Mae methdaliad yn broses gyfreithiol sy’n cynnig rhyddhad os nad ydych yn gallu ad-dalu'ch dyledion. Os ydych yn ystyried gwneud cais i fod yn fethdalwr, mae’n hanfodol eich bod yn siarad ag ymgynghorydd dyled cymwys ynghylch ai dyna’r ffordd orau i chi dalu neu glirio’ch dyledion, mae’r cyngor hwn yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol. Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am fethdaliad os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim
- Beth yw methdaliad?
- A fydd yn rhaid i fi werthu popeth sydd gennyf?
- Sut i wneud cais am fethdaliad
- Faint mae’n ei gostio i fynd yn fethdalwr?
- Beth sy’n digwydd ar ôl i mi fynd yn fethdalwr?
- Ar gyfer pwy mae methdalu yn addas?
- A allaf gael fy ngwneud yn fethdalwr?
Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim
Defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyled sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn agos at lle’r ydych chi’n byw.
Bydd ymgynghorydd dyled:
- yn trin popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol
- eich cefnogi heb feirniadaeth – ni fyddant byth yn eich gwneud i chi deimlo’n wael am eich sefyllfa
- yn awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
- yn gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.
Mae tri chwarter o bobl sy’n cael cyngor ar ddyled yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian ar ôl hynny.
Beth yw methdaliad?
Mae methdaliad yn broses gyfreithiol a all gynnig rhyddhad os nad ydych yn gallu talu’ch dyledion. Mewn rhai achosion, efallai y gallwch ddileu rhai o’ch dyledion, neu’r dyledion i gyd a gaiff eu cynnwys yn y gorchymyn methdalu. Mae’n bwysig deall na all pob dyled gael eu cynnwys. Er enghraifft, dyledion na allant gael eu cynnwys yw: benthyciadau cronfa gymdeithasol, benthyciadau myfyrwyr, ôl-daliadau cynhaliaeth plant neu ddyledion twyllodrus.
A fydd yn rhaid i fi werthu popeth sydd gennyf?
Na. Os oes gennych asedau, cânt eu hasesu i weld a allant gael eu defnyddio i dalu’ch dyledion. Fel arfer, byddwch yn cael cadw rhai asedau hanfodol megis offer sydd eu hangen arnoch yn rhesymol i barhau i weithio. Efallai y bydd rhai asedau rydych yn eu defnyddio ar gyfer gwaith yn cael eu barnu i fod yn rhy werthfawr a bydd angen i chi gael rhai rhatach yn eu lle. Gall ymgynghorydd dyled esbonio sut y gallai hyn effeithio arnoch.
Sut i wneud cais am fethdaliad
Os ydych yn gwneud cais i fynd yn fethdalwr, rhaid i chi gwblhau cais ar-lein a chreu cyfrif ar-lein.
Bydd angen i chi roi gwybodaeth am eich:
- dyledion
- cyflogaeth/incwm
- pensiwn
- cyfrifon banc
- asedau
- gwariant.
Gan gynnwys unrhyw lythyrau a gawsoch gan feilïod neu asiantwyr gorfodi.
Adolygir eich cais gan ddyfarnwr swyddogol sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Ansolfedd. Byddant yn penderfynu a ddylech gael eich cyhoeddi’n fethdalwr.
Fel arfer cewch benderfyniad cyn pen 28 diwrnod ers cyflwyno’ch cais.
Mae yna lawer o ffyrdd i ddelio â dyledion ac efallai nad methdaliad yw'r ateb gorau i chi. Gallwch ddarganfod mwy am sut i wneud cais i fynd yn fethdalwr ar-lein yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Faint mae’n ei gostio i fynd yn fethdalwr?
Cofiwch
Mae’n bwysig siarad â chynghorydd dyledion am ddim cyn talu’r ffi i wneud yn siŵr mai mynd yn fethdalwr yw’r ateb gorau i chi.
Mae'n costio £680 i wneud cais am fethdaliad a bydd angen i chi dalu hyn cyn i chi gyflwyno eich cais.
Os na allwch chi fforddio talu’r ffi efallai y gallwch dalu mewn rhandaliadau cyn cyflwyno’r cais.
I ddarganfod mwy am hyn, cysylltwch â’r llinell ymholi ar ansolfedd ar 0300 678 0015
PPI a methdaliad yng Nghymru a Lloegr
Os byddwch yn mynd yn fethdalwr, bydd unrhyw hawliad llwyddiannus am gam-werthu PPI yn cael ei dalu i’ch ystâd methdaliad, ac nid i chi. Peidiwch â gwneud unrhyw hawliadau eich hun gan y gallech gael eich hun ar eich colled os byddwch chi’n talu unrhyw ffioedd neu gomisiwn i gwmni hawlio.
Darganfyddwch fwy am Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI) ar ôl methdaliad ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Beth sy’n digwydd ar ôl i mi fynd yn fethdalwr?
Ar ôl i chi fynd yn fethdalwr, bydd Derbynnydd Swyddogol yn cael ei benodi cyn pen pythefnos ar ôl derbyn eich gorchymyn methdaliad.
Byddant yn asesu eich:
- incwm,
- asedau, a
- gwariant.
Er mwyn penderfynu ar y modd y gellir defnyddio’r rhain i dalu’ch dyledion.
Efallai y bydd angen i chi hefyd fynychu cyfweliad â’r derbynnydd swyddogol.
Rhaid i’ch credydwyr wneud cais ffurfiol i’r ymddiriedolwr am yr arian sy’n ddyledus iddynt.
Ni allwch wneud taliadau uniongyrchol iddynt, ac ni allant ofyn i chi am daliadau.
Ar ôl cyfnod o amser (blwyddyn fel arfer), caiff y mwyafrif o’ch dyledion eu dileu, ond er iddynt gael eu dileu, caiff eich gallu i gael credyd ei effeithio.
Hyd nes i chi gael eich rhyddhau o fod yn fethdalwr byddwch yn parhau dan gyfyngiadau’r methdaliad. Er enghraifft, ni fyddwch yn gallu ymgeisio am gredyd o £500 neu ragor heb ddweud wrth y benthyciwr am y methdaliad.
Gallwch wirio’ch dyddiad rhyddhau ar-lein drwy ddefnyddio’r Gofrestr Ansolfedd Unigol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Bydd unrhyw gredyd a gewch yn debygol o fod yn ddrud nawr ac yn y dyfodol.
Mae methdaliad yn effeithio ar eich statws credyd a bydd asiantaethau cyfeirio credyd yn cadw’r manylion ar ffeil am chwe blynedd o leiaf.
Ar gyfer pwy mae methdalu yn addas?
Os nad oes gennych ffordd wirioneddol o dalu’ch dyledion a gyda ond ydychdig o asedau, yna gallai methdalu fod yn opsiwn addas.
Os ydych yn berchennog cartref mae’n werth edrych ar opsiynau eraill gan fod methdaliad yn rhoi eich cartref mewn perygl o gael ei werthu os nad oes digon o ecwiti ynddo.
Os ydych yn denant, gall eich landlord ymgeisio i’ch taflu allan yn gyfreithiol os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent.
Mae’n bwysig iawn nad ydych yn cymryd y penderfyniad i fynd yn fethdalwr ar eich pen eich hun. Siaradwch â chynghorwr dyledion yn rhad ac am ddim yn gyntaf.
A allaf gael fy ngwneud yn fethdalwr?
Yr isafswm o ddyled pryd y gall unigolyn sydd ag arian yn ddyledus iddynt eich gorfodi i fod yn fethdalwr yw £5,000.
Mae’r broses o gael eich gwneud yn fethdalwr yn wahanol.
Fodd bynnag, anaml iawn y bydd darparwyr benthyciadau ar y stryd fawr yn defnyddio’r opsiwn hwn gan ddewis yn hytrach i gydweithio â chi i ganfod ffordd arall o glirio’ch dyledion.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd os bydd rhywun yn ceisio'ch gwneud yn fethdalwr drwy ymweld â GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd