Pan fyddwch chi'n feichiog neu'n cael babi newydd, gall fod costau ychwanegol a all godi’n gyflym. Dyna pam mae'n hanfodol gwirio eich bod chi'n cael yr holl gymorth y mae gennych hawl iddo. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod i wneud yn siŵr nad ydych chi'n colli allan.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pa fudd-daliadau gallaf gwneud cais amdanynt pan rwy’n feichiog?
- Pa fudd-daliadau gallaf gwneud cais amdanynt os wyf yn gweithio ac yn cael babi?
- Pa fudd-daliadau allaf gwneud cais amdanynt os nad wyf yn gweithio neu fy mod ar incwm isel?
- Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
- Best Start Grant a Best Start Foods (yr Alban yn unig)
- Cynlluniau Cychwyn Iach (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon)
- Cymorth gyda thrafnidiaeth ysgol
- Taliad Plentyn yr Alban
- Pa fudd-daliadau gallaf wneud cais amdanynt ar ôl i mi gael babi?
- Pa fudd-daliadau gallaf wneud cais amdanynt os wyf yn astudio?
Pa fudd-daliadau gallaf gwneud cais amdanynt pan rwy’n feichiog?
Presgripsiynau a thriniaeth ddeintyddol GIG am ddim
Beth ydyw?
- Gofal deintyddol y GIG am ddim yn y Deyrnas Unedig tra byddwch yn feichiog, ac am flwyddyn wedi i’r babi gael ei eni.
- Mae presgripsiynau am ddim i chi drwy’r adeg yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Yn Lloegr, mae gennych yr hawl i gael presgripsiynau am ddim tra byddwch yn feichiog, ac am flwyddyn wedi i’r babi gael ei eni.
Pwy sy’n ei gael?
Pob menyw sydd yn feichiog neu a roddodd enedigaeth lai na blwyddyn yn ôl.
Sut i wneud cais
Cwblhewch y ffurflen Eithriad Mamolaeth (FW8) - sydd ar gael gan eich meddyg neu fydwraig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am Bresgripsiynau a thriniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG
Pa fudd-daliadau gallaf gwneud cais amdanynt os wyf yn gweithio ac yn cael babi?
Amser o’r gwaith gyda thâl ar gyfer gofal cynenedigol
Beth ydyw?
Waeth faint o amser rydych wedi bod yn eich swydd mae gennych hawl i amser o’r gwaith gyda thâl er mwyn i chi allu mynd i’ch apwyntiadau cynenedigol.
Mae'r amser hwn i ffwrdd yn ychwanegol at eich gwyliau blynyddol.
Mae gofal cyn geni yn cynnwys:
- apwyntiadau meddygol a gyda bydwraig
- apwyntiadau a argymhellwyd gan y meddyg fel dosbarthiadau ymlacio neu rianta.
Dylai’ch amser i ffwrdd gynnwys yr amser a gymerir i deithio i bob apwyntiad ac yn ôl.
Mae tad y babi neu eich partner (mae hyn yn cynnwys partneriaid o’r un rhyw) yn gymwys i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith heb dâl i fynd gyda chi i ddau o’ch apwyntiadau cynenedigol. Mae'r uchaswm amser wedi ei gapio i chwe awr a 30 munud ar gyfer pob apwyntiad.
Pwy sy’n ei gael?
Menywod beichiog cyflogedig.
Sut i wneud cais
Dywedwch wrth eich cyflogwr pa bryd y cynhelir eich apwyntiadau cynenedigol. Rhowch gymaint o rybudd â phosibl i’ch cyflogwr i’w helpu i gynllunio gwaith.
Gall fod yn syniad da i fynd yn ystod cyfnodau tawel yn y gwaith, neu hyd yn oed y tu allan i oriau gwaith, os y gallwch.
Darganfyddwch fwy am amser i ffwrdd â thâl ar gyfer gofal cynenedigol:
Absenoldeb a Thâl Mamolaeth Statudol
Beth yw Absenoldeb a Thâl Mamolaeth Statudol?
