Nid yw’n hawdd meddwl am farwolaeth, ond mae’n bwysig deall beth fydd yn digwydd i’ch pensiwn pan fyddwch yn marw – gan gynnwys os yw’r arian yn cael ei drethu.
Esboniad buddion wedi’u diffinio a phensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio
Pensiynau buddion wedi’u diffinio
Mae pensiwn buddion wedi’u diffinio yn talu incwm ymddeoliad yn seiliedig ar:
- eich cyflog, a
- am ba hyd y gwnaethoch gyfraniadau i gynllun pensiwn eich cyflogwr.
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn cynnwys cynlluniau pensiwn ‘cyflog terfynol’ a chynlluniau pensiwn ‘cyfartaledd gyrfa’. Yn gyffredinol, dim ond o gynlluniau pensiwn sector cyhoeddus neu bensiwn gweithle hŷn mae’r rhain ar gael bellach.
Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio
Mae pensiwn cyfraniadau diffiniedig yn talu incwm ymddeoliad yn seiliedig ar:
- faint rydych chi a’ch cyflogwr wedi’i dalu i mewn i’r cynllun, a
- unrhyw dwf buddsoddiad.
Gelwir hwn hefyd yn gynllun ‘prynu arian’, ac mae’n cynnwys pensiynau gweithle a phersonol.
Beth sy’n digwydd i bensiynau buddion wedi’u diffinio?
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, bydd unrhyw arian i’w dalu i’ch buddiolwyr yn cael eu hamlinellu yn rheolau’r cynllun.
Gwiriwch â’ch gweinyddwr pensiwn i ddarganfod beth allai fod gan eich buddiolwyr hawl iddo pan fyddwch yn marw, gan fod rheolau pob cynllun yn wahanol.
O fis Ebrill 2027, bydd rhai buddion marwolaeth o bensiynau buddion diffiniedig hefyd yn cyfrif tuag at eich ystâd pan fyddwch chi’n marw, sy’n golygu y gallent fod yn destun Treth Etifeddiant.
Efallai bydd eich gweinyddwr pensiwn yn talu pensiwn dibynnydd i’ch:
- priod neu’ch partner sifil
- plant os ydynt:
- o dan 23 oed ac mewn addysg llawn amser, neu
- â nam meddyliol neu gorfforol, beth bynnag eu hoedran.
- unrhyw un sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol pan rydych yn marw, gan gynnwys partner nad oeddech chi’n briod iddynt neu mewn partneriaeth sifil â nhw
Bydd y pensiwn y byddant yn ei gael yn ganran o’r pensiwn roeddech yn ei gael (neu byddai wedi ei gael pe byddech yn marw cyn i’ch pensiwn ddechrau cael ei dalu).
Bydd unrhyw incwm a delir i ddibynnydd yn cael ei drethu fel enillion o dan Reolau Treth Incwm arferol.
Os yw’r pensiwn sy’n daladwy yn weddol fach, efallai y bydd yn bosibl ei gymryd fel cyfandaliad yn lle.
Cyfandaliadau
Efallai caiff y cyfandaliadau canlynol gael eu talu i’ch buddiolwyr pan fyddwch yn marw:
Cyfandaliad marw mewn swydd
Os byddwch yn marw tra’n aelod gweithredol o’ch cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio, efallai bydd eich buddiolwyr yn derbyn cyfandaliad. Gan amlaf, swm lluosog o’ch cyflog bydd hwn.
Mae hyn yn cael ei dalu’n ddi-dreth os byddwch yn marw cyn eich pen-blwydd yn 75 oed, oni bai na dalwyd y swm o fewn dwy flynedd.
Ad-daliad cyfraniadau aelodau
Gallai cynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio talu ad-daliad o’r cyfraniadau a dalwyd gan yr aelod, os bydd yr aelod yn marw cyn dechrau tynnu eu pensiwn – mae hyn yn ddibynnol ar reolau’r cynllun.
Efallai caiff llog ei ychwanegu at ad-daliad cyfraniadau.
Cyfandaliad diogelu pensiwn
Os yw’ch pensiwn yn cael ei dalu, yn aml mae cyfnod gwarant (pump i ddeng mlynedd fel arfer). Os byddwch yn marw o fewn y cyfnod yma, efallai bydd cyfandaliad yn cael ei dalu i’ch buddiolwyr.
Fel arfer, bydd gwerth y cyfandaliad yma yn hafal i’r taliadau pensiwn dylai gael eu talu rhwng eich marwolaeth a diwedd y cyfnod gwarant.
