Bob blwyddyn ym mis Tachwedd, rydym yn cynnal ein hymgyrch ymwybyddiaeth Wythnos Siarad Arian i'ch annog i fod yn fwy agored am arian gyda'ch ffrindiau a'ch teulu a'ch helpu i gael cyngor gan arbenigwyr os oes angen.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pam ydyn ni’n cynnal Wythnos Siarad Arian?
Gall cael sgyrsiau am arian ymddangos yn lletchwith. Gall deimlo fel pwnc tabŵ, ond nid oes angen iddo fod. O arian poced i bensiynau, mae Wythnos Siarad Arian yn gyfle i ddechrau adeiladu sgyrsiau arian i mewn i fywyd bob dydd.
Mae gan bob un ohonom bryderon ariannol. Mae ein hymchwil yn dangos bod un o bob tri ohonom yn dweud bod meddwl am ein sefyllfa ariannol yn peri i ni boeni. Mae yna gamau syml y gallwch eu cymryd i fynd i’r afael ag ansicrwydd a gwella eich lles ariannol. Gallwn eich helpu i wneud hynny.
Sut mae siarad am arian yn helpu?
Gall siarad am arian gyda ffrindiau, teulu, plant – neu arbenigwyr os oes angen – eich helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth reoli’ch arian a rhoi mwy o wyt-nwch ariannol i chi ddelio â newidiadau incwm neu ddigwyddiadau bywyd yn y dyfodol sy’n effeithio ar eich cyllid. Rydym hefyd yn hybu adeiladu perthnasoedd iach ag arian o oedran ifanc.
Mae ein hymchwil wedi dangos nad yw bron i draean o rieni a gofalwyr yn siarad â'u plant yn agored am arian, gan golli cyfle i helpu dealltwriaeth gynnar hanfodol plant.
Mae’n hawdd gwneud plant i ymgysylltu â heriau arian hwyliog, sy’n addas i’w hoedran.
Mae gennym ddigonedd o awgrymiadau a syniadau yn ein canllaw Sut i ddysgu plant am arian a’n gweithgareddau Siarad Dysgu Gwneud
Sut alla i gymryd rhan?
Gallwch ddechrau trwy gael sgwrs am arian. Os oes gennych chi a’ch partner agweddau gwahanol tuag at arian, gall ein canllaw Siarad â’ch partner am arian helpu. Os ydych chi wedi bod yn gohirio cael sgwrs lletchwith am arian gyda ffrind, yna darllenwch ein canllaw Siarad â ffrindiau am arian.