Os oes gan eich plentyn anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, efallai y bydd gennych hawl i Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) neu Daliad Anabledd Plant (CDP). Mae’n bwysig gwybod pa fudd-daliadau a hawliau anabledd y gallai’ch plentyn fod yn gymwys i’w cael, a sut i wneud cais amdanynt.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Lwfans Byw i'r Anabl i blant
- Taliad Anabledd Plant
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Thaliad Anabledd Oedolion (ADP)
- Help gyda chostau tai os oes gan eich plentyn anabledd
- Credyd Cynhwysol os oes gan eich plentyn anabledd
- Cymorth i symud o gwmpas – Cynlluniau Motability a Bathodyn Glas
- Budd-daliadau os ydych yn ofalwr
Lwfans Byw i'r Anabl i blant
Mae Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer plant sy'n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Ar gyfer plant sy’n byw yn yr Alban bydd angen i chi hawlio’r ‘Child Disability Payment’ (CDP) yn lle hynny. Mae’n daliad rheolaidd i helpu gyda chostau ychwanegol byw bob dydd neu symud o gwmpas oherwydd bod gan eich plentyn gyflwr iechyd hirdymor neu anabled
Nid yw'n seiliedig ar brawf modd.
Mae hyn yn golygu efallai y byddwch yn gallu hawlio’r budd-dal ar gyfer eich plentyn waeth beth fo’ch incwm neu faint o gynilion sydd gennych.
I bwy y mae?
- plant o dan 16 oed sydd angen help ychwanegol gyda thasgau bywyd bob dydd, neu
- plant o dan 16 oed sydd angen help gyda symudedd (symud o gwmpas).
Faint ydyw?
Ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26, gallwch gael rhwng £29.20 a £187.45 yr wythnos, yn dibynnu ar anghenion eich plentyn.
Sut i wneud cais?
Os yw eich plentyn yn byw yng Nghymru neu Loegr, gwnewch gais ar GOV.UK am Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar gyfer plantYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw'ch plentyn yn byw yng Ngogledd Iwerddon gwnewch gais ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.
Beth sy'n digwydd pan fydd fy mhlentyn yn troi'n 16?
Bydd angen i’ch plentyn wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) pan fydd yn 16 oed.
Byddant yn derbyn llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eu gwahodd i wneud cais am PIP. Os byddant yn gwneud cais erbyn y dyddiad cau yn y llythyr, byddant yn parhau i dderbyn DLA nes bod eu cais PIP wedi’i asesu.,
Darganfyddwch fwy am Daliad Annibyniaeth Personol
Taliad Anabledd Plant
Mae Taliad Anabledd Plant (CDP) yn daliad rheolaidd i helpu gyda chostau ychwanegol bywyd bob dydd neu symud o gwmpas oherwydd bod gan eich plentyn gyflwr iechyd hirdymor neu anabledd. Gall anabledd eich plentyn fod yn feddyliol neu'n gorfforol.
Nid yw'n seiliedig ar brawf modd
Mae hyn yn golygu y gallech hawlio'r budd-dal i'ch plentyn waeth beth fo'ch incwm neu faint sydd gennych mewn cynilion.
Ar gyfer pwy ydyw?
- plant o dan 16 oed sydd angen help ychwanegol gyda thasgau bywyd bob dydd, neu
- plant o dan 16 oed sydd angen help gyda symudedd (symud o gwmpas).
Faint ydyw?
Ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26, gallech gael rhwng £29.20 a £187.45 yr wythnos, yn dibynnu ar anghenion eich plentyn.
Sut i wneud cais?
Gwnewch gais ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot
Beth sy'n digwydd pan fydd fy mhlentyn yn troi'n 16?
Bydd Social Security Scotland (sy'n cyfateb i'r DWP yn yr Alban) yn parhau i dalu Taliad Anabledd Plant nes bod eich plentyn yn 18 oed.
Fodd bynnag, ychydig cyn iddynt droi'n 16 nes iddynt droi'n 18, gallant ddewis gwneud cais am Daliad Anabledd Oedolion (ADP) yn lle hynny gan y gallent dderbyn mwy ar ADP na CDP. Dylech ofyn am gyngor cyn gwneud cais am ADP yn gynnar.
