Defnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau
Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
08 Ionawr 2024
Gall ceisio deall y costau sy'n gysylltiedig â chael plant fod yn llawer i feddwl amdano - ond ystyriwch hefyd y broses o fabwysiadu, ynghyd â'r diffyg arweiniad cymharol ac efallai y byddwch yn cael eich hun mewn penbleth.
O ran y broses fabwysiadu ei hun, os ydych yn mabwysiadu yn y DU, ni all asiantaeth godi ffi arnoch am drefnu mabwysiadu plentyn. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai costau eraill dan sylw, fel ffioedd llys neu dâl am wiriad gan yr heddlu. Pan fyddwch yn cysylltu â'r asiantaeth (neu'r asiantaethau) gallwch ofyn iddynt am ychydig mwy o wybodaeth am y costau a allai godi, ac a allant helpu gydag unrhyw un ohonynt.
Os ydych chi'n mabwysiadu plentyn o wlad arall, yn anffodus, bydd cost y broses yn llawer uwch. Yn wahanol i fabwysiadu o fewn y DU, mae'n rhaid i unrhyw un sy'n dymuno mabwysiadu plentyn o dramor dalu am y broses asesu eu hunain. Mae'r Intercountry Adoption CentreYn agor mewn ffenestr newydd yn nodi bod hyn yn gyffredinol rhwng £12,000-£25,000. Bydd gennych hefyd nifer o gostau teithio i'w talu ar hyd y ffordd. Mae'r llywodraeth yn codi ffi na ellir ei ad-dalu o £2,500 am brosesu caisYn agor mewn ffenestr newydd Bydd gennych hefyd gostau teithio amrywiol i'w talu ar hyd y ffordd.
Unwaith y byddwch wedi mabwysiadu'r plentyn yn llwyddiannus, nid yw'r costau'n dod i ben yno - bydd gennych blentyn neu fabi newydd yn eich cartref i ofalu amdano a thalu amdano! Os ydych chi'n mabwysiadu babi, edrychwch ar ein cyfrifiannell cost babi defnyddiol i'ch helpu i amcangyfrif costau. Waeth beth yw oedran y plentyn bydd angen i chi feddwl am bob math o gostau ychwanegol newydd a fydd yn cronni – yn amrywio o fwyd, gofal plant, dillad a biliau cyfleustodau (cofiwch gall person ychwanegol yn eich cartref olygu biliau uwch, yn gyffredinol) i gostau llai ond sy'n digwydd fwy nag unwaith fel prynu anrhegion pen-blwydd neu dalu am deithiau ysgol.
Os ydych chi'n ystyried mabwysiadu plentyn rydych chi eisoes yn ei faethu, bydd angen i chi ddilyn y broses fabwysiadu arferol yn y DU. O ran unrhyw gostau ychwanegol, rydych chi'n lwcus gan y dylech eisoes gael syniad da o gostau eu magu, fodd bynnag, peidiwch ag anghofio y byddech chi'n colli'r arian yr oeddech yn ei ennill trwy fod yn rhiant maeth.
Mae tâl mabwysiadu a hawliau absenoldeb i rieni mabwysiadol yn debyg i'r hawliau tâl a gwyliau sydd ar gael i rieni biolegol. Os ydych chi'n gweithio pan fydd eich plentyn mabwysiedig yn ymuno â'ch teulu, fel arfer bydd gennych hawl i amser i ffwrdd â thâl o'r gwaith a elwir yn Dâl ac Absenoldeb Mabwysiadu StatudolYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n mabwysiadu fel cwpl, dim ond un person fydd yn gallu cael absenoldeb mabwysiadu, er efallai y bydd y rhiant arall yn gallu cael absenoldeb rhiant a rennir neu absenoldeb tadolaethYn agor mewn ffenestr newydd Os ydych yn mabwysiadu plentyn drwy fenthyg croth, efallai y bydd gennych hawl i 52 wythnos o absenoldeb o'r gwaith.
Mae gan rai cwmnïau gynlluniau absenoldeb mabwysiadu mwy hael i'w gweithwyr nag eraill, felly gwiriwch eich contract cyflogaeth neu lawlyfr staff am fanylion. Dewch o hyd i wybodaeth fanylach am dâl ac absenoldeb mabwysiadu
Os ydych yn cymryd absenoldeb mabwysiadu drwy'ch cyflogwr, bydd gennych hawl i dâl mabwysiadu statudol. Fel gyda thâl mamolaeth, bydd y swm y mae gennych hawl iddo yn gostwng gydag amser.
Yn anffodus does dim. Ar hyn o bryd nid oes gan bobl hunangyflogedig hawl i unrhyw dâl mabwysiadu.
Mae'r gronfa cymorth mabwysiadu yn darparu arian i awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu rhanbarthol i dalu am wasanaethau therapiwtig hanfodol ar gyfer teuluoedd mabwysiadol sy'n gymwys. Gall dalu am wasanaethau sy'n helpu'r plentyn mabwysiedig gyda phethau fel gwell perthynas â ffrindiau, aelodau o'r teulu, athrawon a staff yr ysgol neu ymgysylltiad gwell â dysgu, ymhlith llawer o bethau eraill.
Mae ar gael i blant sy'n byw yn Lloegr hyd at ac yn cynnwys 21 oed (neu 25 gyda Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal) sydd:
Gallai awdurdod lleol dalu hyn os ydynt yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol i sicrhau cartref mabwysiadol ar gyfer plentyn, na ellid ei fabwysiadu'n hawdd fel arall. Mae'r cynllun yn caniatáu talu lwfans neu gyfandaliadau rheolaidd i fabwysiadwyr o dan amgylchiadau penodol. Gallai'r rhain gynnwys lle mae gan y plentyn anghenion ychwanegol, mae angen gofal arbennig am anabledd neu anawsterau ymddygiad sy'n cynnwys cost ychwanegol neu i wneud mabwysiadu'n bosibl gyda rhieni maeth presennol y mae gan y plentyn berthynas gref â nhw.
Bydd swm yr arian a gynigir fel lwfans mabwysiadu yn amrywio a bydd unrhyw lwfans fel arfer yn ystyried eich adnoddau ariannol fel teulu. Gallai hyn gynnwys unrhyw lwfans neu fudd-dal arall a gewch, yn ogystal â'ch treuliau rhesymol ac anghenion ariannol y plentyn. Cysylltwch â'ch awdurdod lleolYn agor mewn ffenestr newydd i gael gwybod mwy am y lwfans hwn yn eich ardal.
Yn ogystal â'r uchod, mae yna ychydig o fathau ychwanegol o gyllid i helpu plant mabwysiedig i ffynnu. Mae rhai yn ddewisol ac yn cael eu talu i'r rhiant, tra bod rhai ar ffurf arian ychwanegol a roddir i ysgolion i helpu plant mabwysiedig i gyrraedd eu potensial llawn yn eu lleoliad addysg.
*Ffynhonnell: GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Gweler gwefan First4AdoptionYn agor mewn ffenestr newydd am fwy o wybodaeth am y mathau uchod o gymorth ariannol, yn ogystal â chyngor defnyddiol arall i'r rhai sy'n ystyried mabwysiadu.
Cyhoeddwyd gyntaf: 01 Mehefin 2021