Mae rhai budd-daliadau yn cael eu heffeithio gan faint o arian sydd gennych mewn cynilion, megis arian mewn cyfrif cynilo, neu fuddsoddiadau mewn cyfranddaliadau. Gelwir y budd-daliadau hyn yn fudd-daliadau prawf modd. Darganfyddwch fwy am ba fudd-daliadau sydd wedi eu heffeithio gan gynilion neu daliad lawmp swm, megis tâl diswyddo neu iawndal.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pa fudd-daliadau a effeithir gan gynilion?
Mae’r prif fudd-daliadau prawf modd sydd wedi eu heffeithio gan incwm a chynilion yn cynnwys:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Pensiwn
- Cymorth Treth Cyngor
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Budd-dal Tai
Bydd faint sydd gennych mewn cynilion yn effeithio ar a ydych yn gymwys a faint rydych yn ei dderbyn mewn budd-daliadau.
Gelwir rhai o’r budd-daliadau uchod yn ‘fudd-daliadau etifeddol’ ac os ydych yn eu cael byddwch yn cael eich symud i Gredyd Cynhwysol. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.
Pa arian sy’n cyfrif fel cynilion?
Wrth gyfrifo a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a Chredyd Pensiwn a faint i’w dalu i chi, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn edrych ar yr holl arian sydd gennych mewn cynilion a buddsoddiadau.
Os ydych yn byw gyda phartner mae unrhyw beth sydd ganddynt mewn cynilion neu fuddsoddiadau yn cael ei gyfrif hefyd. Fodd bynnag, nid yw unrhyw gynilion yn enw(au) eich plant yn cael eu cyfrif.
Mae’r pethau nodweddiadol mae DWP yn eu cyfrif yn cynnwys:
- arian parod ac arian mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, gan gynnwys cyfrifon cyfredol nad ydynt yn talu llog
- cyfrifon cynilio a Buddsoddiadau Cenedlaethol, a Bondiau Premiwm
- stociau a chyfranddaliadau
- etifeddiant
- eich cronfa bensiwn os ydych yn cymryd eich pensiwn ar hyn o bryd
- eiddo, nad yw'n brif gartref i chi.
Os ydych wedi cael arian neu eiddo’n ddiweddar ac nad ydych yn sicr a yw’n cyfrif fel cynilion, gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau a gofyn i DWP.
Os ydych yn ysgrifennu eich ewyllys ac nid ydych am i’r etifeddiant rydych yn gadael i rywun effeithio ar eu budd-daliadau, gall fod yn werth ceisio cyngor proffesiynol. Efallai byddent yn argymell eich bod yn sefydlu ymddiriedolaeth, yn enwedig os yw’r person rydych yn gadael yr arian neu asedau iddynt yn fregus. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein canllaw ar ddefnyddio ymddiriedolaeth i dorri treth etifeddiant.
Pa arian nad yw’n cyfrif tuag at gyfanswm eich cynilion?
Pan nad yw arian a phethau gwerthfawr eraill yn cyfrif tuag at gyfanswm eich cynilion, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfeirio at y rhain fel rhai ‘wedi’u diystyru’.
Mae pethau nodweddiadol sy'n cael eu diystyru yn cynnwys:
- eiddo personol, fel gemwaith, dodrefn neu gar
- eich cronfa bensiwn os nad ydych wedi dechrau cymryd allan ohono eto
- gwerth unrhyw gynlluniau angladd rhagdaledig
- polisïau yswiriant bywyd sydd heb gael eu cyfnewid am arian
- caiff hawliadau yswiriant eu hanwybyddu am chwe mis os ydynt yn cael eu defnyddio i ailosod neu atgyweirio rhywbeth.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am benderfynu pa gynilion sydd wedi’u cynnwys neu eu heithrio o gais budd-daliadau. Gall hwn fod yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol.
Os ydych yn gwario arian neu’n rhoi i eraill er mwyn lleihau cyfanswm eich cynilion, efallai bydd y DWP yn dal i ystyried hwn fel rhan o’ch cynilion. Y DWP sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ar beth sydd yn cyfrif neu ddim yn cyfrif tuag at gynilion, os oes gennych unrhyw amheuaeth, gallwch ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o’u penderfyniad.
Dewch o hyd i restr lawn o’r hyn sy’n cyfrif ac nad yw’n cyfrif fel cynilion ar gyfer Cymru, Lloegr a’r AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Dewch o hyd i restr lawn o’r hyn sy’n cyfrif a’r hyn nad yw’n cyfrif fel cynilion ar gyfer Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd ar NIdirect
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad budd-dal, mae gennych yr hawl i apelio.
Darganfyddwch fwy am hyn yn ein canllaw Sut i apelio yn erbyn penderfyniad am fudd-daliadau.
Beth yw’r terfynau cynilion ar gyfer Credyd Cynhwysol a Chredyd Pensiwn?
Wrth asesu eich cymhwysedd ar gyfer Credyd Cynhwysol a Chredyd Pensiwn, bydd y DWP yn edrych ar faint sydd gennych mewn cynilion.
Beth yw’r terfynau cynilo ar gyfer Credyd Cynhwysol?
Er mwyn gallu hawlio Credyd Cynhwysol, fel arfer ni allwch chi (na’ch partner os yw’n berthnasol) gael cyfanswm cynilion o fwy na £16,000.
Os oes gennych chi neu’ch partner £6,000 neu lai mewn cynilion, ni fydd hyn yn effeithio ar eich cais o gwbl.
Mae’n mynd ychydig yn fwy cymhleth os oes gennych chi a/neu’ch partner unrhyw gynilion neu gyfalaf rhwng £6,000 a £16,000.
Mae'r £6,000 cyntaf yn cael ei anwybyddu. Ond, caiff y gweddill ei drin fel pe bai’n rhoi incwm misol o £4.35 i chi am bob £250, neu unrhyw swm sy’n weddill nad yw’n £250 cyflawn.
Gweler yr enghraifft ganlynol am help i ddeall hyn.
Enghraifft o sut mae cynilion yn effeithio Credyd Cynhwysol
- rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac mae gennych chi £7,000 mewn cyfrif cynilo
- anwybyddir y £6,000 cyntaf
- ystyrir y £1,000 sy’n weddill fel arian sy’n rhoi incwm misol o £17.40 i chi
- £1,000 ÷ £250 = 4
- 4 × £4.35 = £17.40
- bydd £17.40 yn cael ei dynnu oddi ar eich taliad Credyd Cynhwysol misol.
Sut yr effeithir ar eich cynilion os symudoch o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol
Os ydych wedi symud i Gredyd Cynhwysol o gredydau treth fel rhan o’r rhaglen ‘Symud i Gredyd Cynhwysol’, (dyma pan nad oes newid wedi bod yn eich bywyd, ond gofynnodd yr Adran Gwaith a Phensiynau i chi symud drosodd i Gredyd Cynhwysol) ni fydd unrhyw gynilion sydd gennych dros £16,000 yn cael eu cyfrif (byddant yn cael eu diystyru) am 12 mis ar ôl i chi symud i Gredyd Cynhwysol. Ar ôl 12 mis, mae'r rheolau arferol yn berthnasol.
Darganfyddwch fwy am sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio yn ein canllaw Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.
Sut mae cynilion yn effeithio ar Gredyd Pensiwn
Os oes gennych £10,000 neu lai mewn cynilion neu fuddsoddiadau (gan gynnwys eich cronfa bensiwn) ni fydd yn effeithio ar faint o Gredyd Pensiwn y byddwch yn ei dderbyn. Ond efallai y cewch swm llai os bydd gennych fwy na £10,000 wedi'i gynilo.
Am bob £500, neu unrhyw swm sy’n weddill nad yw’n £500 cyflawn, o bensiynau neu gynilion sydd gennych dros £10,000 – cewch eich trin fel petaech ag incwm o £1 yr wythnos.
Caiff hwn ei ychwanegu at unrhyw incwm arall sydd gennych, fel pensiwn, wrth gyfrifo faint o Gredyd Pensiwn sy’n ddyledus i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynyddwch eich incwm ymddeol gyda Chredyd Pensiwn.
Darganfyddwch fwy am reolau cynilo ar gyfer budd-daliadau os ydych dros 60 oedYn agor mewn ffenestr newydd ar entitledto.
Sut mae cynilion yn effeithio ar Gymorth Treth Gyngor
Mae Cymorth Treth Gyngor yn cael ei redeg gan gynghorau lleol.
Os ydych o oedran gwaith mae faint o gynilion a ganiateir yn ddibynnol ar reolau’r cynllun Cymorth Treth Gyngor yn eich ardal.
Gall eich cyngor lleol ddweud mwy wrthych am sut mae’r cynllun yn gweithio ble rydych chi’n byw.
Dewch o hyd i'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn ac yn gymwys i gael Cymorth Treth Cyngor, gallai eich cynilion effeithio ar faint allech chi ei gael.
Darganfyddwch fwy am sut mae cael Credyd Pensiwn yn effeithio ar Gymorth Treth GyngorYn agor mewn ffenestr newydd ar Gyngor ar Bopeth
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai
Ni allwch wneud cais newydd am y budd-daliadau hyn oherwydd maent yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.
Ydych chi eisoes yn hawlio un o’r budd-daliadau hyn a bod gennych gynilion gwerth £6,000 neu fwy? Yna bydd angen i chi roi gwybod i’r swyddfa sy’n talu’ch budd-dal.
Os ydych yn sydyn yn cael swm o arian o £16,000 neu fwy, gallu hyn hefyd effeithio eich hawl i wneud cais am y budd-daliadau hyn.
A fydd fy nhâl diswyddo neu daliadau lwmp swm eraill yn effeithio ar fy mudd-daliadau?
Tâl diswyddo
Os ydych chi’n derbyn tâl diswyddo, bydd hyn yn cael ei drin fel cynilion ar gyfer unrhyw fudd-daliadau prawf modd rydych chi’n eu hawlio.
Cofiwch nad yw pob budd-dal yn destun prawf modd. Os ydych chi wedi colli’ch swydd, y prif fudd-dal y gallwch ei hawlio yw Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd - ac nid yw eich cynilion yn effeithio ar hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau a chredydau treth pan ydych wedi colli eich swydd
Taliadau iawndal
Mae iawndal yn cael ei drin fel cynilion ar gyfer unrhyw fudd-daliadau prawf modd rydych chi’n eu hawlio. Mae angen i chi ddweud wrth y swyddfa sy’n talu’ch budd-dal cyn gynted ag y byddwch chi’n cael eich iawndal.
Pan fyddwch yn hawlio iawndal am ddamwain, anaf neu afiechyd nad oedd yn fai arnoch chi, mae’n rhaid i’r sefydliad rydych chi’n hawlio ganddo ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Os ydych chi wedi bod yn derbyn budd-daliadau oherwydd y ddamwain, efallai y bydd yn rhaid i’r sefydliad dalu’r swm rydych chi wedi’i dderbyn mewn budd-dal yn ôl i’r DWP. Efallai y bydd hyn yn cael ei dynnu o’ch taliad.
Darganfyddwch fwy am fudd-daliadau ac iawndalYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK
Beth mae amddifadedd asedau’n ei olygu?
Ni allwch leihau eich asedau neu gynilion yn fwriadol er mwyn cynyddu faint a dderbyniwch mewn budd-daliadau. Mae’r Adran Waith a Phensiynau (DWP) yn galw hyn yn amddifadu o asedau.
Gall amddifadu o asedau gynnwys:
- rhoi arian i ffwrdd
- trosglwyddo perchnogaeth o eiddo
- prynu meddiannau sydd wedi eu heithrio o brawf modd, er enghraifft ceir a gemwaith.
Beth sy'n digwydd os amheuir bod asedau'n cael eu hamddifadu?
Os ydych wedi gwneud unrhyw rai o’r pethau hyn cyn hawlio budd-daliadau, bydd y DWP yn edrych ar pa bryd wnaethoch chi gael gwared ar eich cynilion ac asedau.
Bydd y DWP yn edrych ar y dystiolaeth i benderfynu os oedd yn fwriadol.
Os ar y pryd, na fyddech wedi gallu rhagweld bod angen budd-daliadau arnoch, yna efallai na fydd yn cyfrif fel amddifadu o asedau.
Efallai y gofynnir i chi ddarparu gwaith papur a derbynebau i gefnogi’r dyddiad a’r rhesymau pam eich bod wedi cael gwared ar gynilion neu asedau.
Os penderfynir eich bod wedi amddifadu eich hun yn fwriadol o gynilion neu asedau, byddwch yn cael eich trin fel petaent gennych chi o hyd. Gelwir hyn yn gyfalaf tybiannol.
Bydd y cyfalaf tybiannol yn cael ei ychwanegu i’r asedau a chynilion sydd gennych chi. Bydd hyn yn effeithio ar faint fyddwch chi’n ei gael mewn budd-daliadau.
Darganfyddwch fwy am amddifadedd asedau a chyfalaf tybiannolYn agor mewn ffenestr newydd ar entitledto
Cyfandaliadau ôl-ddyddiedig gan DWP
Os yw eich budd-daliadau wedi cael eu tandalu i chi, efallai bod gennych hawl i ôl-daliad gan y DWP.
Gallai hyn gynnwys taliad lwmp swm sylweddol, a fyddai’n mynd â chi dros y terfyn cynilion ar gyfer budd-daliadau prawf modd, yn cynnwys:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Credyd Cynhwysol
- Budd-dal Tai
- Credyd Pensiwn.
Mewn rhai achosion, ni fydd y taliad hwn yn cael ei gyfrif fel cynilion am flwyddyn ac ni fydd yn effeithio ar fudd-daliadau yn seiliedig ar incwm neu brawf modd yn ystod y cyfnod hwn.
Fodd bynnag, ble nad ydych wedi derbyn budd-daliadau digonol oherwydd gwall gellir diystyru unrhyw daliadau dros £5,000 drwy gydol cyfnod y cais neu nes bydd y dyfarniad yn gorffen.
Darganfyddwch fwy ar wefan hanfodion Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd