Os ydych chi'n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf – efallai oherwydd eich bod wedi colli eich swydd neu bod eich incwm wedi gostwng – gall helpu i wybod beth allai fynd o'i le a sut i wneud yn siŵr bod pethau'n mynd yn iawn. Dyma rai problemau cyffredin y mae pobl yn eu profi, a beth i'w wneud amdanynt.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn hwyr
- Talwyd y swm anghywir o Gredyd Cynhwysol i chi
- Rydych wedi cael eich gwrthod am Gredyd Cynhwysol
- Rydych am herio’r penderfyniad
- Rydych yn waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol
- Nid yw’ch Credyd Cynhwysol yn talu am eich gwariant
- Nid yw’ch Credyd Cynhwysol yn talu am eich rhent neu’ch morgais
- Ffynonellau cymorth eraill
Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn hwyr
Fel arfer mae’n cymryd pum wythnos i gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Ar ôl hynny, dylech gael eich taliad ar yr un dyddiad bob mis.
Os yw’ch taliad yn hwyr, mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein a gadewch neges i’ch anogwr gwaith yn eich dyddlyfr.
Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Gofynnwch iddynt wirio a oes unrhyw beth ar goll o’ch cais a allai fod yn achosi’r oedi, fel prawf o’ch rhent neu’ch hunaniaeth. Mae DWP yn galw rhain yn ‘rhwystrwyr taliadau’
Os mai hwn yw’ch taliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw. Mae hwn yn fenthyciad y bydd rhaid i chi ei ad-dalu o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.
Gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw hyd yn oed os nad yw’ch taliad yn hwyr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol
Talwyd y swm anghywir o Gredyd Cynhwysol i chi
Gall faint o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei gael newid o fis i fis ac mae’n anodd cyfrifo faint rydych yn mynd i’w gael.
Cewch syniad cyffredinol o beth fydd eich taliadYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth.
Ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol os yw'ch taliad yn anghywir
Os bu camgymeriad gyda'ch taliad Credyd Cynhwysol, mae angen i chi ffonio'r llinell gymorth neu fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein a gadael neges i'ch anogwr gwaith yn eich dyddlyfr. Gofynnwch iddyn nhw esbonio'r swm i chi.
Gallwch ffonio'r llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim ar:
Ffôn: 0800 328 5644Yn agor mewn ffenestr newydd
Ffôn testun: 0800 328 1344Yn agor mewn ffenestr newydd.
8am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus). Mae galwadau am ddim.
Neu, mewngofnodwch i'ch cyfrif ar GOV. UK.
Rhowch dystiolaeth, os gallwch, i ddangos pam rydych chi'n meddwl eu bod wedi gwneud camgymeriad. Gallai hyn gynnwys:
- datganiadau banc neu slipiau cyflog
- anfonebau gan eich darparwr gofal plant
- prawf o'ch rhent.
Os ydych chi'n anghytuno â'r penderfyniad
Os ydych chi wedi ffonio'r llinell gymorth neu siarad â'ch anogwr gwaith, ac rydych chi'n dal i feddwl bod y taliad yn anghywir, gallwch fynd ag ef ymhellach.
Darganfyddwch fwy am beth i’w wneud os credwch fod eich penderfyniad budd-daliadau yn anghywir yn ein canllaw Sut i apelio yn erbyn penderfyniad am fudd-daliadau
Rydych wedi cael eich gwrthod am Gredyd Cynhwysol
Mae enillion eich cartref yn rhy uchel
Os yw'ch enillion chi - a’ch partner os ydych yn gwneud cais ar y cyd - yn ddigon uchel i olygu na fyddwch yn cael unrhyw Gredyd Cynhwysol mewn mis, bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn cau.
Gallai hyn fod, er enghraifft, oherwydd i chi golli’ch swydd ond wedi cael eich cyflog terfynol ar ôl i chi gyflwyno’ch cais am Gredyd Cynhwysol.
Os yw’ch enillion yn debygol o ostwng, dylech ail-ddechrau’ch cais cyn gynted â phosibl. Mae hyn er mwyn sicrhau nad ydych yn colli allan ar unrhyw daliadau yn y dyfodol.
Ail-ddechreuwch eich cais trwy fewngofnodi i'ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nid oes gennych ‘unrhyw hawl i arian cyhoeddus’
Os yw’ch statws mewnfudo yn golygu nad oes gennych ‘unrhyw hawl i arian cyhoeddus’, ni fyddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol.
Os ydych wedi bod yn gweithio ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth dull newydd yn lle.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys gan ddefnyddio'r gyfrifiannell ar wefan Policy in Practice
Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys, cysylltwch â’ch awdurdod lleol i ofyn am fanciau bwyd a chymorth lles lleol arall, fel y Crisis and Resilience Fund a phrydau ysgol am ddim.
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Rydych am herio’r penderfyniad
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad i wrthod eich cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch ofyn iddynt edrych arno eto - ac yna apelio.
Darganfyddwch fwy am beth i’w wneud os credwch fod eich penderfyniad budd-daliadau yn anghywir yn ein canllaw Sut i apelio yn erbyn penderfyniad am fudd-daliadau
Rydych yn waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol
Os ydych chi wedi symud i Gredyd Cynhwysol o unrhyw un o'r budd-daliadau a ddisodlwyd, mae'n bosibl bod gennych lai o incwm nag o'r blaen. Neu efallai na fyddwch chi'n gymwys o gwbl.
Gallai hyn fod, er enghraifft, os ydych yn byw gyda rhywun a bod eich incwm a’ch cynilion ar y cyd yn golygu nad ydych yn gymwys.
Os ydych eisoes wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a bod hyn wedi digwydd i chi, gofynnwch am esboniad trwy’ch cyfrif ar-lein. Os ydych yn anghytuno â’r canfyddiadau gallwch herio’r penderfyniad. Gofynnwch os dylech chi fod wedi cael ‘taliad trosiannol’ os yw’ch cyfanswm incwm budd-dal yn fwy nag yr ydych yn ei gael nawr.
Ond gan fod y budd-daliadau eraill wedi cau, pan fyddwch wedi symud i Gredyd Cynhwysol, ni allwch fynd yn ôl i'ch hen fudd-daliadau.
Nid yw’ch Credyd Cynhwysol yn talu am eich gwariant
Os nad yw’ch taliad Credyd Cynhwysol yn ddigon am eich gwariant, bydd angen i chi weithredu’n gyflym i osgoi mynd i ddyled.
Sicrhewch eich bod wedi gwneud cyllideb gyfoes o’ch holl incwm a’ch gwariant.
Gwiriwch a ydych yn cael popeth y mae gennych hawl iddo - er enghraifft, prydau ysgol am ddim, cyfraddau gostyngedig am fand eang a chyfleustodau a help gyda’ch Treth Gyngor.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Lleihau eich treuliau
Os oes gennych golled incwm tymor byr, efallai y byddwch chi'n gallu lleihau eich treuliau dros dro. Er enghraifft, gyda gwyliau talu ar fenthyciadau a chardiau credyd, neu ohirio taliadau ar eich premiymau yswiriant.
Darganfyddwch fwy am yr help sydd ar gael yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Nid yw’ch Credyd Cynhwysol yn talu am eich rhent neu’ch morgais
Rydych yn talu rhent
Os ydych chi’n talu rhent i awdurdod lleol, cyngor neu asiantaeth dai, byddwch chi’n cael help gyda’ch rhent llawn fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol.
Fodd bynnag, bydd y swm a gewch yn cael ei leihau gan:
- 14% am 1 ystafell wely sbâr
- 25% am 2 ystafell wely sbâr neu fwy.
Os ydych yn rhentu’n breifat, mae eich costau tai yn seiliedig ar y Lwfans Tai Lleol (LHA) i’ch ardal. Er enghraifft, os ydych yn sengl a heb blant dibynnol - bydd yr LHA yn seiliedig ar gost rhentu fflat un ystafell wely yn lleol (neu o bosib fflat stiwdio yn unig os ydych o dan 35 oed).
Os ydych yn mynd i gael trafferth talu’ch rhent o ganlyniad i ddiffyg yn y swm rydych yn ei gael yn erbyn y swm y mae rhaid i chi ei dalu, gallwch wneud cais i’ch cyngor lleol am Daliad Tai Dewisol.
Darganfyddwch fwy am Daliadau Tai Dewisol ar yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae gennych forgais
Yr enw ar yr help a gewch gyda’ch morgais yw Cymorth ar gyfer Llog Morgais. Mae’n fenthyciad y bydd rhaid i chi ei dalu’n ôl pan fyddwch yn gwerthu’r eiddo.
Dim ond ar ôl i chi fod yn hawlio Credyd Cynhwysol am tri mis y gallwch gael Cymorth ar gyfer Llog Morgais ond gall pobl ar Gredyd Pensiwn ei gael heb gyfnod aros.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)
Os ydych chi'n cael trafferth cadw i fyny â'ch ad-daliadau morgais, gallwch wneud cais am wyliau talu.
Ffynonellau cymorth eraill
Dod o hyd i’ch cynllun lles lleol
Os oes angen help arnoch gyda biliau gwresogi, tanwydd neu fwyd neu os oes gennych gost frys, gallwch weld a all eich cynllun lles lleol helpu.
Yn Lloegr mae’r cynllun hwn yn cael ei redeg gan eich cyngor lleol.
Darganfyddwch eich cyngor lleol Yn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Mae cynghorau wedi bod yn cynnal cynllun o’r enw’r Gronfa Gymorth i Aelwydydd am y pum mlynedd ddiwethaf. O fis Ebrill 2026, am dair blynedd, caiff hwn ei ddisodli gan Crisis and Resilience Fund. Bydd manylion gan eich cyngor lleol.
Y flaenoriaeth yw darparu help arian parod mewn argyfyngau yn ogystal â helpu pobl leol gyda chyngor, cyllidebu a chefnogaeth i osgoi problemau hir dymor.
Mae gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig yn cynnal cynlluniau tebyg ei hun.
Cymru
Darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth Ddewisol ar wefan Llywodraeth Cymru
Lloegr
Darganfyddwch eich cynllun cymorth lles lleol ar wefan Children’s Society
Yr Alban
Darganfyddwch fwy am Gronfa Les yr Alban ar wefan Llywodraeth yr Alban
Gogledd Iwerddon
Darganfyddwch fwy am gymorth ariannol ychwanegolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan nidirect.
Mae Turn2us Grants SearchYn agor mewn ffenestr newydd yn rhoi rhestr o sefydliadau ac elusennau lleol a chenedlaethol a all helpu unigolion.
Os oes angen help arnoch gyda chyllidebu personol, gofynnwch yn y Ganolfan Gwaith a byddant yn gallu dweud wrthych ble mae cefnogaeth wyneb yn wyneb ar gael.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau
Os ydych yn cael trafferth talu dyledion presennol, mae’n bwysig cael cyngor gan elusen cyngor ar ddyledion ar unwaith.