Bydd y canllaw hwn yn dangos ffyrdd ymarferol i chi ddysgu sgiliau arian hanfodol i'ch arddegwyr. Byddwch yn dysgu sut i roi cyfrifoldeb ariannol iddynt, gosod esiampl dda, a'u helpu i ddatblygu arferion arian da.
Rhowch reolaeth iddynt o’u harian eu hunain
Y ffordd orau i bobl ifanc yn eu harddegau ddysgu am arian yw i ymdrin ag arian eu hunain.
Pan fydd ganddynt eu cyllideb eu hunain i'w rheoli, byddant yn dysgu'n gyflym bod arian yn rhedeg allan abod angen ei wario'n ofalus.
Dechreuwch gydag arian poced
Mae hyd yn oed swm bach o arian poced rheolaidd yn well na rhoi arian iddynt pryd bynnag y byddant yn gofyn amdano.
Mae ymchwil yn dangos bod pobl ifanc yn eu harddegau sy'n cael swm sefydlog yn wythnosol neu'n fisol yn llawer gwell am gadw golwg ar eu gwariant na'r rhai sy'n cael arian ar hap.
Mae faint o arian poced rydych chi'n ei roi yn dibynnu ar oedran a chyfrifoldebau eich arddegwyr. Ond yr hyn sydd bwysicaf yw ei fod yn rheolaidd ac yn rhagweladwy. Fel hyn, gallant ymarfer cyllidebu a chynllunio wrth iddynt fynd yn hŷn.
Gwnewch iddynt weithio i gael yr arian
Ystyriwch roi swyddi bach i'ch arddegwyr i ennill y cyfan neu ran o'u harian poced. Mae hyn yn eu paratoi ar gyfer cael swydd go iawn yn nes ymlaen. Gallent wneud:
tasgau cartref
cerdded cŵn ar ran cymdogion
glanhau ceir
helpu i ddosbarthu papurau newydd
gwarchod plant
mân swyddi ar gyfer pobl rydych chi’n ymddiried ynddynt.
Dysgwch nhw i gyllidebu
Helpwch eich arddegwr i ddeall sut mae cyllidebu’n gweithio drwy greu eu cyllideb eu hunain ar gyfer rhywbeth maen nhw eisiau cynilo ar ei gyfer.
Gallai hyn fod yn ddillad newydd, y ffôn diweddaraf, neu hyd yn oed rheoli eu harian cinio ysgol wythnosol (gan fod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau yn defnyddio cardiau neu olion bysedd i dalu ac angen cyllidebu faint i'w ychwanegu bob wythnos).
Dewiswch nod cynilo
Dechreuwch drwy eu helpu i weithio allan faint mae eu nod yn ei gostio a phryd maen nhw eisiau ei gyflawni.
Cadwch olwg ar eu harian
Yna dangoswch iddynt sut i gadw golwg ar eu hincwm (o swyddi, arian poced, neu arian pen-blwydd) a chynllunio faint y gallant ei gynilo bob wythnos neu fis.
Cynlluniwch eu cynilion
Cyfrifwch faint y mae angen iddynt ei gynilo bob wythnos neu fis i gyrraedd eu nod. Helpwch nhw i benderfynu beth y gallant ei roi o'r neilltu yn realistig.
Rhannwch eich cyllidebu eich hun
Gallwch hefyd rannu rhai o'ch cyfrifoldebau ariannol eich hun i'w helpu i ddeall.
Dangoswch eich incwm iddynt ac esboniwch beth rydych chi'n gwario arian arno, fel biliau, siopa bwyd, a phethau ar eu cyfer fel teithiau ysgol.
Ceisiwch gyllidebu gyda’ch gilydd
Am wythnos, gadewch iddynt eich helpu i reoli cyllideb yr aelwyd gyda'ch arweiniad.
Ar ddiwedd yr wythnos, siaradwch am y profiad. Gofynnwch iddynt beth oedd yn eu synnu a beth oeddent yn ei chael yn anodd.
Dulliau cyllidebu syml
Teclynnau cyllidebu ap bancio: Gall hyn helpu i gategoreiddio eu gwariant yn awtomatig fel y gallant weld ble mae eu harian yn mynd bob mis a gadael iddynt osod terfynau gwariant sy'n anfon rhybuddion pan fyddwch chi'n agosáu at eich cyllideb.
Gosodwch nod cynilo: Helpwch nhw i ddewis rhywbeth maent wir eisiau cynilo ar ei gyfer ac anelwch at gyrraedd y targed hwnnw gyda'ch gilydd.
Dull tri phot: Pan fyddant yn cael eu harian poced, helpwch nhw i'w rannu rhwng tri phot - arian ar gyfer pethau sydd eu hangen arnynt (fel cinio ysgol), pethau maent eu heisiau (fel tocynnau sinema), a chynilion ar gyfer argyfyngau.
Gadewch iddynt wynebu’r canlyniadau
Os yw'ch arddegwr yn gorwario eu harian, trafodwch gyda nhw am yr hyn y mae'n ei olygu i beidio â chael arian ar ôl am weddill yr wythnos neu'r mis.
Os yw'r canlyniadau yn rheoladwy, gadewch iddynt brofi peidio â chael arian tan eu diwrnod arian poced nesaf.
Mae hyn yn eu helpu i ddeall effaith wirioneddol eu dewisiadau gwariant.
Pan fydd pobl ifanc yn eu harddegau yn gorfod ymdrin â chanlyniadau gorwario eu hunain, maent yn dod yn llawer mwy ymwybodol o gadw golwg ar eu harian.
Dangoswch arferion arian da i’ch arddegwyr a byddant yn dilyn
Efallai y bydd eich arddegwr yn cael ei ddylanwadu gan sut rydych chi'n delio ag arian, felly mae'n ddefnyddiol gosod esiampl dda.
Os ydych chi'n cynilo ar gyfer pethau rydych chi eisiau, efallai y bydd eich arddegwr yn dilyn y dull hwn hefyd.
Pan fyddwch chi'n defnyddio cardiau credyd, gallech siarad â'ch arddegwr am faint y gallwch fforddio ei dalu'n ôl bob mis, ac felly faint y gallwch ei fenthyca yn ddiogel.
Pan fydd rhywbeth rydych chi ei eisiau ond na allwch ei fforddio, fel gwyliau teuluol, siaradwch â nhw amdano.
Esboniwch faint sydd angen i chi ei gynilo, beth allai fod angen i chi dorri'n ôl arno, a gofynnwch a oes ganddynt unrhyw syniadau i'ch helpu.
Byddwch yn onest am eich camgymeriadau
Nid oes angen i chi fod yn berffaith gydag arian i helpu'ch arddegwyr i ddysgu.
Os ydych chi wedi gwneud camgymeriadau ariannol, rhannwch nhw.
Esboniwch beth ddigwyddodd, sut yr effeithiodd arnoch chi a'ch teulu, a'r hyn y gwnaethoch chi ei ddysgu.
Gall hyn fod yn ffordd bwerus o ddangos iddynt y pwysigrwydd o gael rheolaeth dda o’u harian.
Helpwch nhw i reoli eu cyflog cyntaf
Mae cael swydd yn gam mawr tuag at annibyniaeth ariannol.
Gall unrhyw un dros 13 gael swydd ran-amser, ac mae'n ffordd wych i bobl ifanc yn eu harddegau ddysgu am arian yn y byd go iawn.
Deall slipiau cyflog
Pan fydd eich arddegwyr yn cael eu slip cyflog cyntaf, ewch drwyddo gyda nhw. Gwnewch yn siŵr eu bod yn deall:
beth yw eu cyfradd fesul awr
y gwahaniaeth rhwng cyflog gros (cyn didyniadau) a thâl net (yr hyn maen nhw'n ei gael mewn gwirionedd)
beth yw Yswiriant Gwladol a didyniadau treth
sut mae goramser yn effeithio ar eu cyflog.
Gadewch iddynt ddarllen ein canllaw Deall eich slip cyflog a gofynnwch iddynt a yw'n codi unrhyw gwestiynau
Cynilo o gyflogau
Mae cael swydd yn golygu mwy o arian, sy'n gyfle perffaith i siarad am gynilo.
Helpwch nhw i sefydlu system lle maent yn arbed cyfran o bob cyflog yn awtomatig.
Mae cael swydd yn golygu mwy o arian, sy'n gyfle perffaith i siarad am gynilo.
Helpwch nhw i sefydlu system lle maent yn arbed cyfran o bob cyflog yn awtomatig.
Mae llawer o apiau bancio yn gadael i chi wneud hyn. Chwiliwch am nodweddion fel "automatic savings" neu opsiynau "round up" sy'n arbed newid mân o bryniannau.
Gallech hefyd eu helpu i sefydlu rheol sefydlog i symud swm penodol (fel £20 o bob £100 maent yn ei ennill) i gyfrif cynilo ar wahân cyn gynted ag y daw eu cyflog i mewn. Fel hyn, maent yn cynilo heb orfod meddwl amdano bob tro.
Does dim swm cywir i'w gynilo. Mae'n dibynnu ar eu treuliau a'u nodau. Helpwch nhw i feddwl am:
faint sydd ei angen arnynt ar gyfer treuliau hanfodol bob wythnos, fel prisiau bws
faint mae eu bywyd cymdeithasol yn ei gostio
p'un a ydyn nhw'n cynilo ar gyfer rhywbeth penodol fel car neu brifysgol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon cynilo i blant
Gwnewch gynilo yn awtomatig. Y ffordd hawsaf o gynilo yw sefydlu trosglwyddiad awtomatig o'u cyfrif cyfredol i gyfrif cynilo bob tro y byddant yn cael eu talu.
Fel hyn, nid oes rhaid iddynt gofio ei wneud, ac maent yn llai tebygol o wario'r arian.
Adolygwch eu cynllun cynilo bob ychydig fisoedd i sicrhau ei fod yn addas ar eu cyfer, yn enwedig os yw eu hincwm yn newid.