Pan gewch fabi, mae gennych hawl i gael blwyddyn o absenoldeb mamolaeth a thâl gan eich cyflogwr am hyd at 39 wythnos tra byddwch ar absenoldeb, os ydych yn gymwys.
Pwy sy’n ei gael?
Menywod beichiog cyflogedig.
I gael Tâl Mamolaeth Statudol rhaid i chi:
- ennill o leiaf £125 yr wythnos, £541.66 y mis neu £6,500 y flwyddyn, ar gyfartaledd.
- fod wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos
Faint yw Tâl Mamolaeth Statudol?
Cewch Dâl Mamolaeth Statudol am 39 wythnos o’ch absenoldeb mamolaeth o 52 wythnos.
Mae’r tabl isod yn dangos faint o Dâl Mamolaeth Statudol sydd yn y flwyddyn dreth 2025/26:
Cyfnod Mamolaeth Statudol | Cyfnod Mamolaeth Statudol |
---|---|
Y chwe wythnos gyntaf |
90% o’ch enillion wythnosol ar gyfartaledd cyn treth |
Y 33 wythnos nesaf |
£187.18 neu 90% of o’ch enillion – pa bynnag sydd leiaf |
Y 13 wythnos nesaf (os y’i cymerir) |
Heb dâl |
Sut i wneud cais
I gael absenoldeb mamolaeth, mae angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr pa bryd rydych am roi'r gorau i weithio o leiaf 15 wythnos cyn dyddiad geni disgwyledig y babi.
Mae rhaid i chi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i’ch cyflogwr eich bod yn dymuno cychwyn Tâl Mamolaeth Statudol a rhoi tystiolaeth iddo eich bod yn feichiog.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am Absenoldeb a thâl mamolaeth
Lwfans Mamolaeth
Beth yw Lwfans Mamolaeth?
Taliad bob pythefnos neu fisol gan y llywodraeth os na allwch hawlio Tâl Mamolaeth Statudol.
Pwy sy’n ei gael?
Menywod beichiog a mamau newydd nad ydynt yn gymwys ar gyfer Tâl Mamolaeth Statudol oherwydd:
- nid ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr yn ddigon hir
- rydych yn hunangyflogedig
- mae eich tâl cyfartalog yn llai na £125 yr wythnos, £541.66 yr wythnos neu £6,500 y flwyddyn.
Faint yw Lwfans Mamolaeth?
Mae’r swm a gewch yn seiliedig ar faint fyddwch yn ei ennill.
Gan ddibynnu ar eich enillion, yn y flwyddyn dreth 2025/26 gallech gael un ai:
- £187.18 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (pa bynnag un sydd leiaf) am hyd at 39 wythnos
- rhwng £27 a £187.18 yr wythnos am hyd at 39 wythnos os ydych chi'n hunangyflogedig
- £27 yr wythnos am hyd at 14 wythnos. Dyma'r gyfradd is, ac rydych chi'n cael hyn os nad ydych wedi talu unrhyw Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.
Sut i wneud cais
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, ffoniwch 0800 012 1888 neu lenwi'r ffurflen gais Lwfans Mamolaeth (MA1W) ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch NI Direct ar 02890 823 318 i gael ffurflen neu lawrlwytho un oddi ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans Mamolaeth
Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol
Beth yw Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol?
Wythnos neu ddwy o absenoldeb o’r gwaith â thâl er mwyn i chi allu helpu i ofalu am eich babi newydd.
Pwy sy’n ei gael?
Mae rhaid i chi:
- fod yn dad biolegol neu fabwysiadwr y plentyn
- partner y fam
- y rhiant bwriededig – os ydych yn cael babi drwy ddirprwyaeth.
Mae rhaid i chi hefyd:
- fod wedi gweithio i’ch cyflogwr ers 26 wythnos erbyn y 15fed wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi
- gael eich cyflogi gan y cyflogwr hyd nes y bydd y babi’n cael ei eni
- yn ennill o leiaf £125 yr wythnos, £541.66 y mis neu £6,500 y flwyddyn.