Telir hwn yn ddi-dreth os byddwch yn marw cyn 75 oed. Fel arfer, caiff ei drethu fel enillion ar y person(au) sy’n ei dderbyn. Efallai bydd Treth Etifeddiant hefyd gan fod y taliadau hyn yn rhan o’ch ystâd.
Cyfandaliad cymudiad dibwys budd-dal marwolaeth
Efallai bydd dibynyddion sydd â hawl i dderbyn pensiwn pan fyddwch chi’n marw yn gallu dewis derbyn cyfandaliad untro yn hytrach na derbyn incwm rheolaidd.
Gallai hyn gael ei dalu pan fo gwerth pensiwn dibynnydd (neu randaliadau gwarantedig sy’n weddill) yn llai na £30,000 a byddai’n cael ei drethu o dan reolau Treth Incwm arferol.
Beth sy’n digwydd i bensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio?
Os byddwch yn marw a bod gennych arian ar ôl yn eich pensiwn, mae nifer o ffyrdd y gellir ei dalu allan. Mae’n dibynnu ar eich oedran pan fyddwch yn marw os caiff yr arian ei drethu neu beidio.
Beth yw’r opsiynau?
Gall eich buddiolwyr ddewis cymryd y pensiwn mewn sawl ffordd. Dyma sut maen nhw’n gweithio.
Os na gymerwyd unrhyw arian o’r pensiwn pan fyddwch yn marw
Fel arfer, gall eich buddiolwyr:
- dynnu’r holl arian fel cyfandaliad, neu
- sefydlu incwm gwarantedig (blwydd-dal) gyda’r elw.
Efallai y gallant hefyd sefydlu incwm ymddeol hyblyg, gelwir hyn yn ‘tynnu pensiwn i lawr’. Os nad yw hyn yn bosibl, efallai byddant yn gallu symud y pensiwn i ddarparwr arall er mwyn gallu gwneud hyn. Mae’n werth gwirio pa fuddion marwolaeth mae gwahanol gynlluniau pensiwn yn eu cynnig.
Os ydych wedi dewis cymryd incwm ymddeoliad hyblyg ac rydych mewn ‘tynnu pensiwn i lawr’ pan fyddwch yn marw.
Fel arfer bydd eich buddiolwyr yn gallu:
- cymryd yr arian sydd ar ôl yn weddill fel cyfandaliad, neu
- sefydlu incwm gwarantedig (blwydd-dal) gyda’r elw.
Efallai y byddant yn gallu parhau gydag incwm ymddeol hyblyg, o’r enw ‘tynnu pensiwn i lawr’. Ni fydd hi’n bosib bob amser i’ch buddiolwyr ddefnyddio incwm ymddeol hyblyg i dynnu i lawr o’r gronfa bensiwn yn hytrach na chymryd cyfandaliad neu flwydd-dal. Fodd bynnag, efallai y gallant symud y pensiwn i ddarparwr arall i wneud hyn. Dylech wirio pa fuddion marwolaeth mae gwahanol gynlluniau pensiwn yn eu cynnig.
Os ydych wedi sefydlu incwm gwarantedig (blwydd-dal)
Bydd yr hyn bydd eich buddiolwyr yn ei dderbyn yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewiswyd gennych pan fyddwch yn sefydlu’r blwydd-dal.
Os wnaethoch sefydlu’r blwydd-dal ar sail cyd-oes, bydd eich buddiolwr yn parhau i dderbyn cyfran o’r incwm yr oeddech chi’n ei dderbyn. Nodwch, pe byddech yn dewis blwydd-dal un-oes, byddai’r taliadau’n dod i ben pan fyddwch chi’n marw.
Efallai bydd taliadau pellach yn cael eu gwneud os byddwch yn marw o fewn cyfnod gwarant. Pe bai hynny’n digwydd, byddai incwm yn parhau i gael ei dalu i’ch buddiolwr tan i’r cyfnod gwarant ddod i ben. Gallent hefyd gael cyfandaliad os wnaethoch ddewis opsiwn ‘diogelu gwerth’.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Prynu blwydd-dal: opsiynau blwydd-dal a siopa o gwmpas
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn marw cyn fy mod yn 75 oed?
