Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Cymryd eich pensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Cymryd eich pensiwn

Sut i gynllunio ar gyfer ymddeoliad: Rhestr wirio cynllunio ymddeoliad

Mae cynllunio ar gyfer ymddeol flynyddoedd lawer cyn i chi anelu at roi'r gorau i weithio yn rhoi amser i chi roi hwb i'ch incwm os oes angen. Mae ein rhestr wirio yn esbonio'r camau y gallwch eu cymryd.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Cam 1: Creu cyllideb ymddeol
  • Cam 2: Amcangyfrif cyfanswm eich incwm ymddeol
  • Cam 3: Gwiriwch am ffyrdd o roi hwb i'ch incwm ymddeol
  • Cam 4: Cynlluniwch pryd yr hoffech ymddeol
  • Cam 5: Penderfynwch sut yr hoffech gymryd eich pensiwn
  • Cam 6: Ystyriwch dalu am gyngor ariannol
  • Cam 7: Hawliwch eich pensiynau pan fyddwch chi'n barod

Cam 1: Creu cyllideb ymddeol

Mae'n debygol y bydd gennych gostau gwahanol ar ôl i chi ymddeol, felly mae'n syniad da creu cyllideb ymddeol i wirio faint o incwm sy'n debygol o fod ei angen arnoch.

Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr cyllideb i restru popeth rydych chi'n disgwyl ei dalu o hyd, gan gynnwys biliau rheolaidd, teithio a chostau untro.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Faint o arian sydd ei angen arnaf ar gyfer fy ymddeoliad?

Nol i’r brig

Cam 2: Amcangyfrif cyfanswm eich incwm ymddeol

Er mwyn sicrhau bod eich incwm ymddeol ar y trywydd iawn i dalu eich holl gostau, cyfrifwch yn rheolaidd faint rydych chi'n debygol o’i gael.

Gwiriwch eich incwm pensiwn amcangyfrifedig

I ddod o hyd i'ch amcangyfrifon pensiwn diweddaraf, gallwch:

  • wirio’ch rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK

  • mewngofnodi i gyfrif ar-lein eich darparwr pensiwn preifat neu cysylltwch â nhw am ddatganiad wedi'i ddiweddaru.

Yna gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell pensiwn i amcangyfrif cyfanswm eich incwm ymddeol o'ch holl bensiynau. 

Os na allwch ddod o hyd i'r manylion ar gyfer cynllun pensiwn sydd gennych, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i hen bensiynau neu bensiynau coll.

Ystyriwch incwm arall a allai fod gennych

Os ydych chi'n bwriadu cael incwm arall ar ôl i chi ymddeol, gwnewch yn siŵr eich bod yn amcangyfrif a chynnwys hynny hefyd.

Er enghraifft, efallai y bydd gennych incwm o:

  • waith neu fusnes

  • cynilion a buddsoddiadau 

  • rhentu eiddo neu ystafell.

Efallai y byddwch hefyd eisiau defnyddio’ch cynilion i ariannu rhywfaint o'ch ymddeoliad neu gael cyfandaliadau wrth werthu a lleihau eich cartref.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i gyfrifo amcangyfrif o’ch incwm pensiwn a’ch incwm ymddeol.

Nol i’r brig

Cam 3: Gwiriwch am ffyrdd o roi hwb i'ch incwm ymddeol

Os nad yw eich incwm ymddeol amcangyfrifedig yn cwmpasu'ch costau disgwyliedig - neu ddim yn ddigon ar gyfer y ffordd o fyw yr hoffech - mae yna ffyrdd y gallwch chi roi hwb i'r swm y byddwch chi'n ei gael.

Er enghraifft, gallech chi:

  • dalu mwy i mewn i bensiwn – efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn cyfateb i'ch cyfraniadau

  • gwirio’ch bod chi'n cael yr holl ryddhad treth rydych chi'n gymwys amdano

  • gwneud yn siŵr eich bod ar y trywydd iawn ar gyfer uchafswm Pensiwn y Wladwriaeth.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Ffyrdd o roi hwb i'ch pensiwn. 

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio a oes gennych hawl i unrhyw daliadau neu grantiau ychwanegol. 

Nol i’r brig

Cam 4: Cynlluniwch pryd yr hoffech ymddeol

Y cynharaf y gallwch gymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth yw eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Fel arfer, gellir hawlio pensiynau preifat o 55 oed (57 o Ebrill 2028), oni bai:

  • fod angen i chi ymddeol yn gynt oherwydd iechyd gwael

  • mae eich cynllun pensiwn yn rhestru oedran gwarchodedig cynharach.

Os ydych chi'n ystyried cymryd eich pensiwn preifat o 55 oed, byddwch yn ymwybodol y gallai fod ganddo nodweddion arbennig sydd wedi'u cynllunio i dalu ar oedran ymddeol y cynllun – a elwir yn eich oedran pensiwn arferol (NPA). Mae hyn yn golygu y byddwch yn aml yn cael mwy os ydych chi'n aros.

Mae'r NPA yn amrywio fesul cynllun ond yn aml mae’n tua 60 oed, 65 oed neu'n gysylltiedig â'ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os nad yw hyn yn cyd-fynd â'ch cynlluniau, fel arfer gallwch ddewis i:

  • ddweud wrth eich darparwr pryd yr hoffech gymryd eich pensiwn, a elwir yn ddyddiad ymddeol dethol (SRD)

  • oedi cymryd eich pensiwn tan ar ôl eich NPA ac ymddeol yn hwyrach. 

Gallech gymryd eich pensiwn a pharhau i weithio

Yn aml, gallwch ddewis dechrau cymryd eich pensiwn cyn i chi ymddeol yn llawn. Er enghraifft, gallech ddefnyddio’ch pensiwn i ychwanegu at eich cyflog neu ganiatáu i chi leihau eich oriau.

Byddwch yn ymwybodol bod eich incwm pensiwn yn cael ei ychwanegu at eich enillion eraill wrth gyfrifo faint o Dreth Incwm y mae angen i chi ei dalu.

Ceisiwch glirio unrhyw ddyledion cyn i chi ymddeol

Wrth gynllunio eich dyddiad ymddeol, gwiriwch pryd y byddwch chi'n gallu clirio unrhyw ddyledion sydd gennych - fel morgais, benthyciad neu gerdyn credyd.

Gallai talu dyledion ar ôl i chi ymddeol effeithio ar ba mor gyfforddus yw eich bywyd.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys ble i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion am ddim, gweler ein canllawiau:

  • Sut i flaenoriaethu’ch dyledion

  • A allaf ddefnyddio fy mhensiwn i dalu dyled?

Nol i’r brig

Cam 5: Penderfynwch sut yr hoffech gymryd eich pensiwn

Mae sut y gallwch gymryd eich pensiwn yn dibynnu ar y math sydd gennych.

Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod y math o bensiwn sydd gennych neu ofyn i'ch darparwr pensiwn.

Mae pensiynau buddion wedi'u diffinio’n talu incwm gwarantedig

Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio, byddwch yn cael incwm rheolaidd gwarantedig yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir y gwnaethoch weithio i'ch cyflogwr.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cymryd cyfandaliad di-dreth ymlaen llaw – naill ai fel swm ar wahân neu drwy leihau'r incwm y byddwch chi'n ei gael yn nes ymlaen. Gallwch ofyn i'ch cynllun esbonio'r rheolau sy'n berthnasol i chi.

Mae pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio’n rhoi dewis i chi

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, fel arfer gallwch ddewis cymryd hyd at 25% fel cyfandaliad di-dreth a:

  • gadael y gweddill wedi'i fuddsoddi er mwyn i chi allu cymryd incwm trethadwy pan a phryd y mae ei angen arnoch – a elwir yn tynnu pensiwn i lawr

  • trosi rhywfaint neu'r cyfan o'r gweddill yn incwm gwarantedig trethadwy – a elwir yn prynu blwydd-dal.

Nid oes rhaid i chi gymryd y 25% llawn fel cyfandaliad di-dreth, neu unrhyw gyfandaliad o gwbl. Po fwyaf y byddwch chi'n ei gymryd, y lleiaf y bydd gyda chi i roi incwm i chi yn nes ymlaen. 

Fel arall, gallech gymryd eich pensiwn ar un tro neu fel cyfandaliad lluosog, gyda hyd at 25% o bob swm yn cael ei dalu'n ddi-dreth.

Gallwch hefyd gyfuno'r opsiynau hyn fel arfer.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth allaf ei wneud gyda fy nghronfa bensiwn?

Rydym yn cynnig Apwyntiadau Pension Wise am ddim a diduedd i helpu i egluro’ch opsiynau pensiwn i chi

Efallai y bydd angen i chi newid sut mae eich pensiwn yn cael ei fuddsoddi

Bydd llawer o ddarparwyr pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio’n cymryd llai o risgiau gyda'ch arian wrth i chi agosáu at ymddeol, oherwydd bod:

  • llai o amser i adennill unrhyw golledion buddsoddi

  • eich darparwr yn cymryd yn ganiataol y byddwch chi'n cymryd yr holl arian ar y pwynt hwnnw.

Er enghraifft, o fewn pump i ddeng mlynedd o'ch oedran pensiwn arferol, efallai y bydd eich arian yn cael ei symud i fuddsoddiadau sy'n cael eu hystyried yn fwy sefydlog yn gyffredinol, fel bondiau'r llywodraeth ac arian parod. 

Ond efallai yr hoffech ystyried ffordd wahanol o fuddsoddi'ch arian os ydych chi'n bwriadu:

  • ymddeol yn gynharach neu'n hwyrach nag oedran pensiwn arferol eich cynllun

  • defnyddio tynnu pensiwn i lawr i gymryd incwm ymddeol hyblyg.

Mae hyn oherwydd y bydd rhywfaint o'ch pensiwn yn parhau i gael ei fuddsoddi ar ôl eich dyddiad ymddeol arfaethedig, felly efallai y byddwch chi'n colli twf ychwanegol o ddefnyddio ystod ehangach o fuddsoddiadau. 

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun.

Nol i’r brig

Cam 6: Ystyriwch dalu am gyngor ariannol

Gall pryd a sut rydych chi'n dewis cymryd eich pensiwn effeithio ar ba mor gyfforddus yw eich ymddeoliad.

Gall ymgynghorydd ariannol rheoledig eich helpu i gynllunio ar gyfer ymddeol, gan gynnwys:

  • argymell cynhyrchion a darparwyr i'w defnyddio

  • cynghori ble i fuddsoddi’ch arian 

  • esbonio’ch opsiynau i leihau'r dreth y gallai fod angen i chi ei thalu.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd pensiwn neu ymddeol.

Rhaid i ymgynghorwyr ariannol ddweud wrthych faint sydd angen i chi ei dalu cyn i chi ymrwymo.

Nol i’r brig

Cam 7: Hawliwch eich pensiynau pan fyddwch chi'n barod

Pan fyddwch chi'n barod i ddechrau cymryd eich pensiwn, bydd angen i chi gysylltu â'ch darparwr(wyr) pensiwn a dweud wrthynt beth hoffech ei wneud.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt pensiwnYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer pensiynau a gollwyd ar GOV.UK.

Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i'r cytundeb gorau wrth gymryd eich pensiwn.

I hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, dylech dderbyn llythyr tua phedwar mis cyn eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth gyda chôd gwahoddiad a chyfarwyddiadau. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw ar sut mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio. 

Mae hefyd yn syniad da i:

  • wirio a allwch hawlio Credyd Pensiwn

  • gwneud neu ddiweddaru eich ewyllys 

  • ystyried sefydlu atwrneiaeth – mae hyn yn caniatáu i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo reoli eich iechyd a'ch cyllid os nad ydych yn gallu 

  • Gwirio bod eich ffurflen fynegi dymuniad yn gyfredol – mae hyn yn dweud wrth eich darparwr pensiwn pwy hoffech etifeddu eich budd-daliadau pensiwn neu farwolaeth

  • cynllunio sut y gallech dalu am ofal hirdymor. 

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau. Gallwch:

  • ddefnyddio ein gwesgwrs
  • ffonio ar 0800 756 1012 (+44 20 7932 5780Yn agor mewn ffenestr newydd os ydych y tu allan i’r DU)
  • Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein. 

Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Cymryd eich pensiwn

Help i baratoi ar gyfer ymddeol

  • Sut i gynllunio ar gyfer ymddeoliad: Rhestr wirio cynllunio ymddeoliad
  • Beth sy'n digwydd i'm pensiwn os byddaf yn ymddeol dramor?
  • A ddylwn i symud i gartref llai o faint i ariannu fy ymddeoliad?
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Help i baratoi ar gyfer ymddeol

  • Sut i gynllunio ar gyfer ymddeoliad: Rhestr wirio cynllunio ymddeoliad
  • Beth sy'n digwydd i'm pensiwn os byddaf yn ymddeol dramor?
  • A ddylwn i symud i gartref llai o faint i ariannu fy ymddeoliad?
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau