Mae cynllun cyfraniad wedi’u diffinio cyfunol (CDC) yn talu incwm rheolaidd i chi am oes pan fyddwch yn ymddeol. Mae arian pawb yn cael ei fuddsoddi gyda’i gilydd mewn un gronfa i gyflawni hyn, felly gallai eich arian pensiwn dyfu ar gyfradd uwch na chynlluniau eraill. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol?
- Rydych chi’n talu swm penodol bob mis
- Byddwch yn cael incwm pensiwn pan fyddwch yn ymddeol
- Mae eich arian yn cael ei fuddsoddi i gyflawni incwm pensiwn pawb
- Bydd eich incwm pensiwn yn newid dros amser
- Gallwch drosglwyddo eich arian i gynllun gwahanol
- Cewch wybod yr oedran y gallwch dderbyn eich pensiwn
Beth yw pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol?
Mae cynllun cyfraniad wedi’u diffinio cyfunol (CDC) wedi’u cynllunio i roi incwm pensiwn rheolaidd i chi pan fyddwch yn ymddeol, heb fod angen gwneud penderfyniadau ariannol cymhleth.
Yn y rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio - (DC) eraill, bydd angen i chi benderfynu sut a phryd i gymryd eich arian pan fyddwch yn cyrraedd oedran ymddeol. Er enghraifft, trwy brynu incwm gwarantedig (a elwir yn flwydd-dal) gyda rhywfaint o’r arian a gadael y gweddill wedi’i fuddsoddi.
Ond ni fydd angen i chi wneud y penderfyniadau hyn gyda chynllun CDC. Yn lle, byddwch bob amser yn cael incwm pensiwn rheolaidd am oes. Efallai y bydd gennych hefyd yr opsiwn o gymryd cyfandaliad arian parod.
Fe’i gelwir yn gynllun ‘cyfunol’ oherwydd bod eich arian yn cael ei fuddsoddi ynghyd â chyfraniadau gan eich cyflogwr ac aelodau eraill o’r cynllun.
Y syniad yw y gall y cynllun dyfu un gronfa bensiwn ‘gyfun’ ar gyfradd uwch na rheoli eich arian yn unigol, fel y mae’r rhan fwyaf o gynlluniau DC eraill yn ei wneud. Mae hyn oherwydd bod y risg wedi’i wasgaru ar draws pob aelod o’r cynllun.
Rydym yn esbonio sut mae’r cyfan yn gweithio isod.
Rydych chi’n talu swm penodol bob mis
Os yw’ch cyflogwr yn cynnig cynllun CDC, bydd y ddau ohonoch fel arfer yn talu canran sefydlog o’ch cyflog pensiynadwy i’r cynllun pensiwn bob mis.
Mae isafswm y mae angen i’r ddau ohonoch ei dalu i mewn, ond gallwch chi a’ch cyflogwr ddewis cyfrannu mwy. Bydd rhai cyflogwyr yn cyfateb eich cyfraniadau pensiwn ychwanegol hyd at derfyn penodol, felly gall hyn fod yn ffordd hawdd o gynyddu eich cynilion ymddeoliad.
Efallai y gallwch drosglwyddo arian pensiwn arall i mewn
Os oes gennych arian mewn cynlluniau pensiwn eraill, efallai y bydd eich cynllun CDC yn caniatáu i chi ei drosglwyddo i mewn. Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn a yw hyn yn opsiwn.
Os yw eich pensiwn arall yn werth dros £30,000, efallai y bydd angen i chi gael cyngor ariannol rheoledig cyn y caniateir trosglwyddiad. Mae hyn er mwyn sicrhau y byddwch yn well eich byd drwy ei symud.
Os ydych yn ystyried dod â’ch cronfeydd pensiwn at ei gilydd, gweler ein canllaw Gwneud y gorau o’ch pensiynau am fwy o wybodaeth.
Byddwch yn cael incwm pensiwn pan fyddwch yn ymddeol
Bydd cynllun CDC yn rhoi incwm pensiwn i chi ar ôl ymddeol.
Mae faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar y cyfrifiad y mae eich cynllun pensiwn yn ei ddefnyddio. Fel arfer, bydd hyn yn ffracsiwn neu ganran o’ch tâl pensiynadwy ar gyfer pob blwyddyn y byddwch yn aelod o’r cynllun. Er enghraifft, 1/80 neu 1.25%.
Ond nid yw hwn yn swm gwarantedig. Gall eich incwm pensiwn godi neu ostwng yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys pa mor dda y mae buddsoddiadau'r cynllun wedi perfformio'r flwyddyn honno.
Gwiriwch a oes gennych yr opsiwn i gymryd cyfandaliad arian parod
Mae rhai cynlluniau CDC yn gadael i chi gronni swm ar wahân i'ch incwm pensiwn i'w gymryd fel cyfandaliad arian parod pan fyddwch yn ymddeol.
Fel arfer, bydd hyn yn ganran neu'n ffracsiwn o'ch tâl pensiynadwy ar gyfer pob blwyddyn rydych yn aelod o'r cynllun. Gall dyfu ar sail pa mor dda y caiff arian pawb ei fuddsoddi, ond gallai fod ar gyfradd wahanol i'ch incwm pensiwn.
Os nad oes gennych yr opsiwn hwn, efallai y byddwch yn dal i allu cymryd cyfandaliad arian parod pan fyddwch yn ymddeol drwy ildio peth o'ch incwm pensiwn yn y dyfodol.
O dan y rheolau treth presennol, gallech gael rhywfaint neu'r cyfan o gyfandaliad yn ddi-dreth. Mae hyn yn aml yn fudd gan eich bod fel arfer yn talu Treth Incwm ar weddill eich incwm pensiwn.
