Pan fyddwch yn talu i mewn i'ch pensiwn, mae'r llywodraeth fel arfer yn ychwanegu taliad atodol o'r enw rhyddhad treth. Dyma'r arian y byddech fel arfer yn ei dalu mewn Treth Incwm. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod a phryd y mae angen i chi hawlio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw rhyddhad treth pensiwn?
- Sut i hawlio rhyddhad treth pensiwn
- Faint o ryddhad treth y gallaf ei gael?
- Beth sy'n digwydd os byddaf yn talu i mewn i bensiwn rhywun arall?
- Mae rhyddhad treth pensiwn yn gweithio'n wahanol ar gyfer aberthu cyflog
- Rhyddhad treth pensiwn os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig
- Teclynnau defnyddiol
Beth yw rhyddhad treth pensiwn?
Byddwch yn aml yn talu Treth Incwm ar arian a gewch. Ond os ydych yn rhoi'r arian hwnnw mewn pensiwn, mae'r dreth y byddech fel arfer yn ei thalu yn cael ei hychwanegu at eich pensiwn yn lle hynny.
Gelwir hyn yn rhyddhad treth ac mae'n golygu bod eich cynilion fel arfer yn cael hwb o 20% neu fwy, yn dibynnu ar gyfradd eich Treth Incwm. Mae'n un o'r pethau gorau am gynilo i mewn i bensiwn.
Sut i hawlio rhyddhad treth pensiwn
Mewn llawer o achosion, ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth gan y bydd eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn yn gweithredu rhyddhad treth yn awtomatig ar eich rhan.
Ond fel arfer bydd angen i chi hawlio rhyddhad treth eich hun os ydych yn talu i mewn i hen gontract blwydd-dal ymddeoliad. Mae ein canllaw ar gontractau blwydd-dal ymddeol yn esbonio beth i'w wneud.
Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd camau ychwanegol hefyd os:
- nad ydych yn ennill digon i dalu Treth Incwm neu
- talu Treth Incwm ar gyfradd uwch nag 20%.
Gallwch weld bandiau Treth IncwmYn agor mewn ffenestr newydd a bandiau Treth Incwm yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Dyma beth i'w wirio.
Cam 1: Gwiriwch sut mae eich rhyddhad treth yn cael ei hawlio
Mae dwy ffordd o hawlio rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn:
- Rhyddhad yn y ffynhonnell – mae eich darparwr pensiwn yn hawlio rhyddhad treth o 20% gan y llywodraeth.
- Tâl net – mae eich cyfraniadau pensiwn yn cael eu gwneud cyn i chi gael eich trethu, felly rydych yn talu Treth Incwm ar incwm is.
Os oes gennych bensiwn gweithle, gofynnwch i'ch cyflogwr pa ddull y mae'n ei ddefnyddio neu wiriwch y gwaith papur ar gyfer eich cynllun. Os ydych yn sefydlu eich pensiwn eich hun, bydd rhyddhad yn y ffynhonnell yn cael ei ddefnyddio.
Cam 2: Cael yr holl ryddhad treth rydych yn gymwys i'w gael
Mae eich camau nesaf yn dibynnu ar sut mae eich rhyddhad treth yn cael ei ddefnyddio.
Os defnyddir rhyddhad yn y ffynhonnell
Yn ei hanfod, mae rhyddhad yn golygu bod eich darparwr pensiwn yn hawlio'r Dreth Incwm rydych eisoes wedi'i thalu ar yr arian, ond ar gyfradd sefydlog o 20% i bawb.
Os ydych yn talu Treth Incwm ar gyfradd uwch nag 20%, bydd angen i chi hawlio'r gostyngiad treth ychwanegol eich hun drwy:
Enghraifft: Os ydych yn talu Treth Incwm ar 40%, gallwch hawlio 20% yn ychwanegol mewn rhyddhad treth. Mae hyn yn golygu y bydd cyfraniad o £100 i'ch pensiwn yn costio £60 i chi, gan fod eich darparwr pensiwn wedi hawlio £20 mewn rhyddhad treth a'ch bod wedi hawlio £20 arall yn ôl.
