Os ydych o dan 55 oed a’ch bod angen ymddeol oherwydd iechyd gwael, salwch terfynol neu anabledd, gwiriwch a allwch chi gymryd eich pensiwn yn gynnar. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Cam 1: Gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael pensiwn salwch
Y cynharaf y gallwch chi gymryd arian o'ch pensiwn fel arfer yw 55 oed (57 o fis Ebrill 2028). Os ydych chi'n iau ac na allwch weithio oherwydd eich iechyd, gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gymryd eich arian yn gynnar.
Gelwir hyn yn aml yn bensiwn salwch, ymddeoliad meddygol cynnar neu ymddeoliad ar sail feddygol.
Yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych, efallai y byddwch chi'n gallu:
cael incwm rheolaidd
cymryd symiau pan a phryd y mae eu hangen arnoch
cymryd y swm cyfan ar yr un pryd.
Os ydych chi o dan 75 oed ac yn disgwyl byw llai na blwyddyn, efallai y byddwch chi'n gallu cymryd eich holl bensiwn fel cyfandaliad di-dreth.
Gofynnwch i'ch darparwr pensiwn am eu meini prawf cymhwysedd
Gall y meini prawf ar gyfer pensiwn salwch amrywio rhwng darparwyr pensiwn. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gymwys os ydych wedi rhoi cynnig ar bob triniaeth ac:
yn methu gwneud eich gwaith presennol, neu
ni allwch wneud unrhyw waith.
Fel arfer, gallwch ddod o hyd i reolau eich darparwr pensiwn a'r dystiolaeth feddygol y byddai ei hangen arnynt:
ar wefan eich darparwr neu'r gwaith papur rydych wedi'i dderbyn
trwy gysylltu â nhw.
Ni allwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn gynnar
Ni allwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn gynharach na’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth – hyd yn oed os nad ydych yn gallu gweithio neu'n derfynol wael.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: sut mae'n gweithio.
Cam 2: Darganfyddwch faint fyddai eich pensiwn salwch
Mae faint y byddai eich pensiwn salwch yn ei dalu yn dibynnu ar:
y math o bensiwn sydd gennych
rheolau'ch cynllun
os disgwylir i chi fyw llai na 12 mis.
Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn, gwirio’ch gwaith papur neu ofyn i'ch darparwr.
Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio fel arfer yn talu incwm rheolaidd i chi
Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio (a elwir yn aml yn gyflog terfynol neu gynllun cyfartaledd gyrfa) a’ch bod yn gymwys i'w gymryd yn gynnar oherwydd iechyd gwael, efallai y byddwch yn gallu cael y swm llawn yr addawyd ei dalu o hyd.
Ond gallai rhai cynlluniau leihau eich incwm pensiwn gan eich bod yn ei gymryd yn gynharach na'ch dyddiad ymddeol arfaethedig arferol. Gofynnwch i'ch darparwr pensiwn egluro'r rheolau sy'n berthnasol i chi.
Mae pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio fel arfer yn rhoi dewis i chi
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, mae eich arian pensiwn yn cael ei fuddsoddi fel y gall dyfu nes i chi benderfynu ei gymryd. Mae hyn yn golygu:
gall gwerth eich pensiwn godi a gostwng nes i chi gymryd yr arian
- os byddwch yn cymryd eich pensiwn yn gynnar, efallai y byddwch yn:
- cael llai na'r disgwyl
- rhedeg allan o arian yn gyflymach nag yr oeddech chi wedi'i gynllunio.
Gallwch weld faint yw gwerth eich pensiwn ar hyn o bryd drwy fewngofnodi i gyfrif ar-lein eich darparwr pensiwn neu drwy ofyn iddynt.
Os ydych chi'n gymwys i gael pensiwn salwch, fel arfer gallwch ddewis sut i gymryd eich arian. Dyma'r un opsiynau y byddech fel arfer yn eu cael pe baech chi'n gallu cymryd eich pensiwn yn hŷn.
Er enghraifft, gallech ddewis cymryd hyd at 25% fel cyfandaliad di-dreth, trosi rhywfaint yn incwm trethadwy gwarantedig am oes a gadael y gweddill wedi’i fuddsoddi – er mwyn i chi allu cymryd symiau trethadwy pan a phryd fydd eu hangen arnoch.
Gweler ein canllaw am eich opsiynau ar gyfer cymryd pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwch hefyd gael apwyntiad Pension Wise am ddim ar-lein neu gydag un o'n harbenigwyr pensiwn i helpu i ddeall eich holl opsiynau.
Efallai y byddwch chi'n cael eich pensiwn cyfan yn ddi-dreth os ydych chi'n derfynol wael
Os disgwylir i chi fyw llai na 12 mis, efallai y byddwch chi'n gallu cymryd eich pensiwn cyfan fel cyfandaliad o arian parod.
Os ydych chi o dan 75 oed, byddai unrhyw gyfandaliad afiechyd difrifol yn ddi-dreth hyd at y cyfandaliad a'r lwfans budd-dal marwolaeth (LSDBA). £1,073,100 yw’r LSDBA i'r mwyafrif o bobl.
Os ydych dros 75 oed, byddai'r cyfandaliad yn cael ei gyfrif fel eich enillion. Mae hyn yn golygu bod rheolau Treth Incwm arferol yn berthnasol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Lwfansau cyfandaliad pensiwn di-dreth.
Cam 3: Ystyriwch eich opsiynau eraill ar gyfer cael incwm
Hyd yn oed os ydych chi'n gymwys i gymryd eich pensiwn yn gynnar, ystyriwch eich holl opsiynau eraill yn gyntaf. Er enghraifft, gallai cael incwm pensiwn olygu eich bod chi'n colli hawl i fudd-daliadau penodol neu gymorth ychwanegol.
Gwiriwch a allai addasiadau ganiatáu i chi barhau i weithio
Os ydych chi'n anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd, rhaid i'ch cyflogwr wneud 'addasiadau rhesymol' fel nad ydych o dan anfantais yn y gwaith.
Os hoffech barhau i weithio, gofynnwch i'ch cyflogwr a allant wneud newidiadau i'ch swydd. Gallai hyn gynnwys newid:
yr oriau rydych chi'n eu gweithio
o ble rydych chi'n gweithio
yr offer sydd ei angen arnoch i wneud eich gwaith.
Gallai aros yn eich swydd hefyd olygu y gallwch barhau i gynilo i mewn i'ch pensiwn, felly dylech gael mwy o arian pan fyddwch chi'n ymddeol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw am y cymorth sydd ar gael i gadw'ch swydd os ydych chi'n sâl neu'n anabl.
Gwiriwch a allwch hawlio ar bolisi yswiriant
Efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad os oes gennych bolisi yswiriant presennol fel:
Os ydych chi'n gymwys, gallech gael cyfandaliad neu daliad rheolaidd am gyfnod penodol. Os bydd eich incwm yn cynyddu'n nes ymlaen, gallai taliadau rheolaidd leihau neu stopio.
Darganfyddwch a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau
Mae ein Cyfrifiannell budd-daliadau am ddim a chyfrinachol yn darganfod a ydych yn gymwys i hawlio taliadau rheolaidd fel Credyd Cynhwysol, ynghyd â chymorth a grantiau eraill.
Gallwch hefyd weld beth allai ddigwydd i'ch hawl pe bai'ch incwm yn newid, fel cymryd eich pensiwn yn gynnar.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Pa fudd-daliadau anabledd a salwch y gallaf eu hawlio?
Gofynnwch i'ch cyflogwr a oes gennych yr opsiwn o ddiswyddo gwirfoddol
Efallai y bydd eich cyflogwr yn gallu cynnig diswyddo fel dewis arall i ymddeol yn gynnar. Ond ni allant roi pwysau arnoch i adael.
Gallai cymryd diswyddiad olygu eich bod yn cael:
yr opsiwn i weithio eto os yw'ch iechyd yn gwella.
Ond mae'n annhebygol o roi digon o arian i chi ar gyfer yr hir dymor. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw am ddiswyddo gwirfoddol.
Am gyngor cyfraith cyflogaeth am ddim a chyfrinachol:
yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, gallwch ffonio llinell gymorth Acas
yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ffonio'r Labour Relations Agency
Cam 4: Gwnewch gais am ymddeoliad meddygol cynnar
Os hoffech ymddeoliad meddygol cynnar, bydd eich darparwr pensiwn fel arfer yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais ymddeol salwch gan gynnwys:
prawf o'ch cyflwr meddygol neu ddiagnosis
cytundeb gan eich cyflogwr nad ydych chi'n ymddeol am reswm arall.
Yna bydd eich darparwr pensiwn, eich ymddiriedolwyr neu'ch cyflogwr yn adolygu eich achos ac yn gwneud penderfyniad teg a rhesymol yn seiliedig ar reolau eich cynllun. Gallai hyn gynnwys cael cyngor meddygol neu farn gan eich meddyg ac arbenigwyr eraill.
Ystyriwch gael cyngor gan ymgynghorydd ariannol
Os nad ydych chi'n siŵr bod ymddeoliad meddygol cynnar yn iawn i chi, ystyriwch dalu am gyngor ariannol.
Gall ein teclyn eich helpu i ddod o hyd i ymgynghorydd ymddeol neu gweler ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwch apelio os gwrthodir eich cais
Os nad yw'ch darparwr pensiwn yn derbyn eich cais am ymddeoliad cynnar, dylech gael adroddiad yn esbonio:
pam y gwrthodwyd eich cais
faint o amser sydd gennych i apelio os ydych chi'n anghytuno.
Yna gallwch herio os nad ydych chi'n meddwl bod y penderfyniad wedi'i wneud yn iawn neu yn unol â rheolau eich cynllun. Gallech hefyd ddarparu tystiolaeth feddygol wahanol os nad oedd eich darparwr yn hapus â'r wybodaeth a anfonwyd atynt yn wreiddiol.
Am gymorth cam wrth gam, gweler ein canllaw Beth i'w wneud os gwrthodir eich pensiwn salwch.