Rydym yn dod yn gymdeithas heb arian parod yn gyflym. Mae llawer ohonom yn talu am ein siopa gyda chardiau debyd a chredyd ac yn gwirio ein balans ar ein ffôn symudol. Er ei bod yn gyflym ac yn hawdd i ni, gall fod yn anodd i blant ddeall ein bod yn gwario arian go iawn.

Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut ydw i’n dysgu fy mhlentyn am arian digidol
Mae’n werth cymryd yr amser i esbonio sut mae arian digidol yn gweithio, fel bod eich plentyn, hyd yn oed os ydyn nhw’n ifanc iawn, yn deall nad ydych chi’n cael pethau am ddim pan fyddwch chi’n gwneud taliad heb arian parod.
Defnyddio taleb rhodd ar-lein
Mae gan gardiau rhodd swm penodol o arian, felly maen nhw’n ffordd ddefnyddiol o helpu plant i ddeall pan fo’r arian wedi’i wario, mae wedi mynd
Cael arian allan o beiriant arian parod
Tro nesaf rydych yn tynnu arian o beiriant arian parod, siaradwch â’ch plentyn am yr hyn sy’n digwydd.