Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Esbonio pensiynau

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Gofal tymor hir
Teulu a gofal Gofal tymor hir

Beth i’w wneud os ydych wedi’ch penodi’n atwrnai mewn atwrneiaeth

Mae’r canllaw hwn yn addas i chi os ydych wedi’ch penodi’n atwrnai. Mae atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i un neu fwy o atwrneiod gael yr awdurdod i reoli arian ac eiddo neu/ac iechyd a lles rhywun.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw rhoddwr neu grantwr?
  • Gweithredwch er lles gorau’r person bob amser
  • Beth fydd yn digwydd os oes mwy nag un atwrnai
  • Beth i’w drafod gyda’r rhoddwr, neu’r grantwr, os oes ganddynt alluedd meddyliol
  • Sicrhewch fod yr atwrneiaeth wedi’i chofrestru
  • Sut i ddechrau defnyddio atwrneiaeth
  • Helpu gyda biliau a thaliadau
  • Rheoli budd-daliadau’r person
  • Rheoli arian a chyfrifon y person
  • Rheoli rhoddion a buddsoddiadau’r person
  • Rheoli materion treth y person
  • Helpu i drefnu a thalu am ofal hirdymor
  • Gofalu am gartref y person

Beth yw rhoddwr neu grantwr?

Yn y canllaw hwn, rydym yn canolbwyntio ar yr atwrneiaeth ar gyfer Eiddo a Materion Ariannol yn unig. Yng Nghymru a Lloegr, gelwir hyn yn atwrneiaeth arhosol; yn yr Alban, atwrneiaeth barhaol; ac yng Ngogledd Iwerddon, atwrneiaeth barhaus.

Mewn atwrneiaeth, y rhoddwr, neu’r grantwr yn yr Alban, yw’r person sy’n eich penodi i weithredu ar eu rhan. Mae hyn yn golygu eu bod yn ymddiried ynoch chi, yr atwrnai, i wneud penderfyniadau sy’n cyd-fynd â’u dymuniadau a gofalu am eu materion. Y rhoddwr, neu’r grantwr, sy’n penderfynu beth all yr atwrnai ei wneud, pryd y gallent weithredu, a gallant ddod â’r awdurdod hwn i ben unrhyw bryd os oes ganddynt alluedd meddyliol.

Beth yw galluedd meddyliol?

Mae galluedd meddyliol yn golygu gallu penderfynu neu weithredu ar eich pen eich hun. Os na all rhywun wneud hyn, ystyrir eu bod yn ‘diffyg gallu’.

Os yw’n ymddangos bod eich rhoddwr, neu’ch grantwr, wedi colli galluedd meddyliol, y peth cyntaf i’w wneud yw gwirio a yw hyn yn gywir.

Darganfyddwch fwy am alluedd meddyliol yn ein canllaw Helpu rhywun sydd wedi colli galluedd meddyliol i reoli eu harian.

Nol i’r brig

Gweithredwch er lles gorau’r person bob amser

Mae bod yn Atwrnai Eiddo a Materion Ariannol yn rôl gyfrifol, felly mae’n bwysig bod y sawl sy’n eich penodi yn ei thrafod gyda chi ymlaen llaw a bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn gyfforddus yn ymgymryd â’r rôl hon. Fel atwrnai, byddwch yn gwneud, neu’n helpu’r rhoddwr, neu’r grantwr, i wneud penderfyniadau am:

  • arian, trethi, a biliau
  • cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu
  • eiddo a buddsoddiadau
  • pensiynau a budd-daliadau.

Mae gweithredu fel atwrnai yn golygu eich bod yn gyfrifol am ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r rhoddwr, neu’r grantwr, wedi’u cynnwys yn yr atwrneiaeth.

Gallwch weithredu ar y cyfarwyddiadau hyn tra bod y rhoddwr yn dal i fod â galluedd meddyliol os ydynt yn rhoi caniatâd i chi.

Mae’n bwysig osgoi sefyllfaoedd lle gallai eich diddordebau personol wrthdaro â’ch dyletswydd. Ystyriwch:

  • beth mae’r rhoddwr ei eisiau (neu y byddai ei eisiau pe bai wedi colli galluedd meddyliol)
  • a ellir helpu’r rhoddwr i wneud y penderfyniad cyfan neu ran ohono
  • a yw’r penderfyniad er y budd gorau iddynt.
Nol i’r brig

Beth fydd yn digwydd os oes mwy nag un atwrnai

Gall rhoddwr, neu grantwr, benodi atwrneiod lluosog a gall nodi sut y dylid gwneud penderfyniadau.

