Os yw'ch cyflogwr yn cynnig paru cyfraniadau, byddant yn talu mwy i'ch pensiwn pan fyddwch chi'n talu mwy i mewn. Os gallwch fforddio gwneud hynny, mae'n ffordd hawdd o roi hwb i'ch cynilion erbyn i chi ymddeol - yn aml gan filoedd o bunnoedd.
Beth yw paru cyfraniadau pensiwn?
Mae paru cyfraniadau yn eithaf syml – os ydych chi'n talu mwy i mewn i'ch pensiwn, bydd eich cyflogwr yn talu mwy hefyd. Os yw'ch cyflogwr yn cynnig hyn, byddant yn penderfynu ar yr uchafswm y byddant yn ei gyfrannu.
Enghraifft: Os bydd eich cyflogwr yn paru hyd at 10% o'ch cyflog, byddant fel arfer yn talu:
5% os ydych chi'n talu 5% i mewn
8% os ydych chi'n talu 8% i mewn
10% os ydych chi'n talu 10% i mewn.
Neu unrhyw swm yn y canol. Yn yr enghraifft hon, gallwch dalu mwy na 10% o'ch cyflog ond bydd eich cyflogwr ond yn talu 10% i mewn.
Efallai y bydd rhai cyflogwyr hefyd yn talu mwy na chi. Er enghraifft, gallent dalu 10% i mewn os ydych chi'n talu 5% i mewn, 12% os ydych chi'n talu 6% i mewn ac yn y blaen hyd at derfyn uchaf penodol.
Gall paru cyfraniadau roi hwb i'ch pensiwn o filoedd
Gall hyd yn oed 1% ychwanegol gan eich cyflogwr olygu bod eich pensiwn yn cael hwb o gannoedd neu filoedd o bunnoedd bob blwyddyn.
Dyma sut y gall paru cyfraniadau roi hwb i'ch pensiwn, yn seiliedig ar gyflogwr sy'n paru cyfraniadau ar gyflog llawn o £20,000.
Paru cyfraniad | Swm blynyddol i mewn i'ch pensiwn |
---|---|
5% |
£2,000 |
6% |
£2,400 |
7% |
£2,800 |
8% |
£3,200 |
Rydych chi'n aml yn cael dros dwbl y swm rydych chi'n ei dalu
Mantais arall o baru cyfraniadau yw na fydd eich cyflog fel arfer yn gostwng gan y swm llawn sy'n mynd i'ch pensiwn, gan eich bod fel arfer yn osgoi talu Treth Incwm.
Er enghraifft, os ydych chi'n talu treth cyfradd sylfaenol o 20%, mae hyn yn golygu mai dim ond £80 y bydd eich cyflog fel arfer yn gostwng am bob cyfraniad pensiwn o £100 y gwnewch.
Ynghyd â pharu cyfraniadau uwch, gall hyd yn oed cynnydd bach i faint rydych chi'n talu i mewn roi hwb sylweddol i chi.
Dyma enghraifft, yn seiliedig ar gyfanswm y cyfraniadau sy'n cael eu gwneud ar gyflog llawn o £20,000.
Eich cyfraniad | Cyfraniad eich cyflogwr | Cyfanswm y cyfraniad blynyddol | Byddai eich cyflog yn gostwng gan |
---|---|---|---|
£1,000 (5%) |
£1,000 (5%) |
£2,000 |
£800 |
£1,200 (6%) |
£1,200 (6%) |
£2,400 |
£960 |
£1,400 (7%) |
£1,400 (7%) |
£2,800 |
£1,120 |
£1,600 (8%) |
£1,600 (8%) |
£3,200 |
£1,280 |
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Oes rhaid i'm cyflogwr baru fy nghyfraniadau pensiwn?
Nid oes angen i'ch cyflogwr gynnig paru cyfraniadau, ond mae'n rhaid iddynt sefydlu a thalu o leiaf 3% o'ch cyflog yn awtomatig i bensiwn gweithle os ydych chi:
yn ennill dros £10,000 y flwyddyn
rhwng 22 oed a’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Rhaid i'ch cyflogwr hefyd dalu o leiaf 3% os gofynnwch i ymuno â'u pensiwn a’ch bod:
yn ennill rhwng £6,240 a £10,000 y flwyddyn
rhwng 16 a 75 oed.
Os ydych chi'n ennill llai na £6,240 y flwyddyn, gallwch ofyn i ymuno â chynllun pensiwn ond efallai na fyddwch yn cael cyfraniadau cyflogwr.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Cyfrifiannell paru cyfraniadau pensiwn
Mae ein Cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn yn y gweithle yn dangos faint yn ychwanegol y gallech ei gael os yw'ch cyflogwr yn paru'ch cyfraniadau uwch.
Sut i wneud y gorau o gyfraniadau
Dyma sut i gael y cyfraniadau pensiwn uchaf gan eich cyflogwr y gallwch ei fforddio.
Cam 1: Gwiriwch faint y bydd eich cyflogwr yn ei baru
Gofynnwch i'ch cyflogwr beth yw eu cyfradd uchaf o gyfraniadau, a beth sydd angen i chi ei wneud i'w gael.
Er enghraifft, os yw'ch cyflogwr yn cynnig cyfraniadau sy'n cyfateb i hyd at 10%, gwiriwch a fydd angen i chi dalu 10% hefyd.
Cam 2: Edrychwch faint fyddai eich cyfraniadau ychwanegol
Mae ein Cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn yn y gweithle yn dangos i chi faint fyddai eich cyfraniadau pensiwn pe baech chi'n newid y gyfradd rydych chi'n ei dalu.
Dechreuwch drwy nodi'r ganran uchaf y bydd eich cyflogwr yn ei gyfateb i weld faint yn ychwanegol y byddai angen i chi ei gynilo. Yna gallwch roi cynnig ar ganrannau is i weld y gwahaniaeth.
Cam 3: Gwiriwch faint yn ychwanegol y gallwch fforddio ei gynilo
Cyn newid eich cyfraniadau pensiwn, sicrhewch y byddwch yn cadw digon o'ch cyflog i dalu am eich costau – gan gynnwys arian ar gyfer treuliau annisgwyl.
Gall ein Cynllunydd cyllideb am ddim gyfrifo faint o arian sbâr sydd gennych ar ôl talu'ch holl filiau a chostau eraill.
Mae unrhyw arian rydych chi'n ei gynilo mewn pensiwn fel arfer wedi'i gloi tan 55 oed (57 o Ebrill 2028), felly mae'n syniad da cael mathau eraill o gynilion y gallwch gael mynediad atynt.
Cam 4: Gofynnwch i'ch cyflogwr gynyddu eich cyfraniadau
Ar ôl i chi benderfynu faint ychwanegol yr hoffech ei gynilo i'ch pensiwn, gofynnwch i'ch cyflogwr gynyddu eich cyfraniadau.
Ar ôl i'r newid ddechrau, gwiriwch eich slip cyflog i sicrhau bod popeth yn gywir.
Os ydych chi'n sylwi ar broblem, gweler ein canllaw Help os yw'ch cyflogwr yn methu â thalu i'ch pensiwn.
Cam 5: Adolygwch eich cyfraniadau pensiwn yn rheolaidd
Mae'n syniad da gwirio'n rheolaidd a allwch fforddio talu mwy i'ch pensiwn – hyd yn oed os na fydd eich cyflogwr yn paru swm uwch.
Gall ein Cyfrifiannell pensiynau ddangos amcangyfrif o'ch incwm ar gyfer ymddeol, a sut y gallai newid pe baech chi'n newid eich cyfraniadau.