Gall edrych ar ôl aelod o’ch teulu gydag anabledd, salwch, cyflwr iechyd meddwl, neu broblem â chyffuriau neu alcohol fod yn ymrwymiad anferthol. Yn ffodus mae cefnogaeth ariannol ar gael, a gwasanaethau cefnogol i roi cymorth i ysgwyddo’r baich.
Pa dasgau mae gofalwyr ifanc yn ei wneud?
Fe allech weld eich hun yn helpu aelod o’r teulu drwy:
- wneud gwaith o amgylch y cartref, fel glanhau
- coginio prydau bwyd
- helpu gyda thasgau ymarferol, fel symud o un lle i’r llall, ymolchi neu wisgo yn y boreau.
Gall hynny fod yn ddigon anodd. Ond efallai y byddwch hefyd yn gweld eich bod yn rheoli arian eich teulu neu’n gorfod cymryd gwaith ychwanegol a rhoi’r gorau i goleg neu brifysgol i dalu am y gofal sydd ei angen arnynt.
Pa fath o gefnogaeth ariannol sydd ar gael i ofalwyr ifanc?
Mae'r llywodraeth yn cynnig math o gymorth ariannol i bob gofalwr gan gynnwys gofalwyr ifanc o'r enw Lwfans Gofalwr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a Thaliad Cymorth Gfalwr yn yr Alban.
Lwfans Gofalwr
Awgrym da
Cyn gwneud cais am Lwfans Gofalwr neu Daliad Cymorth Gofalwr, mae’n syniad da cael gair gyda’r person rydych yn gofalu amdanynt, oherwydd gall effeithio ar eu taliadau budd-daliadau.
Caiff Lwfans Gofalwr ei dalu ar gyfradd safonol o £83.30 (2025/26) yr wythnos. Fe'i gelwir yn Daliad Cymorth Gofalwr yn yr Alban.
Rydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr os:
- ydych yn 16 oed neu drosodd
- ydych yn bodloni’r rheolau preswylio a phresenoldeb y DU
- ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun
- nad ydych mewn un ai addysg amser llawn neu yn ennill mwy na £196 (2025/26) yr wythnos ar ôl i chi dalu treth, Yswiriant Gwladol a rhai didyniadau penodol.
Darganfyddwch fwy, gan gynnwys rheolau presenoldeb a phreswylio’r DU, cymhwysedd a sut i wneud cais am Lwfans GofalwrYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK neu ewch i nidirect os ydych yn byw yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Taliad Cymorth Gofalwr ac Atodiad Lwfans Gofalwr yn yr Alban
Os ydych yn byw yn yr Alban, mae’n rhaid i chi wneud cais am Daliad Cymorth Gofalwr yn lle Lwfans Gofalwr. Telir hwn ar gyfradd safonol o £83.30 (2025/26) yr wythnos.
Darganfyddwch fwy am wneud cais am Daliad Cymorth Gofalwr ar mygov.scot
Mae gofalwyr yn yr Alban hefyd yn cael dau daliad atodol, fel arfer ym mis Mehefin a mis Rhagfyr. Yn 2025/26 bydd y taliadau hyn yn £293.50 yr un.
Darganfyddwch fwy am yr Atodiad Lwfans GofalwrYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot
Elfen gofalwr Credyd Cynhwysol
Mae elfen gofalwr Credyd Cynhwysol yn daliad ychwanegol o hyd at £46.40 (2025/26) yr wythnos.
Os ydych yn cael yr elfen gofalwr o Credyd Cynhwysol yn barod, dylech roi gwybod i’r swyddfa budd-daliadau berthnasol eich bod wedi cael dyfarniad o Lwfans Gofalwr.
Cewch eu manylion cyswllt ar unrhyw lythyr maent wedi ei anfon atoch.
Os mai ond newydd glywed am yr elfen gofalwr o Credyd Cynhwysol ydych ac yn cael y Lwfans Gofalwr yn barod, gall taliadau budd-daliadau weithiau gael eu hôl-ddyddio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau gallwch eu hawlio fel gofalwr
Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr efallai gallwch hefyd ei ddefnyddio er mwyn cefnogi cais am ostyngiad Treth Gyngor. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau i’ch helpu gyda’ch anabledd neu anghenion gofal.
Grant Gofalwr Ifanc (yr Alban yn unig)
Os ydych yn byw yn yr Alban, efallai y byddwch yn gallu cael taliad blynyddol ychwanegol o £390.25 (2025/26) os:
- ydych rhwng 16 a 18 oed
- rydych chi’n gofalu am rhwng un a thri o bobl am gyfartaledd o 16 awr yr wythnos, ac wedi bod yn gwneud am o leiaf y tri mis diwethaf.
Darganfyddwch fwy am y Grant Gofalwyr IfancYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot
Mathau eraill o gefnogaeth i ofalwyr ifanc
Mae nifer o fathau eraill o gefnogaeth ariannol ac ymarferol ar gael i ofalwyr ifanc. Ond yn gyntaf bydd angen i chi gael asesiad gofalwr.
Dyma gyfle i chi gael sgwrs gyda gweithiwr cymdeithasol a dweud wrthynt pa fath o gymorth rydych ei angen gyda’ch gwaith gofalu.
Os ydych yn llai na 16 oed gallwch ofyn am asesiad gofalwr y tro nesaf y bydd y person rydych yn gofalu amdanynt yn cael eu hasesiad hwy.
Os ydych dros 16 oed cewch ofyn i’ch awdurdod lleol gwblhau asesiad ar unrhyw adeg.
Sut i wneud cais am asesiad gofalwr
Os ydych yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, bydd angen i chi siarad gydag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol sy’n gyfrifol am y person rydych yn gofalu amdanynt.
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi siarad gydag Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol y person rydych yn gofalu amdanynt.
Pwy arall all roi cymorth?
Oeddech chi’n gwybod?
I gael cymorth i ddod o hyd i gefnogaeth leol, gallwch siarad ag ymgynghorydd llinell gymorth Carers Direct ar 0808 808 7777, neu ofyn cwestiwn drwy eu llinell gymorth e-bostYn agor mewn ffenestr newydd
Nid yw’n hawdd bod yn ofalwr ifanc - a dim ond un o’r heriau yw arian. Mae’n bosibl y bydd ffynonellau eraill o help ariannol ar gael o gronfeydd elusennol.
Efallai bydd y Carers Trust yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag un o’r sefydliadau hyn.
Darganfyddwch fwy am gael cymorth fel gofalwr ifancYn agor mewn ffenestr newydd ar Carers Trust
Os ydych yn teimlo bod eich rôl fel gofalwr yn cael effaith ar eich addysg a’ch gwaith ysgol neu os yw’n gwneud i chi deimlo’n bryderus neu’n anhapus, mae’n bwysig siarad â rhywun am hyn.
Mae llawer iawn o bobl fyddai’n fwy na pharod i wrando ac i roi cymorth i chi ysgwyddo’r cyfrifoldebau o fod yn ofalwr ifanc.
Gallwch ddechrau yn agos at eich cartref, gydag aelod o’r teulu neu ffrind sydd eisoes yn ymwybodol o’r sefyllfa, neu hyd yn oed eich meddyg lleol.
Yna mae yna sefydliadau sydd wedi cael eu sefydlu’n benodol i gynnig cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc, megis:
Darganfyddwch fwy am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chiYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y GIG
Mwy o wybodaeth
Mae llawer o sefydliadau yn cynnig cymorth a chyngor i ofalwyr ifanc ar bob agwedd o ofalu: