyddiad yr hoffech dderbyn eich taliad cyntaf pan fyddwch yn gwneud cais.
Gweler ein canllaw sut i wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth i gael cymorth llawn.