Os ydych chi’n un o nifer o atwrneiod, mae’n bwysig cytuno ar rai pethau sylfaenol cyn i’r atwrneiaeth gael ei rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn ddidrafferth.

Mae atwrneiaeth yn amlinellu sut mae penderfyniadau i gael eu gwneud:

  • Ar y cyd: rhaid i bob atwrnai wneud penderfyniadau gyda’i gilydd bob amser. Mae’n golygu pe bai un ohonynt yn marw, byddai’r atwrneiaeth yn dod yn annilys – oni bai bod y rhoddwr, neu’r grantwr, yn penodi atwrneiod wrth gefn.
  • Ar y cyd ac yn unigol: gall atwrneiod wneud penderfyniadau yn unigol neu gyda’i gilydd.
  • Ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau a rhai yn unigol: bydd angen gwneud rhai penderfyniadau gyda’i gilydd. Y rhoddwr, neu’r grantwr, sy’n dewis beth yw’r rhain yn yr atwrneiaeth. Os na all un ohonoch weithredu ar ran y rhoddwr mwyach neu os bydd yn marw, ni fydd yr atwrneiod sy’n weddill yn gallu gwneud unrhyw un o’r penderfyniadau ar y cyd oni bai bod y rhoddwr, neu’r grantwr, wedi penodi rhywun arall yn ei le.
  • Amhenodol: y sefyllfa ddiofyn yn y gyfraith yw bod yn rhaid i atwrneiod weithredu ar y cyd.

Os oes gwahanol atwrneiod ar gyfer atwrneiaeth Materion Ariannol ac Eiddo ac atwrneiaeth Iechyd ac Ariannol, mae’n bwysig eich bod i gyd yn cyfathrebu’n rheolaidd a’n:

  • sicrhau bod gennych chi gyd fynediad i’r dogfennau angenrheidiol
  • trafod penderfyniadau sy’n ymwneud ag iechyd a chyllid gyda’ch gilydd
  • gwybod pwy yw’r cysylltiadau brys a’u dymuniadau
  • canolbwyntio ar les a dewisiadau’r person mewn penderfyniadau
  • cael cyngor gan weithwyr proffesiynol pan fo angen
  • cadw cofnodion manwl o’r holl benderfyniadau a wneir.

Bydd hyn yn helpu i wneud penderfyniadau yn ddidrafferth, yn enwedig pan fo materion iechyd yn effeithio ar gyllid.

Nol i’r brig

Beth i’w drafod gyda’r rhoddwr, neu’r grantwr, os oes ganddynt alluedd meddyliol

  • Diffiniwch yn glir y mathau o benderfyniadau y gallwch eu gwneud yn enwedig os oes mwy nag un atwrnai.
  • Gwnewch yn siŵr ei bod yn glir sut maent am i chi drin eu harian, fel buddsoddiadau, cyllidebu a threuliau mawr.
  • Gwiriwch faint o atwrneiod sydd a phryd y gallwch chi ddechrau gweithredu fel atwrnai.
  • Gofynnwch am eu cynlluniau gofal hirdymor, eu trefniadau byw a sut maent am dalu am ofal os ydynt yn mynd yn ddifrifol wael.
  • Ewch drwy waith papur pwysig gyda’ch gilydd.
  • Ewch i’r afael ag unrhyw bryderon neu gyfarwyddiadau penodol sydd ganddynt am eu harian.

Mae’n bwysig ymdrin â’ch rôl gydag empathi a pharch. Os ydych chi’n ansicr sut i ddechrau’r sgwrs arian, cewch awgrymiadau hanfodol o’n canllaw Sut i gael sgwrs am arian.

Nol i’r brig

Sicrhewch fod yr atwrneiaeth wedi’i chofrestru

Cyn i chi ddechrau gweithredu fel atwrnai, gwnewch yn siŵr bod yr atwrneiaeth wedi’i chofrestru. Mae hyn oherwydd na fyddwch yn gallu dechrau gweithredu fel atwrnai nes ei fod wedi’i chofrestru.

Gall eich rhoddwr, neu grantwr, gofrestru atwrneiaeth os oes ganddynt alluedd meddyliol. Os ydynt wedi colli galluedd meddyliol cyn ei chofrestru, gallwch ei chofrestru ar eu cyfer.

Gallwch ddarganfod mwy am sut i gofrestru atwrneiaeth yn eich gwlad yn ein canllaw.

Sut i ddod o hyd i bŵer atwrnai a’i weld

Os ydych yn byw yn:

Chwiliwch ar-lein

Cymru a Lloegr

Gweler atwrneiaeth parhaol GOV.UKOpens in a new window

Yr Alban

Gwelere ‘Forms’ ac ewch i ‘Request to search public register’ ar wefan Office of Public Guardian ScotlandOpens in a new window

Gogledd Iwerddon

Cysylltwch â Swyddfa Care and ProtectionYn agor mewn ffenestr newydd

Sut mae atwrneiaeth yn edrych?

Os ydych yn byw yn:

Gweler enghreifftiau o atwrneiaeth dilys:

Cymru a Lloegr

Swyddfa’r Public GuardianOpens in a new window

Yr Alban

Swyddfa’r Public Guardian ScotlandOpens in a new window

Gogledd Iwerddon

Wefan y Department of JusticeOpens in a new window

Nol i’r brig

Sut i ddechrau defnyddio atwrneiaeth

Deall eich awdurdodaeth

Darllenwch yr atwrneiaeth yn ofalus i ddeall a gwirio pa gamau penodol y mae gennych ganiatâd i’w cyflawni.

Cadwch gofnodion manwl

Cadwch gofnod o’r holl drafodion, penderfyniadau, a chyfathrebiadau sy’n ymwneud â chyllid y rhoddwr, neu’r grantwr. Mae hyn yn cynnwys cadw derbynebau, cyfriflenni banc, a llog o’r camau a gymerwyd.

Hysbysu sefydliadau

Gwnewch restr o bwy sydd angen eu hysbysu, megis:

  • banciau a chymdeithasau adeiladu
  • darparwyr pensiwn
  • cwmni morgais neu landlord, os yn rhentu
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os yw’r rhoddwr yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau
  • CThEF
  • cwmnïau yswiriant (yswiriant cartref a bywyd)
  • cwmnïau cyfleustodau (dŵr, nwy, trydan)
  • cyngor lleol neu HSCNI (ar gyfer Treth Gyngor neu Ardrethi).

Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus teclyn ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd sy’n caniatáu i chi:

  • weld yr atwrneiaeth
  • cadw cofnod o bwy sydd wedi cael mynediad at yr atwrneiaeth
  • gweld faint o bobl sy’n cael eu henwi fel atwrnai yn yr atwrneiaeth.

Mae gan bob sefydliad neu ddarparwr ei reolau ei hun ar gyfer dilysu a derbyn atwrneiaeth. Fel arfer gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ar eu gwefan neu drwy eu ffonio. Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau a darparwyr ariannol adran sy’n ymdrin ag atwrneiaethau.

Bydd banciau a sefydliadau eraill yn gofyn am brawf eich bod yn atwrnai. Defnyddiwch eich atwrneiaeth i brofi y gallwch weithredu ar ran y rhoddwr.

Efallai y bydd angen i chi brofi manylion eraill, megis:

  • pwy ydych chi gyda phasbort neu drwydded yrru
  • lle rydych yn byw gyda bil cyfleustodau neu fil Treth Gyngor neu Ardrethi diweddar.

Os ydych yn cael problemau wrth ddefnyddio’r atwrneiaeth, gallwch wirio a yw’r banc neu’r cwmni hwnnw wedi gweithredu o fewn y gyfraithYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer y rhanbarth perthnasol ar wefan Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Nol i’r brig

Helpu gyda biliau a thaliadau

Mae’n syniad da cadw llygad ar wariant dydd-i-ddydd y rhoddwr, neu’r grantwr trwy:

  • eu helpu i dalu eu biliau ar amser
  • awgrymu eich bod yn mynd ar deithiau siopa gyda’ch gilydd, a
  • cynnig darllen drwy eu biliau a datganiadau.

