Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn codi ffioedd i fuddsoddi a rheoli eich arian. Fel arfer, ni fyddwch yn talu unrhyw ffioedd os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Pam mae darparwyr pensiwn yn codi ffioedd?
Pan fyddwch chi'n talu i mewn i bensiwn, mae eich darparwr pensiwn fel arfer yn buddsoddi'ch arian felly dylai dyfu dros amser.
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, mae twf buddsoddiad yn cael effaith fawr ar faint y byddwch chi'n ei gael pan fyddwch chi'n ymddeol. Yn aml, mae angen i'ch darparwr pensiwn dalu gweithwyr proffesiynol a ffioedd eraill i reoli a buddsoddi eich arian, felly maen nhw'n codi tâl arnoch i helpu i dalu'r costau hyn.
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, nid yw'r perfformiad buddsoddi yn gwneud unrhyw wahaniaeth i chi gan eich bod yn cael gwarantu swm penodol gan eich cyflogwr. Mae hyn yn golygu na fyddwch fel arfer yn talu unrhyw ffioedd cynllun pensiwn.
Pa daliadau cynllun pensiwn y byddaf yn eu talu?
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, fel arfer ni fyddwch yn talu unrhyw daliadau. Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, dylai eich darparwr pensiwn esbonio sut mae eu holl daliadau yn gweithio a faint ydyn nhw.
Dyma daliadau cynllun pensiwn nodweddiadol y gallech eu talu. Bydd eich darparwr pensiwn fel arfer yn tynnu unrhyw ffioedd allan o'ch cronfa bensiwn yn awtomatig, yn hytrach nag anfon bil atoch i'w dalu.
Ffioedd i redeg a rheoli eich pensiwn
Mae gan y rhan fwyaf o gynlluniau dâl rheoli blynyddol (AMC) i dalu'r gost o reoli a buddsoddi eich pensiwn.
Efallai y byddwch hefyd yn talu:
- ffigwr tâl parhaus – i dalu costau eich darparwr sy'n rhedeg cronfa fuddsoddi
- taliadau platfform, polisi, gwasanaeth neu weinyddiaeth – i dalu costau gweinyddol rhedeg eich cynllun, fel ap fel y gallwch ddewis eich buddsoddiadau eich hun.
Mae'r taliadau hyn yn aml yn ganran sefydlog o'r swm sydd gennych yn eich pensiwn, oni bai bod eich darparwr yn penderfynu defnyddio swm penodol – fel £10 ar gyfer y flwyddyn.
Enghraifft: Mae tâl rheoli blynyddol o 0.75% yn golygu y byddech chi'n talu 7.5c y flwyddyn am bob £1 yn eich pensiwn. Mae hyn yn gweithio allan yn:
- £75 y flwyddyn os yw eich pensiwn yn werth £10,000
- £225 y flwyddyn os yw eich pensiwn yn werth £30,000.
Bydd rhai darparwyr yn lleihau eu ffioedd os yw'ch pensiwn yn uwch na swm penodol. Er enghraifft:
- 0.75% os yw eich pensiwn yn werth llai na £30,000, 0.6% os yw'n werth mwy
- 0.75% ar y £30,000 cyntaf, 0.6% ar unrhyw symiau uwchlaw hyn.
Gallai rhai cynlluniau hŷn hefyd:
- cynyddu eu ffioedd os byddwch chi'n rhoi'r gorau i'ch cyfraniadau
- cael dau dâl rheoli blynyddol gwahanol – yn aml un uwch am arian a fuddsoddwyd ar ddechrau'ch pensiwn (a elwir yn unedau cychwynnol neu gyfalaf) ac un is ar gyfer 'unedau croniad ' a brynwyd yn ddiweddarach.
