Mae gwirio eich datganiadau pensiwn yn rheolaidd yn eich galluogi i gadw golwg ar eich cynilion ymddeoliad a sylwi ar unrhyw broblemau. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Pa wybodaeth sydd ar ddatganiad pensiwn?
Mae datganiad pensiwn yn dangos faint yw gwerth eich pensiwn, sut mae ei werth wedi newid dros amser ac amcangyfrif o’r incwm ymddeoliad y gallai ei dalu i chi.
Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i weld a ydych ar y trywydd iawn ar gyfer ymddeoliad cyfforddus – neu a oes angen i chi ystyried cynilo mwy.
Mae’r union wybodaeth fydd ar eich datganiad pensiwn yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych. Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn neu ofyn i'ch darparwr.
Datganiadau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Os oes gennych chi bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, bydd eich datganiad fel arfer yn dangos i chi:
- werth presennol eich pensiwn, gan gynnwys unrhyw dwf neu golled buddsoddiad
- faint sydd wedi'i dalu i mewn, gan gynnwys unrhyw ryddhad treth
- os oes unrhyw arian wedi'i drosglwyddo i neu o gynlluniau pensiwn eraill
- y ffioedd rydych wedi'u talu
- faint o incwm ymddeoliad rydych ar y trywydd i'w gael ar hyn o bryd.
Datganiadau pensiwn buddion wedi’u diffinio
Os oes gennych chi bensiwn buddion wedi’u diffinio (a elwir yn aml yn gynllun cyfartaledd gyrfa neu gyflog terfynol), dylai eich datganiad ddangos i chi:
- ers faint rydych chi wedi bod yn aelod
- sut y cyfrifir eich buddion pensiwn ac ar ba ran o'ch cyflog
- a oes unrhyw arian wedi'i dalu, gan gynnwys trosglwyddiadau i gynlluniau eraill
- faint o incwm ymddeol gwarantedig a gewch os ydych yn:
- parhau i weithio i'ch cyflogwr tan ddyddiad ymddeol arferol y cynllun
- gadael y cynllun yn y mis nesaf.
Sut mae cael datganiad pensiwn?
I weld eich datganiad pensiwn diweddaraf, gallwch fel arfer:
- fewngofnodi i gyfrif ar-lein eich darparwr neu ddefnyddio eu ap symudol
- gofyn i'ch darparwr bostio un atoch.
Os oes gennych chi bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, rhaid i’ch darparwr hefyd anfon datganiad atoch o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae darparwyr pensiwn buddion wedi’u diffinio yn aml yn gwneud hynny hefyd, ond nid oes rhaid iddynt.
Sut mae cael datganiad Pensiwn y Wladwriaeth?
Gallwch wirio eich rhagolwg Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i weld:
- faint rydych ar y trywydd i'w gael
- yr oedran y gallwch ei hawlio
- a oes ffyrdd o gynyddu'r swm a gewch.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn swm wythnosol y gallwch ei hawlio gan y llywodraeth, hyd yn oed os oes gennych bensiynau eraill. Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol (YG).
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: sut mae'n gweithio.
Beth ddylwn i ei wirio ar fy natganiad pensiwn?
Gall gwirio eich datganiad pensiwn yn rheolaidd eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau yn gynnar. Byddwch hefyd yn gweld a ydych yn debygol o fod â digon o arian ar gyfer ymddeoliad cyfforddus, neu a oes angen i chi newid eich cynilion.
Dyma beth i wirio.
1. Sicrhewch fod y symiau cywir yn cael eu talu i mewn
Os ydych chi’n i dalu i mewn i’ch pensiwn o hyd, gwnewch yn siŵr bod eich datganiad:
- yn dangos y symiau hyn
- heb fylchau neu daliadau ar goll.
Os oes gennych gyflogwr, gwiriwch fod unrhyw gyfraniadau a wnânt wedi'u rhestru hefyd. Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn gweithle i amcangyfrif faint mae’r ddau ohonoch yn ei dalu i mewn.
Gallwch hefyd ofyn i'ch darparwr pa gyfraniadau y mae'n rhaid i'ch cyflogwr eu talu. Gelwir hyn yn:
- amserlen dalu ar gyfer pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio, neu
- rhestr o gyfraniadau ar gyfer pensiynau buddion wedi’u diffinio.
Am fwy o help, gweler ein canllawiau:
2. Gweithiwch allan a yw’r incwm ymddeol sydd wedi’i amcangyfrif yn debygol o fod yn ddigon
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell pensiwn i weld amcangyfrif o’r incwm y gallech ei gael o’ch holl gynlluniau pensiwn, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hefyd yn rhoi syniad bras i chi o faint o incwm ymddeoliad y gallai fod ei angen arnoch, os ydych ar y trywydd iawn i gyflawni hyn a chanlyniad newid eich cyfraniadau.
Os oes gennych chi bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, gall gwerth eich pensiwn godi neu ostwng hyd nes y byddwch yn cymryd yr arian – gan ei fod yn seiliedig ar berfformiad eich arian buddsoddi.
Os oes gennych chi bensiwn buddion wedi’u diffinio, fel arfer bydd gennych swm cyfraniad penodol yn seiliedig ar eich cyflog. I dalu mwy na hyn i mewn, bydd angen i chi wirio a yw eich cynllun yn caniatáu i chi gronni buddion ychwanegol.
Os nad ydyw, bydd angen i chi sefydlu eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio eich hun ar gyfer unrhyw gynilion ychwanegol.
3. Gwiriwch eich bod yn deall y ffioedd yr ydych yn eu talu
Ni fyddwch yn talu unrhyw gostau os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, ond fel arfer byddwch yn talu ffioedd i dalu costau buddsoddi os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio. Mae hyn yn aml yn cynnwys:
- tâl rheoli blynyddol
- ffioedd i newid cronfeydd buddsoddi
- ffi i drosglwyddo i ddarparwr gwahanol.
Os nad ydych yn siŵr am beth rydych yn talu, gofynnwch i’ch darparwr pensiwn egluro. Mae taliadau’n amrywio rhwng darparwyr, felly mae’n werth gwirio hefyd a fyddai’n well i chi symud eich pensiwn i ddarparwr newydd.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Esboniad o ffioedd a thaliadau’r cynllun pensiwn.
4. Sicrhewch fod eich manylion yn gywir
Gwiriwch ddwywaith bod gan eich darparwr pensiwn eich manylion cywir, gan gynnwys eich enw a'ch gwybodaeth gyswllt. Cofiwch eu diweddaru os bydd unrhyw beth yn newid.
Efallai y byddwch yn colli allan ar arian y mae gennych hawl iddo os oes gan eich darparwr fanylion anghywir, gan na allant ofyn sut yr hoffech i’ch pensiwn gael ei dalu.
I gael help i olrhain eich holl bensiynau, gweler ein canllaw cam wrth gam Sut i ddod o hyd i hen bensiynau neu bensiynau coll.
Sut gallaf weld gwerth trosglwyddo fy mhensiwn?
Os ydych yn ystyried symud eich pensiwn i ddarparwr gwahanol, gallwch ofyn am werth trosglwyddo. Mae hwn yn dweud wrthych faint sydd ar gael yn eich pensiwn i’w drosglwyddo.
Fel arfer gallwch ofyn am werth trosglwyddo hyd at flwyddyn cyn i'ch cynllun gael ei gynllunio i dalu allan, sef eich oedran pensiwn arferol.
Os oes gennych gynllun buddion wedi’u diffinio, bydd eich gwerth trosglwyddo fel arfer yn cael ei warantu am dri mis. Gallai darparwyr godi tâl am werth trosglwyddo, ond fel arfer dim ond os byddwch yn gofyn am fwy nag un bob blwyddyn.
Sut gallaf ddeall sut mae fy nghynllun pensiwn yn cael ei redeg?
Bydd eich datganiad pensiwn yn dangos sut mae’ch pensiwn yn perfformio, ond ni fydd fel arfer yn esbonio’r holl fanylion am sut mae’ch pensiwn yn cael ei redeg.
I ddeall sut mae cynlluniau pensiwn yn gweithio yn gyffredinol, gweler ein canllaw Beth yw pensiwn a sut mae'n gweithio?
Gallwch hefyd ofyn i’ch darparwr pensiwn am gopi o:
- weithred a rheolau ymddiriedolaeth y cynllun, os yw'ch pensiwn yn cael ei redeg gan ymddiriedolwyr
- amodau polisi, os oes gennych bensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid
- adroddiad blynyddol, os oes gennych bensiwn gweithle sy'n cael ei redeg gan ymddiriedolwyr.
Dylai'r wybodaeth hon esbonio sut y dewisir buddsoddiadau. Bydd adroddiad blynyddol hefyd yn dangos sut mae'r cynllun yn perfformio'n ariannol.
Os oes gennych chi bensiwn buddion wedi’u diffinio, gallwch ofyn am gopi o adroddiad actiwaraidd eich cynllun. Mae hyn yn egluro pa mor dda y caiff y cynllun ei ariannu i dalu ei holl aelodau.