Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o bob un o'ch pensiynau fel cyfandaliadau di-dreth, ar yr amod bod y cyfanswm yn llai na £268,275. Rydym yn esbonio'r lwfans cyfandaliad (LSA) a'r lwfans cyfandaliad a budd-dal marwolaeth (LSDBA) – y terfyn ar gyfer taliadau di-dreth os ydych yn sâl neu'n marw cyn 75 oed.
What’s in this guide
Faint alla iei gymryd o’m pensiwn yn ddi-dreth?
O 55 oed (57 o Ebrill 2028), fel arfer gallwch gymryd hyd at 25% o bob un o'ch pensiynau heb dalu unrhyw dreth, ar yr amod eich bod yn:
- cymryd yr arian fel un neu fwy o gyfandaliadau (yn hytrach nag incwm rheolaidd) a
- peidio â chymryd mwy na chyfanswm o £268,275 fel cyfandaliad.
Gelwir y terfyn o £268,275 yn lwfans cyfandaliad (LSA) ac mae'n berthnasol i'ch holl bensiynau, nid i bob un ohonynt yn unigol.
Mae hyn yn golygu y byddwch ond yn cael eich effeithio os yw'ch holl bensiynau yn werth cyfanswm o dros £1,073,100.
Enghraifft: Os oedd gennych ddau gronfa bensiwn heb eu cyffwrdd sy'n werth £400,000 ac £800,000, gallech gymryd 25% fel arian parod di-dreth o'r gronfa gyntaf (£100,000) a 21% o'r ail (£168,275).
Gallai eich LSA fod yn uwch os oes gennych chi, neu os ydych chi'n gwneud cais am, ddiogelwch lwfans oes
Nid yw rhai cyfandaliadau yn cael eu cyfrif gan yr LSA
Os ydych yn derbyn arian fel cyfandaliad salwch difrifol cyn eich bod yn 75 oed (fel arfer os oes disgwyl i chi fyw llai na blwyddyn), nid yw'n cyfrif tuag at yr LSA.
Yn hytrach, gallech gael y cyfan yn ddi-dreth hyd at derfyn o £1,073,100. Gelwir hyn yn Lwfans Cyfandaliad a Budd-daliad Marwolaeth (LSDBA).
Ni ddylai eich LSA leihau os ydych:
- yn cymryd pensiwn buddion wedi'u diffinio mewn un taliad ac mae eich holl bensiynau yn werth llai na £30,000 – a elwir yn gyfandaliad cyfnewidiad bychan
- yn cymryd pensiwn sy'n werth £10,000 neu lai mewn un taliad - a elwir yn gyfandaliad cronfa fach
- yn derbyn cyfandaliad sy'n llai na £18,000 gan fod eich cynllun pensiwn yn cau – a elwir yn gyfandaliad dirwyn i ben.
Byddwch yn talu Treth Incwm os byddwch yn mynd yn uwch na’r terfyn
Byddwch fel arfer yn talu Treth Incwm ar unrhyw beth sy'n uwch na'ch Lwfans Personol di-dreth os byddwch yn cymryd:
- mwy na 25% o bob pensiwn fel cyfandaliad
- cyfandaliadau uwchben terfyn yr LSA o £268,275
- eich pensiwn fel incwm rheolaidd.
Bob tro y byddwch yn cymryd arian o'ch pensiwn, gofynnir i chi faint rydych wedi'i gymryd o'r blaen o'ch holl bensiynau. Yna bydd eich darparwr pensiwn yn cadw golwg ar faint o'r LSA rydych wedi'i ddefnyddio.
Am fwy o wybodaeth am sut mae Treth Incwm yn gweithio, gweler ein canllaw ar dreth wrth ymddeol.
Mae lwfans gwahanol os ydych yn trosglwyddo pensiwn dramor
Os ydych yn bwriadu trosglwyddo eich pensiwn dramor, bydd lwfans trosglwyddo tramor (OTA) yn berthnasol. Mae hyn yn berthnasol i bob trosglwyddiad ers 6 Ebrill 2024.
Gweler ein canllaw am drosglwyddo pensiynau dramor am fwy o wybodaeth.