Mae eich arian yn cael ei fuddsoddi i gyflawni incwm pensiwn pawb
Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr pensiwn yn rheoli eich arian ar wahân i aelodau eraill. Mae hyn yn aml yn golygu y bydd eich arian yn cael ei symud i fuddsoddiadau â llai o risg gydag adenillion is o bosibl po agosaf y byddwch yn cyrraedd eich ymddeoliad.
Mewn cynllun CDC, mae arian pawb yn cael ei fuddsoddi gyda’i gilydd gan reolwyr buddsoddi proffesiynol. Y syniad yw y gallant ganolbwyntio ar sicrhau bod gan y gronfa gyfan ddigon o arian i dalu eu hincwm pensiwn i bawb. Gallai hyn olygu bod y gronfa gyfan yn tyfu ar gyfradd uwch.
Eich cynllun sy’n penderfynu sut y caiff eich arian ei fuddsoddi
Bydd eich cynllun CDC yn cael ei redeg gan ymddiriedolwyr. Maent yn gyfrifol am bopeth, gan gynnwys:
- penderfynu sut mae arian pawb yn cael ei fuddsoddi
- cyfrifo’r taliadau gweinyddol i redeg y cynllun pensiwn
- talu aelodau sydd wedi ymddeol, a
- cyflogi arbenigwyr i’w helpu i redeg y cynllun – fel rheolwyr buddsoddi ac actiwarïaid – i wirio bod digon o arian yn y cynllun i dalu pawb.
Mae hyn yn golygu na allwch ddewis sut y caiff eich arian ei fuddsoddi, megis eisiau buddsoddiadau moesegol yn unig. Os ydych chi eisiau’r opsiwn hwn, bydd angen i chi ofyn i’ch cyflogwr a fyddant yn talu i mewn i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio gwahanol yn lle.
Bydd eich incwm pensiwn yn newid dros amser
Unwaith y flwyddyn, mae’n rhaid i ymddiriedolwyr cynllun CDC gael prisiad o asedau’r cynllun sydd ar gael. Mae hyn er mwyn gwirio bod digon o arian i dalu eu hincwm pensiwn i bawb.
Os oes mwy o arian nag sydd ei angen, dylai eich incwm pensiwn gynyddu. Os oes llai, gallai eich incwm pensiwn ostwng neu gynyddu ar gyfradd is nag arfer.
Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i bob aelod o’r cynllun ar yr un gyfradd, gan gynnwys os ydych eisoes yn cymryd eich pensiwn. Bydd datganiad buddion blynyddol yn esbonio sut mae eich incwm pensiwn wedi newid.
Gallwch drosglwyddo eich arian i gynllun gwahanol
Cyn i chi ddechrau cymryd eich pensiwn, gallwch ddewis symud eich arian i gynllun gwahanol. Bydd angen i chi ofyn i’ch darparwr am gyfriflen yn dweud wrthych faint yw gwerth eich pensiwn cyn y gallwch ei symud.
Meddyliwch yn ofalus cyn trosglwyddo neu gyfuno eich pensiynau. Unwaith y byddwch yn dweud wrth eich darparwr am fwrw ymlaen â’r trosglwyddiad, ni allwch newid eich meddwl fel arfer.
Mae yna hefyd risg y gallech chi fod ar eich colled trwy drosglwyddo eich pensiwn, felly gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn deall sut y gallai eich buddion pensiwn newid. Os ydych yn ansicr, ystyriwch dalu am gyngor ariannol.
Gall ein teclyn Darganfyddwch Ymgynghorydd Ymddeoliad eich helpu i ddod o hyd i gyngor ar-lein, mewn person a dros y ffôn. Neu, am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Os byddwch yn dewis gadael y cynllun
Os byddwch yn gadael cynllun CDC o fewn 30 diwrnod o ymuno, fel arfer gallwch ofyn am ad-daliad o’r holl arian rydych wedi’i dalu i mewn.
Os byddwch yn gadael eich cynllun CDC ar ôl hyn, fel arfer mae’n rhaid i’r arian sydd wedi’i fuddsoddi aros yn y cynllun pensiwn nes i chi gyrraedd eich oedran ymddeol, oni bai eich bod yn penderfynu ei drosglwyddo i gynllun arall.
Gweler ein canllaw Gadael eich cynllun pensiwn am fwy o help.
Cewch wybod yr oedran y gallwch dderbyn eich pensiwn
Bydd eich cynllun CDC yn dweud wrthych yr oedran y bydd angen i chi fod i dderbyn eich pensiwn. Gelwir hyn yn eich oedran ymddeol arferol. Yn aml mae’r un fath â’ch oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cymryd eich pensiwn cyn neu ar ôl y dyddiad ymddeol arferol, yn dibynnu ar reolau eich cynllun.
Efallai y bydd eich pensiwn yn talu eich teulu ar ôl i chi farw
Efallai y bydd eich cynllun CDC yn parhau i dalu ar ôl i chi farw. Gelwir hyn yn fudd-dal marwolaeth ac yn aml mae’n ganran o’ch incwm pensiwn neu gyfandaliad arian parod.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw manylion eich buddiolwyr yn gyfredol fel bod darparwr eich pensiwn yn gwybod pwy i’w dalu.
Gallwch wirio rheolau eich cynllun i weld pa fudd-daliadau marwolaeth y maent yn eu cynnig. Gofynnwch i’ch darparwr egluro unrhyw beth nad ydych yn siŵr amdano.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth sy’n digwydd i fy mhensiwn pan fyddaf yn marw?