Mae rheolau gwahanol os byddwch yn mabwysiadu:
Faint yw Tâl Tadolaeth Statudol?
Cewch Dâl Tadolaeth Statudol am wythnos neu ddwy o’ch absenoleb tadolaeth.
Yn y flwyddyn dreth 2025/26 cewch £187.18 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog, pa bynnag un sydd leiaf.
Sut i wneud cais
Rhowch ffurflen SC3 i'ch cyflogwr o leiaf 15 wythnos cyn wythnos geni disgwyledig y babi. Gallwch lawrlwytho'r ffurflen SC3Yn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol
Mae reolau gwahanol os ydych yn mabwysiadu:
- Os ydych yn byw yn Lloegr, Iwerddon neu'r Alban, gallwch gael mwy o wybodaeth am dâl tadolaeth ac absenoldeb mabwysiadu ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am absenoldeb mabwysiadu a benthyg croth ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir
Beth yw Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir?
Hyd at 50 wythnos o absenoldeb rhiant a 37 wythnos o dâl a rennir gyda’ch partner os ydych yn gymwys.
Pwy sy’n ei gael?
Gallwch gael Tâl Rhiant a Rennir Statudol os ydych yn gyflogedig a’ch bod yn gymwys am un ai:
- Tâl Mamolaeth Statudol neu Dâl Mabwysiadu Statudol
- Tâl Tadolaeth Statudol a’ch partner yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol.
Cyn y gall y naill riant gael Absenoldeb Rhiant a Rennir neu Dâl mae rhaid i'r fam (neu'r sawl sy'n cael absenoldeb mabwysiadu) naill ai:
- dychwelyd i'r gwaith, sy'n dod ag unrhyw absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben, neu
- rhoi ‘rhybudd rhwymol’ i’w cyflogwr o’r dyddiad pan fyddant yn bwriadu dod â’u gwyliau i ben (ni allwch newid y dyddiad a roddwch mewn rhybudd rhwymol fel rheol).
Faint yw Tâl Rhiant a Rennir Statudol?
Yn y flwyddyn dreth 2025/26 cewch £187.18 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog – pa bynnag un sydd leiaf.
Sut i wneud cais
Mae rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig i’ch cyflogwr os dymunwch gael Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir.
Darganfyddwch fwy am Absenoldeb a Thâl Rhiant Statudol a RennirYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, mae yna ffurflenni y gellir eu lawrlwytho i roi rhybuddYn agor mewn ffenestr newydd ar ACAS.org.uk.
Ar nidirect, darganfyddwch am Absenoldeb Rhiant a Rennir a Thâl os ydych yn byw yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Absenoldeb a Thâl Mabwysiadu Statudol
Beth yw Absenoldeb a Thâl Mabwysiadu Statudol?
Pan fyddwch yn mabwysiadu neu’n cael plentyn drwy ddirprwyaeth, rydych yn gymwys i gael blwyddyn o absenoldeb o’r gwaith a hyd at 39 wythnos o Dâl Mabwysiadu Statudol.
Pwy sy’n ei gael?
Un unigolyn mewn cwpl all hawlio absenoldeb a thâl mabwysiadu. Gallai'r unigolyn arall fod yn gymwys i gael absenoldeb a thâl tadolaeth.
Mae rhaid i chi fod yn gyflogai ac wedi bod:
- yn gweithio i’ch cyflogwr am 26 wythnos erbyn i chi gael eich paru â phlentyn neu erbyn y 15fed wythnos cyn y dyddiad pan ddisgwylir i’ch babi gael ei eni
- yn ennill o leiaf £125 yr wythnos, £541.66 y mis neu £6,500 y flwyddyn ar gyfartaledd.
Faint yw Tâl Mabwysiadu Statudol?
Telir Tâl Mabwysiadu Statudol i chi am gyfnod hyd at 39 wythnos o’ch Absenoldeb Mabwysiadu Statudol.