Faint o’m pensiwn y gellir ei etifeddu’n ddi-dreth?
Pan fyddwch yn marw, bydd eich darparwr pensiwn fel arfer yn talu budd-daliadau marwolaeth i'r rhai rydych am dderbyn yr arian, a elwir yn fuddiolwyr.
Fel arfer, bydd eich buddiolwyr yn talu Treth Incwm ar yr arian y maent yn ei gael, os:
- bydd y budd-dal marwolaeth yn incwm rheolaidd yn uniongyrchol o'ch cynllun pensiwn buddion wedi'u diffinio a/neu
- byddwch farw ar ôl 75 oed.
Ond ni thelir unrhyw Dreth Incwm fel arfer os:
- byddwch farw cyn 75 oed ac
- mae'r arian yn cael ei gymryd o fewn dwy flynedd i'ch cynllun pensiwn wybod am eich marwolaeth.
Os na chymerwyd arian o'ch pensiwn cyn 6 Ebrill 2024, mae uchafswm y gall eich buddiolwyr ei gymryd fel cyfandaliadau di-dreth. Gelwir hyn yn lwfans cyfandaliad a budd-dal marwolaeth (LSDBA).
Sut mae’r cyfandaliad a’r budd-dal marwolaeth yn gweithio
Mae'r LSDBA wedi'i osod ar £1,073,100 ac mae'n cyfrif yr holl gyfandaliadau di-dreth a gymerwyd o'ch pensiynau, cyn ac ar ôl eich marwolaeth.
Mae hyn yn golygu y bydd gan eich buddiolwyr derfyn is os ydych eisoes wedi cymryd cyfandaliadau di-dreth.
Enghraifft: Os yw cyfanswm eich pensiynau yn werth £1,200,000 a'ch bod yn marw cyn 75 oed, gall eich buddiolwyr fel arfer gymryd hyd at £1,073,100 fel cyfandaliad di-dreth. Os ydych eisoes wedi cymryd £200,000 fel cyfandaliad di-dreth tra'ch bod yn fyw, gall eich buddiolwyr fel arfer gymryd £873,100 cyn talu treth.
Os yw'r cyfandaliad i'ch buddiolwyr yn uwch na'r LSDBA, byddant fel arfer yn talu Treth Incwm ar yr arian.
Gallai eich LSDBA fod yn uwch os oes gennych eisoes, neu os rydych yn gwneud cais am ddiogelwch lwfans oes
Efallai y bydd eich buddiolwyr yn talu Treth Etifeddiant
Tan Ebrill 2027, ni fydd unrhyw arian sydd gennych yn eich cronfa bensiwn pan fyddwch yn marw – nac unrhyw fudd-daliadau marwolaeth y mae eich cynllun yn addo eu talu – fel arfer yn cael ei gyfrif wrth gyfrifo Treth Etifeddiant.
Y rheswm am hyn yw bod gan y rhan fwyaf o ddarparwyr pensiynau neu ymddiriedolwyr yr hawl i benderfynu at bwy i dalu'r arian, a elwir yn ymddiriedolaeth ddewisol. Fel arfer, byddant yn dewis y rhai a restrir ar eich ffurflen mynegiant dymuniad, ond nid oes rhaid iddynt.
Os gallwch ddweud wrth eich darparwr pensiwn pwy yn union y dylai eich buddiolwyr fod, mae'r arian fel arfer yn cael ei gyfrif fel rhan o'ch ystâd ar gyfer Treth Etifeddiant.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth sy'n digwydd i'm pensiwn pan fyddaf yn marw?
Wedi cymryd arian pensiwn cyn Ebrill 2024? Dyma beth i’w wirio
Os gwnaethoch gymryd arian o'ch pensiwn cyn 6 Ebrill 2024, roedd yn cyfrif tuag at y lwfans oes (LTA) yn lle hynny.
Yr LTA oedd yr uchafswm y gallech ei gynilo i mewn i bensiwn heb orfod talu treth ychwanegol, a gyfrifir pryd bynnag y byddwch yn tynnu arian pensiwn. Y terfyn oedd £1,073,100 pan ddaeth yr LTA i ben ar 5 Ebrill 2024.