Ffioedd i newid sut mae eich pensiwn yn cael ei fuddsoddi
Bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr pensiwn yn defnyddio cronfeydd buddsoddi i geisio tyfu eich pensiwn. Mae cronfa fuddsoddi fel arfer yn cael ei rheoli gan reolwyr cronfeydd sy'n penderfynu beth i fuddsoddi ynddo.
Bydd eich darparwr pensiwn fel arfer yn prynu ac yn gwerthu nifer penodol o unedau mewn gwahanol gronfeydd, gan ddefnyddio arian gennych chi ac aelodau eraill.
Gan fod costau ynghlwm, efallai y bydd angen i chi dalu:
- ffioedd trafodion, mynediad a thaeniad cais/cynnig – i dalu costau prynu a gwerthu unedau mewn cronfa
- ffioedd newid – i dalu costau newid cronfeydd.
Os ydych chi wedi penderfynu dewis eich buddsoddiadau eich hun, byddwch yn aml yn talu ffioedd masnachu bob tro y byddwch chi'n prynu a gwerthu.
Mae'r holl ffioedd hyn yn aml yn ganran o'r swm sydd gennych yn eich pensiwn, oni bai bod eich darparwr yn penderfynu defnyddio swm penodol – fel £5 y fasnach.
Ffioedd untro ar gyfer trosglwyddiadau, cymryd arian neu gyngor
Gallai rhai darparwyr godi tâl am:
- trosglwyddo'ch arian i gynllun newydd – a elwir yn aml yn ffi ymadael neu drosglwyddo
- cymryd arian o'ch pensiwn pan fyddwch chi'n ymddeol.
Os cawsoch gyngor ariannol pan wnaethoch chi sefydlu eich pensiwn, efallai eich bod wedi cytuno i dalu'ch ymgynghorydd gan ddefnyddio'ch cronfa pensiwn.
Cymharu taliadau pensiwn – efallai y byddwch yn arbed drwy drosglwyddo
Mae taliadau yn amrywio rhwng darparwyr pensiwn, felly mae'n werth cymharu taliadau eich darparwr ag eraill ar y farchnad.
Er enghraifft, os yw eich pensiwn yn werth £30,000 ac mae gan eich darparwr ffi reoli flynyddol o 0.75%, byddech yn talu £225 y flwyddyn. Os ydych yn newid i ddarparwr sy'n gofyn am:
- 0.5%, byddech chi'n talu £150 – gan arbed £75 y flwyddyn
- 0.3%, byddech chi'n talu £90 – gan arbed £135 y flwyddyn.
Mae pensiynau gweithle a rhanddeiliaid (a gynigir yn aml gan gyflogwyr) fel arfer yn rhatach na phensiynau personol y gallwch eu sefydlu eich hun. Ond mae taliadau pensiwn wedi bod yn gostwng dros amser, felly gallai cynlluniau hŷn gael ffioedd uwch na chynlluniau newydd.
Gwiriwch bob amser a fyddwch chi’n colli unrhyw fuddion cyn newid
Mae taliadau cynllun pensiwn yn bwysig i'w hadolygu gan eu bod yn gallu lleihau faint y byddwch chi'n ei gael ar gyfer ymddeoliad – gall hyd yn oed gwahaniaethau bach dros amser wneud gwahaniaeth mawr.
Ond mae yna bob amser risg y gallech golli allan ar fuddion llawer mwy gwerthfawr trwy newid darparwr. Er enghraifft, gallai eich darparwr presennol gynnig:
- incwm ymddeol gwarantedig ar gyfradd uwch nag y gallech ei gael mewn mannau eraill
- isafswm oedran pensiwn gwarchodedig – efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach i gael mynediad i'ch pensiwn os byddwch chi'n trosglwyddo i ddarparwr newydd.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw am drosglwyddiadau pensiwn y DU.
Mae hefyd yn werth ystyried talu am gyngor trosglwyddo. Gall ein teclyn eich helpu i ddod o hyd i ymgynghorydd ymddeol, neu gweler ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol i gael rhagor o wybodaeth.