Un ffordd o ychwanegu at eich cynilion pensiwn yw drwy wneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (AVCs) – naill ai drwy dalu mwy i'ch cynllun presennol neu sefydlu pensiwn newydd. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth yw cyfraniadau pensiwn gwirfoddol?
Cyfraniadau pensiwn gwirfoddol yw lle rydych chi'n talu mwy na'r isafswm sy'n ofynnol gan eich cynllun. Gall hyn olygu y bydd gennych fwy o arian i fyw pan fyddwch chi'n barod i ymddeol.
Gallwch hefyd roi hwb i'ch Pensiwn y Wladwriaeth trwy dalu i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Darganfod eich math o bensiwn gan ddefnyddio ein teclyn neu gofynnwch i'ch darparwr pensiwn
Beth yw manteision cyfraniadau gwirfoddol?
Os gallwch fforddio gwneud hynny, gall talu mwy i mewn i'ch pensiwn:
- roi mwy o arian i chi ar gyfer ymddeoliad cyfforddus
- gadael i chi benderfynu faint a pha mor aml i dalu i mewn – neu pryd i roi'r gorau iddi
- golygu eich bod yn talu llai o Dreth Incwm, gan eich bod fel arfer yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn.
Dyma'r buddion ychwanegol y byddwch chi'n eu cael fel arfer, yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych.
Cynlluniau cyfraniadau wedi'u diffinio – tyfwch eich cronfa bensiwn
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, mae'r swm y bydd yn ei dalu i chi wrth ymddeol yn dibynnu’n bennaf ar:
- faint sy'n cael ei dalu i mewn
- pa mor dda mae'r buddsoddiadau yn perfformio
- sut a phryd rydych chi'n dewis cymryd yr arian.
Trwy dalu mwy i mewn, rydych chi'n fwy tebygol o dyfu eich cynilion ymddeol – yn enwedig os bydd yr arian yn parhau i gael ei fuddsoddi am nifer o flynyddoedd cyn i chi gynllunio i'w gymryd.
Ond, fel pob buddsoddiad, gall eich pensiwn godi a gostwng mewn gwerth nes i chi gymryd yr arian - felly does dim sicrwydd y bydd eich cronfa’n tyfu.
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell Pensiwn i weld sut y gallai cyfraniadau ychwanegol newid eich incwm ymddeoliad posibl.
Os ydych chi'n gyflogedig, gallai cynyddu eich cyfraniadau pensiwn hefyd olygu y bydd eich cyflogwr yn talu mwy i'ch pensiwn hefyd. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am baru cyfraniadau.
Cynlluniau buddion wedi’u diffinio – efallai y cewch incwm gwarantedig ychwanegol
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, mae'r swm y byddwch chi'n ei gael wrth ymddeol yn dibynnu ar eich cyflog a pha mor hir y gwnaethoch chi weithio i'r cyflogwr hwnnw.
Os yw'ch cynllun yn caniatáu i chi wneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (AVCs), gwiriwch a fyddwch chi'n talu i mewn i un o’r canlynol:
- cynllun AVC buddion wedi’u diffinio – lle bydd eich cyfraniadau ychwanegol yn mynd i'ch pensiwn presennol i roi buddion neu incwm gwarantedig ychwanegol i chi
- cynllun AVC cyfraniadau wedi’u diffinio – lle byddwch chi'n tyfu cronfa ar wahân o arian sy'n cael ei fuddsoddi, fel y gall godi a gostwng nes i chi ei gymryd.
Ar gyfer cynlluniau AVC buddion wedi’u diffinio, gallai manteision cyffredin gynnwys:
- blynyddoedd ychwanegol – mae eich incwm pensiwn yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar gofnod gwasanaeth hirach
- gwell cyfradd gronni – mae eich incwm pensiwn yn cael ei gyfrifo ar gyfran uwch o'ch cyflog
- incwm pensiwn ychwanegol – bydd eich AVCs yn rhoi swm arall o incwm gwarantedig i chi bob mis
- cyfandaliad di-dreth yn fwy – efallai y bydd eich AVCs yn caniatáu i chi gymryd cyfandaliad pan fyddwch yn ymddeol heb leihau eich incwm rheolaidd yn y dyfodol
- dyddiad ymddeol cynharach – gallwch gymryd eich pensiwn llawn cyn i chi gyrraedd dyddiad ymddeol arferol eich cynllun.
Ar gyfer cynlluniau AVC cyfraniadau wedi’u diffinio, gallwch fel arfer ddewis sut a phryd rydych chi am gymryd eich cronfa o arian.
Er enghraifft, gallech ei gymryd i gyd ar unwaith, fel sawl cyfandaliad, ei drosi’n incwm gwarantedig neu gymysgedd o’r ddau.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth allaf ei wneud gyda fy nghronfa bensiwn?
A yw cyfraniadau pensiwn gwirfoddol yn ad-daladwy?
Cyn gwneud cyfraniadau pensiwn gwirfoddol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu fforddio cadw'r arian dan glo nes eich bod o leiaf yn 55 oed (57 o Ebrill 2028) – dyma'r cynharaf y gallwch chi gymryd eich arian pensiwn fel arfer.
Efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach os oes gennych gynllun AVC buddion wedi’u diffinio, gan na fydd y rhain yn aml yn dechrau talu nes i chi gyrraedd oedran ymddeol arferol eich cynllun. Yn aml, mae hyn yn cyfateb i’ch oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
Fel arfer, ni allwch gael ad-daliad o'ch cyfraniadau pensiwn, gan gynnwys cyfraniadau gwirfoddol, oni bai eich bod yn gadael eich:
- cynllun cyfraniadau wedi'u diffinio o fewn 30 diwrnod ar ôl ymuno
- cynllun buddion wedi'u diffinio o fewn dwy flynedd ar ôl ymuno.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i gael ad-daliad o'ch cyfraniadau pensiwn.
Sut i wneud cyfraniadau pensiwn gwirfoddol
Mae dwy ffordd i gyfrannu mwy i'ch pensiwn preifat.
Os ydych chi'n edrych i ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth, gweler ein canllaw Cynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.
Opsiwn 1: Talu mwy i'ch cynllun presennol
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, fel arfer gallwch newid faint ychwanegol rydych chi'n ei dalu drwy gysylltu â'ch:
- cyflogwr – os mai nhw a sefydlodd y cynllun
- darparwr pensiwn – os mai chi a sefydlodd y pensiwn eich hun.
I gael help i weithio allan faint ychwanegol i'w dalu, gallwch ddefnyddio ein:
- Cyfrifiannell pensiwn i weld y gwahaniaeth y gallai cyfraniadau ychwanegol ei wneud
- Cynlluniwr cyllideb i helpu i gyfrifo beth allwch chi ei fforddio.
Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio, gwiriwch a yw eich cynllun yn caniatáu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol.
Os ydyw, fel arfer gallwch ofyn i'ch cyflogwr newid faint ychwanegol sy'n cael ei gymryd o'ch cyflog bob mis – yn aml mae symiau ychwanegol y mae angen i chi eu talu.
Opsiwn 2: Sefydlu pensiwn newydd
Os nad yw'ch cynllun presennol yn cynnig cynllun AVC, neu os hoffech ddewis darparwr gwahanol, gallwch ddechrau cyfrannu at bensiwn newydd.
Byddwch yn ymwybodol bod yr holl bensiynau y gallwch eu sefydlu eich hun yn gyfraniad wedi'u diffinio, felly mae'r swm y bydd y cynllun yn ei dalu yn dibynnu’n bennaf ar faint sy’n cael ei dalu i mewn a pha mor dda y mae'r buddsoddiadau yn perfformio – nid oes unrhyw warantau.
Fel arfer, gallwch ddewis faint rydych chi eisiau talu i mewn a pha mor aml, oni bai bod gan y darparwr reolau ar isafswm taliadau. Byddwch yn trefnu sut mae'r taliadau'n cael eu gwneud gyda'r darparwr, gan na fyddant yn cael eu cymryd o'ch cyflog.
Am fwy o help, gweler ein canllaw Sut i ddechrau eich pensiwn eich hun.
Os ydych eisoes wedi sefydlu pensiwn ar wahân, gwiriwch y taliadau rydych chi'n eu talu
Os oeddech chi wedi sefydlu pensiwn ar wahân ochr yn ochr â'ch cynllun gweithle beth amser yn ôl, efallai y byddai hyn wedi cael ei alw'n bensiwn cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol annibynnol (FSAVC).
Gan fod taliadau cynlluniau pensiwn wedi bod yn lleihau dros amser, mae'n syniad da gweld a allai trosglwyddo i gynllun newydd arbed arian i chi.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Esboniad o ffioedd a thaliadau’r cynllun pensiwn.
Cael arweiniad am ddim ar eich opsiynau pensiwn
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio yn y DU, rydym yn cynnig apwyntiadau Pension Wise am ddim i'ch helpu i ddeall yr opsiynau ar gyfer cymryd eich arian.
Gallwch gael apwyntiad os ydych chi:
- 50 neu'n hŷn
- dan 50 oed ac:
- yn ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael neu
- wedi etifeddu pensiwn.
Gallwch gael apwyntiad ar-lein ar unrhyw adeg neu drefnu dyddiad ac amser gydag un o'n harbenigwyr pensiwn.
Oes gennych gwestiynau eraill am eich pensiwn?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich pensiwn, gall ein harbenigwyr pensiwn eich helpu – does dim ots am eich oedran.
Gallwch:
- ddefnyddio ein gwe-sgwrs
- ffonio ar 0800 011 3797Yn agor mewn ffenestr newydd
- Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein.
Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.