Mae pensiwn yn rhoi incwm i chi pan fyddwch chi'n hŷn, felly gallwch ymddeol a rhoi'r gorau i weithio – neu weithio llai. Gall hefyd helpu os oes angen i chi ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael. Rydym yn esbonio sut i sefydlu pensiwn os ydych chi'n hunangyflogedig.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw pensiwn hunangyflogedig?
- Ydw i’n cael Pensiwn y Wladwriaeth os ydw i’n hunangyflogedig?
- A ddylwn i ddechrau pensiwn os ydw i’n hunangyflogedig?
- Faint fydd pensiwn yn ei dalu i mi os ydw i’n hunangyflogedig?
- Beth yw’r math gorau o bensiwn os ydw i’n hunangyflogedig?
- Ystyried cyngor gan gynghorydd ariannol
Beth yw pensiwn hunangyflogedig?
Mae pensiwn wedi'i gynllunio i roi arian i chi fyw fel y gallwch roi'r gorau i weithio pan fyddwch chi'n hŷn, gan gynnwys os oes angen i chi ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael.
Os ydych chi'n hunangyflogedig, gallwch sefydlu eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio eich hun. Mae hyn yn golygu bod y swm y bydd yn ei dalu i chi yn dibynnu ar:
faint rydych chi'n talu i mewn
pa mor dda mae eich arian buddsoddi yn tyfu
y ffioedd a'r taliadau y byddwch chi'n eu talu
sut a phryd rydych chi'n dewis cymryd yr arian.
Pryd alla i gymryd arian o bensiwn hunangyflogedig?
Y cynharaf y gallwch chi gymryd arian o bensiwn fel arfer yw 55 oed (57 ar ôl Ebrill 2028), oni bai eich bod yn ymddeol yn gynnar oherwydd salwch neu bod eich cynllun yn rhestru oedran cynharach.
Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn wedi'u cynllunio i chi gymryd yr arian ar ôl 65 oed, gan eich bod fel arfer yn cael mwy os ydych chi'n aros.
Sut alla i gymryd arian o bensiwn hunangyflogedig?
Fel arfer, gallwch ddewis cymryd eich pensiwn fel:
un neu fwy o gyfandaliadau, gyda hyd at 25% yn ddi-dreth
incwm rheolaidd, gan gynnwys opsiwn gwarantedig am oes
incwm pan a phryd fydd ei angen arnoch.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw am eich Opsiynau i ddefnyddio eich cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Ydw i’n cael Pensiwn y Wladwriaeth os ydw i’n hunangyflogedig?
Gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth os ydych chi'n hunangyflogedig, os oes gennych gyflogwr neu nad ydych chi'n gweithio – mae'r cyfan yn gweithio yr un ffordd.
Faint o Bensiwn y Wladwriaeth fyddaf yn ei gael?
Mae faint o Bensiwn y Wladwriaeth y byddwch chi'n ei gael yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol pan fyddwch chi'n cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Gallwch wirio eich rhagolwg Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i weld faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych ar y trywydd i'w gael.
Fel arfer mae angen o leiaf:
35 mlynedd cymwys i dderbyn y swm llawn
deng mlynedd cymwys i gael unrhyw beth.
Byddwch yn cael swm rhyngddynt os oes gennych 11 i 34 mlynedd o gyfraniadau cymwys.
Sut ydw i’n gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydw i’n hunangyflogedig?
Os ydych chi'n hunangyflogedig, byddwch fel arfer yn gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol cymwys:
fel rhan o'ch ffurflen dreth Hunanasesu
gan ddefnyddio credydau Yswiriant GwladolYn agor mewn ffenestr newydd os ydych chi'n derbyn budd-daliadau penodol fel Budd-dal Plant a Chredyd Cynhwysol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: sut mae’n gweithio
A ddylwn i ddechrau pensiwn os ydw i’n hunangyflogedig?
Ar ei ben ei hun, mae'n annhebygol y bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi digon o arian i chi ar gyfer ymddeoliad cyfforddus - hyd yn oed os ydych chi'n gymwys ar gyfer yr uchafswm. Bydd angen i chi hefyd aros tan eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth i'w hawlio.
Mae dechrau eich pensiwn eich hun yn golygu y byddwch fel arfer yn:
cael mwy o arian i fyw arno ar ôl ymddeol
gallu cymryd eich pensiwn unrhyw bryd o 55 oed (57 o fis Ebrill 2028)
cael incwm os oes angen i chi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch.
Bydd llawer o ddarparwyr pensiwn yn gadael i chi ddewis faint rydych chi'n talu i mewn a pha mor aml – fel swm rheolaidd neu daliadau untro pan a phryd.
Fel arfer, rydych chi'n elwa o ryddhad treth pensiwn
Os ydych chi'n talu i mewn i bensiwn, mae'r llywodraeth fel arfer yn ychwanegu taliad ychwanegol o'r enw rhyddhad treth. Dyma'r arian y byddech chi'n ei dalu fel arfer mewn Treth Incwm.
Bydd y rhan fwyaf o bensiynau y gallwch chi eu cychwyn eich hunain yn hawlio rhyddhad treth yn awtomatig i chi, ar gyfradd sefydlog o 20%. Mae hyn yn golygu y bydd cyfraniad o £100 i'ch pensiwn yn costio £80 i chi.
Os ydych chi'n talu Treth Incwm ar gyfradd uwch na 20%, gallwch hawlio'r rhyddhad treth ychwanegol drwy gysylltu â CThEF neu gwblhau ffurflen dreth. Os ydych chi'n talu Treth Incwm ar 40%, mae hyn yn golygu y bydd cyfraniad pensiwn o £100 yn costio £60 i chi.
Fel arfer, bob blwyddyn dreth nes eich bod yn 75 oed, gallwch gael rhyddhad treth ar eich holl gyfraniadau pensiwn cyhyd ag:
nad ydych yn talu mwy nag yr ydych yn ei ennill ac
mae'r holl daliadau yn llai na'r lwfans blynyddol – £60,000 i'r mwyafrif.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Gallwch gyfuno pensiwn â ffyrdd eraill o gynilo
Mae pensiwn fel arfer yn tyfu'n gyflymach na mathau eraill o gynilion neu fuddsoddiadau wrth i ryddhad treth roi hwb i'ch cyfraniadau. Yn ogystal, mae ffioedd a thaliadau yn gyffredinol yn is na chynhyrchion buddsoddi eraill.
Ond gan fod yr arian wedi'i gloi i ffwrdd nes eich bod o leiaf yn 55 oed (57 ar ôl Ebrill 2028), mae'n syniad da cael cynilion eraill y gallwch eu cyrchu.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau cynilo a buddsoddi.
Faint fydd pensiwn yn ei dalu i mi os ydw i’n hunangyflogedig?
Os ydych chi'n hunangyflogedig, mae faint y bydd eich pensiwn yn ei dalu i chi yn dibynnu i raddau helaeth ar faint rydych chi'n ei dalu a faint sy'n cael ei ychwanegu o dwf buddsoddiad.
Mae hyn fel arfer yn golygu y bydd gennych fwy o arian wrth ymddeol os gallwch gynilo dros y cyfnod hiraf posibl.
Gall ein Cyfrifiannell pensiwn gyfrifo amcangyfrif o'ch incwm ymddeoliad, gan gynnwys faint y gallai fod ei angen arnoch a sut y gallai newid os byddwch yn cynilo mwy.
Enghraifft: Os ydych chi'n cynilo £200 i mewn i bensiwn bob mis, yn 65 oed gallai eich cronfa fod yn werth oddeutu:
£158,000 os ydych chi'n dechrau yn 20 oed
£112,000 os ydych chi'n dechrau yn 30 oed
£73,000 os ydych chi'n dechrau yn 40 oed
£40,000 os ydych chi'n dechrau yn 50 oed.
Beth yw’r math gorau o bensiwn os ydw i’n hunangyflogedig?
Os ydych chi'n hunangyflogedig, bydd angen i chi ddewis darparwr pensiwn a chynnyrch eich hun. Gelwir hyn yn bensiwn personol neu breifat.
Mae llawer o gynlluniau pensiwn personol yn cael eu rhedeg gan gwmnïau yswiriant, banciau neu gymdeithasau adeiladu.
Gallwch hefyd ystyried gynllun Nest a gaiff ei gefnogi gan y llywodraeth (National Employment Savings Trust).
Y prif wahaniaethau yw:
y ffioedd maen nhw'n eu codi
yr isafswm a'r uchafswm y gallwch gynilo
eich opsiynau ar gyfer buddsoddi eich arian.
Am gymorth cam wrth gam, gan gynnwys y gwahanol fathau a faint y dylech ei gynilo, gweler ein canllaw Dewis pensiwn eich hun.
Os ydych chi’n rhedeg cwmni cyfyngedig, ystyriwch gynllun pensiwn bach
Os ydych chi'n rhedeg cwmni cyfyngedig neu bartneriaeth, mae gennych yr opsiwn o sefydlu cynllun hunan-weinyddu bach (SSAS) i chi, eich gweithwyr ac aelodau o'ch teulu.
Gall hyd at 11 o bobl ymuno fel arfer, a fydd hefyd yn gweithredu fel ymddiriedolwyr y cynllun. Mae hyn yn golygu y gallwch benderfynu ar y cyd sut i fuddsoddi'r arian yn eich SSAS, gan gynnwys yr opsiwn i brynu eiddo busnes a chyfranddaliadau cwmni.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Pensiynau SSAS: cynlluniau hunan-weinyddu bach wedi’u hesbonio.
Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau wrth fuddsoddi eich arian pensiwn
Mae llawer o gyfleoedd buddsoddi ffug sydd wedi'u cynllunio i ddwyn eich arian pensiwn. Maent yn aml yn gwneud hyn trwy addo enillion uchel iawn neu ddefnyddio brandio cwmnïau go iawn.
Peidiwch byth ag ymuno â chynllun pensiwn na buddsoddi eich arian ar ôl galwad ffôn, e-bost neu neges destun diwahoddiad – neu os ydych chi'n teimlo o dan unrhyw bwysau. Mae'n debygol iawn o fod yn sgam ac efallai y byddwch chi'n colli eich arian.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i adnabod twyll pensiwn
Ystyried cyngor gan gynghorydd ariannol
Gall cynghorydd ariannol argymell cynllun pensiwn a dweud wrthych y ffordd orau o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad, gan gynnwys sut i fuddsoddi'ch arian.
Gall ein teclyn eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd ymddeol neu weler ein canllaw Dewis cynghorydd ariannol i gael rhagor o wybodaeth.