Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn penderfynu a ydych yn gymwys i gael budd-daliadau penodol, fel Pensiwn y Wladwriaeth a Lwfans Mamolaeth. Dyma faint fyddwch chi'n ei dalu.
Beth yw Yswiriant Gwladol?
Mae Yswiriant Gwladol yn dreth ar enillion ac elw hunangyflogedig. Fel arfer, byddwch yn dechrau talu pan fyddwch yn 16 oed ac yn ennill dros swm penodol.
Mae eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs) yn penderfynu:
- os ydych yn gymwys i gael rhai budd-daliadau, fel:
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Mamolaeth, a
- Lwfans Ceisio Gwaith.
- faint o Bensiwn y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn ymddeol:
- rydych angen o leiaf 10 mlynedd gymwys o gyfraniadau i gael unrhyw swm, ac
- leiaf 35 mlynedd i dderbyn y swm llawn.
Os nad ydych yn gweithio, efallai y gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol yn lle hynny, er enghraifft, os ydych yn ofalwr neu'n hawlio budd-daliadau oherwydd salwch neu ddiweithdra.
Gallwch hefyd wneud cyfraniadau gwirfoddol i lenwi bylchau yn eich cofnod.
Cyfraddau Yswiriant Gwladol os ydych yn gyflogedig
Os oes gennych gyflogwr, byddwch yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Mae'r swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill:
Eich enillion wythnosol |
Cyfradd Yswiriant Gwladol 2024/25 |
£0 i £242 |
0% |
£242.01 i £967 |
8% |
Dros £967 |
2% |
Er enghraifft, os ydych yn ennill £1,000 yr wythnos, byddwch yn talu:
- dim byd ar y £242 cyntaf
- 8% (£58) ar y £725 nesaf
- 2% (66c) ar y £33 nesaf.
Cyfrifir hyn bob tro y byddwch yn cael eich talu, felly gallech dalu symiau gwahanol os bydd eich cyflog yn newid bob tro. Bydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dod i ben yn llwyr pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy am eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer, bydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu cymryd yn awtomatig
Fel cyflogai, fel arfer cewch eich talu drwy system Talu Wrth Ennill (PAYE). Mae hyn yn golygu bod eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu talu'n awtomatig o'ch cyflog, felly ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth.
Cyfraddau Yswiriant Gwladol os ydych yn hunangyflogedig
Os ydych yn hunangyflogedig, byddwch yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a/neu Dosbarth 4. Mae hyn yn dibynnu ar eich elw masnachu. Nid oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2 os oes gennych elw sy'n fwy na £12,570.
Eich elw masnachu blynyddol |
Y math o Yswiriant Gwladol y byddwch yn ei dalu |
Cyfraddau Cyfraniadau (blwyddyn dreth 2024/25) |
£0 i £6,724 |
Dosbarth 2 |
£345 yr wythnos, ond mae hyn yn wirfoddol |
£6,725 i £12,569 |
Dosbarth 2 |
£0 yr wythnos – nid oes angen i chi dalu ond rydych yn cael eich cyfri fel gwneud cyfraniadau Dosbarth 2 i ddiogelu eich adroddiad NI. |
£12,570-£50,270 |
Dosbarth 4 |
6% o elw rhwng £12,571-£50,270 |
Dros £50,271 |
Dosbarth 4 |
6% o elw rhwng £12,571-£50,270, a 2% o elw uwch |
Felly, am elw o £55,000, byddwch yn talu:
- Dim byd am y £12,569 cyntaf
- 6% ar y £37,700 nesaf
- 2% ar y £4,730 terfynol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn hunangyflogedig.
Byddwch yn talu Yswiriant Gwladol fel rhan o'ch Hunanasesiad
Cyfrifir eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn seiliedig ar eich ffurflen dreth Hunanasesiad. Byddant yn cael eu talu ar yr un pryd â'r Dreth Incwm.
Gweler Sut i lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad am fwy o wybodaeth.
Credydau Yswiriant Gwladol os nad ydych yn talu cyfraniadau
Os na fyddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, efallai y byddwch yn cael credydau yn lle hynny. Gallai hyn fod yn wir os ydych:
- yn chwilio am waith
- yn methu â gweithio oherwydd salwch neu anabledd
- yn ofalwr, neu
- ar dâl mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu.
Ond mae rhesymau eraill y gallech fod yn gymwys. Gweler Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd am fwy o wybodaeth.
Cyfraniadau gwirfoddol i gael Pensiwn y Wladwriaeth uwch
I gael Pensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn, bydd angen i chi gael o leiaf 35 o flynyddoedd cymwys o gyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol. Byddwch yn cael swm gostyngedig gyda llai o flynyddoedd, neu ddim os oes gennych lai na deng mlynedd cymwys.
Os nad oes gennych ddigon o flynyddoedd cymwys, efallai yr hoffech dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 i gynyddu eich hawl i bensiwn.
Mae gennych tan 5 Ebrill 2025 i brynu unrhyw flynyddoedd coll yn ôl rhwng 2006 a 2016. Ar ôl hyn, byddwch yn cael eich cyfyngu i'r chwe blynedd blaenorol.
Gweler ein canllaw Cynyddueich Pensiwn y Wladwriaeth gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol i gael rhagor o wybodaeth.