Prif awgrym
Rhannwch eich gwariant yn 'hanfodol' ac 'anhanfodol'. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws gweld y gwariant rydych chi wedi ymrwymo iddo, a'r hyn y gallech chi dorri'n ôl arno.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
17 Chwefror 2025
Gyda chostau byw yn parhau i godi, weithiau gall deimlo fel ei bod yn amhosibl cadw ar ben cyllid eich teulu. Fodd bynnag, gall creu cyllideb fod yn ffordd hawdd o ddeall eich arian a chyfrifo ble y gallwch wneud arbedion.
Mae cyllideb yn ffordd o olrhain eich arian i gyd sy’n dod i mewn, a sut mae'n cael ei wario. Trwy roi'r cyfan at ei gilydd mewn un lle, mae'n hawdd gweld ble mae'ch arian yn mynd, a gweld unrhyw le y gallech chi dorri yn ôl.
Bydd cyllideb deuluol yn cynnwys popeth rydych yn ei wario ar eich plant. Bydd angen i chi feddwl am yr holl wahanol ffyrdd rydych yn gwario ar eich plant - o gostau gofal plant i ddyddiau allan.
Drwy gynnwys eich holl wariant fel teulu, byddwch yn cael gwell syniad o ble mae'ch arian yn mynd a beth allwch chi ei fforddio.
Gallwch roi cyllideb at ei gilydd:
ar bapur
gan ddefnyddio cyfrifiadur neu eich ffôn
gan ddefnyddio teclyn ar-lein, fel ein Cynlluniwr cyllideb
Efallai y bydd gan eich banc neu gymdeithas adeiladu hefyd declyn cyllidebu ar-lein sy'n cymryd gwybodaeth yn uniongyrchol o'ch trafodion.
Unwaith y byddwch wedi penderfynu ble’r hoffech greu eich cyllideb, bydd angen i chi edrych ar eich incwm a'ch gwariant.
Y cam cyntaf yw meddwl am yr holl arian sydd gennych yn dod i mewn yn rheolaidd. Dylai hyn gynnwys:
eich cyflog
unrhyw Gredyd Cynhwysol, Budd-dal Plant neu fudd-daliadau eraill rydych chi'n eu derbyn
unrhyw arian ychwanegol rydych yn ei wneud o fusnes bach ar yr ochr neu ail swydd
unrhyw incwm rhent a gewch
unrhyw gynhaliaeth plant neu unrhyw gymorth ariannol arall a gewch.
Mae ein Cynlluniwr cyllideb yn rhestru'r holl wahanol fathau o incwm y bydd angen i chi feddwl amdanynt.
Os bydd unrhyw un o'r symiau hyn yn newid o fis i fis, mae'n well ceisio cyfrifo bras gyfartaledd a defnyddio hwnnw fel eich rhif.
Adiwch yr holl symiau at ei gilydd – yna bydd gennych gyfanswm incwm misol.
Mae'r rhan nesaf yn cymryd ychydig yn hirach - bydd angen i chi feddwl am eich holl wariant rheolaidd a chyfrifo’r cyfan gyda’i gilydd.
Unwaith eto, mae'n iawn os yw'r rhifau hyn yn newid o fis i fis – bydd bras gyfartaledd eich helpu i ddeall ble mae'ch arian yn mynd.
Rhannwch eich gwariant yn 'hanfodol' ac 'anhanfodol'. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws gweld y gwariant rydych chi wedi ymrwymo iddo, a'r hyn y gallech chi dorri'n ôl arno.
Yn gyntaf, meddyliwch am yr hyn rydych chi'n ei wario ar yr holl bethau canlynol.
Biliau cartref – gan gynnwys eich rhent neu forgais, biliau ynni a'r Dreth Gyngor
Costau byw – gan gynnwys eich bwyd, dillad a chostau anifeiliaid anwes
Costau ariannol – fel yswiriant, gorddrafft neu ad-daliadau credyd
Costau i'ch plant – gan gynnwys costau gofal plant, hanfodion babanod, clybiau a gweithgareddau
Costau teithio – gan gynnwys eich car a chostau trafnidiaeth gyhoeddus
Costau hamdden ac adloniant – fel prydau allan, tanysgrifiadau ffrydio a gwyliau.
Mae ein Cynlluniwr cyllideb yn rhestru'r holl wahanol fathau o wariant y bydd angen i chi feddwl amdanynt.
Dylai'r uchod gwmpasu'r rhan fwyaf o'ch gwariant, ond meddyliwch am unrhyw le arall y gallai eich arian fod yn mynd.
Mae'n syniad da edrych trwy ychydig o gyfriflenni banc a gwirio a ydych wedi cynnwys eich holl wariant rheolaidd, neu os oes unrhyw beth nad yw'n dod o dan y categorïau uchod.
Efallai yr hoffech ystyried rhannu'ch costau gwario yn hanfodol ac anhanfodol.
Mae eich costau hanfodol yn bethau nad oes gennych unrhyw ddewis ond eu talu, fel eich rhent neu forgais, biliau ynni a bwyd.
Eitemau anhanfodol fydd y pethau y gallech eu torri'n ôl arnynt pe byddech yn dymuno. Mae pethau fel gwyliau, hamdden a chostau adloniant fel arfer yn perthyn i'r categori hwn.
Yna byddwch yn gallu gweld faint o'ch gwariant sy'n ddewisol, a gellid ei dorri'n ôl os ydych yn ceisio cyrraedd nod cynilo.
Y cam olaf yw cymryd eich incwm, a thynnu cyfanswm eich gwariant allan ohono.
Yr hyn sy'n weddill yw faint o arian sbâr y dylech ei gael ar ddiwedd pob mis.
Os ydych chi'n gwario mwy na'ch incwm a’ch bod yn gorffen gyda rhif negyddol, mae ffyrdd o geisio torri biliau a dyledion eich cartref.
Os ydych chi'n cael trafferth talu biliau oherwydd dyledion, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Mae'n syniad da i:
siarad â chynghorydd dyledion am ddim – gallwch ddod o hyd i un ar ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion
blaenoriaethu'ch biliau, oherwydd gall syrthio ar ei hôl hi ar rai biliau arwain at ganlyniadau mwy difrifol nag eraill – defnyddiwch ein Blaenoriaethwr biliau i ddarganfod pa filiau i'w talu’n gyntaf
Mae ein canllaw Help os ydych chi'n cael trafferth gyda dyled yn rhoi camau ymarferol a gwybodaeth i chi ar beth i'w wneud.
Yn aml mae'n bosibl lleihau biliau eich cartref drwy wneud ychydig o ymchwil.
Ceisiwch gymharu cynigion ar:
ynni
ffôn cartref a band eang
ffôn symudol
yswiriant cartref.
Hyd yn oed os yw'n arbed cyn lleied â £5 y mis gyda chynnig rhatach, gall hyn wneud gwahaniaeth mawr i'ch cyllideb flynyddol. Mae ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref yn mynd i fwy o fanylder ar sut i gymharu a newid.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu arbed arian drwy:
newid i fesurydd dŵr, yn dibynnu ar faint o ddŵr mae'ch teulu'n ei ddefnyddio – dysgwch fwy yn ein canllaw Sut i leihau eich bil dŵr
gwirio a yw eich cartref yn y band Treth Gyngor cywir – dysgwch fwy yn ein canllaw Treth Cyngor: sut i arbed arian
Os gallwch roi arian o'r neilltu bob mis, mae'n syniad da ei gadw mewn cyfrif cynilo er mwyn i chi ennill ychydig o log.
Hyd yn oed os mai dim ond swm bach o arian ydyw, mae'n helpu i wybod eich bod chi'n ennill ychydig yn fwy.
Mae gennym amrywiaeth o ganllawiau defnyddiol ar Sut i gynilo.
Mae cael rhywfaint o gynilion brys yn ffordd wych o baratoi ar gyfer treuliau annisgwyl, yn enwedig pan fydd pethau'n mynd o chwith fel peiriant golchi neu foeler yn torri.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynilion brys – faint sy'n ddigon?
Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli y gallent fod yn hawlio budd-daliadau a chymorth ychwanegol. Hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl ei fod yn berthnasol i chi, mae’n werth gwirio.
Mae ein Cyfrifiannell budd-daliadau yn ffordd gyflym o wirio a allech fod yn hawlio unrhyw beth ychwanegol.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac oedran eich plant, efallai y gallwch gael:
Gofal Plant Di-dreth
Hyd at 30 awr o ofal plant am ddim.
Mae manylion am y ddau gynllun ar ein canllaw Help gyda chostau gofal plant.
Bydd gan rai banciau apiau sy'n eich galluogi i weld dadansoddiad cyflym o'ch gwariant.
Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych chi'n cyfyngu ar yr hyn rydych chi'n ei wario ar rannau penodol o'ch cyllideb gyffredinol.
Mae yna hefyd rai apiau gyda nodweddion a all roi rhywfaint o arian o'r neilltu yn awtomatig i gyfrif cynilo.
Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth eich ffrindiau na allwch fforddio rhywbeth, ond mae 'cyllidebu uchel' yn duedd lle mae pobl yn fwy agored am eu sefyllfa ariannol. Gall helpu i leihau'r pwysau o wario arian y byddai'n well gennych ei gynilo.
Gallai olygu bod yn agored am faint y gallwch ei wario ar anrhegion a phartïon pen-blwydd, awgrymu dewisiadau amgen sy'n gyfeillgar i'r gyllideb i weithgareddau grŵp, neu rannu awgrymiadau arbed arian gyda ffrindiau.
Dysgwch fwy yn ein post am gyllidebu uchel.
Unwaith y byddwch wedi llunio cyllideb, mae'n syniad da dod yn ôl ato bob hyn a hyn a'i addasu os oes angen.
Efallai yr hoffech edrych yn ôl arno os:
yw eich incwm yn newid
mae'n rhaid i chi dalu am rywbeth annisgwyl
rydych chi'n ceisio cynilo ar gyfer rhywbeth, fel gwyliau.
Mae ein Cynlluniwr cyllideb yn eich galluogi i arbed eich canlyniadau a dod yn ôl atynt yn nes ymlaen – gan ei gwneud hi'n hawdd addasu eich cyllideb pan fydd angen.
Gall llunio cyllideb fod yn gyfle da i ddechrau dysgu'ch plant am arian, a sut i fod yn gyfrifol yn ariannol.
Mae ymchwil yn dangos bod y ffordd yr ydym yn ymddwyn gydag arian fel oedolion yn cael ei ddysgu pan fyddwn yn ifanc trwy arsylwi'r byd o'n cwmpas.
Felly, gall siarad â'ch plant am eich cyllideb fod yn ffordd dda o ddangos iddynt sut beth yw bod yn ofalus gydag arian.
Mae gennym lawer o syniadau gwych ar Sut i ddysgu plant am arian a Sut i siarad â'ch plant am arian.