Gwiriwch am unrhyw daliadau neu lythyrau a fethwyd gan gredydwyr

Os nad ydych erioed wedi delio â dyledion o’r blaen a bod angen i chi gamu i mewn gydag atwrneiaeth, mae’n bwysig cael cyngor. Mae llawer o wahanol atebion ar gael i ddelio â dyledion y bydd ymgynghorydd hyfforddedig yn gallu eu harchwilio gyda chi, yn enwedig os oes dyledion lluosog neu os yw’r sefyllfa’n gymhleth. Mae cyngor ar ddyledion am ddim, yn ddiduedd ac yn gyfrinachol.

Bydd angen iddynt weld eich atwrneiaeth fel eu bod yn gwybod y gallwch weithredu ar ran y rhoddwr, neu’r grantwr. Yna byddan nhw’n gallu blaenoriaethu pa ddyledion i fynd i’r afael â nhw yn gyntaf ac awgrymu’r ffordd orau i’w had-dalu’n gyflym.

Defnyddiwch ein teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor am ddim ar ddyledion ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at ble rydych chi’n byw.

Gwiriwch a oes unrhyw daliadau credyd heb eu talu

Darganfyddwch a ydynt:

  • yn defnyddio cardiau credyd
  • gyda gorddrafft, neu
  • wedi cymryd benthyciad.

Os oes ganddynt unrhyw un o’r rhain, gwnewch yn siŵr eu bod yn gallu talu’r taliadau hynny. Gweithiwch allan pa filiau i’w talu’n gyntaf trwy ddefnyddio ein teclyn Blaenoriaethu biliau.

Cadwch lygad allan am arwyddion y gallent fod yn mynd i mewn i broblemau ariannol, fel:

  • dim ond talu’r swm lleiaf ar gardiau credyd
  • cymryd credyd newydd cyn clirio hen ddyledion, neu
  • troi at gredyd drud gan eu bod wedi cael eu gwrthod am fenthyciadau rheolaidd.

Gall ein canllaw sut i leihau eich benthyciad eich helpu i reoli taliadau credyd yn well.

Creu cyllideb

Os nad ydynt wedi bod yn cadw ar ben eu harian neu os nad yw’n glir pa gostau hanfodol sydd angen eu talu, llenwch ein Cynlluniwr cyllideb am ddim i gael trosolwg o incwm a gwariant.

  • Gallwch helpu i sefydlu archebion sefydlog a Debydau Uniongyrchol gyda’u banc i sicrhau bod biliau hanfodol yn cael eu talu. Fel atwrnai, mae’n bwysig cadw cofnod o’ch trafodion.

Canslo tanysgrifiadau a chontractau

Gwiriwch Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog i weld taliadau cylchol a siaradwch â’r rhoddwr, neu’r grantwr, i ddarganfod pa wasanaethau sy’n bwysig iddynt a pha rai nad oes eu hangen arnynt mwyach. Er enghraifft:

  • ffôn symudol
  • contractau band eang, a
  • gwasanaethau ffrydio teledu.

I wneud unrhyw newidiadau ar ran y person bydd angen i chi anfon atwrneiaeth. Dylai’r darparwr allu cau’r cyfrif hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu cynhyrchu cyfrineiriau.

Os dywedant na allant ei wneud oherwydd na allwch ddarparu cyfrinair, gallant ddefnyddio dulliau diogelwch eraill.

Gwiriwch a ydynt yn gymwys i gael gostyngiad Treth Gyngor neu Ardrethi

Gall y rhoddwr, neu’r grantwr, ac unrhyw ddibynyddion sy’n dal i fyw yn y cartref fod yn gymwys i gael gostyngiad Treth Gyngor neu Ardrethi os yw unrhyw un o’r pethau canlynol yn berthnasol:

  • ar gyfer byw ar eich pen eich hun
  • bod ar fudd-daliadau prawf modd, er enghraifft, Credyd Pensiwn
  • os ydynt wedi colli galluedd meddyliol ac yn dal i fyw yn y cartref (gall eu partner fod yn byw gyda nhw o hyd)
  • wedi symud i gartref gofal neu ysbyty
  • ag anabledd ac angen cartref mwy ar gyfer eu hanghenion.

Darganfyddwch a ydynt yn gymwys i gael gostyngiad yn ein canllaw Treth Gyngor.

Nol i’r brig

Rheoli budd-daliadau’r person

Gwiriwch eu budd-daliadau

Edrychwch ar eu cyfriflenni banc i weld pa fudd-daliadau y maent yn eu derbyn.

