Os ydych chi’n cael budd-daliadau a bod eich amgylchiadau’n newid yn sylweddol – fel perthynas newydd, swydd neu blentyn yn gadael cartref – gallai olygu y bydd eich taliadau’n gostwng. Darganfyddwch pa gamau y gallwch eu cymryd.
Beth i’w wneud os caiff elfen tai eich taliad Credyd Cynhwysol ei lleihau
Os yw elfen dai eich taliad Credyd Cynhwysol wedi’i thorri – efallai oherwydd ystafell wely sbâr – efallai eich bod yn poeni am fod ar ei hôl hi gyda’ch rhent.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Beth yw’r dreth ystafell wely?
Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill
Cysylltwch â’ch landlord
Os ydych yn poeni am ddod o hyd i’r arian i dalu’ch rhent - siaradwch â’ch landlord i weld a oes unrhyw ddewisiadau ar gael i chi.
A ydych yn rhentu eiddo tai cymdeithasol? Efallai y bydd eich cyngor neu gymdeithas dai yn siarad â chi am drosglwyddo i gartref llai - os oes rhai ar gael. Gallant eich cynghori ynghylch a allai unrhyw gymorth ariannol ychwanegol fod ar gael i chi.
Gwnewch gais am Daliad Tai Dewisol gan eich cyngor
Efallai y gallwch wneud cais i’ch cyngor i helpu i ychwanegu at yr elfen tai o’ch taliad Credyd Cynhwysol yn y tymor byr. Gelwir hwn yn Daliad Tai Dewisol ac mae ar gael i bobl sy'n wynebu diffyg rhwng eu budd-daliadau a chostau tai.
Cysylltwch â'ch cyngor lleol i wneud cais am Daliad Tai Dewisol.
Darganfyddwch am:
Ystyriwch gael lojar
Efallai bod rhentu eich ystafell sbâr yn bosibilrwydd.
Os penderfynwch fynd i lawr y llwybr hwn, mae rhai pethau y dylech wybod:
- Byddai cael lletywr yn golygu nad ydych bellach yn cael eich ystyried fel rhywun sydd ag ystafell sbâr o ran asesu eich Credyd Cynhwysol.
- Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, ni fydd unrhyw arian a gewch gan is-denantiaid a lletywyr o dan y cynllun rhentu ystafell yn cael ei gyfrif fel incwm hyd at y lwfans di-dreth o £7,500.
- Bydd yn rhaid i chi wirio bod eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu i chi isosod ystafell.
- Efallai na fydd eich yswiriant cynnwys yn ddilys os byddwch yn cymryd lletywr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio gyda’ch yswiriwr a ydych dal wedi eich diogelu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynllun Rhentu Ystafell – sut mae’n gweithio a rheolau treth
Gweithredwch yn gyflym os oes gennych ôl-ddyledion rhent
Os oes gennych ôl-ddyledion rhent eisoes, mae rhaid i chi siarad â’ch landlord yn syth.
Efallai y gallwch ddod i gytundeb â hwy lle cewch dalu’r arian sy’n ddyledus gennych fesul tipyn.
- Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, cewch gyngor rhad ac am ddim gan Shelter. Darganfyddwch fwy ar wefan Shelter
- Neu galllwch siarad â’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cewch gyngor ar wefan Housing Advice NI
Treth Gyngor
Mae gan gynghorau lleol eu Cynlluniau Gostyngiad y Dreth Gyngor eu hunain.
Mewn rhai ardaloedd ni fydd yn rhaid ichi dalu unrhyw beth tuag at eich bil Treth Gyngor. Ond mewn ardaloedd eraill mae’n bosibl y bydd rhaid ichi dalu canran ohono.
Darganfyddwch fwy am gynllun gostyngiadau treth eich cyngor lleol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am gyfraddau ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Gwiriwch a yw eich bil yn gywir
Mae’n werth gwirio bod eich cyngor yn codi’r swm cywir o Dreth Gyngor arnoch.
Dylech wirio bod eich cartref wedi’i osod yn y band cywir ac a ydych yn gymwys am unrhyw eithriadau neu ostyngiadau.
Darllenwch ein canllaw Treth Cyngor: beth ydyw, beth yw’r gost a sut i arbed arian
Gofynnwch i’ch cyngor am ledaenu’r taliadau dros 12 mis
Gallwch ddewis lledaenu’ch taliadau dros 12 mis yn lle 10. Cysylltwch â’ch cyngor lleol a gofyn iddynt am sefydlu taliadau misol.
Gwnewch gais am Daliad Tai Dewisol i helpu gyda’ch Treth Gyngor
Efallai y gallech wneud cais i’ch cyngor am Daliad Tai Dewisol i helpu gyda’ch taliadau Treth Gyngor.
Os yw eich budd-dal wedi'i dorri oherwydd sancsiwn
Os yw eich budd-daliadau wedi’u sancsiynu, gallwch:
- wirio bod y sancsiwn yn gywir a’i herio os nad yw
- ymgeisio am daliad caledi o’ch Canolfan Byd Gwaith leol
- cael cymorth gyda chostau hanfodol gan eich cynllun lles lleol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sancsiynau budd-daliadau a sut i ddelio â nhw
Cyngor am ddim ar ddyledion
Os ydych yn poeni am fynd i ddyled â biliau neu am gadw i fyny ag ad-daliadau dyled mae llawer o gymorth a chyngor cyfrinachol ar gael am ddim.
Help gyda chyllidebu
Mae’n syniad da edrych ar gyllideb eich cartref. Bydd hyn yn eich helpu i weithio allan i ble mae'ch arian yn mynd a beth allech chi dorri'n ôl arno.
Ystyriwch faint sydd gennych i fyw arno
Amcangyfrifwch faint o arian sydd gennych yn dod i mewn. Yna rhestrwch eich holl alldaliadau.
Ystyriwch faint o arian sydd ei angen arnoch i dalu am y pethau sylfaenol?
Cofiwch y dylai biliau fel eich rhent neu forgais, Treth Gyngor a nwy a thrydan fod yn brif flaenoriaeth i chi.
Gwiriwch i weld os gallwch wneud unrhyw arbedion
A oes unrhyw ffordd i leihau’ch gwariant? A oes unrhyw filiau lle rydych yn ystyried ei bod yn bosibl y gallech gael bargen well?
Mae ein canllawiau cyllidebu yn cynnwys awgrymiadau ymarferol a gwybodaeth am sut y gallwch leihau eich biliau