Mae unrhyw gyfandaliadau di-dreth yr oeddech wedi'u cymryd o dan yr LTA, neu cyn Ebrill 2006, yn cyfrif tuag at y lwfans cyfandaliad (LSA) a lwfans cyfandaliad budd-dal marwolaeth (LSDBA).
Gwiriwch fod eich LSA a LSDBA wedi’u lleihau’n gywir
Gwnewch yn siŵr bod eich LSA a LSDBA yn cael eu lleihau gan y symiau gwirioneddol o arian di-dreth a gymerwyd gennych.
Mae hyn oherwydd bod darparwyr pensiwn yn aml yn cymryd swm yr LTA a ddefnyddiwyd gennych cyn 6 Ebrill 2024, yn cymryd yn ganiataol eich bod wedi cymryd 25% fel cyfandaliadau di-dreth a lleihau eich LSA a'ch LSDBA gan y swm hwn.
Gallwch wirio faint o LTA a ddefnyddiwyd gennych drwy wirio datganiadau neu ofyn i'ch darparwr pensiwn.
Os gwnaethoch gymryd llai na 25% fel cyfandaliadau di-dreth, neu os gwnaethoch gymryd arian pensiwn rhwng 6 Ebrill 2016 a 5 Ebrill 2020 pan oedd y lwfans oes yn is, gofynnwch am dystysgrif swm di-dreth drosiannol. Mae hyn yn dangos faint rydych chi wedi'i dderbyn mewn gwirionedd.
Sut i gael tystysgrif swm di-dreth drosiannol
Cyn i chi gymryd mwy o arian o'ch pensiwn, gofynnwch i'ch darparwr am dystysgrif di-dreth drosiannol. Dylai hyn fod gan y darparwr cyntaf i'ch talu ers 6 Ebrill 2024.
Fel arfer, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r swm gwirioneddol o arian di-dreth a gymerwyd gennych, fel hen ddatganiadau pensiwn.
Yna gallwch ddangos y dystysgrif i ddarparwyr pensiwn eraill yr hoffech gymryd arian ohonynt. Byddant yn defnyddio'r ffigwr arian parod di-dreth a ddangosir ar y dystysgrif, yn hytrach na chymryd yn ganiataol eich bod wedi cymryd yr uchafswm o 25%.
Tan fis Ebrill 2025, gwiriwch a allwch gynyddu eich lwfansau di-dreth
Tan 5 Ebrill 2025, mae dwy ffordd o gynyddu eich LSA hyd at £312,500 a'ch LSDBA hyd at £1,250,000. Efallai y bydd eich lwfansau yn uwch os oes gennych ddiogelwch lwfans oes eisoesYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch wneud cais am ddiogelwch unigol 2016 ar GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd os:
- roedd eich pensiynau'n werth dros £1 miliwn ar 5 Ebrill 2016 ac
- nid oes gennych ddiogelwch sylfaenol na diogelwch unigol 2014.
Mae hyn yn cynyddu eich LSDBA i £1,250,000 neu werth eich pensiynau ar 5 Ebrill 2016 os yw'n is. Eich LSA wedyn yw 25% o'r swm hwn. Gallwch barhau i gynilo i mewn i bensiwn.
Gallwch wneud cais am Ddiogelwch Sefydlog 2016 ar GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd os:
- nad ydych wedi cynilo i bensiwn neu fudd-daliadau adeiledig ers 6 Ebrill 2016 ac
- nid oes gennych ddiogelwch sylfaenol, diogelwch gwell neu ddiogelwch sefydlog 2012/2014.
Mae hyn yn cynyddu eich LSA i £312,500 a'ch LSDBA i £1,250,000.
Am fwy o gymorth, neu i wneud cais dros y ffôn, ffoniwch linell gymorth Pensiynau CThEF ar 0300 123 1079.
Ystyriwch gyngor gan gynghorydd ariannol
Os ydych chi'n credu y gallai'r LSA neu'r LSDBA effeithio arnoch chi, ystyriwch gael cyngor gan gynghorydd ariannol rheoledig cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
Gall ein teclyn eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ymddeol neu edrychwch ar ein canllaw Dewis cynghorydd ariannol am fwy o wybodaeth.