Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
18 Mehefin 2025
Mae llawer o dadau dan straen yn y byd sy'n teimlo'n gyfrifol am benderfyniadau ariannol hirdymor eu teuluoedd, ochr yn ochr â'r angen i ddarparu incwm sefydlog. Os ydych chi'n teimlo'r frwydr hon, y cam cyntaf yw gwybod nad ydych ar eich pen eich hun, a gwybod bod amrywiaeth o gymorth ac arweiniad diduedd am ddim ar gael.
Er bod nifer y tadau sy'n aros gartref wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dim ond 7% o ddynion sy'n canolbwyntio ar ofalu am eu teuluoedd yn unig. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o dadau yn cydbwyso gwaith a chyfrifoldebau gofalu. "Gall fod pwysau i ddarparu a gall deimlo fel mai eich cyfrifoldeb chi yw bod yr enillwyr cyflog hynny sy’n darparu ar gyfer eich teulu," meddai Paul Rhodes, sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ac sy’n dad i ddau o blant ac sy’n gyd-sylfaenydd Fathercraft UK.
Gall y cyfrifoldeb ariannol hwn (neu’r hyn a dybir i fod yn gyfrifoldeb) deimlo'n anhygoel o ynysig – yn enwedig os yw'ch partner yn gwneud llawer o waith di-dâl yn gofalu am blant bach.
Mae gan HelpwrArian hwb o gynnwys defnyddiol yn ymwneud â dod yn rhiant gyda theclynnau a chanllawiau am ddim i helpu tadau i ymestyn eu harian.
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Wrth gwrs, nid oes gan bob teulu fam a thad, ond mewn teuluoedd dau riant rhyw cymysg, mae ymchwil yn dangos bod y dynion a'r menywod yn tueddu i rannu 'tasgau arian', gyda menywod yn rheoli treuliau o ddydd i ddydd a dynion yn gofalu am benderfyniadau ariannol tymor hwy fel pensiynau a buddsoddiadau ar gyfer y dyfodol.
Dywed Dr Hayley James o Brifysgol Aston, a gynhaliodd yr ymchwil hon, y gall dynion deimlo "pwysau i deimlo eu bod yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud gyda phethau fel buddsoddi". Er y gall buddsoddi'ch arian wneud i'ch cynilion dyfu'n gyflymach na dim ond eu rhoi mewn cyfrif cynilo, gall hefyd ddod â’i beryglon oherwydd y gallech chi gael llai o arian yn y pen draw nag yr oedd gennych i ddechrau.
Os ydych chi'n teimlo y dylech wybod am bensiynau neu fuddsoddi ond nad ydych chi'n gwybod ble i ddechrau, gallwch ddefnyddio ein canllawiau:
Esbonio pensiynau sy'n amlinellu'r cysyniadau allweddol ac yn dangos i chi pa opsiynau gwahanol sydd ar gael.
Yn yr un modd, os ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am sut i gydbwyso'ch derbyniadau a’ch treuliau o ddydd i ddydd, gweler ein canllaw Sut i greu cyllideb cartref ar gyfer eich teulu.
Gall siarad am arian gyda ffrindiau, teulu, plant - neu arbenigwyr os oes angen - eich helpu i deimlo'n fwy hyderus wrth reoli eich arian a rhoi mwy o wydnwch ariannol i chi ymdopi â newidiadau mewn incwm yn y dyfodol neu ddigwyddiadau bywyd sy'n effeithio ar eich cyllid.
Ond mae stigma o gwmpas dynion yn arbennig nad ydynt eisiau siarad am arian. Mae hyn oherwydd pwysau personol i fyw'r "disgwyliad cymdeithasol" bod angen iddynt fod yn enillydd cyflog i’r teulu. Yn ôl Paul Rhodes "gall fod yn anhygoel o anodd cyfaddef a dweud eich bod yn cael trafferth gydag arian".
Nid dynion yn unig sy'n ei chael hi'n anodd siarad am arian, fel y dangosodd ymchwil diweddar MaPS y byddai'n well gan oedolion yn y DU siarad â ffrindiau am ryw, perthnasoedd, a gwleidyddiaeth nag arian.
Un peth y gallai tadau ei wneud yw annog eu plant i adeiladu perthynas iach gydag arian o oedran ifanc. Mae ein hastudiaeth wedi dangos nad yw bron i draean o rieni a gofalwyr yn siarad â'u plant yn agored am arian, gan golli cyfle i helpu gyda dealltwriaeth gynnar hanfodol plant.
Mae cael plant i wneud heriau ariannol sy’n hwyl, sy'n briodol i oedran yn hawdd i'w wneud.
Mae tystiolaeth yn dangos bod y ffordd rydyn ni'n ymddwyn - a pha mor dda ydym ni - gydag arian fel oedolion yn cael ei ddysgu pan fyddwn ni'n ifanc trwy edrych ar y byd o'n cwmpas.
Felly, gall siarad â'ch plant am eich cyllideb, a bod yn agored am arian yn gyffredinol, fod yn ffordd dda o ddangos iddynt sut i fod yn ofalus gydag arian.
Mae gennym lawer o syniadau gwych ar gyfer Sut i ddysgu plant am arian a Sut i siarad â'ch plant am arian.