Sut mae’r system Talu Wrth Ennill (TWE) yn gweithio

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
27 Mehefin 2024
Mae’n bwysig deall sut rydych yn cael eich talu yn y gwaith, fel eich bod yn gwybod eich bod yn talu’r swm cywir o dreth. Yn y blog hwn, byddwch yn dysgu beth yw’r system Talu Wrth Ennill (TWE), sut y cyfrifir TWE, a sut i wirio os ydych yn talu’r swm cywir.
Beth yw’r system Talu Wrth Ennill?
Mae TWE yn sefyll am Dalu Wrth Ennill.
System sy’n cael ei ddefnyddio gan Gyllid a Thollau EF (HMRC) i gasglu treth. Gyda TWE, mae cyfraniadau Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu cymryd yn awtomatig o’ch cyflog neu’ch pensiwn, gan ei gwneud hi’n haws talu trethi heb orfod llenwi ffurflen dreth.
Os ydych yn hunangyflogedig, ni chewch eich talu drwy TWE. Mae swm y dreth rydych yn ei thalu yr un canran o’ch enillion ag y byddai pe byddech yn gyflogedig, ond fel arfer nid oes angen i chi dalu treth ar gostau busnes. Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad i helpu CThEF i gyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus gennych.
Dysgwch fwy yn ein canllaw i Dreth ac Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn hunangyflogedig.
Sut mae TWE yn cael ei gyfrifo?
Mae faint o dreth rydych yn ei dalu drwy TWE yn dibynnu ar yr hyn rydych yn ei ennill.
Mae CThEF yn rhoi cod treth i bob gweithiwr. Gall y rhain fod yn wahanol yn dibynnu ar faint rydych chi’n ei ennill. Mae cyflogwyr yn defnyddio hwn i gyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus gennych. Yna, maent yn cymryd y swm o’ch cyflog neu’ch pensiwn.
Gallwch ddod o hyd i’ch cod treth ar gyfer y flwyddyn bresennol ar eich slip cyflog neu ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch ennill swm penodol o arian bob blwyddyn dreth cyn talu Treth Incwm. Gelwir hyn yn Lwfans Personol. Ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25, y Lwfans Personol yw £12,570.
Ar gyfer enillion dros £12,570, mae swm y dreth a dalwch yn cynyddu wrth i incwm trethadwy gynyddu.
Po fwyaf y byddwch yn ennill, y mwyaf y byddwch yn ei dalu.
Os ydych yn ennill mwy na £125,140, ni chewch Lwfans Personol. Mae lwfansau eraill hefyd gan gynnwys y Lwfans Priodas, y Lwfans Cynilo Personol, a’r Lwfans Treth Difidend.
Gallwch ddarganfod mwy am fandiau treth yn ein canllaw, Sut mae Treth Incwm a Lwfans Personol yn gweithio.
Cyfrifwch eich Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol ar gyfer y flwyddyn gyfredol ar GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd
Beth os oes gen i ffynonellau eraill o incwm?
Os oes gennych un ffynhonnell incwm, fel arfer mae gennych un cod treth.
Os oes gennych fwy nag un ffynhonnell incwm, efallai y bydd gennych fwy nag un cod treth.
Os oes gennych ail swydd, mae yna reolau TWE gwahanol.
Dim ond un Lwfans Personol a gewch, felly fel arfer mae’n well ei ddefnyddio ar gyfer y swydd sy’n talu fwyaf.
Mae hyn yn golygu, os ydych yn ennill dros y Lwfans Personol drwy eich prif ffynhonnell incwm, byddwch yn talu treth ar eich holl enillion o’ch ail swydd.
Os nad yw’r naill swydd na’r llall yn talu mwy na £12,570 y flwyddyn, gallwch rannu eich Lwfans Personol.
Gallwch ddarganfod mwy yn ein canllaw i Dreth Ail Swyddi a thâl.
Os oes gennych ffynonellau incwm eraill sy’n mynd â chi dros y Lwfans Personol, fel arian o rentu eiddo neu fuddsoddiadau, bydd angen i chi gwblhau ffurflen Hunanasesiad dreth. Mae hyn yn helpu CThEF i gyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus gennych.
Gallwch ddarganfod mwy yn ein canllaw, Sut i lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad.
Os oes gennych gyfranddaliadau mewn cwmni ac yn cael taliadau difidend, byddwch ond yn talu treth ar enillion sy’n uwch na’r Lwfans Difidend, sef £500 ar gyfer 2024/25. Mae faint o dreth a dalwch dros y Lwfans Difidend yn dibynnu ar eich band Treth Incwm.
Darganfyddwch fwy am y dreth ar ddifidendau ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
TWE wrth dderbyn eich pensiwn
Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth ac unrhyw bensiynau preifat a gewch yn rhan o gyfanswm eich incwm blynyddol.