Mae’r tabl isod yn dangos faint o Dâl Mabwysiadu Statudol sydd yn y flwyddyn dreth 2025/26:
Absenoldeb Mabwysiadu Statudol | Absenoldeb Mabwysiadu Statudol |
---|---|
Y chwe wythnos gyntaf |
90% o’ch enillion wythnosol ar gyfartaledd cyn treth |
Y 33 wythnos nesaf |
£187.18 neu 90% o’ch enillion – pa bynnag sydd leiaf |
Y 13 wythnos nesaf (os y’i cymerir) |
Heb dâl |
Sut i wneud cais
Dywedwch wrth eich cyflogwr eich bod yn bwriadu cymryd absenoldeb mabwysiadu a phryd y dymunwch iddo gychwyn.
Dylech ddweud wrth eich cyflogwr cyn pen saith diwrnod wedi i’r asiantaeth fabwysiadu ddweud wrthych fod plentyn wedi ei ddewis ar eich cyfer.
Os defnyddiwch ddirprwy i gael babi, dywedwch wrth eich cyflogwr beth yw’r dyddiad geni disgwyliedig a pha bryd rydych yn dymuno dechrau’ch absenoldeb o leiaf 15 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig y babi.
Darganfyddwch fwy am Absenoldeb a thâl mabwysiadu
Pa fudd-daliadau allaf gwneud cais amdanynt os nad wyf yn gweithio neu fy mod ar incwm isel?
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
Mae’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA) yn cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.
Fodd bynnag, os ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol, efallai y byddwch yn gymwys i gael y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda chostau eraill - er enghraifft, eich rhent neu fagu plant, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ochr yn ochr ag ESA Dull Newydd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol i bobl sâl ac anabl
Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
Beth yw’r Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn?
Taliad unwaith ac am byth o £500 o’r Gronfa Gymdeithasol i helpu gyda chostau’ch babi.
Os ydych yn byw yn yr Alban, disodlwyd hwn gan y Grant Best StartYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot.
Pwy sy’n ei Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn?
Cewch y grant os mai’ch babi yw’r unig blentyn yn eich teulu sydd dan 16 oed a’ch bod chi neu’ch partner yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol.
Mae rhagor o reolau os ydych yn mabwysiadu neu’n dod yn ddirprwy riant. Darganfyddwch fwy am y Grant Cychwyn Cadarn MamolaethYn agor mewn ffenestr newydd on GOV.UK.
Sut i wneud cais?
Os ydych chi'n byw yng Nghymru neu Loegr, llenwch y ffurflen hawlio Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn (SF100W) yn GOV.UK.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon gallwch lawrlwytho pecyn hawlio o nidirect.
Darganfyddwch fwy am y Grant Cychwyn Cadarn Mamolaeth ar GOV.UK.
Best Start Grant a Best Start Foods (yr Alban yn unig)
Mae Best Start Grant a Best Start Foods yn daliadau sy’n helpu gyda’r gost o fod yn feichiog neu ofalu am blentyn.
Pwy sy’n ei gael?
Os ydych chi o dan 18 oed, gallwch wneud cais am Best Start Grant neu Best Start Foods – hyd yn oed os nad ydych chi'n derbyn unrhyw daliadau neu fudd-daliadau.
Os ydych dros 18 oed, gallwch wneud cais os ydych chi'n cael unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Pensiwn.
Os ydych chi'n 18 neu 19 oed ac nad ydych chi'n cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, gallwch wneud cais o hyd os yw'ch rhiant neu'ch gofalwr yn cael:
- elfen blentyn Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn
- Budd-dal Plant.
Gallwch wneud cais am Best Start Grant a Best Start FoodsYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot.
Cofiwch, mae'n rhaid i chi roi gwybod am enedigaeth eich babi o fewn pedwar mis i barhau i dderbyn Best Start Foods.
Faint yw Best Start Grant?
Ar gyfer y flwyddyn dreth 2025/26, yr elfen Taliad Beichiogrwydd a Babi yw:
- £767.50 am eich babi cyntaf
- £383.75 am unrhyw blentyn wedyn.
Bydd y Taliad Dysgu Cynnar a'r Taliad Oedran Ysgol yn £319.80 fesul plentyn.
Beth yw Best Start Foods?
Cerdyn rhagdaledig yw Best Start Foods a all eich helpu i brynu bwydydd iach tra rydych yn feichiog a thra bod eich plentyn o dan dair oed. Gellir ei ddefnyddio ar-lein neu mewn siopau. Ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26, byddwch yn cael:
- £21.60 bob pedair wythnos yn ystod beichiogrwydd
- £43.200 bob pedair wythnos o ddiwrnod geni’ch plentyn hyd nes y bydd yn flwydd oed
- £21.60 bob pedair wythnos rhwng un a thair oed.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Best Start Foods cyn gynted ag ydych yn gwybod eich bod yn feichiog, neu nes mae’ch plentyn yn troi’n tair oed. Gallwch ei wneud ar-lein, dros y ffôn neu drwy gwblhau’r ffurflen gais ar bapur.
Darganfyddwch fwy am wneud cais am Best Start Grant a Best Start Foods ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Cofiwch, rhaid i chi roi gwybod am enedigaeth eich babi o fewn pedwar mis er mwyn parhau i dderbyn Best Start Foods.
Cynlluniau Cychwyn Iach (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon)
Mae cynllun Cychwyn Iach y GIG yn talu hyd at £8.50 yr wythnos i deuluoedd cymwys sydd â phlant ifanc (neu’n disgwyl plentyn) i helpu i dalu am fwydydd ‘iach’ fel ffrwythau, llysiau a llaeth. Rydych hefyd yn cael atchwanegiadau fitaminau am ddim.
Ar gyfer beth y gellir defnyddio taliadau Cychwyn Iach?
Gellir defnyddio’r taliad wythnosol ar eich cerdyn rhagdaledig tuag at:
- llaeth - llaeth buwch plaen, wedi'i basteureiddio'n gyfan, wedi'i sgimio neu ei sgimio wedi'i basteureiddio, ei sterileiddio, ei oes hir neu ei drin â gwres uwch (UHT)
- ffrwythau a llysiau plaen ffres a wedi rhewi
- fformiwla i fabanod
- fitaminau – mae gan fenywod beichiog, menywod â phlentyn o dan 12 mis oed a phlant hyd at bedair oed sy'n cael taliadau Cychwyn Iach hawl i fitaminau Cychwyn Iach am ddim – un botel bob wyth wythnos.
Dim ond mewn siopau (nid ar-lein) sy'n gwerthu llaeth, fformiwla fabanod, ffrwythau a llysiau y gallwch ddefnyddio'r cardiau ac ni allwch dynnu arian parod o'r cerdyn.
Pwy sy’n gymwys am y taliadau?
Byddwch yn cael y taliadau os ydych o leiaf ddeng wythnos yn feichiog neu os oes gennych blentyn o dan bedair oed ac rydych chi a'ch teulu yn cael:
- Credyd Cynhwysol os yw’ch cartref yn ennill £408 neu lai y mis.
- Credyd Pensiwn (sy’n cynnwys yr ychwanegiad Plentyn).
Os ydych chi o dan 18 oed ac yn feichiog, gallwch hefyd gael taliadau Cychwyn Iach – hyd yn oed os nad ydych chi'n cael unrhyw un o'r budd-daliadau a restrir uchod.
Os nad ydych chi'n ddinesydd Prydeinig ond bod eich plentyn, efallai y byddwch chi'n dal i allu cael taliadau Dechrau Iach. Darganfyddwch fwy am sut i gael help a gwneud cais am fwyd a llaethYn agor mewn ffenestr newydd
Faint yw taliadau bwyd Cychwyn Iach?
- mae menywod beichiog (o'r 10fed wythnos) a phlant un i bedair oed yn cael £4.25 yr wythnos
- Mae plant dan un yn cael £8.50 yr wythnos.
