Mae angen rhoi trefn ar bensiynau pan fydd rhywun yn marw. Mae’n bosibl y gallai priod neu fuddiolwr arall elwa. Mae'r swm sy’n cael ei hawlio yn dibynnu ar y math o bensiwn, oedran y person a fu farw a'u buddiolwyr.
Beth i’w wneud am eu Pensiwn y Wladwriaeth
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym UnwaithYn agor mewn ffenestr newydd i ddweud wrth y rhan fwyaf o sefydliadau'r llywodraeth am farwolaeth ar yr un pryd gan gynnwys delio â Phensiwn y Wladwriaeth.
Nid yw'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym UnwaithYn agor mewn ffenestr newydd ar gael yng Ngogledd Iwerddon. Darganfyddwch wrth pwy i ddweud am farwolaeth yng Ngogledd Iwerddon ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Os hoffech drafod eich sefyllfa, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Hawlio eu Pensiwn y Wladwriaeth
Fe allai fod hawl gennych i daliadau pensiwn ychwanegol o Bensiwn y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil.
Mae’n dibynnu ar swm y cyfraniadau Yswiriant Gwladol y gwnaeth ef neu hi eu talu a phryd y gwnaethoch chi a’ch priod neu bartner sifil gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.
Gofyn am wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth sydd wedi'i dandalu
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi nodi rhai pobl nad oedd eu pensiynau wedi’u talu’n ddigonol oherwydd na chawsant y cynnydd awtomatig yr oedd ganddynt hawl iddo. Mae’r rhain yn cynnwys pobl a oedd:
- yn briod neu'n weddw pan fuon nhw farw, neu
- yn 80 oed neu'n hŷn pan fuon nhw farw.
Efallai bod y DWP eisoes wedi ysgrifennu at y person neu ei berthynas agosaf, os ydynt yn gwybod y cyfeiriad cywir.
Os ydych chi'n credu efallai bod y person a fu farw wedi cael tâl nad oedd yn ddigonol am ei bensiwn, gallwch gysylltu â'r DWP i gael rhagor o wybodaethYn agor mewn ffenestr newydd
Efallai y bydd yn cymryd peth amser i'r DWP ddelio â'ch ymholiad, ond byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych y canlyniad naill ffordd neu'r llall. Os oedd arian yn ddyledus i'r unigolyn o'i bensiwn, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybod beth yw'r camau nesaf.
Gallwch wirio beth allech fod â hawl iddo drwy bensiwn eich partnerYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Os nad ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, fe allech chi fod yn gymwys hefyd i hawlio Budd-daliadau profedigaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Beth i’w wneud am eu pensiynau personol a gweithle
Os ydych yn ymdrin â materion rhywun ar ôl eu marwolaeth, bydd angen i chi wirio’u gwaith papur i weld a oedd ganddynt unrhyw gynlluniau pensiwn personol neu weithle.
Os felly, cysylltwch â’r darparwr pensiwn i weld faint o arian oedd ganddynt a beth i’w wneud nesaf.
Os nad ydych chi’n gwybod pwy yw’r darparwr pensiwn ac roedd y person a fu farw yn gyflogedig, cysylltwch â’u cyflogwr i weld a oedd pensiwn gweithle cyfredol.
Mae’r swm y gallwch chi ei hawlio a phryd y gallwch hawlio yn dibynnu ar ba fath o bensiwn personol neu weithle ydyw.
Mae cyfraniadau diffiniedig a phensiynau buddion diffiniedig yn darparu buddion gwahanol ar ôl marwolaeth.
Mae angen i chi gysylltu â'r darparwr pensiwn, neu'r cyflogwr, os yw'n gynllun gweithle, i ddarganfod faint oedd gan y person a fu farw a sut i wneud cais am y pensiwn hwnnw.
Gallwch lawrlwytho templed y llythyr hwn i gysylltu â’r darparwr pensiwnYn agor mewn ffenestr newydd (DOC 28KB)
Os nad oes unrhyw sôn am bensiwn personol neu weithle, ond rydych chi'n meddwl y gallai'r person a fu farw fod wedi cael un, gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu. Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim, gyda chefnogaeth y llywodraeth.
Ffoniwch nhw ar 0800 731 0193 neu ddarganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio
Mae rheolau treth gwahanol yn gymwys wrth etifeddu pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.
Mae’n dibynnu p’un a yw’r unigolyn wedi marw cyn 75 neu ar ôl hynny.
Os yw’r unigolyn wedi marw cyn 75 oed:
- Os oedd yn derbyn incwm o flwydd-dal oes sengl, bydd hyn yn stopio oni bai bod ‘cyfnod gwarantedig’ ynghlwm wrth y blwydd-dal. Os felly, bydd yn parhau i gael ei dalu yn ddi-dreth hyd at ddiwedd y cyfnod gwarantedig - fel arfer pump neu ddeng mlynedd.
- Os oedd yn flwydd-dal oes ar y cyd, bydd incwm yn dal i gael ei dalu i’r goroeswr -hefyd yn ddi-dreth - hyd at ei farwolaeth. Ond fel arfer bydd hyn ar gyfradd ostyngol -hanner sy’n gyffredin. Os nad ydych chi’n siŵr pa un oedd ganddynt, gofynnwch i’r darparwr blwydd-dal.
- Os oedd gan y person a fu farw bensiwn tynnu i lawr mynediad hyblyg wedi'i sefydlu neu wedi’i gyrchu am y tro cyntaf ar ôl 5 Ebrill 2015, gellir talu'r arian yn ddi-dreth cyn belled â bod penderfyniad yn cael ei wneud ar sut i gymryd yr arian o fewn dwy flynedd i'w farwolaeth.
- Serch hynny, os yw’r pensiwn yn cael ei hawlio mwy na dwy flynedd ar ôl marwolaeth y deiliad pensiwn, efallai y bydd angen talu treth.
- Bydd unrhyw arian a dynnir allan o’r cynllun pensiwn cyn marwolaeth, neu unrhyw fuddsoddiad a brynir gydag arian o’r cynllun pensiwn,Bydd yn cyfrif fel rhan o'u hystâd a gallai fod yn destun Treth Etifeddiant.
- Bydd yr arian yn y pensiwn yn parhau i dyfu yn ddi-dreth cyhyd â’i fod yn parhau wedi’i fuddsoddi.
Os yw’r unigolyn wedi marw yn 75 oed neu hŷn:
- Os wnaeth dderbyn incwm o flwydd-dal oes sengl, bydd hyn yn dod i ben oni bai bod ‘cyfnod gwarantedig’. Os felly, fe’i telir i’r buddiolwyr hyd at ddiwedd y cyfnod gwarantedig. Bydd treth incwm yn gymwys ar y taliadau.
- Pe bai'n flwydd-dal bywyd ar y cyd, bydd incwm yn parhau i gael ei dalu i’r goroeswr, a bydd treth incwm yn gymwys.
- Bydd unrhyw arian a gymerir fel cyfandaliad neu fel incwm o gynllun tynnu i lawr mynediad hyblyg neu o unrhyw bot pensiwn heb ei gyffwrdd, yn cael ei ychwanegu at incwm arall buddiolwr ac yn cael ei drethu yn y ffordd arferol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio
Pensiynau buddion wedi’u diffinio
Mae sut y mae pensiwn buddion wedi’u diffinio yn cael ei dalu yn dibynnu ar p’un a oedd yr ymadawedig wedi ymddeol ai peidio.
Os nad oedd y person a fu farw wedi ymddeol eto:
- Bydd y rhan fwyaf o gynlluniau yn talu cyfandaliad sydd fel arfer yn ddwy neu’n bedair gwaith eu cyflog.
- Os oedd y person a fu farw yn iau na 75 oed, mae’r cyfandaliad hwn yn ddi-dreth.
- Mae’r math hwn o bensiwn fel arfer yn talu ‘pensiwn goroeswr’ trethadwy i briod, partner sifil neu blentyn dibynnol.
Os oedd y person a fu farw wedi ymddeol:
- Os oedd y person a fu farw yn derbyn pensiwn o gynllun buddion wedi'u diffinio, bydd pensiwn trethadwy is yn aml yn parhau i gael ei dalu i briod, partner sifil neu ddibynnydd arall yn unol â rheolau'r cynllun.
- Gwiriwch pa fuddion sy’n ddyledus gyda’r cynllun pensiwn neu ddarparwr.
Ar hyn o bryd, nid yw buddion marwolaeth o’r pensiynau hyn yn cael eu cynnwys fel rhan o’ch ystâd ar gyfer cyfrifo Treth Etifeddiant. Mae newid a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Hydref 2024 yn golygu y gallai rhai budd-daliadau marwolaeth fod yn agored i Dreth Etifeddiant o fis Ebrill 2027.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Esbonio pensiynau buddion wedi’u diffinio
Lwfansau cyfandaliad di-dreth ar gyfer pensiynau
Os nad oedd gan y person a fu farw ddigon o lwfans yn weddill i dalu am werth unrhyw bensiynau nad ydynt eisoes wedi'u profi yn erbyn eu lwfans sy'n weddill, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o dreth ar unrhyw gynilion pensiwn sy'n fwy na'r terfyn hwn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfansau cyfandaliad di-dreth ar gyfer pensiynau
Mwy o gymorth i roi trefn ar bensiwn
Os ydych chi angen mwy o wybodaeth am roi trefn ar bensiwn rhywun sydd wedi marw, neu sut y dylech chi hawlio’u pensiwn, cysylltwch â ni: