Darganfyddwch faint o arian y mae'n debygol y bydd ei angen arnoch ar gyfer ymddeoliad cyfforddus a faint rydych chi ar y trywydd i'w gael ar hyn o bryd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Pensiwn
- Cam 1: Amcangyfrifwch pa mor hir y mae eich ymddeoliad yn debygol o fod
- Cam 2: Cyfrifwch eich costau ar ôl i chi ymddeol
- Cam 3: Cyfrifwch gyfanswm yr incwm rydych chi'n debygol o'i gael
- Cam 4: Cymharwch eich incwm â'ch costau
- Cam 5: Gwiriwch a oes modd cynyddu eich incwm
- Cael arweiniad am ddim ar eich opsiynau pensiwn
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Pensiwn
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell pensiwn i weld faint o incwm ymddeoliad rydych chi'n debygol o’i:
- angen – yn seiliedig ar eich cyflog presennol
- gael – yn seiliedig ar eich gwerthoedd pensiwn cyfredol a'r oedran yr hoffech ymddeol.
Gallwch hefyd weld sut y gallai eich incwm amcangyfrifedig godi neu ostwng os byddwch chi'n newid:
- faint rydych chi'n talu i mewn
- eich oedran ymddeol arfaethedig.
Fel arall, bydd y camau yn y canllaw hwn yn eich helpu i weithio allan faint o arian y gallai fod ei angen arnoch ar gyfer ymddeoliad cyfforddus.
Cam 1: Amcangyfrifwch pa mor hir y mae eich ymddeoliad yn debygol o fod
Mae faint o arian y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich ymddeoliad yn dibynnu’n bennaf ar:
- bryd rydych chi'n bwriadu rhoi'r gorau i gael incwm arall (fel cyflogau o weithio), ac
- am ba mor hir y disgwylir i chi fyw.
Ni fydd y rhan fwyaf ohonom yn gwybod pa mor hir fydd hyn, ond gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell disgwyliad oesYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gael syniad bras.
Mae llawer o bobl hefyd yn tanamcangyfrif pa mor hir y bydd eu hymddeoliad yn para, felly mae’n syniad da i gynllunio am o leiaf ychydig o flynyddoedd yn fwy na’r disgwyl.
Er enghraifft, os ydych chi'n bwriadu rhoi'r gorau i weithio yn 68 oed ac yn gobeithio byw hyd at 90 oed, byddai eich ymddeoliad yn para tua 22 mlynedd. Yn yr achos hwn, mae'n werth cynllunio i'ch arian bara am o leiaf 25 mlynedd
Pa oedran alla i ymddeol?
Gallwch ddewis ymddeol ar unrhyw oedran, ond efallai y bydd yn rhaid i chi aros i gymryd eich pensiwn. Gallai hyn olygu na allwch fforddio ymddeol nes i chi gyrraedd oedran penodol.
Ar gyfer pensiynau preifat rydych wedi cynilo ynddynt, yr oedran cynharaf y gallwch fel arfer gymryd eich arian yw 55 oed (57 o Ebrill 2028), oni bai eich bod angen ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael neu mae’ch cynllun yn nodi oedran gwarchodedig cynharach.
Ond mae'r rhan fwyaf o bensiynau wedi'u cynllunio i dalu tua deng mlynedd yn ddiweddarach, felly byddwch yn aml yn cael llai os byddwch chi'n ei gymryd yn gynharach nag oedran pensiwn arferol eich cynllun.
Ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth, dim ond pan fyddwch chi'n cyrraedd eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ac yn ei hawlio y mae'n dechrau.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Pryd allaf gymryd arian o fy mhensiwn?
Cam 2: Cyfrifwch eich costau ar ôl i chi ymddeol
Er mwyn helpu i weithio allan faint o incwm ymddeoliad y gallai fod ei angen arnoch, mae'n syniad da i feddwl am y costau rydych chi'n debygol o gael o hyd.
Er enghraifft:
- biliau rheolaidd – fel nwy, trydan, bwyd, yswiriant, rhent neu forgais
- costau teithio – fel tanwydd, tocynnau trên neu fws
- costau byw eraill – fel dillad, bwyta allan a chostau gofal
- costau untro – fel atgyweiriadau brys, gwelliannau cartref a gwyliau.
Os ydych chi'n hyderus na fydd gennych forgais neu rent i'w dalu wrth ymddeol, mae'r Retirement Living Standards yn rhestru faint o incwm y gallai fod ei angen arnoch bob blwyddynYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer gwahanol fathau o ffyrdd o fyw.
Am amcangyfrif mwy manwl ac i restru eich treuliau yn y dyfodol, gallwch ddefnyddio ein:
Cam 3: Cyfrifwch gyfanswm yr incwm rydych chi'n debygol o'i gael
Nesaf, meddyliwch am yr holl ffynonellau incwm rydych chi'n bwriadu eu cael wrth ymddeol a phryd y gallant ddechrau neu ddod i ben.
Er enghraifft, efallai y bydd gennych incwm o:
- bensiwn preifat
- pensiwn y Wladwriaeth
- gweithio
- budd-daliadau
- cynilion a buddsoddiadau, gan gynnwys incwm rhenti.
Fel arfer, gallwch fewngofnodi i gyfrif ar-lein eich darparwr pensiwn neu wirio cyfriflenni diweddar i ddarganfod:
- faint yw gwerth eich pensiwn ar hyn o bryd
- faint yr amcangyfrifir i'ch pensiwn ei dalu ar eich oedran pensiwn arferol.
Am fwy o help, gweler ein canllawiau:
Deall sut mae eich incwm pensiwn preifat yn gweithio
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, gall eich pensiwn godi a gostwng mewn gwerth nes i chi gymryd yr arian.
Mae eich amcangyfrif hefyd fel arfer yn seiliedig arnoch yn trosglwyddo eich holl arian yn incwm gwarantedig ar oedran pensiwn arferol eich cynllun. Gelwir hyn yn prynu blwydd-dal a bydd yn seiliedig ar gyfraddau cyfredol y farchnad.
Mae hyn yn golygu y gallech gael swm gwahanol os dewiswch ddull gwahanol, megis:
- cymryd hyd at 25% fel cyfandaliad di-dreth a gadael y gweddill nes ei fod ei angen arnoch – a elwir yn tynnu pensiwn i lawr
- cymryd un neu fwy o gyfandaliadau, gyda hyd at 25% o bob swm yn cael ei dalu'n ddi-dreth.
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, byddwch yn cael incwm gwarantedig yn seiliedig ar eich cyflog, pa mor hir y gwnaethoch chi weithio i'ch cyflogwr ac unrhyw gynnydd blynyddol y gallai eich darparwr eu cymhwyso.
Yn aml, gallwch gymryd cyfandaliad di-dreth, ond gallai hyn leihau faint o incwm rydych chi'n ei gael.
Darganfyddwch eich math o bensiwn gan ddefnyddio ein teclyn neu gofynnwch i'ch darparwr pensiwn
Gwiriwch faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei ddisgwyl.
Gallwch wirio eich rhagolwg Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i weld:
- faint rydych chi’n debygol o’i gael
- pryd allwch chi ei hawlio.
Os nad ydych chi'n debygol o gael y swm llawn, mae yna ffyrdd y gallwch chi ei gynyddu.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu ym mis Ebrill bob blwyddyn, felly bydd y swm gwirioneddol y byddwch chi'n ei gael yn y dyfodol yn uwch na'r swm mae’ch rhagolwg yn ei ddangos. Am ragor o wybodaeth, gweler Beth yw clo triphlyg Pensiwn y Wladwriaeth?
Cam 4: Cymharwch eich incwm â'ch costau
Edrychwch ar eich costau yn y dyfodol i weld a yw eich incwm ymddeoliad amcangyfrifedig yn ddigon i'w dalu - neu os ydych chi'n debygol o wynebu diffyg.
Gwiriwch pa mor aml y byddwch chi'n derbyn eich incwm
Hyd yn oed os yw'ch incwm yn ddigonol i dalu'ch costau, efallai y bydd angen newid eich arferion cyllidebu gan fod pensiynau'n cael eu talu ar wahanol adegau.
Er enghraifft:
- mae Pensiwn y Wladwriaeth yn swm wythnosol a delir bob pedair wythnos
- mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn aml yn talu unwaith y mis
- gellir cymryd pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio fel:
- incwm misol rheolaidd
- incwm pan fyddwch chi ei angen.
Cam 5: Gwiriwch a oes modd cynyddu eich incwm
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gynyddu eich incwm ymddeoliad, gan gynnwys:
- talu mwy – mae’n bosibl y bydd eich cyflogwr yn gwneud cyfraniad cyfatebol
- gwirio eich bod chi'n cael yr holl ryddhad treth rydych chi'n gymwys amdano
- sicrhau eich bod wedi cyfrannu digon i gael y Pensiwn y Wladwriaeth llawn
- ohirio eich dyddiad ymddeol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Ffyrdd o roi hwb i'ch pensiwn.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein Cyfrifiannell budd-daliadau i wirio a oes gennych hawl i unrhyw daliadau neu grantiau ychwanegol.
Cael arweiniad am ddim ar eich opsiynau pensiwn
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, rydym yn cynnig apwyntiadau Pension Wise am ddim i'ch helpu i ddeall yr opsiynau ar gyfer cymryd eich arian.
Gallwch gael apwyntiad os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio yn y DU ac rydych:
- yn 50 oed neu'n hŷn
- o dan 50 oed ac:
- yn ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael neu
- wedi etifeddu pensiwn.
Gallwch gael apwyntiad ar-lein ar unrhyw adeg neu drefnu dyddiad ac amser gydag un o'n harbenigwyr pensiwn.
Oes gennych gwestiynau eraill am eich pensiwn?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich pensiwn, gall ein harbenigwyr pensiwn eich helpu – does dim ots am eich oedran.
Gallwch:
- ddefnyddio ein gwe-sgwrs
- ffonio ar 0800 756 1012Yn agor mewn ffenestr newydd
- Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein.
Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.