Os byddwch yn marw cyn i chi droi’n 75 oed, bydd unrhyw un sy’n etifeddu’ch pensiwn yn derbyn y buddion yn ddi-dreth – hyd at uchafswm o £1,073,100. Gelwir hwn yn lwfans cyfandaliad a budd-daliadau marwolaeth (LSDBA), sy’n cymryd lle lwfans oes ar gyfer pensiwn (LTA) ar 6 Ebrill 2024.
Lwfans di-dreth yw hwn ar gyfer cyfandaliadau oes a budd-daliadau marwolaeth. Felly, os ydych wedi cymryd unrhyw daliadau arian parod di-dreth o’ch pensiwn yn barod, mae’r terfyn ar gyfer budd-daliadau marwolaeth di-dreth yn cael ei leihau. Mae taliadau eraill hefyd a fydd yn lleihau eich LSDBA, er enghraifft cyfandaliad salwch difrifol.
Fel arfer, bydd taliadau cyfandaliad dros yr LSDBA yn cael eu trethu o dan reolau Treth Incwm arferol. Bydd hyn yn ddi-dreth os na chafodd arian ei dynnu’n ôl cyn 6 Ebrill 2024. Efallai bydd gennych swm gwarchodedig uwch hefyd drwy ddiogelu lwfans oes blaenorol, gelwir y rhain yn ‘welliannau’.
Mae taliadau o gronfa tynnu i lawr buddiolwr neu flwydd-dal buddiolwr yn di-dreth hefyd.
Mae’r holl reolau hyn yn berthnasol os yw’r arian yn cael ei dalu (neu’n cael ei symud er mwyn darparu incwm neu gyfandaliad yn y dyfodol) o fewn dwy flynedd i weinyddwr cynllun pensiwn glywed am eich marwolaeth am y tro cyntaf. Neu’r dyddiad rhesymol gellir fod wedi disgwyl iddynt gael gwybod, os yn gynt.
Beth sy’n digwydd os byddaf farw ar ôl 75 oed?
Os byddwch yn marw ar ôl i chi droi’n 75 oed, bydd unrhyw un sy’n etifeddu eich pensiwn yn cael ei drethu ar unrhyw incwm a dderbynnir fel enillion o dan reolau Treth Incwm arferol.
Os bydd eich buddiolwyr yn dewis cymryd arian allan drwy incwm ymddeol hyblyg (a elwir yn ‘tynnu pensiwn i lawr’), dim ond ar yr incwm maent yn cymryd bob blwyddyn dreth byddant yn cael eu trethu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Incwm Ymddeol Gwarantedig (blwydd-daliadau) wedi’i egluro
Beth am Dreth Etifeddiaeth?
Bydd unrhyw asedau sydd ar ôl pan fyddwch yn marw, fel arian parod neu gynilion, yn rhan o’ch ystâd at ddibenion Treth Etifeddiant – hyd yn oed os oeddent yn rhan o’ch cronfa bensiwn gwreiddiol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir trosglwyddo unrhyw bensiynau sydd gennych tu allan i’ch ystâd, felly ni fyddant yn destun Treth Etifeddiant. Byddai angen i weinyddwr y cynllun pensiwn gadw’r hawl i benderfynu pwy ddylid talu’r buddion iddynt.
Disgresiwn
Yn gyffredinol, sefydlir y rhan fwyaf o bensiynau o dan ymddiriedolaeth ddewisol. Mae hyn yn golygu bod gan ymddiriedolwyr neu ddarparwyr yr hawl i ddewis pwy sy’n derbyn unrhyw beth o’ch pensiwn ar ôl i chi farw.
Fel arfer, gallwch gwblhau ‘ffurflen mynegiant dymuniad’ i ddweud wrth weinyddwr y cynllun pwy hoffech dderbyn eich buddion marwolaeth. Fel arfer byddant yn dilyn eich dymuniadau, ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny.
Hefyd, mae gwneud hyn yn golygu na fydd gwerth y buddion marwolaeth fel arfer yn cael eu cyfrif fel rhan o’ch ystâd, felly ni fyddant yn destun Treth Etifeddiant.
Cyfarwyddyd
Mewn rhai pensiynau efallai y byddwch yn gallu dweud wrth weinyddwr y cynllun pwy yn union ddylai gael y buddion marwolaeth o’ch cynllun.
Bydd yn rhaid i weinyddwr y cynllun ddilyn eich cyfarwyddiadau, ond bydd gwerth y buddion marwolaeth fel arfer yn cyfrif fel rhan o’ch ystâd ar gyfer Treth Etifeddiant.
