Dyma'r camau allweddol y gallwch eu cymryd i'ch helpu i gael digon o arian ar gyfer ymddeoliad cyfforddus
O dan 50 oed – cynilwch gymaint ag y gallwch fforddio
Y cynharaf y gallwch chi gymryd arian o bensiwn fel arfer yw 55 oed (57 o Ebrill 2028), felly mae'n ymwneud â chynilo cymaint ag y gallwch yn eich blynyddoedd iau – a chyn hired â phosibl
Cofrestru ar gyfer pensiwn
Mae dechrau pensiwn yn gynnar yn golygu eich bod chi'n debygol o gasglu mwy o arian ar gyfer eich ymddeoliad, ond gallwch ddechrau pensiwn ar unrhyw oedran.
Os ydych chi'n gyflogedig, gallwch ymuno â phensiwn gweithle eich cyflogwr. Dylid sefydlu un ar eich cyfer os ydych chi'n 22 oed neu'n hŷn ac yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, fel arall bydd angen i chi ofyn am ymuno.
Bydd eich cyflogwr hefyd yn talu arian ychwanegol os ydych chi'n ennill o leiaf £6,240 y flwyddyn, a elwir yn gyfraniad cyflogwr. Efallai y byddant hefyd yn cyfrannu os ydych chi'n ennill llai na £6,240 y flwyddyn, ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny.
Os nad oes gennych gyflogwr, neu os ydych am gael pensiwn ar wahân, gallwch ddewis eich darparwr pensiwn eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Deall pa fath o bensiwn sydd gennych
Mae'r ffordd y mae eich pensiwn yn gweithio a'r camau y gallai fod angen i chi eu cymryd yn dibynnu ar y math sydd gennych. Y ddau brif fath o bensiwn yw:
- Cyfraniadau wedi'u diffinio – mae'r pensiynau hyn yn talu swm i chi yn seiliedig ar faint sy'n cael ei dalu a pha mor dda mae'r arian a fuddsoddwyd yn perfformio.
- Buddion wedi'u diffinio - (a elwir hefyd yn gynlluniau cyflog terfynol a chyfartaledd gyrfa) – mae'r pensiynau hyn yn talu swm gwarantedig i chi, fel arfer yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych chi'n aelod.
Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn neu ofyn i'ch darparwr.
Fel arfer, dim ond i aelodau newydd yn y sector cyhoeddus y cynigir pensiynau Buddion wedi'u diffinio, fel y GIG, y Lluoedd Arfog ac addysg. Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr eraill, neu os ydych chi'n sefydlu eich pensiwn eich hun, yn cynnig pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio.
Penderfynwch faint i’w gynilo i’ch pensiwn
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, fel arfer mae angen i chi dalu o leiaf:
- 5% o'ch cyflog os yw'ch cyflogwr wedi sefydlu eich pensiwn neu
- isafswm misol os ydych chi'n ei sefydlu eich hun – fel £100.
Ond fel arfer bydd angen i chi gynilo mwy na hyn ar gyfer ymddeoliad cyfforddus.
Gall ein cyfrifiannell Pensiwn ddangos eich incwm ymddeoliad amcangyfrifedig yn seiliedig ar wahanol symiau, gan gynnwys faint o incwm ymddeoliad y gallai fod ei angen arnoch.
Os oes gennych gyflogwr, gwiriwch a ydynt yn cynnig paru cyfraniadau. Mae hyn yn golygu y byddant yn talu mwy i mewn os gwnewch chi. Gall ein cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn gweithle gyfrifo faint y gallech ei gael.
Os oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio, yn aml bydd gennych swm cyfraniad penodol yn seiliedig ar eich cyflog. I dalu mwy na hyn, bydd angen i chi wirio a yw'ch cynllun yn caniatáu i chi gronni buddion ychwanegol. Os nad yw'n ei ganiatáu, bydd angen i chi ddechrau eich pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio eich hun ar gyfer unrhyw gynilion ychwanegol.
Adolygwch eich cynilion pensiwn a’ch cyfraniadau yn rheolaidd
Gwiriwch eich pensiynau yn rheolaidd i:
- wirio faint rydych chi ar y trywydd i'w gael a
- gwneud yn siŵr bod y symiau cywir yn cael eu talu i mewn.
Gallwch wirio eich rhagolwg Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i weld faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych chi ar y trywydd i'w gael a ffyrdd posibl i roi hwb iddo.
Ar gyfer eich pensiynau eraill, fel arfer gallwch fewngofnodi i gyfrif ar-lein eich darparwr neu wirio datganiadau a anfonwyd atoch. Mae gennym gymorth cam wrth gam os yw'ch cyflogwr yn methu â thalu i mewn i'ch pensiwn.
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, gwiriwch yn rheolaidd a allwch fforddio cynyddu eich cyfraniadau pensiwn. Er enghraifft, bob chwe mis neu ar ôl codiad cyflog.
Gall ein Cynlluniwr cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio eich helpu i weld faint o arian sbâr sydd gennych.
Os ydych chi'n cael trafferth ac yn ystyried lleihau neu atal eich cyfraniadau pensiwn, gweler ein canllawiau:
A ddylwn i drosglwyddo neu gyfuno fy mhensiynau?
Os ydych chi'n newid swyddi neu'n sefydlu pensiynau gwahanol, efallai y bydd gennych nifer o gynlluniau pensiwn. Gallai ymddangos yn synhwyrol i ddod â nhw at ei gilydd, ond efallai y byddwch chi'n colli rhai buddion os gwnewch hynny.
Gwiriwch bob amser a fyddwch yn well eich byd cyn trosglwyddo ac ystyriwch gyngor ariannol – fel arfer mae'n rhaid i chi gael cyngor i drosglwyddo pensiwn buddion wedi’u diffinio gwerth dros £30,000.
Am fwy o help, gweler ein canllaw am Drosglwyddiadau pensiwn y DU.
O 50 oed – cynlluniwch sut y gallech gymryd eich pensiwn
Rydych chi'n debygol o fod yn llawer o flynyddoedd i ffwrdd o ymddeol pan fyddwch chi'n cyrraedd 50, ond mae'n garreg filltir dda i ddechrau cynllunio sut yr hoffech chi gymryd eich pensiwn – ac os ydych chi ar y trywydd iawn am yr incwm yr hoffech chi ei gael.
Gwiriwch yr oedran y gallwch gymryd eich pensiwn
Mae yna dri oedran allweddol y mae angen i chi eu gwybod.
Isafswm oedran pensiwn arferol (NMPA)
Y cynharaf y gallwch gael mynediad at unrhyw ran o’ch pensiwn fel arfer yw 55 oed (57 o fis Ebrill 2028), oni bai eich bod yn ymddeol yn gynnar oherwydd salwch neu bod rheolau eich cynllun pensiwn yn rhestru oedran pensiwn gwarchodedig is.
Oedran pensiwn arferol (NPA)
Yr oedran y mae eich darparwr yn disgwyl i chi ddechrau cymryd eich pensiwn, oni bai eich bod wedi dweud wrthynt am ddyddiad gwahanol – a elwir yn ddyddiad ymddeol dewisol (SRD). Gallwch ddod o hyd i'ch NPA yn nogfennau'ch cynllun. Fel arfer mae'n ddeng mlynedd yn hwyrach na'r NMPA.
Mae eich incwm ymddeol amcangyfrifedig fel arfer yn seiliedig ar eich bod yn cymryd eich pensiwn pryd fyddwch yn cyrraedd yr NPA neu'r SRD.
Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
I ddarganfod pryd y gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Gwiriwch faint mae eich pensiynau yn debygol o dalu
Gallwch wirio eich rhagolwg Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i weld faint rydych chi ar y trywydd i'w gael a ffyrdd posibl i roi hwb iddo. Gweler ein canllawiau Pensiwn y Wladwriaeth am ragor o wybodaeth.
Ar gyfer pensiynau personol a gweithle, mewngofnodwch i gyfrif ar-lein eich darparwr pensiwn neu gwiriwch gyfriflenni diweddar. Fel arfer gallwch weld:
- faint yw gwerth eich pensiwn ar hyn o bryd
- faint yr amcangyfrifir y bydd eich pensiwn yn ei dalu wrth gyrraedd eich oedran pensiwn arferol.
Bydd ein cyfrifiannell Pensiwn yn eich helpu i gyfrifo faint y gallai fod ei angen arnoch ar gyfer ymddeoliad cyfforddus ac os yw'ch cynilion presennol ar y trywydd iawn i ddarparu hyn.
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, mae'r swm y byddwch chi'n ei gael mewn gwirionedd yn dibynnu ar:
- faint rydych chi'n parhau i dalu i mewn
- sut mae'r buddsoddiadau yn perfformio
- y taliadau rydych chi'n eu talu a
- sut a phryd rydych chi'n dewis cymryd yr arian.
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, mae'r swm gwirioneddol fel arfer yn dibynnu ar eich cyflog, pa mor hir rydych chi'n parhau i weithio i'ch cyflogwr ac unrhyw gynnydd blynyddol y gallai eich darparwr eu cymhwyso.
Am fwy o help, gweler ein canllawiau:
Deall eich opsiynau ar gyfer cymryd eich pensiwn
Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o'ch pensiwn fel cyfandaliad di-dreth, cyn belled nad yw’r cyfanswm o’ch holl gynlluniau yn fwy na'r lwfans cyfandaliad (LSA). Mae'r LSA yn £268,275 i'r mwyafrif.
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, bydd y gweddill yn incwm trethadwy. Gallai cymryd cyfandaliad di-dreth leihau'r incwm y byddwch chi'n ei gael, ond mae'n dibynnu ar eich cynllun. Fel arfer, mae'n rhaid i chi gymryd y cyfandaliad di-dreth ar yr un pryd â dechrau cymryd incwm.
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, fel arfer mae gennych nifer o wahanol opsiynau:
- defnyddio tynnu pensiwn i lawr, lle rydych chi'n gadael y gweddill wedi'i fuddsoddi ac yn cymryd incwm trethadwy fel a phryd fydd ei angen arnoch
- cael incwm gwarantedig trethadwy trwy brynu blwydd-dal
- cymryd un cyfandaliad neu fwy, gyda hyd at 25% o bob swm yn cael ei dalu'n ddi-dreth yn hytrach na chael y 25% di-dreth ymlaen llaw.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw llawn am eich opsiynau pensiwn, gan gynnwys sut y gellid trethu pob taliad.
Cael apwyntiad Pension Wise am ddim
Os ydych chi'n 50 oed neu'n hŷn, gallwch hefyd gael apwyntiad Pension Wise am ddim i ddeall y gwahanol ffyrdd rydych chi'n gallu cymryd arian o'ch cronfa bensiwn.
Penderfynwch a ddylech newid sut mae eich pensiwn yn cael ei fuddsoddi
Bydd llawer o ddarparwyr pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn gwneud dewisiadau buddsoddi yn seiliedig ar eich oedran pensiwn arferol neu'ch dyddiad ymddeol dewisol. Dyma'r oedran maen nhw'n disgwyl i chi ymddeol.
Maent hefyd yn cymryd yn ganiataol y byddwch chi'n cymryd eich holl arian pensiwn allan pan fyddwch chi'n ymddeol, felly nid oes unrhyw swm ar ol mewn fuddsoddiad. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n cymryd cyfandaliad di-dreth a defnyddio'r gweddill i gael incwm am oes (blwydd-dal).
Mae hyn fel arfer yn golygu bod llai o risgiau yn cael eu cymryd gyda'ch arian po agosaf y byddwch chi’n cyrraedd at ymddeoliad, gan fod llai o amser i adennill unrhyw golledion buddsoddi. Er enghraifft, efallai y bydd eich arian yn cael ei symud i fuddsoddiadau sy'n cael eu hystyried yn fwy sefydlog yn gyffredinol, fel bondiau'r llywodraeth ac arian parod.
Ond efallai yr hoffech ystyried ffordd wahanol o fuddsoddi'ch arian os ydych chi'n bwriadu:
- ymddeol yn gynharach neu'n hwyrach nag oedran pensiwn arferol eich cynllun
- cymryd incwm ymddeoliad hyblyg – lle rydych chi'n cael mynediad at rywfaint o'ch arian ac yn gadael y gweddill wedi'i fuddsoddi nes eich bod eisiau ei dynnu allan (a elwir yn tynnu pensiwn i lawr).
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun
Adolygwch weddill eich cyllid
Mae'n syniad da edrych ar eich holl gyllid a sut y gallech gynllunio i:
- dalu unrhyw ddyledion cyn i chi ymddeol, gan gynnwys eich morgais
- creu neu ddiweddaru eich ewyllys
- diweddaru eich ffurflen mynegi dymuniad, i ddweud wrth eich darparwr pensiwn pwy yr hoffech i etifeddu eich pensiwn neu fuddion marwolaeth.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth sy’n digwydd i fy mhensiwn pan fyddaf yn marw?
O 55 oed – penderfynwch pryd i gymryd eich pensiwn
Y cynharaf y gallwch chi fel arfer ddechrau cymryd arian o'ch pensiwn yw 55 oed (57 o fis Ebrill 2028), ond fel arfer mae i fyny i chi pan fyddwch chi'n ei gymryd.
Efallai na fydd angen i chi gymryd y cyfan ar unwaith. Er enghraifft, os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, gallech gymryd cyfandaliad di-dreth yn 55 oed a gadael y gweddill nes eich bod eisiau cymryd incwm. Gallech hefyd ei adael heb ei gyffwrdd a pharhau i dalu, felly dylai dyfu erbyn yr amser y mae ei angen arnoch.
Os ydych chi'n cymryd pensiwn buddion wedi’u diffinio cyn dyddiad ymddeol arferol y cynllun, mae'n debygol o gael ei leihau gan y gallai dalu am fwy o amser nag a gynlluniwyd yn wreiddiol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau a'n declynnau am gymryd eich pensiwn.
Gwnewch yn siŵr y bydd gennych ddigon i fyw arno
Mae penderfynu pryd i gymryd eich pensiwn a phryd i ymddeol yn aml yn dibynnu ar faint o arian fydd gennych i fyw arno.
Gall ein Cyfrifiannell pensiwn gyfrifo faint o incwm rydych chi'n debygol o’i gael, yn seiliedig ar werth cyfredol eich pensiynau a'ch cyfraniadau.
Gallwch hefyd ddefnyddio ein Cynlluniwr cyllideb i gyfrifo faint o arian y gallai fod ei angen arnoch i dalu eich costau. Mae'r Retirement Living Standards yn rhestru faint o incwm y gallai fod ei angen arnoch bob blwyddynYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer ymddeoliad cyfforddus.
Os nad yw'ch pensiwn yn debygol o roi digon i chi, defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau i weld a ydych chi'n gymwys i gael unrhyw daliadau. Efallai y bydd angen i chi ymddeol yn ddiweddarach neu wneud newidiadau eraill i'ch cynlluniau ymddeoliad.
Gwiriwch faint o dreth y byddwch chi’n ei dalu
Mae incwm pensiwn (gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth) fel arfer yn cael ei ychwanegu at eich enillion eraill i gyfrifo faint o Dreth Incwm y byddwch chi'n ei dalu. Os oes gennych ffynonellau incwm eraill, gallai hyn eich gwthio i mewn i fand treth uwch.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae treth yn gweithio ar incwm pensiwn
Ystyriwch gyngor ac arweiniad ariannol
Gall penderfynu pryd a sut i gymryd eich pensiwn fod yn anodd, felly mae'n werth ystyried talu am gyngor ariannol
Os ydych chi'n 50 oed neu'n hŷn gyda phensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, gallwch gael apwyntiad Pension Wise i gael arweiniad am ddim ar eich opsiynau – hyd yn oed os ydych wedi cael apwyntiad o'r blaen.
Hawliwch eich Pensiwn y Wladwriaeth
Dylech dderbyn llythyr tua phedwar mis cyn i chi gyrraedd eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd gyda chod gwahoddiad. Yna gallwch ddefnyddio hwn i wneud cais ar-lein neu dros y ffôn.
Gweler Sut i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth am ragor o wybodaeth.
Gallwch hefyd benderfynu gohirio eich cais – efallai y byddwch chi'n cael mwy os gwnewch hynny. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Cynyddwch eich Pensiwn y Wladwriaeth drwy ohirio eich cais.
Ar ôl i chi ymddeol – help i reoli’ch arian
Mae eich incwm yn debygol o newid ar ôl i chi ymddeol, felly mae'n amser da i wirio am ffyrdd o wneud i'ch arian fynd ymhellach.
Gallwch ddefnyddio ein:
- Cynlluniwr cyllideb i gymharu eich costau â'ch incwm newydd – a gweld ffyrdd o leihau eich gwariant.
- Cyfrifiannell budd-daliadau i weld a oes gennych hawl i hawlio cymorth ychwanegol, gan gynnwys Credyd Pensiwn.
- canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref.
Os nad ydych yn derbyn incwm gwarantedig am oes o'ch pensiwn, gwiriwch yn rheolaidd faint sydd gennych ar ôl yn eich cronfa bensiwn. Efallai y byddai'n werth talu ymgynghorydd ariannol i'ch helpu i wneud hyn.
Mae hefyd yn syniad da cynllunio ar gyfer newidiadau iechyd posibl wrth i chi fynd yn hŷn. Er enghraifft, gallech chi:
- sefydlu atwrneiaeth – fel y gall rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo reoli eich iechyd a'ch cyllid os nad ydych chi'n gallu gwneud hynny
- cynllunio sut y gallech dalu am ofal hirdymor
- diweddaru eich ewyllys a ffurflenni enwebu pensiwn gyda'ch dymuniadau am eich arian ar ôl i chi farw.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Ar unrhyw oedran – ble i gael cyngor ariannol
Efallai mai eich pensiwn yw'r swm mwyaf o gynilion y byddwch erioed wedi'i gael, felly mae'n werth ystyried talu am gyngor ariannol i'w ddiogelu neu ei dyfu.
Gall ymgynghorydd ariannol argymell ffyrdd o roi hwb i'ch pensiwn a rhoi cyngor personol i chi ar:
- beth i'w fuddsoddi ynddo
- sut i dalu llai o dreth
- os dylech drosglwyddo neu gyfuno eich pensiynau.
Gall ein teclyn eich helpu i ddod o hyd i ymgynghorydd ymddeol neu weler ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol am ragor o wybodaeth.