Darganfyddwch beth fydd yn digwydd os bydd eich cynllun pensiwn yn cau, gan gynnwys faint o amser mae’n ei gymryd a’r opsiynau rydych chi’n debygol o’u cael.
Byddwch yn cael gwybod pryd y bydd eich cynllun pensiwn yn dod i ben
Mae’n bosibl y bydd eich cynllun pensiwn yn cau os yw’ch cyflogwr:
- eisiau newid y cynllun pensiwn maent yn ei gynnig
- methu fforddio ei gadw i redeg, neu
- yn mynd i’r wal.
Mae faint o rybudd a gewch yn dibynnu ar reolau eich cynllun, ond bydd darparwr eich pensiwn yn cysylltu â chi gyda dyddiad cau ar gyfer cyfraniadau terfynol. Gelwir hyn fel arfer yn ddyddiad dirwyn i ben.
Byddwch fel arfer yn derbyn hwn drwy’r post neu e-bost, felly gwiriwch fod gan eich darparwr(wyr) pensiwn eich manylion cyswllt cywir.
Os ydych eisoes yn derbyn eich pensiwn, ni fydd unrhyw beth yn newid nes bydd y cynllun pensiwn wedi’i gau’n llawn a’ch bod yn cael gwybod beth yw’ch opsiynau.
Gall gymryd hyd at ddwy flynedd i gynllun pensiwn gau
Mae cau cynllun pensiwn yn broses gymhleth. Yn aml gall gymryd hyd at ddwy flynedd gan fod angen i ddarparwr eich pensiwn:
- cyfrifo a oes digon o arian yn y cynllun i dalu pawb, a
- nodi a chysylltu â holl aelodau'r cynllun.
Byddant yn anfon diweddariad atoch o leiaf unwaith y flwyddyn nes byddwch yn cael yr opsiynau ar gyfer eich arian.
Eich opsiynau pan fydd eich cynllun pensiwn yn cau
Cyn bod eich cynllun pensiwn yn barod i gael ei gau’n llawn, bydd yr ymddiriedolwyr yn anfon gwybodaeth atoch am eich opsiynau.
Os yw eich pensiwn buddion wedi’u diffinio neu gyflog terfynol yn cau
Fel arfer byddwch yn parhau i gael yr incwm ymddeoliad a addawyd gan eich cynllun buddion wedi’u diffinio neu gyflog terfynol, ond bydd cwmni yswiriant yn rheoli’r taliadau hyn yn lle’r darparwr pensiwn gwreiddiol.
Os nad oes digon o arian yn y cynllun i wneud hyn, efallai y caiff eich pensiwn ei drosglwyddo i’r Gronfa Diogelu Pensiynau. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael 90% neu 100% o’ch pensiwn a addawyd ar ffurf taliadau iawndal.
Os nad ydych wedi cymryd unrhyw arian o’ch pensiwn, gallech hefyd ddewis trosglwyddo’ch pensiwn i ddarparwr newydd. Gweler Trosglwyddo eich pensiwn buddion wedi’u diffinio am fanylion llawn, gan y bydd angen cyngor arnoch fel arfer.
Os yw eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn cau
Os oes gennych chi bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, fel arfer gallwch ddewis ei drosglwyddo i gynllun arall, gan gynnwys i:
- ddarparwr neu gynllun pensiwn newydd y mae eich cyflogwr wedi'i drefnu
- cynllun pensiwn presennol sydd gennych mewn man arall
- cynllun pensiwn a sefydlwyd gennych eich hun, neu
- gwmni yswiriant a fydd yn ei redeg ar eich rhan (a elwir yn bolisi prynu allan).
Gweler ein canllawiau am fwy o wybodaeth:
Os oes gennych lai na £18,000 mewn cynllun pensiwn sy’n cau
Os yw cyfanswm gwerth eich buddion pensiwn o dan £18,000, efallai y gallwch gymryd y cyfan fel arian parod. Gelwir hyn yn gyfandaliad ‘dirwyn i ben’.
Fel arfer gallwch gymryd hyd at 25% yn ddi-dreth os nad ydych wedi cyffwrdd â’r pensiwn eto. Byddwch yn talu Treth Incwm ar y gweddill (neu’r cyfan ohono os ydych eisoes wedi cymryd arian o’r pensiwn).
Os ydych chi wedi ymuno â chynllun pensiwn yn ddiweddar sy’n cau
Efallai y byddwch yn gallu cael ad-daliad o’r arian rydych wedi’i dalu i mewn i bensiwn os yw’n cau o fewn:
- 30 diwrnod ar ôl i chi ymuno â chynllun cyfraniadau wedi’u diffinio, neu o fewn
- dwy flynedd ar ôl i chi ymuno â chynllun buddion wedi’u diffinio.
I gael mwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i gael ad-daliad o'ch cyfraniadau pensiwn.