Os ydych chi ar ei hôl hi gyda thaliadau, gan gynnwys biliau o ddydd i ddydd, benthyciadau, cardiau credyd a’ch rhent neu forgais, gall ymgynghorydd ar ddyled am ddim eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o dalu’ch dyledion. Darganfyddwch sut i wneud penderfyniad hysbys a allai arbed amser ac arian i chi yn y dyfodol.
Bydd ymgynghorydd ar ddyled yn gwrando arnoch ac yn eich helpu i wneud penderfyniad hysbys
Defnyddiwch ein Teclyn i ddod o hyd i ymgynghorydd dyled i ddod o hyd i gyngor ar ddyled sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn agos at lle’r ydych chi’n byw.
Bydd ymgynghorydd dyled:
- yn trin popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol
- eich cefnogi heb feirniadaeth – ni fyddant byth yn eich gwneud i chi deimlo’n wael am eich sefyllfa
- yn awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
- yn gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.
Mae tri chwarter o bobl sy’n cael cyngor ar ddyled yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian ar ôl hynny.
Beth yw Cynllun Rheoli Dyled (DMP)
- Mae DMP yn caniatàu i chi dalu’ch dyledion ar gyfradd fforddiadwy.
- Rydych yn gwneud un taliad misol i’ch darparwr DMP.
- Bydd eich darparwr DMP yn eich helpu i weithio allan taliad fforddiadwy a siarad â’ch credydwyr.
- Gallai fod yn bosib os oes gennych chi ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth fel cardiau credyd neu gardiau siop, gorddrafftiau a benthyciadau personol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw Cynllun Rheoli Dyled?
Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Gorchymyn Gostwng Dyled (DRO)
- Mae DRO yn bosibl os ydych ar incwm isel gydag ychydig iawn o asedau.
- Mae'n rhewi dyledion am flwyddyn ac yna’n ei glirio’n gyfan gwbl os na fydd eich amgylchiadau wedi newid.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw Gorchymyn Gostwng Dyled?
Trefniant Gwirfoddol Unigol (IVA)
- Mae IVA yn caniatàu i chi dalu’n ôl beth allwch chi ei fforddio.
- Mae’n para am gyfnod penodol (pum neu chwe mlynedd fel arfer).
- Gallai unrhyw beth nad ydych wedi ei dalu’n ôl erbyn diwedd y cyfnod gael ei glirio.
- Mae’n gytundeb cyfreithiol rhwym - golyga hyn, unwaith y byddwch wedi ei arwyddo, mae’n debygol y bydd cosbau llym am ei ganslo.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw Cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA)?
Methdalu
Mae methdalu yn broses gyfreithiol sy’n gallu cynnig rhyddhad os nad ydych yn gallu talu’ch dyledion.
Mewn rhai achosion, gallech fod yn gallu dileu rhywfaint o’ch dyledion neu’r cyfan ohonynt sydd wedi’u cynnwys yn y gorchymyn methdalu.
Ni all pob dyled gael ei gynnwys. Er enghraifft, ni all benthyciadau cyllid cymdeithasol, benthyciadau myfyrwyr, ôl-daliadau cynhaliaeth plant a dyledion twyllodrus gael eu cynnwys mewn gorchymyn methdalu.
Gallent ddweud wrthych am ddefnyddio’ch asedau i dalu’ch dyledion yn gyntaf. Gallwch fel arfer gadw rhai asedau hanfodol, ond gallai fod angen i chi’u cyfnewid am eitemau amgen rhatach.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gyhoeddi eich bod yn fethdalwr.
Cynnig taliad llawn neu daliad terfynol
Os oes gennych gyfandaliad a fyddai’n talu rhan o’ch dyledion? Yna gallech ofyn i’ch credydwyr p’un a fyddent yn derbyn rhandaliad ac yn gadael i chi ddileu’r gweddill.
Neu efallai y byddant yn caniatáu i chi wneud taliadau misol am gyfnod a gytunir ac ar ôl hyn bydd y balans yn cael ei ddileu.
Clirio’ch dyledion
- Yn bosibl mewn sefyllfaoedd eithriadol os nad oes gennych chi incwm, cynilion nag asedau ar gael.
- Rhaid i chi allu dangos i’ch credydwyr bod eich amgylchiadau’n annhebygol o wella yn y dyfodol - er enghraifft, os ydych chi’n ddifrifol wael.
Siaradwch â chynghorwr dyledion yn rhad ac am ddim i weld a allai’r ateb hwn fod yn addas i chi.