Er bydd y rhan fwyaf o bobl o'r farn ei bod yn bwysig siarad â pherthynas hŷn am ble hoffai fyw pe na allai barhau i aros gartref mwyach, ychydig iawn sy'n trafod hyn â'u hanwyliaid mewn gwirionedd. Mae'n bwysig trafod yr opsiynau.
Awgrymiadau ar beth i siarad amdano
Mae meddwl am fod angen gadael eich cartref yn un o’r pethau anhawsaf i’w wynebu, felly gall fod yn sgwrs anodd iawn i’w chael.
Gall fod yn anodd peidio bod yn emosiynol oherwydd y newidiadau mawr mewn bywyd i ddod – i chi a’ch perthynas.
Gallai’r pethau i drafod gynnwys:
- pwy fydd yn gofalu amdanynt pan fyddant yn hŷn?
- ymhle hoffent fyw os na fyddant yn gallu byw gartref mwyach?
- pwy maent eisiau i wneud penderfyniadau ar eu rhan os na allant hwy eu gwneud?
- beth yw eu gweledigaeth o sut olwg fydd ar eu gofal diwedd-oes?
- a ydynt yn cael anhawster ag arian? Os felly, beth maent eisiau gwneud i ddatrys y mater?
- a ydynt yn cael anhawster â’u cof?
Y prif beth yw, gorau po gyntaf i chi drafod y mater.
Peidiwch ag aros tan y pwynt pan fydd eich perthynas angen gofal brys. Gan efallai na fydd yr unig ddewisiadau sydd ar gael bryd hynny yn beth y mae wir eisiau, a gall hyn wneud pethau’n fwy o straen i bawb.
Beth yw’r ffordd orau i gychwyn y sgwrs?
- Cadw pethau’n gyffredinol. Siaradwch am bobl eraill sydd wedi bod trwy brofiadau tebyg yn ddiweddar o ran gofal a sut maent yn delio â hyn - y da a’r drwg.
- Gallech drafod beth rydych ei eisiau pan fyddwch yn hŷn fel bod y sgwrs yn parhau i fod yn agored a chynhwysol.
- Os byddwch yn crybwyll y pwnc yn ddigon buan, gallwch siarad yn gyffredinol iawn am gartrefi gofal. Yna gallwch gael syniad o ddymuniadau’ch rhieni, er mwyn i chi allu gweithredu’n briodol pan ddaw’r amser.
Siarad â pherthnasau am ofal hirdymor rheini
O ran gofalu am eich rhieni, mae'n bwysig cael sgyrsiau agored gyda pherthnasau neu frodyr a chwiorydd ynghylch sut i rannu cyfrifoldebau mewn ffordd sy'n gweithio i bawb.
Gall y trafodaethau hyn helpu i sicrhau bod eich rhiant yn parhau i gael rheolaeth am gyhyd â phosibl tra hefyd yn atal camddealltwriaeth neu ddrwgdeimlad ymhlith aelodau'r teulu. Gallwch hefyd ddod o hyd i ffyrdd y gallwch gefnogi eich rhiant yn ein canllaw Help i reoli arian bob dydd.
Os bydd un perthynas neu frawd neu chwaer yn cymryd y rhan fwyaf o'r gofal, efallai y bydd yn dechrau teimlo'n orlethedig neu'n ddig, tra bydd eraill na allant gyfrannu cymaint yn teimlo'n euog.
Drwy siarad yn gynnar am yr hyn y gall pob person ei gynnig yn realistig, gallwch osgoi tensiwn a sicrhau bod pawb ar yr un dudalen.
Mae rhai cwestiynau allweddol i’w trafod yn cynnwys:
- pwy fydd yn dweud wrth eich rhiant os ydych yn teimlo fod yr amser wedi dod i symud i ofal preswyl?
- pwy fydd yn cymryd cyfrifoldeb am drefnu symud i ofal os oes angen?
- pwy fydd yn gyfrifol am dderbyn galwadau ffôn o’r cartref gofal?
- sut byddwch yn rhannu cyfrifoldebau ymweld?
Ystyriwch gontract gofal teulu
Efallai y byddwch hefyd am ystyried contract gofal teulu, lle mae perthynas sy'n darparu'r gofal mwyaf yn cael ei dalu o gronfeydd y teulu. Gall hyn helpu i leddfu pwysau ariannol a chydnabod yr amser a'r ymdrech sydd ynghlwm wrth roi gofal.
Gall contract gofal teulu gynnig buddion fel:
- caniatáu i'ch rhieni aros gartref yn hirach
- sicrhau eu bod yn derbyn gofal o safon gan rywun y maent yn ymddiried ynddo
- darparu cymorth ariannol i'r prif ofalwr.
Os oes gan eich rhiant alluedd meddyliol, gallant benderfynu sut i ddefnyddio ei arian, gan gynnwys talu perthynas am ofal.
Ond rhaid i'r taliad fod yn fforddiadwy ac yn rhesymol ar gyfer lefel y gofal a ddarperir.
Mae'n bwysig cael cytundeb ysgrifenedig, a elwir fel arfer yn gontract gofal teulu, i egluro disgwyliadau ac amddiffyn y gofalwr a'r rhiant sy'n derbyn gofal.
Dylai’r cytundeb amlinellu:
- pa ofal fydd yn cael ei ddarparu
- pryd y caiff ei ddarparu, a
- faint fydd y gofalwr yn cael ei dalu.
Nid yw gadael swydd i ddarparu gofal yn golygu y dylai'r gofalwr dderbyn ei gyflog blaenorol gan fod gwaith gofal fel arfer yn talu llawer llai. Dylai gofalwyr ymchwilio i gyfraddau cyflog lleol i sicrhau iawndal teg. Byddwch yn ymwybodol bod gan ofalwyr proffesiynol gymwysterau, hyfforddiant, ac maent yn gweithio i asiantaethau sy'n dilyn rheoliadau llym fel arfer.
Mae contract gofal teulu yn ddogfen gyfreithiol rwymol, felly mae'n rhaid i bawb ddeall beth mae'n ei olygu cyn sefydlu un. Mae’n syniad da ceisio cyngor cyfreithiol gan arbenigwr gofal yn gyntaf. Gweler ein canllaw Helpu i ariannu gofal – sut i gael cyngor.
Os bydd eich rhiant yn gymwys yn ddiweddarach i gael taliadau uniongyrchol am ofal, mae’r rheolau ynghylch talu aelodau o’r teulu yn amrywio ar draws y DU, felly mae’n werth edrych i mewn i’r manylion ar gyfer eich ardal.
Gallwch ddarganfod mwy ar wefan Carers UKYn agor mewn ffenestr newydd
Trafod talu am ffioedd cartref gofal
Gall gweithio allan y ffordd orau i dalu am ffioedd cartrefi gofal fod yn gymhleth, ac mae'n werth cynllunio ymlaen llaw.
Darganfyddwch fwy am gynllunio am gostau gofal yn ein canllawiau:
I ddarganfod mwy am sut i gael sgyrsiau â pherthynas hŷn, gan gynnwys awgrymiadau ymarferol a chyngor ar sut i wneud penderfyniadau pwysig, edrychwch ar wefan Independent AgeYn agor mewn ffenestr newydd
Siarad â rhywun am atwrneiaeth
Oeddech chi'n gwybod?
Yn ôl y GIG, amcangyfrifir y bydd un o bob tri o bobl yn gofalu am berson â dementia yn ystod eu hoes. Felly, mae’n bwysig cynllunio ymlaen llaw rhag ofn na allant wneud penderfyniadau yn ddiweddarach gan roi tawelwch meddwl i chi a’ch anwylyd.
Wrth i anwyliaid heneiddio, mae’n naturiol i boeni am sut byddant yn rheoli ei chyllid, yn enwedig os byddant yn colli galluedd meddyliol.
Un o'r sgyrsiau mwyaf defnyddiol y gallwch ei gael yw sut yr hoffent i'w harian a'u heiddo gael eu trin os na allant wneud penderfyniadau eu hunain mwyach.
Yr amser gorau i siarad yw pan fyddant yn teimlo'n dda ac yn gallu mynegi eu dymuniadau'n glir.
Help arian bob dydd
Gallwch gynnig cymorth drwy helpu gyda biliau, agor post, neu fynd gyda nhw i apwyntiadau banc.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Atwrneiaeth
I sicrhau y byddai eich anwylyn wedi ei ddiogelu pe byddai’n colli galluedd meddyliol, gallech geisio trafod creu a sefydlu atwrneiaeth.
Mae hyn yn rhoi awdurdod cyfreithiol i rywun a enwir i wneud penderfyniadau ariannol pwysig ar ran rhywun os nad yw’n gallu gwneud hyn ei hun. Fel arfer mae’n ddechrau pan fydd yn colli galluedd meddyliol - ond gall fod pryd bynnag y bydd yn dewis iddo gychwyn.
Mae aros nes bydd rhywun wedi colli galluedd meddyliol cyn sefydlu atwrneiaeth arhosol yn gwneud pethau’n llawer mwy cymhleth. Gall hefyd oedi penderfyniadau brys, fel talu am ffioedd cartref gofal.
Byddai angen i chi gael prawf meddygol nad oes gan y person alluedd meddyliol mwyach, ac yna gofyn i’r llys benodi rhywun i oruchwylio pethau. Mae’n ddrud ac efallai y bydd eich anwylyn yn cael ei hun â rhywun yn gwneud penderfyniadau am ei fywyd na fyddai fyth wedi ei ddewis.
Gall sgyrsiau am sefydlu atwrneiaeth gael eu sbarduno gan:
- gweld stori newyddion neu sioe deledu am atwrneiaeth
- digwyddiad bywyd perthnasol, fel rhiant ffrind yn symud i ofal
- ar ôl diagnosis meddygol a allai effeithio ar eu gallu i wneud penderfyniadau pan fyddant yn gwneud neu'n diweddaru eu hewyllys.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn parchu barn eich anwylyn ac yn esbonio nad ydych yn ceisio cymryd dros ei faterion ariannol. Fodd bynnag, mae’n werth esbonio:
- maent dal mewn rheolaeth
- dim ond ar ôl cofrestru neu pan fyddant yn penderfynu y daw'r atwrneiaeth i rym
- gallant ei ganslo unrhyw bryd os oes ganddynt alluedd meddyliol
- mae'n well i rywun annwyl wneud penderfyniadau na dieithryn a benodwyd gan y llys
- gall gymryd 10 wythnos os nad oes unrhyw gamgymeriadau yn y cais i gofrestru, felly mae'n well gweithredu'n gynnar.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wneud a chofrestru atwrneiaeth
Sut i siarad am arian
Os ydych yn poeni am sut y gallai'r person rydych am siarad â hwy ymateb, ac eisiau help ar sut i ddelio â sgwrs am arian, yn cynnwys materion gofal, lawrlwythwch ein canllaw Siarad â phobl hŷn am arian (Opens in a new window) (PDF/A, 263KB).