Mae'n bwysig gwybod beth i'w wneud os yw'ch budd-daliadau wedi'u stopio neu eu torri oherwydd sancsiwn budd-dal. Mae hyn yn cynnwys sut i wneud cais am daliad caledi, a chymorth arall, nes bod eich taliadau'n dechrau eto.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw sancsiwn budd-dal?
- Pa fudd-daliadau all gael eu sancsiynu?
- Pam fod budd-daliadau yn cael eu sancsiynu?
- Sut i osgoi sancsiynau
- Sut mae sancsiynau budd-daliadau yn effeithio ar Ostyngiad Treth Gyngor
- Sut i ymdopi tra bydd eich budd-daliadau wedi’u sancsiynu
- Os byddwch ar ei hôl â’ch taliadau
- Taliadau caledi
- Gwneud cais i’ch cynllun lles lleol
- Sut i ddod o hyd i’ch banc bwyd lleol
- Sut i apelio yn erbyn sancsiwn budd-dal
Beth yw sancsiwn budd-dal?
Gellir atal neu leihau rhai budd-daliadau os na fyddwch yn gwneud y pethau y gwnaethoch gytuno i'w gwneud yn eich ymrwymiad hawlydd neu'n colli apwyntiadau neu gyfarfodydd. Gelwir hyn yn sancsiwn budd-dal.
Pa fudd-daliadau all gael eu sancsiynu?
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ac rydych yn y grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith)
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credyd Cynhwysol.
Pam fod budd-daliadau yn cael eu sancsiynu?
Os ydych yn hawlio'r budd-daliadau a restrir uchod, byddwch wedi llofnodi dogfen o'r enw ymrwymiad hawlydd.
Mae hyn yn nodi'ch holl gyfrifoldebau, a beth fydd y sancsiynau os na fyddwch yn eu cwrdd.
Os nad oes gennych ymrwymiad hawlydd, bydd eich cyfrifoldebau yn eich Cytundeb Ceisiwr Gwaith, eich cynllun gweithredu neu'ch llythyr apwyntiad.
Mae budd-daliadau yn cael eu sancsiynu amlaf os:
- nad ydych yn gwneud digon i chwilio am waith
- rydych yn hwyr am apwyntiadau neu gyfweliadau
- nad ydych yn troi i fyny i gyfarfod yn y Ganolfan Gwaith
- nad ydych yn cymryd rhan mewn cynllun cyflogaeth neu hyfforddiant.
Darganfyddwch fwy am ymrwymiad hawlydd Credyd Cynhwysol:
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Os ydych yn byw yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect
Sut i osgoi sancsiynau
Y ffordd orau o osgoi sancsiynau yw gwneud yr holl bethau a nodir yn eich ymrwymiad neu gytundeb hawliwr.
Dyma restr wirio i’ch helpu:
- Sicrhewch eich bod yn deall eich holl gyfrifoldebau.
- Gofynnwch i'ch Anogwr Gwaith neu Ymgynghorydd Canolfan Gwaith i egluro unrhyw beth sy'n aneglur.
- Rhowch wybod i'r Ganolfan Gwaith cyn gynted â phosibl os oes unrhyw beth yn eich cytundeb na allwch ei wneud, ac eglurwch eich rhesymau.
- Cadwch olwg ar yr holl ddyddiadau pan fydd yn rhaid i chi fynd i'r Ganolfan Gwaith, ac unrhyw gyfarfodydd eraill y mae'n rhaid i chi fynd iddynt.
- Cadwch gofnod o'ch holl weithgareddau sy'n ymwneud â'ch gofynion budd-dal. Er enghraifft, gwnewch nodyn o'r amser rydych chi'n ei dreulio'n chwilio am waith ac unrhyw swyddi rydych chi'n gwneud cais amdanynt.
- Cadwch gopi o unrhyw beth y mae'r Ganolfan Gwaith yn ei roi neu ei anfon atoch.
- Os na allwch ddod i gyfarfod neu gyfweliad, neu os gwyddoch y byddwch yn hwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl.
Sut mae sancsiynau budd-daliadau yn effeithio ar Ostyngiad Treth Gyngor
A ydych eisoes yn cael Gostyngiad Treth Gyngor (neu ardrethi yng Ngogledd Iwerddon)? Yna mae dal gennych hawl i’w cael hyd yn oed os yw’ch budd-daliadau’n cael eu sancsiynu.
Fodd bynnag, bydd y Ganolfan Gwaith yn cysylltu â’r cyngor, sydd fel arfer yn atal y budd-daliadau hyn hyd nes y ceir cadarnhad o’ch incwm newydd gennych.
Mae’n bwysig cysylltu â’ch cyngor cyn gynted ag y gallwch. Eglurwch fod eich budd-daliadau wedi cael eu sancsiynu, a rhowch dystiolaeth iddynt o’ch incwm newydd (neu ddim incwm o gwbl) er mwyn medru ailgychwyn eich cais.
Wrth wneud dim gallech wynebu dyledion Treth Gyngor (neu ardrethi yng Ngogledd Iwerddon).
Sut i ymdopi tra bydd eich budd-daliadau wedi’u sancsiynu
Yn gyntaf, gwiriwch faint o’ch incwm fydd yn cael ei atal. Yn ail, gwnewch restr o weddill yr arian sydd gennych yn dod i mewn.
Yna rhestrwch eich holl alldaliadau. Faint o arian rydych ei angen i dalu am y pethau sylfaenol?
A oes unrhyw ffordd i leihau’ch gwario? A oes unrhyw filiau lle gallech gael bargen well i arbed arian i chi nawr ac i’r hirdymor?
Mae’n bwysig ceisio dal eich tir gyda thaliadau hanfodol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- unrhyw arian mae rhaid i chi dalu tuag at eich Treth Cyngor (neu ardrethi yng Ngogledd Iwerddon)
- eich rhent – os ydych yn gyfrifol am ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord
- eich morgais, biliau nwy a thrydan.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau’r cartref
Os byddwch ar ei hôl â’ch taliadau
A ydych yn poeni y byddwch ar ei hôl â thaliadau hanfodol tra bod eich budd-daliadau yn cael eu sancsiynu? Yna mae'n bwysig siarad â'ch landlord/benthyciwr morgais a'ch cyflenwr ynni. Gwnewch hyn cyn gynted ag y gallwch – a gweithio allan ffordd i fynd yn ôl ar y trywydd iawn.
Byddant yn gallu awgrymu ffyrdd i'ch helpu os ydynt yn gwybod bod problem.
Os ydych yn poeni am golli'ch cartref, gallwch gysylltu â Shelter am gefnogaethYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch hefyd gysylltu â Chyngor ar Bopeth:
- Cyngor ar Bopeth Cymru
- Cyngor ar Bopeth Lloegr
- Cyngor ar Bopeth yr Alban
- os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch ag Advice NI
Taliadau caledi
Mae taliad caledi yn swm llai o fudd-dal. Gallwch wneud cais am hwn o’r Ganolfan Gwaith os yw’ch:
- Credyd Cynhwysol neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
wedi cael ei leihau neu ei stopio oherwydd sancsiwn.
I fod yn gymwys am daliad caledi:
- rhaid eich bod yn methu â thalu am hanfodion
- rhaid i chi allu profi eich bod yn debygol o ddioddef caledi neu eich bod yn fregus, a
- rhaid i chi nawr fod yn dilyn y rheolau ar gyfer cael eich budd-dal.
Pwy sy'n cael ei ystyried yn fregus?
Rydych chi mewn grŵp bregus os, er enghraifft:
- rydych chi neu'ch partner yn feichiog
- os ydych yn gofalu am berson ag anabledd difrifol
- rydych yn gyfrifol am unrhyw blant dibynnol
- rydych chi neu'ch partner yn 16 neu 17 oed ac mewn caledi
- os oes gennych chi neu'ch partner gyflwr iechyd cronig neu anabledd.
Faint yw taliad caledi?
Fel arfer fe delir 60% o’ch taliad budd-dal.
Os ydych chi neu’ch partner yn feichiog neu’n ddifrifol wael, efallai y gallech gael 80% o’ch taliad budd-dal arferol.
Sut i wneud cais am daliad caledi
I wneud cais am daliad caledi, gallwch wneud cais trwy eich dyddlyfr ar-lein neu ofyn i'ch Anogwr Gwaith yn y Ganolfan Gwaith – byddant yn eich helpu i lenwi ffurflen JSA/ESA 10JPW.
Dylent roi apwyntiad i chi wneud hyn ar yr un diwrnod neu'r diwrnod wedyn. A dylech gael penderfyniad ar ddiwedd y cyfweliad.
Os ydych yn gymwys i gael taliad caledi, dylid talu'r arian i'ch cyfrif banc ar unwaith, neu ar y dyddiad y mae'ch taliad budd-dal nesaf yn ddyledus.
Neu, ffoniwch ganolfan gyswllt DWP ar 0800 012 1888 a fydd yn sefydlu apwyntiad yn ddiweddarach yn y dydd neu'r diwrnod wedyn yn eich Canolfan Gwaith leol.
Bydd angen i chi gyrraedd ddeg munud yn gynnar er mwyn i chi allu llenwi'r ffurflen.
Gallwch hefyd gysylltu â llinell gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd neu os ydych yng Ngogledd Iwerddon gallwch gysylltu â Chanolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd yn lle.
Ad-dalu taliad caledi
Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith, nid oes rhaid i chi dalu taliad caledi yn ôl.
Fodd bynnag, gallai'r rheol hon newid felly mae'n well gwirio bob amser cyn i chi wneud cais.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, bydd rhaid i chi dalu'r taliad caledi yn ôl pan ddaw'r sancsiwn i ben.
Fel rheol, bydd DWP yn cymryd ad-daliadau o'ch taliad Credyd Cynhwysol bob mis nes ei fod wedi talu.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am ad-daliadau ar gyfradd y gallwch ei fforddio, er mwyn osgoi mynd i ddyled.
Gwneud cais i’ch cynllun lles lleol
Os oes angen cymorth arnoch â chostau hanfodol fel biliau gwresogi neu fwyd bydd cynllun lles lleol ar gael yn eich ardal.
- Os ydych yn byw yng Nghymru, darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth DewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor lleol. Dewch o hyd i’ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
- Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am Gronfa Les yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth yr Alban.
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon dysgwch fwy am Gefnogaeth DdewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan nidirect.
Sut i ddod o hyd i’ch banc bwyd lleol
Os ydych yn cael trafferth prynu bwyd, efallai y bydd banc bwyd lleol y gallwch ei ddefnyddio.
Mae rhai banciau bwyd hefyd yn dosbarthu talebau tanwydd y gallwch eu defnyddio i ychwanegu at fesuryddion cyn talu. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn ein canllaw Ble gallaf gael cymorth brys gydag arian a bwyd?
Sut i apelio yn erbyn sancsiwn budd-dal
Os ydych wedi cael eich sancsiynu a’ch bod yn meddwl ei fod yn annheg, gallwch ofyn i’ch Canolfan Byd Gwaith lleol edrych ar eu penderfyniad eto.
Gallai hyn fod oherwydd:
- eu bod yn anghywir i roi sancsiwn ar fudd-daliadau
- iddynt roi'r lefel anghywir o sancsiwn i chi
- iddynt dynnu'r swm anghywir o'ch budd-dal
- iddynt leihau eich budd-dal am yr amser anghywir.
Gelwir hyn yn 'ailystyriaeth orfodol' yn swyddogol. Mae rhaid i chi wneud hyn cyn y gallwch wneud apêl ffurfiol.
Mae angen i chi ofyn am hyn o fewn mis o'r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad trwy:
- ffonio, drwy ddefnyddio'r rhif ar y llythyr penderfyniad, neu
- postio, trwy lenwi'r ffurflen CRMR1W.
Esboniwch pam credwch fod eu penderfyniad yn anghywir, ac anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth arall sydd gennych os ydych yn meddwl y bydd yn helpu'ch achos.
Pan fydd y Ganolfan Byd Gwaith wedi edrych ar eich penderfyniad eto, byddant yn anfon dau gopi o ddogfen atoch a elwir yn hysbysiad ailystyriaeth orfodol. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr ailystyriaeth.
Os ydynt yn gwrthod newid eu penderfyniad, gallwch wedyn apelio yn ei erbyn.
Os ydych yn apelio yn erbyn sancsiwn budd-daliadau, mae'n syniad da cael rhywfaint o help gan arbenigwr. Er enghraifft, trwy Gyngor ar Bopeth neu'ch Canolfan Gyfraith leol:
Gallwch lawrlwytho’r ffurflen CRMR1 a nodiadau ar sut i anghytuno â phenderfyniadYn agor mewn ffenestr newydd o GOV.UK.
Sut i apelio ailystyriaeth orfodol
Gair i gall
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen nodiadau'r llywodraeth ynglŷn â sut i anghytuno â phenderfyniad cyn gofyn am ailystyriaeth orfodol. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Dim ond pan fyddwch wedi cael rhybudd ailystyriaeth orfodol y gallwch apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau.
I apelio, mae angen i chi anfon y canlynol at Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (mae'r cyfeiriad ar y ffurflen):
- Copi o'r hysbysiad ailystyriaeth gorfodol.
- Ffurflen SSCS1 – lawrlwythwch gopi o ffurflen SSCS1Yn agor mewn ffenestr newydd o GOV.UK
Gallwch hefyd apelio penderfyniad budd-dal ar-lein ar GOV.UK
Darganfyddwch fwy am apelio yn dilyn ailystyriaeth ar wefan Cyngor ar Bopeth
Os ydych yn yr Alban a’ch bod yn anghytuno â phenderfyniad, gallwch gael golwg arall ar eich cais.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad budd-daliadau a wnaed gan Nawdd Cymdeithasol yr Alban gallwch ofyn am ailbenderfyniad neu gallwch apelio.
Ailbenderfyniad yw cam un a bydd yn cynnwys Nawdd Cymdeithasol yr Alban yn edrych ar eich cais budd-daliadau cyfan fel pe bai'n newydd.
Mae apêl yn gam dau os ydych yn anhapus gyda chanlyniad eich ailbenderfyniad.
Cewch help i wneud ailbenderfyniadYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Citizens Advice Scotland a darganfyddwch fwy am ba fudd-daliadau y gallwch apelio yn eu herbynYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot.