Mae plant sy’n dda gydag arian fel arfer yn dysgu’r sgiliau hyn gan eu rhieni neu warchodwyr. Mae gadael i’ch plentyn gwario a chynilo arian o oed cynnar yn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau i wneud penderfyniadau doeth am arian nawr ac yn y dyfodol.

Gall siarad â phlant am arian bod yn anodd
Rydyn ni eisiau i'n plant dyfu i fyny gan deimlo'n hyderus am reoli arian. Ond gall fod yn bwnc emosiynol, yn enwedig os ydych chi wedi cael trafferthion eich hun ag ef neu'n teimlo y byddech yn dweud y peth anghywir.
Ond nid oes rhaid i chi reoli eich arian eich hun yn berffaith i allu dysgu arferion da i'ch plant. Does ond angen i chi benderfynu beth rydych chi am ei ddysgu iddynt a'i gadw'n syml.
Pryd ddylwn i ddechrau siarad â fy mhlentyn am arian?
Mae ein sgiliau ynghylch arian yn dechrau datblygu rhwng 3 a 7 oed gydag arferion yn dechrau ffurfio erbyn saith oed. Maen nhw'n dysgu o'r hyn maent yn eich gweld chi'n ei wneud, felly mae dechrau'n gynnar yn helpu i feithrin arferion da. Mae'n syniad da siarad â'ch plentyn am arian mor ifanc â thair oed.
Bydd hyn yn eu helpu:
- cael yr ymarfer sydd ei angen arnynt - mae angen amser ar blant i ddysgu sut i reoli arian, mae'n broses raddol. Maent yn dysgu orau trwy gamau bach a phrofiadau bywyd go iawn gydag arian
- dysgu o’u camgymeriadau – er enghraifft, os ydynt yn gwario’u harian i gyd ar losin a methu fforddio tegan newydd, maent yn dysgu rhesymau i gynilo ond, mewn sefyllfa lle nad yw’r cosbau’n ddifrifol.
- osgoi trafferthion arian yn y dyfodol – pan mae’r penderfyniadau yn cynnwys symiau fwy o arian a gall canlyniadau unrhyw gamgymeriadau fod yn fwy difrifol.
Eich rôl chi mewn agwedd eich plentyn tuag at arian
Gall rhieni chwarae rhan bwysig yn ymddygiad plant tuag at arian. Boed yn cyllidebu, cynilo neu fuddsoddi, mae cynnwys eich plentyn yn y trafodaethau a’r penderfyniadau hyn nid yn unig yn dysgu sgiliau ariannol gwerthfawr iddynt ond maent yn fwy tebygol o ddod atoch gyda’u cwestiynau eu hunain ar faterion ariannol.
Gall eich plentyn hefyd ddysgu am arian gan wahanol bobl fel neiniau a theidiau neu ffrindiau, yn ogystal ag o hysbysebion neu gyfryngau cymdeithasol. Defnyddiwch y cyfle hwn i siarad â nhw am pam mae pobl yn trin arian yn wahanol.
Mae ychydig o baratoi yn mynd yn bell
Gall fod yn anodd gwybod sut i ddechrau sgwrs am arian, felly mae’n werth meddwl am yr hyn rydych eisiau ei ddysgu i’ch plentyn. Nid oes rhaid i hwn fod yn gymhleth — gallwch ddewis y pwyntiau sylfaenol hoffech eu cyfleu a’r gwerthoedd neu’r agweddau tuag at arian rydych yn meddwl sy’n bwysig i’w rhannu.
Mae hefyd yn werth nodi'r hyn sy'n bwysig i'ch teulu ar hyn o bryd.