Mae llawer o wahanol sefydliadau yn helpu i ddiogelu eich pensiwn, fel y Rheoleiddiwr Pensiynau a'r Ombwdsmon Pensiynau. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys helpu datrys problemau a chwynion.
Gwirio bod darparwyr pensiwn ac ymgynghorwyr yn dilyn y rheolau
Mae dau brif sefydliad yn gyfrifol dros sicrhau bod darparwyr pensiwn ac ymgynghorwyr yn dilyn y rheolau.
Os yw’ch cyflogwr yn sefydlu eich pensiwn gweithle
Os oes gennych bensiwn y DU a sefydlwyd gan eich cyflogwr, fel arfer mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR)Yn agor mewn ffenestr newydd yn gyfrifol am sicrhau bod eich darparwr pensiwn yn cael ei redeg yn iawn.
Byddant hefyd yn gwirio bod eich cyflogwr yn sefydlu cynllun pensiwn yn awtomatig ar eich cyfer (os ydych yn gymwys) ac yn talu eu cyfraniadau.
Gallwch roi gwybod am bryderon am eich pensiwn gweithleYn agor mewn ffenestr newydd er mwyn iddynt ymchwilio, ond ni fyddant yn rhoi unrhyw adborth i chi.
Os ydych wedi sefydlu eich pensiwn eich hun, wedi derbyn cyngor neu wedi prynu blwydd-dal
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd yn gyfrifol am y rheolau ar gyfer eich darparwr os ydych:
- yn sefydlu eich pensiwn eich hun
- â chontract gyda’r darparwr pensiwn, fel pensiwn personol grŵp
- wedi derbyn cyngor pensiwn gan ymgynghorydd ariannol rheoledig
- wedi defnyddio’ch cronfa bensiwn i brynu incwm gwarantedig (a elwir yn flwydd-dal)
Gallwch wirio a yw’ch darparwr yn cael ei reoleiddio drwy chwilio cofrestr yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd Os nad yw'ch darparwr neu’ch ymgynghorydd wedi’i restru, gallwch roi gwybod am gwmni heb ei awdurdodiYn agor mewn ffenestr newydd
Datrys cwynion am ddarparwyr pensiwn a ymgynghorwyr
Fel arfer, bydd angen i chi gwyno wrth eich darparwr pensiwn neu ymgynghorydd yn gyntaf, a rhoi cyfle iddynt unioni pethau.
Os nad ydych yn hapus gyda’u hymateb, neu os nad ydych wedi clywed ganddynt ar ôl wyth wythnos, gallwch gwyno’n rhad ac am ddim:
- Yr Ombwdsmon PensiynauYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer cwynion am ddarparwr eich cynllun pensiwn, neu
- Yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer cwynion am ymgynghorwyr ariannol a roddodd gyngor i chi neu a werthodd eich pensiwn.
Byddant yn edrych ar y ffeithiau heb ochri ac yn ceisio datrys eich mater. Fel arfer, mae’n rhaid i’r cwmni neu’r ymgynghorydd rydych chi wedi cwyno amdano wneud beth bynnag maen nhw'n ei benderfynu.
Am fwy o help, gweler ein canllaw Sut i gwyno am broblem gyda’ch pensiwn.
Talu iawndal os bydd eich darparwr pensiwn, cyflogwr neu ymgynghorydd yn mynd allan o fusnes
Gallai’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS)Yn agor mewn ffenestr newydd dalu iawndal i chi os:
- oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (y math mwyaf cyffredin) ac ni all eich darparwr pensiwn eich talu, a/neu
- rhoddodd ymgynghorydd ariannol gyngor pensiwn gwael i chi ac ers hynny mae wedi mynd allan o fusnes.
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio (cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa) a’r cyflogwr sy’n talu amdano yn mynd allan o fusnes, bydd y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) yn camu i mewn naill ai i ddod o hyd i ddarparwr newydd neu i dalu o leiaf 90% o’ch pensiwn i chi ar ffurf taliadau digolled.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth sy’n digwydd i’ch pensiwn os yw’ch cyflogwr yn mynd allan o fusnes.
Iawndal os yw’ch darparwr pensiwn wedi cyflawni twyll
Os oes gennych bensiwn gweithle neu alwedigaethol (dim ond un a sefydlwyd gan eich cyflogwr fel arfer), gallai fod yn seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae hyn yn golygu bod grŵp o bobl o’r enw ymddiriedolwyr yn gyfrifol am reoli'r holl arian.
Os yw’ch cyflogwr yn mynd allan o fusnes a bod eich pensiwn wedi colli arian, gall y Gronfa Iawndal Twyll (FCF)Yn agor mewn ffenestr newydd ymchwilio i weld a oedd hyn oherwydd gweithgaredd anghyfreithlon. Gallwch wneud cais ar-lein, ond bydd eich ymddiriedolwyr pensiwn fel arfer yn gwneud hyn i chi.
Yna byddant yn penderfynu a ddylid talu iawndal i’ch cynllun pensiwn am unrhyw arian a gollwyd.