Gallwch ddefnyddio ein Cyfeiriadur Gynghorydd Ymddeoliad i ddod o hyd i gynghorydd rheoledig a diduedd i’ch helpu i wneud y trefniadau angenrheidiol.
Enwebu buddiolwr
Bydd nifer o gynlluniau pensiwn yn gofyn i chi enwebu buddiolwr – pwy hoffech chi dderbyn eich arian pensiwn os byddwch yn marw. Gwneir hyn yn aml gan ddefnyddio ffurflen mynegiant o ddymuniadau neu enwebiad, felly mae’n bwysig ei diweddaru os bydd pethau’n newid.
Os ydych chi’n poeni gallai trosglwyddo’ch pensiwn effeithio ar fudd-daliadau meini prawf eich buddiolwr, mae’n werth siarad gyda cynghorydd ymddeoliad.
Enwebu’ch dibynyddion os oes gennych gynllun buddion wedi’u diffinio
Os oes gennych gynllun buddion wedi’u diffinio, bydd unrhyw fudd-daliadau yn cael eu talu yn unol â rheolau’r cynllun.
Fel arfer, telir pensiynau dibynnydd i’ch:
- priod cyfreithiol
- partner sifil cofrestredig, neu
- bartner rydych chi’n byw gyda, os ydyn nhw’n ddibynnol arnoch chi’n ariannol.
Dylech wirio â’ch cynllun er mwyn darganfod beth sy’n digwydd pan fyddwch yn marw.
Sicrhewch eich bod yn diweddaru’ch enwebiad, yn enwedig ar ôl digwyddiadau bywyd sylweddol fel priodas, ysgariad, colli partner neu eni plentyn.
Os oes cyfandaliad o fudd-daliadau marwolaeth yn daladwy, mae’r ffurflen enwebu yn cael ei hystyried gan yr ymddiriedolwyr. Ond mae dal ganddynt y disgresiwn ynghylch â phwy fydd yn derbyn y budd-daliadau.
Fel arfer, ni fydd budd-daliadau marwolaeth pensiwn a delir fel hyn yn cael eu cynnwys yn eich ystâd, felly nid ydynt yn cael eu cyfrif ar gyfer Treth Etifeddiant.
Enwebu’ch dibynyddion os oes gennych gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio
Gallwch enwebu unrhyw un i dderbyn eich cronfa bensiwn pan fyddwch yn marw, gan ddefnyddio ffurflen mynegiant dymuniad. Ond y darparwr pensiwn neu’r ymddiriedolwyr fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Os gwnaethoch brynu incwm gwarantedig gyda’ch cronfa bensiwn (a elwir yn flwydd-dal), dim ond i’r bobl a enwyd gennych pan wnaethoch ei sefydlu y mae unrhyw incwm neu gyfandaliad yn daladwy.
Os yw ymddiriedolwyr y cynllun pensiwn yn penderfynu i bwy i dalu budd-daliadau marwolaeth, mae’r budd-daliadau fel arfer yn rhydd o Dreth Etifeddiant. Bydd eich ffurflen enwebu yn cael ei hystyried gan yr ymddiriedolwyr, ond mae ganddynt y disgresiwn o hyd i bwy i dalu'r budd-daliadau.
Os telir y budd-daliadau i'r rhai a enwyd gennych, ac nid oes disgresiwn gan ymddiriedolwyr, bydd budd-daliadau marwolaeth fel arfer yn agored i Dreth Etifeddiant. Mae hyn oherwydd y byddant yn cyfrif fel rhan o’ch ystâd.
Os ydych chi’n aelod o gynllun pensiwn gweithle llywodraeth Nest, bydd gwerth eich cronfa fel arfer yn rhan o’ch ystâd, oni bai eich bod wedi cwblhau ffurflen mynegi dymuniad.
Am fwy o wybodaeth gweler Beth sy’n digwydd i’m pensiwn Nest pan fyddaf yn marw?Yn agor mewn ffenestr newydd
Beth sy’n digwydd i Bensiwn y Wladwriaeth?
Fel arfer, Ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei dalu pan fyddwch yn marw. Ond efallai y bydd eich priod neu bartner sifil yn gallu etifeddu rhywfaint o’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’r rheolau yn gymhleth ac yn dibynnu ar:
- faint mae’r ddau ohonoch wedi’i gronni, a
- pryd gyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Defnyddiwch ein Teclyn Pensiwn y Wladwriaeth a’ch partnerYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i ddarganfod os ydych yn gymwys.
Am fwy o gymorth, gweler ein canllawiau eraill: