Gwiriwch ein Cyfrifiannell Pensiwn
Gallwch gael amcangyfrif o’r incwm y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn ymddeol gyda’n Cyfrifiannell pensiwn.
        Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
18 Chwefror 2025
Ydych chi'n meddwl am faint y dylech ei gynilo ar gyfer ymddeoliad? Yn ôl y Retirement Living Standards, yr isafswm incwm ar gyfer person sengl ar ôl ymddeol yw £14,400 y flwyddyn neu £22,400 ar gyfer pâr.
Mae faint y bydd angen i chi ei gynilo yn dibynnu ar eich ffordd o fyw, ble rydych chi'n byw, ac a oes gennych chi unrhyw ddibynyddion. Darllenwch ein blog i ddarganfod sut i gynilo ar gyfer eich pensiwn.
Mae'r symiau a argymhellir ar gyfer cynilo ar gyfer ymddeolyn amrywio. Fodd bynnag, yn ôl Retirement Living Standards, yr isafswm incwm ar gyfer person sengl ar ôl ymddeol yw £14,400 y flwyddyn neu £22,400 ar gyfer pâr. Ar gyfer ymddeoliad 'cyfforddus', mae hyn yn codi i £43k y flwyddyn i berson sengl neu £59k i gwpl. Gall ymddeoliad bara am 20 mlynedd neu fwy, yn dibynnu ar pryd yr ydych yn ymddeol a pha mor hir rydych yn byw.
Efallai yr hoffech hefyd ystyried ffactorau ffordd o fyw eraill, er enghraifft, a fyddwch yn parhau i dalu am dai, fel morgais, rhent neu gostau gofal.
Mae'n werth nodi hefyd y gallech gael eich cofrestru'n awtomatig ar gynllun pensiwn gyda'ch cyflogwr, sy'n golygu bod taliadau a gymerir o'ch cyflog yn cael eu talu'n awtomatig tuag at eich cynllun pensiynau. Os ydych, gallwch wirio manylion y taliadau rydych chi'n eu gwneud gyda hynny.
Ffordd fwy personol o edrych ar yr hyn y gallech ei gynilo ar gyfer eich cronfa bensiwn yw defnyddio cyfrifiannell bensiwn. Gall hyn roi incwm i chi anelu ato a dweud wrthych a ydych yn debygol o gyrraedd eich nod neu beth allai'r diffyg fod.
Gall cyfrifo faint o arian y bydd ei angen arnoch mewn ymddeoliad a faint y gallwch fforddio ei gynilo nawr fod yn anodd os nad ydych yn gwybod beth rydych yn ei wario ar hyn o bryd.
Defnyddiwch ein cynlluniwr cyllideb i weld faint y gallwch ei roi mewn cynilion pensiwn.
Gweler ein teclyn cyllidebu ar-lein am ddim i ddechrau arni
Gall gwneud cynllun cynilo ymddeol, naill ai ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu aelod o'r cartref, roi man cychwyn cadarnhaol i chi.
Mae pethau fel cyfrifo faint fydd ei angen arnoch ar gyfer y dyfodol, cyfrifo eich incwm tebygol ac asesu unrhyw opsiynau incwm yn lle da i ddechrau.
Mae ein Cynllunio ar gyfer ymddeoliad: rhestr wirio paratoi ar gyfer ymddeoliad yn ganllaw cam wrth gam.
Mae cofrestru awtomatig ar gyfer eich pensiwn trwy'ch cyflog yn gam cyntaf gwych, a'r brif ffordd y mae llawer yn cyfrannu'n rheolaidd tuag at eu pensiwn. Edrychwch ar Sut mae ymrestru awtomatig pensiwn yn gweithio am fwy o wybodaeth.
Os oes gennych bensiwn personol, efallai y gallwch wneud taliadau drwy archeb sefydlog neu drwy drosglwyddiad banc ond gwiriwch gyda'ch darparwr pensiwn am hyn.
Os ydych wedi stopio neu'n ystyried stopio neu oedi eich cyfraniadau pensiwn, gweler Stopio neu ostwng eich cyfraniadau pensiwn cyn i chi benderfynu.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, dyma rai ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn.
Nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau cynilo i mewn i bensiwn, ond os ydych wedi canfod eich hun heb un yn hwyrach mewn bywyd, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i gynyddu eich incwm
Mae'n dda dechrau meddwl am eich opsiynau ar gyfer ymddeol a'r dewisiadau y bydd angen i chi eu gwneud ar gyfer eich dyfodol, a gall ein gwybodaeth eich helpu i baratoi ar gyfer ymddeol.