Sut i wneud cais am ad-daliad treth

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
27 Mehefin 2024
Gall newid swydd neu gymryd seibiant o'r gwaith olygu y codir y swm anghywir o dreth incwm arnoch. Yn y canllaw hwn, rydym yn eich dysgu beth yw ad-daliad treth, faint y gallai fod yn ddyledus i chi, a sut i hawlio’r arian hwnnw’n ôl.
Beth yw ad-daliad treth?
Gall deall sut mae ad-daliadau treth yn gweithio a sut i wneud cais am un ymddangos yn ddryslyd, ond gall cymryd yr amser i ddysgu helpu i sicrhau eich bod yn cael yr hyn sy’n ddyledus i chi yn ôl.
Mae ad-daliad treth yn ad-daliad o dreth incwm yr ydych eisoes wedi’i thalu. Os ydych wedi talu gormod o dreth, efallai y bydd ad-daliad yn ddyledus i chi.
Ar ddiwedd pob blwyddyn dreth, sy’n rhedeg rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo a wnaethoch chi dalu’r swm cywir o dreth.
Mae CThEF fel arfer yn rhoi ad-daliadau treth yn awtomatig, ond gallwch hawlio un os credwch eich bod wedi talu gormod o dreth.
A oes ad-daliad treth yn ddyledus i mi?
Os ydych wedi talu gormod o dreth, efallai y bydd ad-daliad treth yn ddyledus i chi. Mae yna ychydig o resymau pam efallai na chafodd eich treth ei chyfrifo'n gywir.
Efallai y bydd ad-daliad treth yn ddyledus i chi os ydych:
- wedi cael y cod treth anghywir gan CThEF neu gan eich cyflogwr
- gorffen un swydd, dechrau un arall, a chael eu talu gan y ddau yn yr un mis
- dechrau derbyn eich pensiwn cyn ymddeol
- wedi derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith.
Os ydych yn gyflogedig, mae CThEF fel arfer yn cysylltu â chi os oes ad-daliad treth yn ddyledus i chi.
Os ydych yn hunangyflogedig neu os oes gennych incwm arall, efallai y gallwch hawlio ad-daliad treth gan ddefnyddio Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os ydych wedi colli eich swydd yn ddiweddar neu wedi cael eich diswyddo, efallai y gallwch hawlio rhywfaint o’r dreth a dalwyd gennych tra’r oeddech yn gweithio yn ôl. Dysgwch sut i wneud hyn yn ein canllaw Hawlio eich ad-daliad ar ôl colli eich swydd.
Sut gallaf wirio a wyf wedi talu gormod o dreth?
Os credwch eich bod wedi talu gormod o dreth, mae camau y gallwch eu cymryd i gyfrifo a oes arian yn ddyledus i chi.
I wirio a ydych wedi talu gormod o dreth:
- gwiriwch eich treth incwm ar gyfer y llyneddYn agor mewn ffenestr newydd gan ddefnyddio eich Rhif Adnabod Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar GOV.UK, yna
- defnyddiwch y gwiriwr trethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Pan fyddwch yn gwybod faint o dreth a dalwyd gennych, gallwch gyfrifo a allai fod ad-daliad yn ddyledus i chi.
Ar beth y gallaf gael ad-daliad treth?
Gallwch gael ad-daliad treth os ydych wedi gordalu treth neu os nad ydych wedi hawlio ad-daliadau treth yn ystod y flwyddyn ariannol.
Gall hyn gynnwys unrhyw arian rydych wedi’i ennill neu ei wario, fel:
- tâl o'ch swydd bresennol neu flaenorol
- gwariant sy'n gysylltiedig â gwaith, er enghraifft, os ydych wedi talu am wisg gyda'ch arian eich hun
- treuliau busnes os ydych yn hunangyflogedig, er enghraifft, costau swyddfa
- cyfraniadau pensiwn personol
- taliadau diswyddo
- rhoddion elusennol.
Gwneud cais am eich ad-daliad treth
Os ydych yn gyflogedig neu’n derbyn pensiwn ac wedi talu gormod o dreth drwy PAYE, bydd CThEF yn anfon llythyr cyfrifo treth (P800) atoch yn dweud wrthych sut i hawlio’ch ad-daliad.
Gallwch chi:
- wneud cais am eich ad-daliad ar-lein drwy GOV.UK neu,
- aros am siec.
Gallwch wirio a hawlio ad-daliad treth gan ddefnyddioYn agor mewn ffenestr newydd ap CThEF
Darllenwch ein canllaw i gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r system PAYE yn gweithio.
Nid yw CThEF bob amser yn cyfrifo’ch trethi yn awtomatig.