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi wneud cais am eich cerdyn Cychwyn Iach ar-lein o wefan Cychwyn Iach y GIGYn agor mewn ffenestr newydd Rhaid i chi gofrestru am gerdyn hyd yn oed os oeddech wedi hawlio talebau papur yn flaenorol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch gallwch hefyd siarad â’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg, neu ffoniwch Cychwyn Iach ar 0300 330 7010.
Cofiwch, rhaid i chi roi gwybod am enedigaeth eich babi o fewn pedwar mis er mwyn parhau i dderbyn taliadau ar gyfer Cychwyn Iach.
Cymorth gyda thrafnidiaeth ysgol
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu derbyn cymorth gyda chostau trafnidiaeth ysgol eich plentyn. Mae hyn yn dibynnu ar ba mor bell rydych yn byw o’r ysgol, oed y plentyn ac unrhyw anableddau.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu derbyn cymorth ychwanegol os ydych ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau.
Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr, gwiriwch a ydych yn gymwysYn agor mewn ffenestr newydd i gael cymorth gyda chludiant o'r cartref i'r Ysgol. Darganfyddwch fwy am eich cyngor lleol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael gan yr Awdurdod AddysgYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch wneud cais i gael cludiant ysgol am ddim gan eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.uk.
Taliad Plentyn yr Alban
Os ydych yn byw yn yr Alban, rydych chi neu'ch partner yn hawlio rhai budd-daliadau penodol, a chi neu'ch partner yw'r prif berson sy'n gofalu am blentyn o dan 16 oed yna efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am daliad wythnosol o £27.15 am bob plentyn o dan 16 oed.
Os byddwch yn llwyddiannus, a byddwch yn cael eich talu bob pedair wythnos.
Datganfyddwch fwy a gwnewch gais ar mygov.scot (Opens in a new window)Yn agor mewn ffenestr newydd
Pa fudd-daliadau gallaf wneud cais amdanynt ar ôl i mi gael babi?
Budd-dal Plant
Beth yw Budd-dal Plant?
Taliad rheolaidd gan y llywodraeth yw Budd-dal Plant i roi cymorth gyda’r cost o fagu plentyn.
Un unigolyn yn unig all hawlio Budd-dal Plant a gallwch hawlio am bob plentyn rydych yn gyfrifol amdano.
Pwy sy’n ei gael?
Unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn dan 16 (neu dan 20 os yw mewn addysg neu hyfforddiant).
Faint yw Budd-dal Plant?
Y cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26 yw:
- £26.05 yr wythnos am eich plentyn cyntaf neu’ch unig blentyn
- £17.25 yr wythnos am unrhyw blant eraill.
Sut i wneud cais
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill dros £60,000 y flwyddyn
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill mwy na £60,000 y flwyddyn, bydd rhaid i chi dalu rhywfaint neu’r cyfan o’ch Budd-dal Plant yn ôl fel Treth Incwm ychwanegol. Ond gallai fod o fudd i chi serch hynny ymgeisio am help i ddiogelu’ch pensiwn y wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Credyd Treth Plant
Mae Credyd Treth Plant wedi'i ddisodli gan Gredyd Cynhwysol ac mae bellach wedi cau. Efallai y byddwch yn gallu hawlio elfen blentyn o UC am hyd at ddau o blant nes iddynt gyrraedd 19 oed (neu 20 mewn rhai achosion) ac mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwyedig llawn amser - nid yn y brifysgol.
Os oes gennych dri neu fwy o blant, gallwch wneud cais am bob un ohonynt os cawsant eu geni cyn 6 Ebrill 2017.
Fel rheol, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar gyfer trydydd neu fabanod dilynol, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig, gan gynnwys genedigaeth luosog, mabwysiadu neu ddod yn ofalwr carennydd.
Darganfyddwch fwy ar wefan Working Families (Opens in a new window)
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Pa fudd-daliadau gallaf wneud cais amdanynt os wyf yn astudio?
A ydych wedi cael babi ac yn y coleg neu'r brifysgol? Yna gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol. Gallai hyn gwmpasu popeth o gostau byw a chostau dysgu i grantiau teithio a gofal plant.