Sicrhewch eu bod yn cael popeth y mae ganddynt hawl iddo

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i weld a ydynt yn colli allan ar unrhyw beth, fel Credyd Pensiwn, a allai eu cymhwyso ar gyfer cymorth ychwanegol, fel taliadau tanwydd gaeaf neu dariffau arbennig ar filiau.

Gweithredu ar eu rhan

Os oes ganddynt alluedd meddyliol, gall eich rhoddwr neu’ch grantwr roi caniatâd i chi weithredu fel cynrychiolydd. Mae hyn yn eich galluogi i siarad â’r swyddfa budd-daliadau a helpu i reoli eu cais. Gallwch hefyd gael gwybodaeth ar eu rhan a’u helpu i ddeall pethau am eu cais.

Dod yn benodai os oes angen

Os na allant reoli eu budd-daliadau, gallwch ddod yn benodai yn gyfreithiolYn agor mewn ffenestr newydd – draganfyddwch fwy ar GOV.UK – gan ganiatáu i chi wneud a rheoli ceisiadau ar eu cyfer. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn eich cyfweld a gall ddileu’r rôl hon os oes angen.

Beth i’w wneud os yw’r rhoddwr, neu’r grantwr, yn derbyn credydau treth

Cysylltwch â ChThEF. Anfonwch yr atwrneiaeth wreiddiol neu gopi ardystiedig i:

Tax Credit Office at St Mark’s House 

St Mary’s Street 

Preston 

PR1 4AT

Gan ddibynnu ar eu sefyllfa a’r rheswm dros ddefnyddio’r atwrneiaeth, gallai hyn gael ei ystyried yn newid. Mewn achosion o’r fath, gellid gofyn iddynt wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Os bydd hynny’n digwydd, bydd credydau treth yn dod i ben, ac efallai y bydd angen i chi eu helpu i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydynt o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth. 

Os ydynt yn symud i gartref gofal

Gall rhai budd-daliadau ddod i ben os byddant yn aros mewn cartref gofal am fwy na 28 diwrnod. Mae canllaw Cartrefi Gofal a Budd-daliadau Turn2USYn agor mewn ffenestr newydd yn esbonio pa fudd-daliadau all barhau.

Os bydd ganddynt arhosiad byr yn yr ysbyty

Hysbyswch yr asiantaeth budd-daliadau berthnasolYn agor mewn ffenestr newydd ar unwaith os byddant yn treulio un noson neu fwy yn yr ysbyty arganfyddwch fwy ar GOV.UK.

Gall hawlio neu reoli budd-daliadau ar ran rhywun arall fod yn gymhleth. Os oes angen cyngor arnoch am unrhyw agwedd ar gais am fudd-dal, o gymhwyster i lenwi ffurflenni neu ddelio â phroblemau, cysylltwch ag ymgynghorydd arbenigol trwy Advice LocalYn agor mewn ffenestr newydd

Cael cyngor

Gall hawlio a rheoli budd-daliadau fod yn gymhleth. Mae cyngor cyfrinachol am ddim ar fudd-daliadau ar gael trwy Advice LocalYn agor mewn ffenestr newydd Gallwch siarad ag un o’u ymgynghorwyr arbenigol am unrhyw agwedd ar gais am fudd-daliadau, o gymhwyster i lenwi ffurflenni neu ddelio â phroblemau.

Nol i’r brig

Rheoli arian a chyfrifon y person

Bydd banciau yn gofyn am brawf eich bod yn atwrnai. Defnyddiwch eich atwrneiaeth i brofi y gallwch weithredu ar ran y rhoddwr, neu’r grantwr. Fel arfer mae gennych yr un pŵer i reoli eu cyfrif (deiliad y cyfrif), yn dibynnu ar delerau ac amodau’r cyfrif.

Os oes angen help arnoch i ddarganfod sut i gael mynediad at eu banc fel atwrnai neu os ydych yn bwriadu agor cyfrif newydd ar eu rhan, gweler y canllaw defnyddiol hwn ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd

Mae’n rhaid i chi gadw eu harian ar wahân i’ch arian chi, oni bai bod gennych gyfrif banc ar y cyd, neu eich bod yn berchen ar gartref gyda’ch gilydd.