Bydd angen i chi hawlio am bob blwyddyn dreth rydych yn gymwys ac fel arfer gallwch ôl-ddyddio hawliad am y tair blynedd dreth ddiwethaf. Byddwch naill ai'n derbyn y rhyddhad treth ychwanegol fel:
- ad-daliad ar ddiwedd y flwyddyn dreth
- newid i'ch cod treth fel bod llai o dreth yn cael ei dynnu oddi ar eich incwm yn y dyfodol
- gostyngiad yn eich bil treth os oes arnoch chi ddyled o dreth i CThEF
Os nad ydych yn drethdalwr neu'n talu'r gyfradd gychwynnol o 19% yn yr Alban, mae gennych hawl i gadw'r rhyddhad treth o 20% cyn belled nad ydych yn cyfrannu mwy nag yr ydych yn ei ennill.
Os ydych yn ennill llai na £3,600 y flwyddyn, gallwch gael rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn rydych yn eu gwneud hyd at £2,880 bob blwyddyn dreth.
Os defnyddir tâl net
tâl net yw lle:
- mae'ch cyflogwr yn gwneud eich cyfraniad pensiwn cyn cyfrifo treth
- rydych yn talu Treth Incwm ar eich cyflog, llai eich cyfraniad pensiwn.
Mae hyn yn golygu eich bod yn cael y swm cywir o ryddhad treth, heb fod angen hawlio unrhyw symiau ychwanegol gan CThEF.
Ond os nad ydych yn ennill digon i dalu treth, does dim bil treth i'w leihau - felly dydych chi ddim yn elwa o ryddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn.
Er mwyn datrys hyn, o fis Ebrill 2025, dylai pobl nad ydynt yn drethdalwyr dderbyn taliad atodol i dalu'r rhyddhad treth y dylid fod wedi'i roi ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25.
Bydd hyn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i chi, nid i mewn i'ch pensiwn, felly bydd yn cael ei ychwanegu at eich incwm ar gyfer dibenion treth.
Faint o ryddhad treth y gallaf ei gael?
Bob blwyddyn dreth hyd nes eich bod yn 75 oed, fel arfer gallwch gael gostyngiad treth ar eich holl gyfraniadau pensiwn hyd at:
- y swm rydych yn ei ennill (gweler beth sy'n cyfrif fel 'enillion perthnasol y DU'Yn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK) a
- eich lwfans blynyddol – mae hyn yn £60,000 ar gyfer y rhan fwyaf ac yn cynnwys yr holl daliadau i'ch pensiwn, gan gynnwys unrhyw un gan eich cyflogwr.
Os ydych yn ennill llai na £3,600, gallwch gael ryddhad treth ar hyd at £2,880 o'ch cyfraniadau pensiwn.
Nid yw cyfraniadau pensiwn a wneir ar ôl 75 oed yn gymwys i gael rhyddhad treth.
Sut mae'r lwfans blynyddol yn gweithio
Mae'r Y lwfans blynyddol ar gyfer rhyddhad treth ar gynilion pensiwn yn cynnwys pob taliad i'ch pensiwn bob blwyddyn dreth – eich un chi, eich cyflogwr ac unrhyw daliadau un-tro.
Enghraifft: Os ydych yn ennill £25,000 y flwyddyn, fel arfer gallwch dalu hyd at £25,000 i mewn i'ch pensiwn heb dalu treth (£20,000 o'ch arian a £5,000 mewn rhyddhad treth). Os byddwch yn gwneud hyn, gallai eich cyflogwr gyfrannu £35,000 arall yn ddi-dreth.
Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio (a elwir yn aml yn gynllun cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa), mae'r lwfans blynyddol yn cyfrif faint mae eich pensiwn wedi cynyddu, yn hytrach na'r cyfraniadau a dalwyd i mewn.
Gwiriwch faint yw eich lwfans blynyddol
Y lwfans blynyddol safonol yw £60,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25, ond gallai fod yn:
- rhwng £60,000 a £10,000 os ydych yn ennill dros £200,000, sef y lwfans blynyddol sy’n lleihau’n raddol
- £10,000 os ydych wedi cymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, sef y Y lwfans blynyddol taprog ar gyfer cynilion pensiwn di-dreth.
Efallai y byddwch chi neu'ch cyflogwr hefyd yn gallu cyfrannu mwy na'ch lwfans blynyddol a dal i gael rhyddhad treth. Mae hyn oherwydd y gallwch weithiau ddefnyddio lwfansau nas defnyddiwyd o'r tair blynedd dreth flaenorol.
Gweler ein canllaw Cario ymlaen: cynyddu eich lwfans blynyddol ar gyfer cynilion pensiwn gael mwy o wybodaeth.
Byddwch yn talu tâl treth os byddwch yn mynd dros eich lwfans
Os yw'ch cynilion pensiwn yn uwch na'ch lwfans blynyddol, fel arfer bydd angen i chi dalu tâl treth lwfans blynyddol. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r rhyddhad treth a roddwyd.
Gweler ein canllaw llawn am y Y lwfans blynyddol ar gyfer rhyddhad treth ar gynilion pensiwn am fwy o wybodaeth.
Beth sy'n digwydd os byddaf yn talu i mewn i bensiwn rhywun arall?
Os oes rhywun arall eisiau talu i mewn i'ch pensiwn, neu os ydych am dalu i mewn i’w pensiwn nhw, bydd angen i chi ofyn i'r cyflogwr a/neu'r darparwr pensiwn os yw'n caniatáu hynny yn gyntaf.
Os yw'n opsiwn, ystyrir bod yr holl gyfraniadau i'ch pensiwn (ac eithrio gan eich cyflogwr) yn cael eu hystyried fel rhai sy’n cael eu gwneud gennych chi at ddibenion rhyddhad treth – hyd yn oed os ydynt yn cael eu talu i mewn gan rywun arall.
Mae hyn yn golygu bod swm y rhyddhad treth a gewch yn dibynnu ar eich enillion perthnasol yn y DU, nid y person sy'n talu'r arian i mewn.
Mae rhyddhad treth pensiwn yn gweithio'n wahanol ar gyfer aberthu cyflog
Os ydych yn talu i mewn i'ch pensiwn gan ddefnyddio aberthu cyflog, caiff eich cyfraniad ei drin fel pe bai'n cael ei wneud gan eich cyflogwr.
Mae hyn yn golygu nad ydych yn cael rhyddhad treth yn y ffordd safonol. Yn hytrach, gan eich bod wedi ildio cyfran o'ch cyflog, byddwch yn talu llai o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol drwy gael cyflog is – yn aml yn gwneud eich tâl cymryd adref yn uwch.
Fel arfer, bydd eich cyflogwr yn talu llai o gyfraniadau Yswiriant Gwladol hefyd, felly gallai ychwanegu peth neu'r cyfan o'r cynilo hwn at eich cyfraniad pensiwn.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw ar ddefnyddio aberth cyflog i dalu i mewn i'ch pensiwn.
Rhyddhad treth pensiwn os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig
Os ydych yn rhedeg eich cwmni cyfyngedig eich hun, fel arfer gallwch benderfynu pa daliadau i'ch pensiwn sy'n cael eu gwneud fel:
- cyfraniadau o’ch cyflog.
- cyfraniadau cyflogwr gan eich cwmni.
Er mwyn i gyfraniadau gweithiwr cyflogedig fod yn gymwys i gael gostyngiad treth, mae angen i chi sicrhau:
- bod y swm rydych yn ei dalu i mewn yn llai na'ch enillion neu'n hafal i'ch enillion yn ystod y flwyddyn dreth (nid yw difidendau yn cyfrif fel enillion) a
- bod y cyfanswm a dalwyd i mewn i'ch pensiwn yn llai na'ch Y lwfans blynyddol ar gyfer rhyddhad treth ar gynilion pensiwn, gan gynnwys unrhyw swm a wneir fel cyfraniadau cyflogwr.
Gellir didynnu cyfraniadau cyflogwr fel cost busnes
Nid yw cyfraniadau cyflogwyr yn gymwys i gael rhyddhad treth, ond fel arfer gellir eu didynnu fel cost busnes i leihau faint o dreth gorfforaeth y mae angen i chi ei thalu.
Caniateir hyn cyn belled â bod cyfraniadau pensiwn y cyflogwr yn 'gyfan gwbl ac yn unig' at ddibenion busnes, sydd fel arfer yn golygu eu bod yn swm rhesymol am y gwaith sy'n cael ei wneud.
Er enghraifft, defnyddir symiau cyson ar gyfer unrhyw staff sy'n gwneud swyddi tebyg ac nid yw cyfraniadau pensiwn yn uwch nag elw blynyddol.
Am fwy o wybodaeth am y prawf yn gyfan gwbl ac yn unig, gweler Llawlyfr Incwm Busnes CThEFYn agor mewn ffenestr newydd
Ystyriwch gyngor gan ymgynghorydd ariannol
Mae'n syniad da siarad ag ymgynghorydd ariannol, gan y gallant egluro'r rheolau a chyfrifo beth sydd orau i'ch sefyllfa.
Er enghraifft, os byddwch yn gwneud cyfraniad mawr i bensiwn cyflogwr, bydd eich elw a swm y difidend y gallwch ei gymryd yn cael ei leihau.