Ni fyddwch yn talu treth os yw cyfanswm eich incwm blynyddol yn llai na’ch Lwfans Personol.
Os ydych wedi ymddeol a bod eich pensiwn yn mynd dros y Lwfans Personol, mae angen i chi dalu Treth Incwm.
Os byddwch yn dechrau derbyn eich pensiwn tra’n gweithio, cymerir treth o’ch enillion a’ch Pensiwn y Wladwriaeth drwy TWE. Bydd eich darparwr pensiwn yn tynnu unrhyw dreth y gallai fod yn ddyledus gennych cyn eich talu.
Os oes gennych nifer o ddarparwyr pensiwn, dim ond un ohonynt fydd yn talu eich Treth Incwm. Efallai y byddwch yn talu treth ar gyfradd uwch wrth gymryd cyfandaliadau o’ch pensiwn preifat.
Chi sy’n gyfrifol am dalu Treth Incwm ar unrhyw ffynonellau incwm ychwanegol.
Efallai bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad os:
- oes gennych incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth, neu
- eich bod yn derbyn arian o gynilion, buddsoddiadau neu eiddo.
Am fwy o wybodaeth, gallwch ddarllen ein canllaw i dreth wrth ymddeol.
Lle mae fy rhif cyfeirnod TWE ar fy slip cyflog?
Mae eich cyfeirnod TWE yn gyfuniad unigryw o rifau a llythrennau mae CThEF yn eu defnyddio i’ch adnabod chi a’ch cyflogwr.
Nid oes rhaid i’ch cyflogwr gynnwys eich cyfeirnod TWE ar eich slip cyflog, ond mae llawer yn gwneud.
Os na allwch weld eich rhif TWE ar eich slip cyflog, dylech allu dod o hyd iddo ar eich P45 neu P60.
Byddwch yn derbyn P60 ar ddiwedd pob blwyddyn dreth, sydd yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill yn 2024/25.
Gallwch ddysgu mwy am ddeall eich slip cyflog yn ein canllaw.
Problemau gyda TWE
Gall materion TWE, fel camgymeriadau neu oedi, achosi iddynt godi gormod neu rhy ychydig o dâl am dreth i chi.
Mae gwallau fel arfer yn cael eu cywiro’n awtomatig, ond os ydych chi’n credu bod eich bil TWE yn anghywir, gallwch gysylltu â ChThEFYn agor mewn ffenestr newydd
Rwyf wedi talu gormod neu rhy ychydig o dreth
Bydd CThEF yn cysylltu â chi os ydych wedi talu’r swm anghywir o dreth drwy TWE. Er enghraifft, os cawsoch y cod treth anghywir ac os cawsoch eich trethu’n ormodol.
Bydd CThEF yn anfon llythyr cyfrifiad treth atoch (a elwir hefyd yn P800) yn dweud wrthych sut i hawlio’ch ad-daliad neu dalu’r dreth sy’n ddyledus gennych.
Os na wnaethoch chi dalu digon o dreth drwy TWE, gallai CThEF newid eich cod treth. Mae’r swm na gafodd ei dalu yn cael ei gymryd o’ch enillion dros y flwyddyn dreth nesaf.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n canllaw ar Sut i hawlio ad-daliad treth.
Os ydych am wirio’ch treth, defnyddiwch y teclyn gwirio treth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
A all fy nhreth TWE gael ei ddileu?
Os ydych chi’n credu eich bod wedi tandalu treth drwy TWE oherwydd camgymeriad neu oedi gan CThEF, gallwch ofyn iddynt ddileu’r hyn sy’n ddyledus gennych.
Gallwch wneud cais i ddileu treth trwy ffonio neu ysgrifennu at GThEFYn agor mewn ffenestr newydd a dylech wneud hyn cyn i chi ddechrau talu unrhyw dreth sydd heb ei dalu.
Mae fy Lwfans Personol wedi newid
Gall CThEF newid eich Lwfans Personol, a gallai hyn effeithio ar faint o dreth incwm rydych yn ei dalu.
Os ydych yn derbyn budd-daliadau trethadwy gan eich cyflogwr, fel car cwmni neu yswiriant iechyd, gallai CThEF newid eich cod TWE a lleihau eich Lwfans Personol i sicrhau eich bod yn talu digon o dreth.
Gallwch ddysgu mwy am fudd-daliadau gweithwyr yn ein canllaw, a talu treth ar fudd-daliadau gweithwyr ar wefan CThEFYn agor mewn ffenestr newydd
Gallai CThEF leihau eich Lwfans Personol os nad ydych wedi talu digon o dreth a chasglu’r dreth sy’n ddyledus gennych trwy TWE yn hytrach nag ad-daliad uniongyrchol. Os yw’r dreth sy’n ddyledus gennych yn fwy na’ch Lwfans Personol, gall eich cod treth gynnwys y llythyren K.