Nol i’r brig

Rheoli rhoddion a buddsoddiadau’r person

Mae’n bwysig dilyn eu cyfarwyddiadau sydd ar yr atwrneiaeth a chadw cofnod. Fel atwrnai, rhan o’ch swydd yw eu helpu i:

  • benderfynu ar roddion os oes ganddynt alluedd meddyliol, neu
  • drefnu rhoddion os na allant wneud penderfyniadau.

Dylai rhoddion fod am bris rhesymol, yn fforddiadwy, ac yn cael eu rhoi yn bennaf i ffrindiau, teulu, neu bobl y maent yn eu hadnabod. Mae hyn yn cynnwys anrhegion arferol ar gyfer achlysuron fel penblwyddi neu briodasau.

Rhaid i chi sicrhau eu bod yn gallu fforddio’r anrheg neu’r rhodd, hyd yn oed os ydynt wedi gwario arian ar bethau tebyg o’r blaen. Er enghraifft, ni allwch roi eu harian os byddai’n ei gwneud yn anodd iddynt dalu am eu gofal.

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ganllaw defnyddiol a all eich helpu chi a’r rhoddwr, neu’r grantwr, i benderfynu beth sy’n cyfrif fel rhodd resymolYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Rheoli materion treth y person

Os bydd yn rhaid i’r rhoddwr, neu’r grantwr, dalu treth ar incwm, efallai y bydd yn rhaid iddynt lenwi ffurflen dreth hunanasesiad. Mae’n syniad da iddynt barhau i wneud hyn os oes ganddynt alluedd meddyliol ac i chi eu helpu.

I’w helpu, llenwch y ffurflen hunanasesu ar-lein, mae angen i’r ddau ohonoch gofrestru gyda Phorth y LlywodraethYn agor mewn ffenestr newydd y mae CThEF yn ei defnyddio i wirio pwy ydych.

Er mwyn ymdrin â ffurflen dreth hunanasesu a rheoli materion treth mwy cymhleth, bydd angen i chi roi gwybod i GThEF fod gennych bŵer atwrnai. Darganfyddwch beth i’w wneud a sut i gysylltu â ChThEF ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os nad ydych erioed wedi llenwi ffurflen dreth hunanasesu, defnyddiwch ein canllaw i’ch helpu.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am ble i gael cymorth pellach gydag ymholiadau treth.

Nol i’r brig

Helpu i drefnu a thalu am ofal hirdymor

Os oes angen cymorth ychwanegol ar y rhoddwr, neu’r grantwr, gyda gofal meddygol, gweithgareddau byw bob dydd a symudedd, y cam cyntaf yw cael asesiad anghenion gofal am ddim.

Darganfyddwch sut mae’r asesiad anghenion gofal yn gweithio a pha gymorth ariannol ac ymarferol sydd ar gael yn ein canllaw Help gyda chostau gofal hirdymor gan eich cyngor lleol neu HSCNI.

Mae talu am ofal yn gymhleth. Dysgwch fwy am yr opsiynau sydd ar gael yn ein canllawiau:
  • Canllaw i ddechreuwyr ar dalu am ofal hirdymor
  • Ffyrdd o dalu ffioedd cartref gofal
  • Sut i dalu am eich gofal hirdymor gartref

Beth i’w wneud os oes angen i chi drefnu i werthu cartref y person

Os oes angen i’r rhoddwr, neu’r grantwr, symud i gartref gofal neu eiddo mwy addas neu os oes angen gofal yn y cartref arnynt, mae yna bethau i’w hystyried cyn gwerthu eu cartref neu symud i gartref llai.

  • Gwiriwch a all eich cyngor lleol neu Health and Social Care Trust (HSCNI) yng Ngogledd Iwerddon  ohirio costau gofal tan ar ôl iddynt farw neu symud allan o ofal, a allai ganiatáu iddynt gadw’r eiddo.
  • Ystyriwch opsiynau fel rhyddhau ecwiti neu gynlluniau benthyg bywyd hwyrach yn lle gwerthu.
  • Meddyliwch a oes angen iddynt symud i gartref llai neu addasu’r cartref presennol.
  • Adolygwch y costau sy’n gysylltiedig â gwerthu’r eiddo a deall effaith derbyn cyfandaliad mawr o’r gwerthiant ar eu budd-daliadau a rhwymedigaethau treth.