Darganfyddwch fwy am symud o CDP i ADPYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot.
Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Thaliad Anabledd Oedolion (ADP)
Beth yw PIP ac ADP?
Mae’n daliad sy’n helpu gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â bod yn anabl neu fod â chyflwr iechyd hirdymor. Nid yw’n destun prawf modd.
Mae hyn yn golygu gallech hawlio’r budd-dal ar gyfer eich plentyn pan fydd yn cyrraedd 16 oed, waeth beth yw eich incwm neu faint o gynilion sydd gennych.
I bwy y mae?
Pobl sydd dros 16 oed ac sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth sydd angen help gyda thasgau bob dydd neu symudedd (symud o gwmpas).
Os yw’ch plentyn yn 16 oed neu’n hŷn ac rydych yn gwneud cais newydd am help gyda chostau ychwanegol anabledd, bydd angen i chi wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP). Os ydych yn byw yn yr Alban bydd angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedolion ar gyfer eich plentyn. Dysgwch fwy am Daliad Anabledd OedolionYn agor mewn ffenestr newydd ar mygovscot.uk.
Os yw’ch plentyn yn cael DLA eisoes, cewch eich gwahodd i wneud cais newydd am PIP pan fydd yn cyrraedd 16 oed. Mae’r broses ar gyfer symud o Daliad Anabledd Plant i Daliad Anabledd i Oedolion yn yr Alban yn cael ei disgrifio yn yr adran uchod am Daliad Anabledd Plant
Faint yw PIP ac ADP?
Ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26, gallwch gael rhwng £29.20 a £187.45 yr wythnos, yn dibynnu ar anghenion eich plentyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliad Annibyniaeth Personol – cyflwyniad
Help gyda chostau tai os oes gan eich plentyn anabledd
Credyd Cynhwysol
I bwy y mae?
Os ydych ar incwm isel ac mae angen help arnoch i dalu eich rhent neu'ch morgais, efallai gallwch wneud cais am elfen costau tai Credyd Cynhwysol. Gellid talu mwy o'ch rhent os oes gan blentyn yn eich cartref anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor.
Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli Budd-dal Tai ar gyfer ceisiadau newydd am help â chostau tai.
Help â Threth Cyngor (neu Ardrethi yng Ngogledd Iwerddon)
I bwy y mae?
Mae ar gyfer y person sy’n gyfrifol am dalu Treth Cyngor (neu ardrethi yng Ngogledd Iwerddon). Gallai rhagor o’ch rhent gael ei dalu os bydd gan blentyn yn eich cartref anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor.
Treth Gyngor a drefnir gan gynghorau lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Darganfyddwch fwy am Ostyngiad Treth Cyngor ar wefan GOV.UK
Sut i wneud cais?
Yng Nghymru a Lloegr cysylltwch â’ch cyngor lleol er mwyn gwneud cais am ei gynllun Gostyngiad Treth Cyngor.
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Yn yr Alban cysylltwch â’ch awdurdod lleol er mwyn cael gwybod am ei gynllun Gostyngiad Treth Cyngor.
Dewch o hyd i’ch awdurdod lleol ar wefan mygov.scot
Yng Ngogledd Iwerddon, dysgwch ragor am yr help sydd ar gael â thalu eich Ardrethi ar wefan nidirect
Taliad Tywydd Oer
I bwy y mae?
Efallai gallech gael taliad Tywydd Oer i helpu gyda chostau gwresogi’r cartref os oes gan eich plentyn gyflwr iechyd hir dymor neu anabledd a’ch bod yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm
- Credyd Pensiwn
- Cymorth ar gyfer Llog Morgais.
Sut i wneud cais?
Nid oes angen i chi wneud cais. Os ydych yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer, byddwch yn ei dderbyn yn awtomatig ar ôl i’r tymheredd yn eich ardal ostwng islaw 0°C am saith diwrnod yn olynol neu ragor.
Darganfyddwch fwy am Daliad Tywydd Oer ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Credyd Cynhwysol os oes gan eich plentyn anabledd
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, bydd rhaid i chi wneud cais am yr elfen plant o Gredyd Cynhwysol. Mae faint y byddech yn derbyn yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Efallai y gallwch hefyd hawlio’r ychwanegiad am blant anabl.
Yn dibynnu ar gyflwr eich plentyn a’r cymorth sydd angen arnynt, gallwch dderbyn o £158.76 i £495.87 y mis (2025/26) fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol.
Cymorth i symud o gwmpas – Cynlluniau Motability a Bathodyn Glas
Cynllun Motability
I bwy y mae?
Mae ar gyfer pobl sy’n derbyn elfen symudedd gyfradd uwch y Lwfans Byw i’r Anabl neu’r Taliad Annibyniaeth Personol. Gall y cynllun ddarparu car, cadair olwyn fodur neu sgwter.
Sut i wneud cais?
Ffoniwch Motability ar 0300 456 4566.
Darganfyddwch fwy ar wefan Motability
Y Cynllun Bathodyn Glas
I bwy y mae?
Mae’r cynllun Bathodyn Glas yn helpu’r rhai sydd ag anawsterau symudedd difrifol, sydd yn ei chael yn anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i barcio’n agos i’w cyrchfan. Mae taliadau a rheolau ar gyfer y cynllun Bathodyn Glas yn amrywio ledled y DU.
Sut i wneud cais?
Gwnewch gais am Fathodyn Glas ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK neu cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy am y Cynllun Bathodyn Glas ar wefan GOV.UK
Budd-daliadau os ydych yn ofalwr
Lwfans Gofalwr a'r Taliad Cymorth Gofalwr
I bwy y mae?
Byddwch yn ei gael os ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am blentyn sy’n cael elfen gofal cyfradd ganolig neu uwch y Lwfans Byw i’r Anabl neu elfen byw dyddiol PIP os ydynt dros 16 oed.
Os ydych ar incwm isel ac yn gofalu am berson ag anabledd difrifol am o leiaf 35 awr yr wythnos, gallwch wneud cais am elfen gofalwr Credyd Cynhwysol.
Os ydych eisoes yn cael Lwfans Gofalwr bydd hyn yn cael ei gyfrif fel rhan o’ch incwm wrth gyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol y mae gennych hawl iddo.
Darganfyddwch fwy am Lwfans Gofalwr yn ein canllaw i Fudd-daliadau y gallwch eu hawlio fel gofalwr
Os ydych yn byw yn yr Alban, mae’n rhaid i chi wneud cais am ‘Carer Support Payment’ yn lle Lwfans Gofalwr. Telir hwn ar gyfradd safonol o £83.30 (2025/26) yr wythnos.
Darganfyddwch fwy am wneud cais am ‘Carer Support Payment’ ar [mygov.scot]
Mae gofalwyr yn yr Alban hefyd yn cael dau daliad atodol, fel arfer ym mis Mehefin a mis Rhagfyr. Yn 2025/26 bydd y taliadau hyn yn £293.50 yr un.
Help wrth hawlio budd-daliadau anabledd ar gyfer eich plentyn
Mae budd-daliadau anabledd yno i'ch helpu.
Ond gall gweithio allan a yw'ch plentyn yn gymwys, a llenwi'r ffurflenni, fod yn gymhleth.
Ydych chi'n hawlio Lwfans Byw i'r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol ar gyfer eich plentyn? Yna fel arfer bydd angen iddynt gael eu hasesu’n feddygol fel rhan o’r broses o wneud cais.
I gael cymorth a chyngor arbenigol am ddim, ffoniwch y llinellau cymorth hyn i siarad ag ymgynghorydd.
- Llinell Gymorth Budd-daliadau Anabledd DWP: 0800 121 4600 neu ewch i wefan y Ganolfan Gwasanaethau AnableddYn agor mewn ffenestr newydd
- Ffoniwch Linell Gymorth Teulu Contact: 0808 808 3555 neu ewch i wefan elusen ContactYn agor mewn ffenestr newydd
- Rhowch eich cod post ar wefan Cyngor ar Bopeth i ddod o hyd i'ch canolfan leolYn agor mewn ffenestr newydd