Os ydych yn hunangyflogedig neu os oes gennych incwm arall, efallai y bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad i roi gwybod i CThEF faint o dreth rydych wedi’i thalu.
Os ydych yn ffeilio am y tro cyntaf neu heb anfon ffurflen dreth y llynedd, mae angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Rhaid i chi lenwi llythyr Hunanasesiad os ydych:
- wedi ennill mwy na £1,000 y flwyddyn o hunangyflogaeth
- yn rhan o bartneriaeth fusnes
- ag incwm trethadwy dros £150,000
- wedi talu Treth Enillion Cyfalaf
- wedi talu Tâl Budd-dal Plant Incwm Uchel.
Efallai y bydd angen i chi hefyd lenwi Hunanasesiad ar gyfer unrhyw arian o gynilion neu fuddsoddiadau, incwm o rentu eiddo, tips a chomisiynau, ac incwm tramor.
Gwnewch hyn rhwng dechrau’r flwyddyn dreth nesaf (6 Ebrill) a diwedd Ionawr (31), neu efallai y codir llog neu gosb arnoch.
Cyn dechrau eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, sicrhewch fod gennych bopeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys slipiau cyflog a chyfriflenni banc, fel eich bod yn cael y swm sy’n ddyledus i chi.
Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth gywir a chyflawn ar amser. Gallwch dalu cosbau am hawliadau anghywir neu hwyr, hyd yn oed os mai damwain ydyw.
Gall Ffurflen Dreth Hunanasesiad ymddangos yn frawychus, ond gall fod yn syml os ydych yn dilyn y camau angenrheidiol.
Ceisiwch osgoi defnyddio cwmnïau ad-daliad treth i helpu gyda'ch ffurflenni treth. Gallant godi ffioedd cudd a gallant eich annog i hawlio treuliau nad ydych yn gymwys ar eu cyfer.
Darllenwch ein canllaw i ddysgu Sut i lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Pryd fyddaf yn cael ad-daliad treth?
Cyfrifir ad-daliadau treth ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, sydd bob amser yn rhedeg rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill y flwyddyn nesaf.
Pan fydd CThEF wedi cyfrifo i bwy y mae ad-daliad treth yn ddyledus, byddant yn anfon llythyrau cyfrifiad treth rhwng Mehefin a diwedd Tachwedd.
Mae faint o amser y mae'n ei gymryd i gael eich ad-daliad yn dibynnu ar sut rydych yn ei hawlio.
- Os byddwch yn hawlio'ch ad-daliad ar-lein, cewch eich talu o fewn 5 diwrnod gwaith.
- Os na fyddwch yn hawlio eich ad-daliad ar-lein o fewn 21 diwrnod, bydd CThEF yn anfon siec atoch, a all gymryd hyd at 6 wythnos i gyrraedd.
Gall yr amser a gymer i gael ad-daliad treth ar ôl anfon eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad amrywio yn dibynnu ar natur eich cais.
Os ydych wedi gordalu treth am fwy na blwyddyn, byddwch yn dal i gael un siec sy’n cwmpasu’r cyfanswm.
Gallwch wirio pa mor hir y dylai eich cais ei gymryd gan ddefnyddio’r traciwr cynnydd yn eich cyfrif GOV.UK ar-lein. Gallwch hefyd wirio pryd y gallwch ddisgwyl ymateb gan GThEFYn agor mewn ffenestr newydd
Faint fyddaf yn ei gael yn ôl o ad-daliad treth?
Mae faint o dreth a gewch yn ôl yn dibynnu ar ychydig o ffactorau, gan gynnwys:
- eich enillion ers dechrau'r flwyddyn dreth
- faint o dreth rydych wedi’i thalu ar yr enillion hynny ac unrhyw incwm arall
- os ydych yn gweithio o gartref (ac wedi talu am offer swyddfa gartref)
- os ydych wedi talu am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â gwaith.
Mae teclyn gwirio treth syml ar gael ar Cyllid a Thollau EF (CThEF)Yn agor mewn ffenestr newydd
Dylai ond cymryd ychydig funudau i amcangyfrif faint o dreth y gallwch ei hawlio yn ôl.
Cyn defnyddio’r gwiriwr treth, sicrhewch fod gennych bopeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys slipiau cyflog a datganiadau banc.
A oes angen mwy o wybodaeth arnoch am sut mae treth yn gweithio?
Gall dysgu sut mae treth yn gweithio eich helpu i ddeall a ydych yn talu gormod. Darganfyddwch fwy am Sut mae Treth Incwm a Lwfans Personol yn gweithio.