Mae eich pensiwn yn cael ei ddiogelu felly mae eich arian fel arfer yn aros yn ddiogel – hyd yn oed os yw eich darparwr pensiwn neu'ch cyflogwr yn mynd i'r wal. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Rhaid i ddarparwyr pensiynau ddilyn rheolau llym
Mae pob cynllun pensiwn cofrestredig yn y DU yn cael ei reoleiddio, sy'n golygu bod yn rhaid iddynt ddilyn rhai rheolau, systemau a rheolaethau llym. Mae hyn yn cynnwys sut i reoli buddsoddiad eich arian.
Mae dau brif sefydliad yn gyfrifol am osod y rheolau hyn, a sicrhau bod darparwyr pensiwn yn eu dilyn:
- Y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR)Yn agor mewn ffenestr newydd – mae hyn yn rheoleiddio'r rhan fwyaf o bensiynau gweithle (un a sefydlwyd gan eich cyflogwr).
- Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd – mae hyn yn rheoleiddio pensiynau rydych chi'n eu sefydlu eich hun neu un y mae gennych chi gontract â nhw, fel pensiwn personol grŵp
Mae'n rhaid i ddarparwyr pensiynau roi'r wybodaeth ddiweddaraf am eu perfformiad yn rheolaidd, gan gynnwys faint o arian sydd gan y cynllun.
Mae gan reoleiddwyr hefyd y pŵer i:
- arolygu darparwyr pensiwn
- gosod cosbau a dirwyon os nad yw'r gweithrediadau a'r rheolaethau risg yn dderbyniol.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae pensiynau yn cael eu diogelu?
Fel arfer, caiff eich arian ei ddiogelu os yw'ch darparwr neu'ch cyflogwr yn methu
Mae sut mae eich arian pensiwn yn cael ei ddiogelu yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych.
Os nad ydych yn siŵr, defnyddiwch ein teclyn i ddarganfod y math o bensiwn sydd gennych.
Diogelwch pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio yn y gwaith a bod eich cyflogwr yn mynd i’r wal, mae eich arian pensiwn yn ddiogel. Mae hyn oherwydd nad yw'n cael ei reoli gan eich cyflogwr fel arfer.
Bydd eich darparwr pensiwn yn parhau i reoli'r arian rydych eisoes wedi'i dalu i mewn oni bai eich bod yn dewis ei drosglwyddo i ddarparwr newydd.
Os yw'ch darparwr pensiwn yn mynd i’r wal, fel arfer gallwch gael eich arian yn ôl gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)Yn agor mewn ffenestr newydd
Mae hyn fel arfer yn cynnwys:
- 100% o'ch arian pensiwn neu
- Hyd at £85,000 os oes gennych bensiwn buddsoddi personol (SIPP), lle rydych yn gwneud y dewisiadau buddsoddi eich hun.
Gallwch wirio diogelwch eich pensiwnYn agor mewn ffenestr newydd gan ddefnyddio teclyn yr FSCS.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio iawndal FSCS hyd at £85,000 os byddwch yn colli arian oherwydd bod un o'r cwmnïau y buddsoddir eich arian ynddo (darparwr buddsoddiad) yn mynd i'r wal.
Diogelwch pensiwn buddion wedi'u diffinio
Os yw eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn buddion wedi'u diffinio yn mynd i’r wal, bydd y Gronfa Diogelu Pensiwn yn camu i mewn i ddod o hyd i ddarparwr neu gwmni yswiriant newydd i gymryd yr awenau.
Os nad oes digon o arian yn y cynllun i rywun arall ei redeg, bydd y Gronfa Diogelu Pensiwn yn talu taliadau iawndal i chi yn ei le. Bydd hyn naill ai'n 90% neu'n 100% o'r hyn yr addawodd eich pensiwn ei dalu.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein hargymhellion: