Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn rhoi arian i chi fyw arno os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy'n eich atal neu sy'n cyfyngu ar faint y gallwch weithio ac nad ydych yn gymwys am Dâl Salwch Statudol.
Mathau o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Y prif fathau o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yw:
- ESA Dull Newydd
- ESA yn seiliedig ar incwm (sy'n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd).
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (ESA)
Efallai gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd os na allwch weithio neu allwch ond weithio oriau cyfyngedig oherwydd:
- salwch neu anabledd
- bod eich Tâl Salwch Statudol (SSP) wedi dod i ben, neu
- eich bod yn hunangyflogedig ac nad ydych yn gymwys am SSP .
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn gofalu am blentyn sy’n dod o dan y grwpiau hyn.
Cymhwyster
I fod yn gymwys, mae angen i chi fod wedi bod yn talu neu wedi eich credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol am y ddwy i dair blynedd ddiwethaf.
Mae hyn yn golygu, ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26, bod angen i chi fod wedi bod yn ennill o leiaf £125 yr wythnos, £542 y mis neu £6,500 y flwyddyn. Ar gyfer blynyddoedd blaenorol mae'r cyfraddau ychydig yn îs.
Ni allwch wneud cais amdano os ydych eisoes yn derbyn y Premiwm Anabledd Difrifol.
Sut i wirio eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Gwiriwch a ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy ffonio CThEF ar 0300 200 3500 (neu 0300 200 3519 os oes gennych nam ar leferydd neu glyw).
Gallwch hefyd wirio eich cofnod Yswiriant Gwladol ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Faint o ESA Dull Newydd a gewch?
Os ydych yn gymwys am ESA Dull Newydd fe’ch roddir i mewn i un o ddau grŵp ar ôl asesiad cychwynnol o’r enw Asesiad Gallu i Weithio:
- Y 'grŵp gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith' yw os ydych chi'n disgwyl dychwelyd i'r gwaith. Mae'n cael ei dalu am hyd at flwyddyn.
- Yn yr achos hwn byddwch fel arfer yn derbyn £128.60 yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys £92.05 yr wythnos o lwfans personol ynghyd â £36.55 ar gyfer elfen gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith.
- Os ydych chi o dan 25 oed, mae'n £109.45 yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys y lwfans personol o £72.90 ynghyd â £6.55 ar gyfer yr elfen gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith.
- Y 'grŵp cymorth' yw os yw eich salwch neu'ch anabledd yn golygu na allwch ddychwelyd i'r gwaith – yn yr achos hwn byddwch fel arfer yn cael £140.55 yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys y lwfans personol o £92.05 a'r elfen gymorth o £48.50. Does dim terfyn amser.
Mae'r symiau uchod ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26 ac maent yn drethadwy.
Sut mae ESA Dull Newydd yn effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol
Os yw incwm eich cartref yn ddigon isel a bod angen cymorth ychwanegol arnoch gyda chostau tai neu fagu plant, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ochr yn ochr ag ESA Dull Newydd.
Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, bydd unrhyw swm o Gredyd Cynhwysol a gewch yn gostwng yr un faint .
Mantais gwneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd ochr yn ochr â Chredyd Cynhwysol os ydych yn gymwys am y ddau yw y byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 wrth dderbyn ESA Dull Newydd.
Mae hyn yn berthnasol p’un a ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig. Bydd y credydau hyn yn cyfrif tuag at eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth yn y dyfodol – a’ch hawl i rai budd-daliadau eraill sy’n seiliedig ar gyfraniadau, megis tâl diswyddo statudol, tâl mamolaeth neu dadolaeth.
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK am sut i wneud cais am ESA Dull NewyddYn agor mewn ffenestr newydd
Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar incwm (ESA) yn dod i ben yn 2025
Mae hwn yn fudd-dal sy'n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol ac ni allwch wneud cais newydd amdano.
Os ydych eisoes yn cael Premiwm Anabledd Difrifol ac yn gwneud cais newydd am fudd-daliadau salwch ac anabledd sy'n seiliedig ar brawf modd, bydd yn rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol nawr. Bydd eich taliad Premiwm Anabledd Difrifol yn stopio a byddwch yn cael taliad ychwanegol yn eich Credyd Cynhwysol yn lle.
Os ydych eisoes yn cael ESA sy'n seiliedig ar incwm
Os ydych eisoes yn cael ESA sy'n seiliedig ar incwm, anfonir llythyr atoch yn 2025 yn eich gwahodd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd eich llythyr yn dweud wrthych sut a phryd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes i chi gael eich llythyr. Os oes angen unrhyw help neu gymorth arnoch, darperir manylion yn eich llythyr, neu gallwch ymweld â GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd