Nid yw siarad am arian bob amser yn hawdd, ond gall wneud gwahaniaeth mawr. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall eich arferion ariannol a chael sgyrsiau gwell am gyllid gyda phobl sy’n agos atoch chi.
Dechreuwchgyda chi’ch hun
Cyn i chi siarad ag eraill, cymerwch amser i ddeall eich perthynas eich hun ag arian. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo’n fwy hyderus mewn sgyrsiau.
- Meddyliwch am yr hyn rydych chi am ei gyflawni a faint y gallai ei gostio.
- Defnyddiwch ein canllaw Sut i bennu nod cynilo i ddechrau.
- Gwnewch gyllideb i gadw llygad ar yr hyn rydych chi’n ei ennill a’i wario. Rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio.
Ymdrin â phryderon ariannol brys
Os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled, mae estyn allan am gymorth yn dangos cryfder go iawn - ac mae help ar gael.
Cymerwch gamau tuag at eich nodau
Dechreuwch yn fach – gall hyd yn oed newidiadau syml wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch sefyllfa ariannol. Dathlwch bob cam rydych chi’n ei gymryd ar hyd y ffordd.
Chwiliwch am gyfleoedd i gynilo neu reoli eich arian yn well gyda’n canllaw Rheoli eich arian.
Os ydych chi’n meddwl am ymddeol, archwiliwch ein hadran ar Bensiynau ac ymddeoliad am wybodaeth ddefnyddiol.
Pam fod rhannu eich nodau yn bwysig
Mae ymchwil yn dangos bod rhannu eich nodau ariannol yn cynyddu eich cyfle o’u cyflawni. Mae hefyd yn creu cyfleoedd i helpu eich gilydd a chael sgyrsiau arian mwy agored.
Mae llawer o bobl yn teimlo bod sgyrsiau ariannol yn heriol ar y dechrau. Efallai y byddwch chi’n poeni am ddweud y peth anghywir neu gael eich barnu, ond mae’r teimladau hyn yn hollol normal.
Ystyriwch ddechrau trwy siarad â gweithiwr proffesiynol. Gall ein tîm hyfforddedig eich cefnogi gyda chyllidebu, cyngor ar ddyledion, a chynllunio pensiwn. Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Cysylltu â ni.
Pan fyddwch chi’n barod, nid oes angen i chi rannu popeth. Gall rhannu un nod bach gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo wneud gwahaniaeth mawr. Efallai y byddant am wneud yr un peth, gan greu help i’r ddau ohonoch.
Dechreuwyrsgwrs i’w harchwilio gyda’ch gilydd
Gall y dechreuwyr sgwrs hyn eich helpu i ddeall agweddau a nodau arian eich gilydd:
Ynglŷn â’ch nodau:
- Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni’n ariannol yn y flwyddyn nesaf? Mewn pum mlynedd?
- Beth fyddai cyrraedd eich nodau arian yn ei olygu i chi?
- Beth yw un cam bach y gallech ei gymryd y mis hwn tuag at nod ariannol?
Ynglŷn â gweithio gyda’n gilydd:
- Sut allwn ni gefnogi nodau ariannol ein gilydd?
- Pa sgyrsiau ariannol fyddai’n ddefnyddiol i ni eu cael?
- Nid oes angen i chi drafod popeth ar unwaith. Cadwch rai cwestiynau ar gyfer sgyrsiau yn y dyfodol wrth i chi ddod yn fwy gyfforddys â thrafodaethau ariannol.
Ynglŷn â’ch dull ariannol:
- Sut roedd eich teulu yn delio ag arian pan oeddech chi’n tyfu i fyny?
- Sut mae’n well gennych chi wneud penderfyniadau ariannol?
- Ar raddfa o 1-10, pa mor gyfforddus ydych chi’n rheoli arian o ddydd i ddydd?
- Ydych chi’n hoffi ymchwilio i bryniannau neu benderfynu’n gyflym?
Cael cymorth ychwanegol
Lawrlwythwch ein canllaw am ddim Sut i siarad am arianYn agor mewn ffenestr newydd (PDF/A, 2MB)
Mae’n cynnwys awgrymiadau ar:
- sut i ddechrau sgwrs
- beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl y gallai’r sgwrs fod yn anodd, a
- sut i ddelio ag ymatebion negyddol.