Mae’n bwysig cael cyngor cyfreithiolYn agor mewn ffenestr newydd os:

  • mae’r gwerthiant yn is na gwerth y farchnad
  • os ydych am brynu’r eiddo eich hun
  • rydych chi’n ei roi i rywun arall.

Beth i’w wneud os oes angen i chi rentu cartref y person

Os yw’r rhoddwr, neu’r grantwr, wedi mynd i ofal hirdymor a’ch bod am rentu ei eiddo i helpu i dalu rhai o ffioedd y cartref gofal, mae llawer o bethau i’w hystyried.

  • Os byddwch yn penderfynu rhentu allan, gallwch ddefnyddio asiantaeth gosod eiddo i ymdrin â’r rheolaeth, ond bydd hyn yn dod gyda ffioedd.
  • Gallwch reoli’r denantiaeth eich hun, ond byddwch yn barod am y costau a’r ymdrech sydd ynghlwm gydag atgyweiriadau a rheoli eiddo. Darganfyddwch sut y gallwch gael cymorth gan Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (NRLA)Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Byddwch yn ymwybodol o sut y bydd yr incwm rhent yn effeithio ar eu harian, fel eu bil treth a budd-daliadau prawf modd.
Nol i’r brig

Gofalu am gartref y person

Cofiwch, rhaid i chi bob amser weithredu er lles gorau’r person a dilyn yr hyn a nodir yn yr atwrneiaeth.

Mae’n syniad da defnyddio un cyfrif i dalu’r holl filiau, gan ei fod yn ei gwneud hi’n haws olrhain treuliau. Gallech hefyd ystyried cadw arian mewn cyfrif mynediad hawdd ar wahân.

Gallwch ddefnyddio’ch atwrneiaeth i ganiatáu taliadau rheolaidd, fel archebion sefydlog, i gadw eu cartref mewn cyflwr da.

Os ydynt yn defnyddio cynnyrch rhyddhau ecwiti neu gytundeb taliad gohiriedig i ariannu gofal hirdymor, gall cynnal eiddo da fod yn un o amodau’r cynlluniau, felly bydd angen i chi wirio a chynnwys hyn yn y gyllideb.

Addasiadau cartref ac offer

Os yw’r rhoddwr, neu’r grantwr, yn byw gartref a bod angen i chi addasu eu cartref oherwydd anabledd neu henaint, gallwch wneud cais i’r cyngor, neu HSCNI, am offer neu gymorth. Darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael yn ein canllaw Cyllid i addasu’ch cartref i’w wneud yn hygyrch.

Ystyriwch gostau yswiriant

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eu heiddo wedi’u diogelu, hyd yn oed os nad ydynt yn byw gartref mwyach.

Os ydynt wedi symud i ofal hirdymor, cymharwch gostau yswiriant cartref gwag.

Os bydd ganddynt arosiadau byr yn yr ysbyty, gwiriwch y polisi ar gyfer diogelwch. Mae rhai polisïau yn cynnwys arosiadau byr yn awtomatig am hyd at 30 neu 60 diwrnod, tra bod eraill yn gofyn i chi hysbysu’r yswirwyr i osgoi annilysu’r polisi.

Cymharwch ddyfyniadau lluosog bob amser a sicrhewch fod y polisi'n cynnwys eich anghenion.

Gall ein canllawiau eich helpu i benderfynu beth sydd angen i chi ei gynnwys yn yr yswiriant:

  • Yswiriant adeiladau – sut ddylai polisi da edrych?
  • Yswiriant cynnwys – sut ddylai polisi da edrych?
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Gofal tymor hir

Sefydlu a rheoli pŵer atwrnai

  • Sut i wneud a chofrestru atwrneiaeth
  • Beth i’w wneud os bydd angen i chi ddod i ben â’ch atwrneiaeth neu wneud newidiadau iddi
  • Beth i'w wneud os ydych wedi'ch penodi'n atwrnai mewn atwrneiaeth

Sefydlu a rheoli pŵer atwrnai

  • Sut i wneud a chofrestru atwrneiaeth
  • Beth i’w wneud os bydd angen i chi ddod i ben â’ch atwrneiaeth neu wneud newidiadau iddi
  • Beth i'w wneud os ydych wedi'ch penodi'n atwrnai mewn atwrneiaeth
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2025 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau