Mae'n syniad da i wirio faint o incwm ymddeol rydych chi ar y trywydd i'w gael yn rheolaidd ac ystyried ffyrdd o'i hybu os oes angen. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Cam 1: Gwiriwch eich datganiadau pensiwn
Fel arfer, bydd datganiad pensiwn yn dweud wrthych:
- faint yw gwerth eich pensiwn ar hyn o bryd
- amcangyfrif o faint y bydd yn ei dalu i chi yn eich ymddeoliad
- pryd y mae'ch darparwr yn disgwyl i chi gymryd eich pensiwn, naill ai ar eich:
- oedran pensiwn arferol (NPA) neu
- ddyddiad ymddeol dewisol (SRD) os ydych chi wedi dweud dyddiad gwahanol wrthyn nhw.
Fel arfer, gallwch ddod o hyd i'ch datganiad pensiwn drwy:
- fewngofnodi i gyfrif ar-lein eich darparwr
- gwirio'r gwaith papur rydych chi wedi'i dderbyn
- cysylltu â'ch darparwr.
Os na allwch ddod o hyd i fanylion eich darparwr, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i hen bensiynau neu bensiynau coll.
Am ragor o wybodaeth am yr oedran pensiwn arferol, gweler Pryd allaf gymryd arian o fy mhensiwn?
Efallai y byddwch chi’n cael mwy neu lai nag amcangyfrif eich darparwr
Mae sut mae;r amcangyfrif o’ch incwm yn cael ei gyfrifo yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych chi.
Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn neu ofyn i'ch darparwr.
Gall pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio godi a gostwng
Os oes gennych chi bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, gall gwerth eich pensiwn godi a gostwng nes i chi gymryd yr arian.
Mae hyn oherwydd bod y swm a gewch yn seiliedig ar:
- faint sy'n cael ei dalu i mewn, gan gynnwys unrhyw gyfraniadau cyflogwr a rhyddhad treth
- pa mor dda y mae eich arian a fuddsoddwyd yn perfformio
- taliadau a ffioedd y darparwr pensiwn
- pryd a sut rydych chi'n dewis cymryd yr arian.
Fel arfer, mae amcangyfrif eich darparwr yn seiliedig arnoch chi'n trosi'ch holl arian yn incwm gwarantedig ar oedran pensiwn arferol eich cynllun - gelwir hyn yn brynu blwydd-dal.
Mae hyn yn golygu y gallech gael swm gwahanol os cymerwch yr arian yn gynharach, yn hwyrach neu os cymerwch ef mewn ffordd wahanol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth alla i ei wneud gyda fy nghronfa bensiwn?
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn seiliedig ar y buddion rydych chi wedi'u cronni
Os oes gennych chi bensiwn buddion wedi’u diffinio, fel arfer byddwch chi'n cael incwm gwarantedig misol yn seiliedig ar ffactorau fel:
- eich cyflog
- pa mor hir y gwnaethoch chi weithio i'ch cyflogwr.
Bydd eich incwm pensiwn hefyd fel arfer yn cynyddu bob blwyddyn, yn seiliedig ar reolau eich cynllun.
Mae amcangyfrif eich darparwr o'ch incwm fel arfer yn seiliedig ar:
- y buddion rydych chi eisoes wedi'u cronni
- eich bod chi'n ei hawlio ar oedran pensiwn arferol eich cynllun.
Os ydych chi'n gweithio i'r cyflogwr cysylltiedig o hyd, gallai eich amcangyfrif hefyd ddangos faint y gallech chi ei gael pe baech chi'n parhau i weithio nes bod y cynllun wedi'i drefnu i dalu allan.
Yn aml, gallwch chi gymryd hyd at 25% o'ch pensiwn fel swm cyfandaliad di-dreth, felly dylai eich datganiad hefyd ddangos:
- a ydych chi'n cronni swm ar wahân i'w gymryd fel swm cyfandaliad di-dreth neu
- faint y byddai eich incwm yn lleihau pe baech chi'n cymryd rhywfaint fel swm cyfandaliad di-dreth.
Cam 2: Gwiriwch eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Mae faint o Bensiwn y Wladwriaeth y byddwch chi'n ei gael yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
I weld faint rydych chi ar y trywydd i'w gael, gallwch wirio eich rhagolwg Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Cyn belled nad ydych chi'n cyrraedd eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd o fewn 30 diwrnod, gallwch hefyd gael copi o'ch rhagolwg drwy:
- ffonio llinell gymorth Canolfan Pensiwn y DyfodolYn agor mewn ffenestr newydd
- gwneud cais drwy'r postYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw'ch rhagolwg yn dangos nad ydych chi'n gymwys i gael y swm llawn, mae yna ffyrdd o gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: sut mae’n gweithio
Cam 3: Ystyriwch unrhyw incwm ymddeol arall a allai fod gennych
Meddyliwch am yr holl ffynonellau incwm rydych chi'n bwriadu eu cael yn ystod eich ymddeoliad a phryd y gallent ddechrau neu roi'r gorau i dalu.
Er enghraifft, efallai bod gennych chi rywfaint o incwm o:
- waith
- budd-daliadau
- cynilion a buddsoddiadau, gan gynnwys incwm rhent.
Cam 4: Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Pensiwn
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Pensiwn i weld faint o incwm ymddeol y gallech fod ei angen a faint rydych chi'n debygol o'i gael o'ch pensiynau.
Gallwch hefyd weld sut y gallai amcangyfrif o’ch incwm godi neu ostwng os byddwch chi'n newid:
- faint rydych chi'n ei dalu i mewn
- eich oedran ymddeol arfaethedig.
Cam 5: Chwiliwch am ffyrdd o hybu eich incwm ymddeol
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gynyddu eich incwm ymddeol, gan gynnwys:
- talu mwy i mewn i bensiwn – gallai eich cyflogwr hefyd gyfateb eich cyfraniadau
- gwirio eich bod yn cael yr holl ryddhad treth rydych yn gymwys ar ei gyfer
- sicrhau eich bod ar y trywydd ar gyfer y Pensiwn y Wladwriaeth uchaf
- gohirio eich dyddiad ymddeol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Ffyrdd o roi hwb i'ch pensiwn.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio a oes gennych hawl i unrhyw daliadau neu grantiau ychwanegol.