Gall plant eich plagio drwy ofyn dro ar ôl tro am bethau neu eich anwybyddu pan fyddwch chi'n dweud na. Mae'n arferol i blant wneud hyn a chael stranc os nad ydyn nhw'n cael yr hyn maen nhw ei eisiau - ond gall fod yn anodd peidio ag ildio.

Beth sydd yn y canllaw hwn
Gall bod yn barod leihau plagio
Wrth i blant dyfu i fyny, maen nhw'n dod yn well am drin siom a rhwystredigaeth, ond mae'n cymryd amser. Gallwch helpu trwy gael sgwrs cyn i chi fynd allan i siopa am yr hyn y byddwch yn ei brynu a'r hyn na fyddwch yn ei brynu.
Mae hyn yn eich galluogi i ddweud na yn bwyllog ac esbonio pam gartref, lle mae mwy o breifatrwydd. Mae hefyd yn helpu plant i baratoi ar gyfer siom o flaen amser, fel nad ydyn nhw wedi'u gorlethu cymaint pan fyddwch chi'n dweud na yn y siopau.
Helpwch eich plentyn i ddeall y gwahaniaeth rhwng ‘dymuniadau’ ac ‘anghenion’
Mae dysgu’r gwahaniaeth rhwng ‘dymuniadau’ ac ‘anghenion’ i’ch plentyn yn ei helpu i ddeall pam nad ydych chi’n prynu popeth maent yn gofyn amdano.